Sgwrs:Digwyddiad Noddwyr: Yn dathlu 50 mlynedd o Amgueddfa Wlân Cymru - Noson yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Fel rhan o raglen flynyddol ein Noddwyr, byddwn yn cynnal noson arbennig yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Bydd ein Noddwyr yn cael cyfle i gyfarfod â thimau curadurol yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol a chlywed am eu gwaith, gan gynnwys:
- Datblygiadau cyffrous diweddar wrth i'r Amgueddfa Wlân Cymru ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed, gan gynnwys diweddariadau i'r orielau ac ychwanegu gwŷdd modern.
- Cyfarfodwch â'r Curadur newydd a dysgwch am batrymau traddodiadol Cymru sydd yn ein casgliad.
- Dysgwch am waith ein crefftwyr wrth helpu i warchod sgiliau traddodiadol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o raglen flynyddol ein Noddwyr. Mae’n Noddwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gwaith Amgueddfa Cymru, gan ddarparu incwm gwerthfawr sy'n helpu i ddiogelu ein dyfodol. Yn ogystal, maent yn mwynhau perthynas agos â Amgueddfa Cymru a chyfle i gwrdd â phobl eraill sy'n rhannu eu diddordebau.
Rydym bob amser yn falch o groesawu cefnogwyr newydd ac yn cynnig cyfle i roi blas ar y cynllun i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweld beth sydd ganddo i'w gynnig.
Os nad ydych yn Noddwr ac yr hoffech ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad yma am ddim, cysylltwch â: Datblygu@amgueddfacymru.ac.uk
Rhagor o wybodaeth: Dod yn Noddwr | Museum Wales
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Mynediad
Canllaw MynediadGwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr
Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:
- Pyllau dŵr a llynnoedd
- Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
- Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog
Parcio
Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd