Hafan y Blog

Chwareli llechi yn y dirwedd a’u henwau

Siân Shakespear, Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli, 8 Hydref 2026

Mae Amgueddfa Lechi Cymru’n awyddus i ddathlu cyfoeth enwau chwareli llechi ledled Cymru drwy  eu hysgythru i mewn i lwybr llechi a fydd yn arwain at borth yr Amgueddfa ar ei newydd wedd. Wrth grwydro sawl bro yng Nghymru mae’n hawdd sylwi ar olion ymdrech anferthol cenedlaethau gynt i gloddio am ac echdynnu llechfaen o’r ddaear a’i drawsnewid yn llechi o wahanol fathau. Mae rhai o’r olion i’w gweld yn gwbl amlwg oherwydd i’r chwarelwyr ail-siapio’r dirwedd drwy dyllu a thywallt gwastraff i mewn i domennydd. Ac eto mae olion rhai chwareli bellach mond yn grychdon ar wyneb y ddaear, oherwydd na weithiwyd nhw am ddigon hir i gynhyrchu llawer o wastraff na chreu’r angen am dyllau niferus, ceudodau, adeiladau na system gludo. Beth bynnag yw maint a sylwedd yr olion ffisegol mae math o gliw arall yn gallu dangos bodolaeth chwarel, a hynny yw enw’r chwarel.


Mae rhan fwyaf o’r enwau yn rhai Cymraeg ac yn aml maent yn deillio o nodwedd gyfagos yn y tir megis Ffynnon y Gog, Dŵr Oer, Pompren a Rhiw Gwreiddyn. Mae ambell un wedi’i henwi ar ôl person megis Doctor Hughes, Chwarel Gethin, Mathew’s, Palmerston’s, Vivian a Hollands. Mae enwau nifer fawr  o’r chwareli yn hanu o enw’r lleoliad neu ardal lle maent yn gorwedd megis Tal y Fan, Nantlle Vale, Hafod y Llan, Garreg Fawr a Deeside. Efallai ei fod yn anodd olrhain yn union pam yr enwyd ambell i chwarel ond mae’r enw mor adnabyddus nes bod yr enw yn unig yn gyfystyr â chwarel gan hepgor yr angen i ychwanegu ‘chwarel’ o’i flaen. Yn hyn o beth gellid cyfeirio at Dorothea, Glynrhonwy, Llechwedd, Prince of Wales ac Alexandra.


Yn anad dim mae’r llu enwau sydd ar chwareli yng nghorneli amrywiol o Gymru’n deyrnged i’r chwys a’r llafur a wariwyd i gynhyrchu ac allforio llechi i bedwar ban byd. Mae arbenigwyr a haneswyr ar hyd y blynyddoedd wedi cofnodi nifer fawr o’r chwareli yn ogystal â’u nodweddion mewn llyfrau a phapurau gwahanol. Mae project ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru’n awyddus i ddathlu cyfoeth y dreftadaeth yma drwy ysgythru gymaint o enwau chwareli Cymru â phosibl i mewn i lwybr llechi a fydd yn arwain at borth yr Amgueddfa ar ei newydd wedd. Wedi hir bori drwy ffynonellau amrywiol mae staff yr Amgueddfa wedi hel rhestr o 196 enw sy’n cynnwys enwau o ardal Safle Treftadaeth y Byd yng Ngogledd Orllewin Cymru yn ogystal â Siroedd Dinbych, Penfro, Maesyfed a Chaerfyrddin. Fodd bynnag rydym eisiau sicrhau bod y llwybr yn gynrychioladol ac yn gyflawn ac felly rydym yn galw ar wybodusion lleol ar hyd a lled Cymru i gyfrannu drwy fewnbynnu enwau chwareli llai adnabyddus. 

Cyfrannwch yn fan hyn: Ffurflen Google
 

Mwy o wybodaeth: ein gwefan

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.