Carreg Leuad Apollo 12
Carreg Leuad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Daw'r garreg o bentwr o ddeunydd a daflwyd allan gan y gwrthdrawiad a greodd Geudwll Head.
Apollo 12 oedd chweched alldaith rhaglen Apollo yr Unol Daleithiau i gario criw, a'r ail i lanio ar y Lleuad. Gadawodd o Orsaf Ofod Kennedy yn Florida ar 14 Tachwedd 1969, bedwar mis wedi Apollo 11. Casglodd y gofodwr Alan Bean samplau o'r Lleuad i'w cludo i'r Ddaear i'w harchwilio.
Mae'r cerrig ar y Lleuad tua'r un oed â'r cerrig hynaf ar y Ddaear; rhwng 3.2 a 4.5 biliwn mlwydd oed. Ond ar y Ddaear, dim ond rhan fechan o ddaeareg yr arwyneb yw'r rhain. Mae mwyafrif y cerrig hŷn wedi cael eu dinistrio a'u hailgylchu drwy dectoneg platiau.
Heddiw, mae darn o garreg Leuad o alldaith Apollo 12 i'w gweld yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ar fenthyg gan NASA.
Caiff y garreg werthfawr ei chadw mewn cynhwysydd aerdyn i'w hatal rhag difwyno. Mae'r garreg Leuad yn 3.3 biliwn mlwydd oed – llawer hŷn na charreg hynaf Cymru sydd tua 711 miliwn mlwydd oed. Mae tua'r un oed â charreg hynaf y DU, Lewisian Gneiss o ogledd-orllewin yr Alban, ac yn iau na charreg hynaf Canada, Acaster Gneiss sy'n 3.9 biliwn mlwydd oed. Gallwch chi weld enghreifftiau o'r tair carreg yma gyda'r garreg Leuad.