Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ysgoloriaeth Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) yr AHRC
Amgueddfa Cymru / Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe ac Amgueddfa Cymru yn falch o gyhoeddi ysgoloriaeth ymchwil a ariennir yn llawn o fis Hydref 2026 dan Gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).
Mae Amgueddfa Cymru a'i chasgliadau Gwyddorau Naturiol yn cynnwys adleisiau o'r Ymerodraeth Brydeinig, wedi'u cysylltu â hunaniaeth a lleoliadau casglwyr a ffynonellau'r cyfoeth a hwylusodd eu casglu. Nod y project PhD hwn yw datblygu dealltwriaeth ddyfnach o hanes trefedigaethol y sbesimenau Gwyddorau Naturiol sy'n rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru, a sut i ddelio â'r gwaddol anodd hwn. Bydd y myfyriwr yn gweithio gyda churaduron i adnabod yr ‘adleisiau o ymerodraeth’, a defnyddio arferion treftadaeth cyfranogol i ymgysylltu â nhw a'u (hail)ddehongli, gan geisio sefydlu partneriaeth â chymunedau Cymreig ar wasgar neu gymunedau o ymfudwyr neu geiswyr lloches i wneud hynny.
Mae’r dyfarniad gan AHRC yn talu ffioedd dysgu hyd at gost gradd UKRI llawn amser (myfyrwyr 'cartref') ar gyfer graddau PhD a chostau byw llawn ar gyfer holl fyfyrwyr. Y Lleiafswm Tâl Gofynnol Doethurol Cenedlaethol ar gyfer 2025/26 yw £21,805 (yn codi yn unol â UKRI) yn ogystal â thaliad costau byw CDP o £600/y flwyddyn.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus dreulio amser ym Mhrifysgol Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Nid yw'r gallu i siarad Cymraeg yn ofynnol ar gyfer yr ysgoloriaeth ymchwil hon. Ni fyddai'r myfyriwr yn cael eu cyflogi fel aelod o staff Amgueddfa Cymru.
Dyddiad cau: Rhaid i chi gyflwyno eich cais erbyn 5pm BST ar ddydd Gwener 22 Mai.
Sut i wneud cais: Gwnewch gais arlein i'r prosiect hwn yma.