Bywyd yn y Môr

  • Yng nghasgliad Amgueddfa Cymru mae bron i 750,000 o sbesimenau bywyd morol – mwydod, crancod, sêr môr a llawer mwy!
  • Mae'r casgliadau yn gofnod pwysig o ba anifeiliaid oedd yn byw ym mha gynefinoedd ar amser penodol. Maen nhw felly yn hanfodol wrth i ni astudio effaith newid hinsawdd ac ecoleg.
  • Dewch gyda ni ar daith i fyd y curaduron sy'n gofalu am y casgliadau, ac yn astudio'r anifeiliaid rhyfeddol hyn.

Mae gan Amgueddfa Cymru hanes hir o ymchwil i fywyd morol, o waith William Evans Hoyle ein Cyfarwyddwr cyntaf (1901-1924) hyd at waith curaduron a gwyddonwyr heddiw. Roedd ymchwil William Evans Hoyle yn canolbwyntio ar ceffalopodau – sgwid, octopws ac ystifflog – ond ers hynny mae'r Amgueddfa wedi ymestyn ei dealltwriaeth o amrywiaeth bywyd yn y dyfroedd ac ar wely'r môr. Enw'r pwnc yw bioamrywiaeth benthig.

Un o dasgau pwysig amgueddfa yw cadw a gofalu am gasgliadau. Er bod rhai o'r casgliadau hyn i'w gweld yn yr arddangosfeydd o'ch cwmpas chi, mae rhai yn cael eu defnyddio tu ôl i'r llenni ar gyfer addysg ac ymchwil wyddonol. Mae gwaith ymchwil ac arbenigedd yn gwella casgliadau, ac mae hyn yn wir am y casgliadau bywyd morol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae'r Amgueddfa yn gartref i gasgliad eang ac amrywiol o anifeiliaid di-asgwrn-cefn morol – mwydod morol, cregyn, sêr môr, crancod, cimychiaid, cwrel, draenogod môr a llawer mwy. ⁠ Er bod y rhan fwyaf o'n casgliad o anifeiliaid di-asgwrn-cefn morol yn cael ei gadw yn yr un lle, mae ein casgliad mawr o folysgiaid (sy'n cynnwys cregyn cylchog, wystrys, cregyn gleision, ceffalopodau a mwy) yn cael ei gadw ar wahân, dan ofal curaduron gwahanol.

Mae tua 750,000 o sbesimenau yn y Casgliad Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Morol, nifer sy'n tyfu'n barhaus diolch i waith maes ac ymchwil yr Amgueddfa, yn ogystal â rhoddion. Er bod pob math o anifeiliaid yn y casgliad, mae dros hanner yn fwydod gwrychog – polychaetes yw eu henw gwyddonol. Mwydod segmentog yw mwydod gwrychog, sy'n perthyn i fwydod a gelenod, ac maen nhw'n hanfodol i gymunedau gwely'r môr. Mae nifer y mwydod yn ein casgliad yn dangos arbenigedd yr Amgueddfa, ond hefyd faint o fwydod gwrychog sydd i'w cael mewn gwaddod ar wely'r môr – weithiau hyd at 50-80% o'r anifeiliaid sy'n byw yno.

Mae tua 750,000 o sbesimenau yn y Casgliad Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Morol, nifer sy'n tyfu'n barhaus diolch i waith maes ac ymchwil yr Amgueddfa, yn ogystal â rhoddion. Er bod pob math o anifeiliaid yn y casgliad, mae dros hanner yn fwydod gwrychog – polychaetes yw eu henw gwyddonol. Mwydod segmentog yw mwydod gwrychog [Link to can of worms article: https://amgueddfa.cymru/erthyglau/2654/Mwydod-y-mr--beth-yw-mwydod-gwrychog-y-mr-a-pham-maen-nhw-mor-bwysig], sy'n perthyn i fwydod a gelenod, ac maen nhw'n hanfodol i gymunedau gwely'r môr. Mae nifer y mwydod yn ein casgliad yn dangos arbenigedd yr Amgueddfa, ond hefyd faint o fwydod gwrychog sydd i'w cael mewn gwaddod ar wely'r môr – weithiau hyd at 50-80% o'r anifeiliaid sy'n byw yno.

Bydd y rhan fwyaf o'r sbesimenau morol yn cael eu cadw mewn hylif, alcohol wedi'i ddadnatureiddio (IDA) neu ethanol fel arfer, i'w cadw rhag pydru. Bydd y rhan fwyaf o'r sbesimenau wedi cael eu trin gyda fformaldehyd cyn hynny hefyd. Mae ganddon ni hefyd samplau meinwe wedi'u rhewi (ar gyfer dadansoddi DNA i weld pa sbesimenau sy'n perthyn i'w gilydd) a chasgliadau sych (cramenogion fel crancod a chimychiaid, a chwrel yn bennaf).

Mae'r rhan fwyaf o'r casgliad yn dod o'r DU, ac rydyn ni'n gofalu am gasgliad mwya'r byd o anifeiliaid di-asgwrn-cefn morol o Gymru. Cafodd y rhan fwyaf o'r deunydd ei gasglu gan staff yr Amgueddfa wrth gynnal arolygon o fywyd ar wely'r môr ar hyd arfordir Cymru a Môr Iwerddon. Ond mae'r casgliad hefyd yn cynnwys sbesimenau o dros 60 o wledydd ledled y byd – rhai yn rhoddion, ac eraill wedi'u casglu yn ystod gwaith ymchwil yr Amgueddfa mewn lleoliadau fel y Seychelles, Hong Kong ac Ynysoedd Malfinas. Mae'r deunydd yn cynnwys casgliadau cyfeirio arolygon olew a nwy, ac arolygon o iechyd gwely'r môr yn y DU ac ar draws y byd.

Felly pam mae'n casgliadau ni'n bwysig, a pam ei bod hi'n bwysig cadw gymaint o sbesimenau? Mae ein casgliadau yn gofnod unigryw o'r anifeiliaid sy'n byw mewn cynefin ar amser penodol. Gallwn ni eu hastudio er mwyn gweld newidiadau sy'n digwydd o ganlyniad i newid hinsawdd neu amgylchedd, llygredd, neu symud rhywogaethau estron o un rhan o'r byd i'r llall, er mwyn helpu i warchod bywyd ar wely'r môr. ⁠Gallwn ni hefyd wirio a chadarnhau rhywogaethau sy'n cael eu hadnabod drwy edrych ar samplau gwreiddiol, fyddai ddim yn bosib gyda chofnod yn unig. Bydd ymchwilwyr a gwyddonwyr hefyd yn defnyddio ein casgliadau i feithrin eu sgiliau adnabod, fel rhan o'u gwaith o ddisgrifio rhywogaethau newydd.

Un o swyddogaethau pwysicaf ein casgliadau yw gofalu am deipspesimenau – adnodd gwyddonol amhrisiadwy. Pan fydd rhywogaeth newydd yn cael ei darganfod, bydd y gwyddonwyr yn dewis y sbesimen orau i gynrycholi'r rhywogaeth – holoteip yw'r enw ar y sbesimen hwn. Mae'r rhain yn sbesimenau allweddol sy'n galluogi pobl ar draws y byd i gymharu'r rhywogaeth newydd â rhywogaethau eraill. Amgueddfa Cymru yw un o'r canolfannau hyn ledled y byd sy'n cael eu hymddiried i gadw'r sbesimenau hyn y ddiogel, a sicrhau gall ymchwilwyr eu hastudio.

Bydd ein curaduron a'n gwyddonwyr ni'n defnyddio'n casgliadau hefyd. Rydyn ni'n arbenigo mewn mwydod gwrychog morol, ac mae ein gwyddonwyr wedi disgrifio 35 o rywogaethau newydd ers 2000. Diolch i'r casgliadau, gallwn ni gymharu rhywogaethau tebyg a gweld pan fydd rhywogaeth yn newydd i wyddoniaeth, neu i ardal benodol. Er mwyn gwneud hyn byddwn ni'n defnyddio technegau darlunio, Microsgopeg Sganio Electron (i dynnu lluniau cydraniad uchel iawn), ffotograffio a dadansoddi DNA.

Y tro nesaf y byddwch chi'n camu drwy Brif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, cofiwch am y cyfoeth o sbesimenau anifeiliaid di-asgwrn-cefn dan eich traed, a pa mor bwysig maen nhw wrth i ni gadw cynefin morol Cymru yn iach. Pwy â ŵyr, efallai y gwelwch chi rai o'r sbesimenau mewn casyn neu arddangosfa hefyd – fe ddefnyddion ni dipyn o'n sbesimenau mwydod gwrychog yn arddangosfa Mwydod! Y Da y Drwg a'r Hyll.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.