Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ysgoloriaeth Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) yr AHRC
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (GFGC)/Coleg Prifysgol Llundain (UCL) – Ysgol Amgylchedd, Ynni ac Adnoddau Bartlett
Mae Coleg Prifysgol Llundain a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi bod ysgoloriaeth ddoethurol gydweithredol wedi'i hariannu'n llawn ar gael o fis Hydref 2026, a hynny trwy gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yr AHRC.
Mae gerddi botanegol yn cynnig gofodau ar gyfer natur, dysgu, a myfyrio, ond mae eu seinweddau yn aml yn cael eu diystyru. Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i sut y gall amgylchedd acwstig GFGC gefnogi llesiant, bioamrywiaeth, cynwysoldeb a chadwraeth. Mae'n archwilio'r modd y mae seiniau naturiol a dynol yn siapio teimladau o lonyddwch, cysylltiad, a hunaniaeth, a sut y gall cynlluniau seiliedig ar seiniau wneud yr Ardd yn fwy croesawgar. Mae'r astudiaeth yn archwilio pedwar maes: cynllunio seinweddau adferol; deall yr effeithiau ecolegol a seicolegol; cymhwyso Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru); ac ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae'n ystyried sain yn offeryn gweithredol ar gyfer cadwraeth ac ymgysylltiad cymunedol.
Mae'r PhD hwn yn archwilio sut y gall seinweddau gerddi botanegol adfer llesiant a chefnogi cadwraeth ac ymwybyddiaeth ecolegol. Er bod nodweddion gweledol mannau gwyrdd wedi'u hastudio'n dda, mae seiniau naturiol bob dydd yn siapio profiadau pobl yn gryf, ynghyd â'u hymdeimlad o berthyn. Bydd y prosiect hwn yn archwilio sut y gall cynlluniau sy'n ystyriol o seiniau yn GFGC wella ymgysylltiad cyhoeddus, stiwardiaeth bioamrywiaeth, a mynediad cynhwysol i natur.
Mae dyfarniad yr AHRC yn talu ffioedd hyd at werth cyfradd gartref lawn-amser Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) ar gyfer graddau PhD, ynghyd â chynhaliaeth lawn ar gyfer pob myfyriwr. Isafswm y Cyflog Doethurol Cenedlaethol ar gyfer 2026-27 yw £21,805 (gan godi yn unol ag UKRI), ynghyd â thaliad cynhaliaeth CDP o £600 y flwyddyn a Phwysoliad Llundain o £2,000 y flwyddyn.
Bydd disgwyl i'r myfyriwr llwyddiannus dreulio amser yn UCL ac yn GFGC, a hynny wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Mae gwybodaeth am y Gymraeg yn ddymunol, ond bydd y myfyriwr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu'r sgiliau Cymraeg perthnasol. Bydd y rhaglen briodol yn cael ei phennu mewn cydweithrediad â'r ail oruchwyliwr: boed hynny'n gwrs lefel mynediad (e.e. Cwrs Mynediad Dysgu Cymraeg) neu'n gwrs sgiliau proffesiynol (Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Fodd bynnag, mae'n rhaid i bob ymgeisydd fodloni gofynion iaith sylfaenol UCL. Y lefel Saesneg ddisgwyliedig ar gyfer y rhaglen hon yw: Lefel 2.
Ni fyddai'r myfyriwr yn cael ei gyflogi fel aelod o staff yn GFGC.
Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect PhD hwn, manyleb y person, manylion cyswllt, a'r broses gyfweld ar gael yma.
Dyddiad cau: Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 11.59pm BST ar ddydd Iau 30 Ebrill 2026.
Gwneud cais: Gwnewch gais ar-lein ar gyfer y prosiect hwn yma.