: Tŷ Gwyrdd

Gwylio Adar yr Ardd

Hywel Couch, 31 Ionawr 2014

Penwythnos diwethaf, ymunodd miloedd o bobl mewn gyda’r arolwg adar mwya’r byd - Gwylio Adar yr Ardd gyda’r RSPB! Ar ddydd Sadwrn, wnes i ymuno gyda’r hwyl trwy wneud trîts bach i’r adar gydag ymwelwyr i’r amgueddfa. Wedi fy ysbrydoli, nes i dreulio ychydig amser yn y guddfan adar yma yn Sain Ffagan. Dyma gwpwl o lunie o be welais…

Wnaethoch chi gymryd rhan yn yr arolwg? Be welsoch yn eich gardd? Cofiwch i adrodd yn ôl i’r RSPB - Big Garden Bird Watch

Dilynwch bywyd gwyllt Sain Ffagan ar Twitter

Haf ystlumaidd yn Sain Ffagan!

Hywel Couch, 12 Medi 2013

Wel, ma gwyliau haf arall wedi hedfan heibio, ac mae  hi bron yn amser eto i groesawu grwpiau ysgol yn ôl i Sain Ffagan ar ddechrau flwyddyn ysgol newydd! 

Mae’r haf eleni wedi bod bach yn wahanol i mi yma yn Sain Ffagan. Oherwydd y gwaith ail-ddatblygu da ni di colli’r Tŷ Gwyrdd fel adeilad, felly mae’r gweithgareddau natur wedi bod bach mwy nomadig nai’r arfer! Roedd hi’n gyfle neis i mi ddefnyddio ardaloedd gwahanol o’r amgueddfa ac i edrych ar ba fywyd gwyllt sydd i’w ffeindio o amgylch y lle. 

Dros fis Awst, ddaeth tua 1000 o bobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau natur o amgylch yr amgueddfa, o archwilio yn y goedwig am fwystfilod bach i’n teithiau ystlumod gyda’r nos. Mae’r teithiau ystlum eleni wedi bod yn hynod o boblogaidd! 

Ar ddechrau’r haf naethon ni ail-agor y guddfan adar yn ei leoliad newydd ger ysgubor Hendre Wen. O’n i’n poeni falle byse dim cymaint o adar i’w weld yn yr ardal newydd, ond ar ôl treulio hanner awr yn gwylio’r adar nes i weld 11 rywogaeth wahanol. Gobeithio neith niferoedd tebyg parhau i ymweld â’n bwydwyr o amgylch y guddfan. Mae’r guddfan nawr ar agor bob dydd, felly ar eich ymweliad nesa i’r amgueddfa byddwch yn siŵr i bipio draw i weld be welwch chi! 

Ym mis Awst cawsom bach o fraw ar ôl tan fach yn y Tanerdy. Mae’r Tanerdy yn gartref i grŵp o ystlumod Pedol Lleiaf prin iawn. Torrodd tan drydanol bach allan un bore yn yr ystafell islaw ble mae’r ystlumod yn clwydo fel arfer. Diolch byth, nath y tan ddim cydio diolch i ymateb cyflym gan Wasanaeth Tan ac Achub De Cymru. Yn ystod y digwyddiad nath yr ystlumod hedfan i ardal o’r adeilad yn bell o’r tan. Nath y stori hyd yn oed cyrraedd tudalennau wefan y BBC! Diolch i Anwen am y llunie!

Mae’r ystlumod nawr wedi dychwelyd i’w ardal clwydo arferol ac i’w weld yn iawn. Yn anffodus, nid yw’r un peth yn wir am y camera ystlumod a oedd yn yr adeilad. Mae cyfuniad o ddifrod dwr a mwg yn golygu bydd angen camera newydd arnom, gobeithio cyn gynted â phosib! 

Mae ystlumod Sain Ffagan i’w weld yn mynd o nerth i nerth! Mae gennym ni 11 o’r 18 rhywogaeth sy’n byw ym Mhrydain yn clwydo yn yr amgueddfa, yn cynnwys yr ystlum Nathusius Pipistrelle sy wedi bod yn clwydo yn 2 o’n hadeiladau. Cyn hyn, dim ond 2 clwyd o’r ystlum yma sy ‘di cael ei ffeindio yng Nghymru. Dyma stori arall eleni nath newyddion

Eleni cynhaliwyd 3 Taith Ystlum gyda’r Cyfnos yn yr amgueddfa, a bob un yn llawn! Diolch i bawb ddaeth ac ymddiheuriadau i bawb nath trio bwcio ond oedd methu cal lle! Da ni’n bwriadu cynnal 4 taith mis Awst nesa gyda phosibilrwydd o fwy os oes galw! Os daethoch ar un o’n teithiau eleni ac os oes gennych unrhyw adborth, rhowch wybod i ni yma neu trwy anfon e-bost i’r amgueddfa! 

Un peth arall, hoffwn roi diolch mawr i’n tîm newydd o wirfoddolwyr sy ‘di bod yn helpu dros yr haf! Trwy gael pâr ychwanegol o ddwylo i helpu gyda digwyddiadau a gweithgareddau, mae’n bosib i ni gynnig gwell profiad ac ymweliad i’n hymwelwyr. Diolch yn fawr i chi gyd!

Pasg yn y Tŷ Gwyrdd - Hysbysfyrddau a phlannu tomatos.

Hywel Couch, 15 Ebrill 2013

Bu pythefnos Pasg, unwaith eto, yn adeg prysur iawn yma yn Sain Ffagan. Daeth dros 4000 o ymwelwyr trwy ddrysau’r Tŷ Gwyrdd. Roedd amryw o weithdai gennym dros y gwyliau, o weithdy uwchgylchu i blannu hadau tomato ag hyd yn oed cwis arbennig Ffŵl Ebrill. 

Yn un o’n gweithdai - Plannu, Tyfu, Bwyta – roedd cyfle i deuluoedd meddwl am dyfu bwyd eu hun. Roedd cyfle i blannu hadau tomato a mynd a’r hadau yma gatref. Y gobaith yw, ar ôl misoedd o feithrin yr hadau bydd gan bawb planhigion tomato iach a hyd yn oed tomatos blasus erbyn yr haf. Nai gadael i chi wybod sut mae fy nhomatos yn tyfu dros y misoedd nesa! 

Fe ddaeth Wood for the Trees Wales i ymuno a ni am gwpwl o ddyddiau i gynnig un o’i gweithdai uwchgylchu. Yn y gweithdy yma roedd cyfle i droi hen fframiau lluniau a theils corc mewn i fyrddau neges newydd sbon. Roedd hyn yn boblogaidd dros ben, erbyn diwedd y sesiwn roedd pob un hen ffrâm wedi cael ei ddefnyddio! Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithdai tebyg, cadwch lygaid ar dudalen Facebook Wood for the Trees!

Eleni, wnaeth Dydd Llun y Pasg digwydd cwympo ar y 1af o Ebrill, sef dydd Ffŵl Ebrill. Roedd hyn yn gyfle gwych i ni gael cwis i ffeindio allan os yw ymwelwyr i’r Tŷ Gwyrdd yn Eco Cŵl neu yn ffyliau Ebrill ffôl. Neis oedd ffeindio mas bod y mwyafrif o’n hymwelwyr yn Eco Cŵl… gyda dim ond cwpwl o eithriadau. Ar ôl cwblhau’r cwis roedd cyfle i wneud bathodyn i dangos i ffrindiau faint more eco cŵl ydych. 

Fel rhan o’r prosiect Creu Hanes, mi fydd defnydd y Tŷ Gwyrdd yn newid. Tra bod y brif fynedfa yn cael ei uwchraddio, bydd y Tŷ Gwyrdd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o fynedfa dros dro i’r amgueddfa. 

Dros y blynyddoedd, da ni di cael llawer o hwyl yn rhedeg gweithdai niferus yn y Tŷ Gwyrdd ac yn cwrdd â miloedd o bobl ddiddorol. Diolch mawr i’r sawl sydd wedi helpu ni i gyflawni hyn. Peidiwch â phoeni, mi fydd dal nifer o weithdai a digwyddiadau natur ac amgylcheddol yn digwydd, ond mewn mannau gwahanol yn yr amgueddfa.

Her Fecio Caerdydd

Danielle Cowell, 5 Tachwedd 2012

Cystadleuaeth yw Her Feicio Caerdydd lle bydd gweithleoedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i weld pwy sydd â’r nifer fwyaf o feicwyr. Eleni, dyma staff Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cymryd rhan ac yn ennill eu categori! Y wobr i bawb oedd teisennau bach blasus.

Ystadegau:

  • Cymrodd 16.5% ran (49/297 o staff)
  • 598 o deithiau
  • 3,793 o filltiroedd
  • Llosgwyd 117,597 o galorïau
  • Arbedwyd 939kg o CO2

Er bod ni wedi rhoi mewn mymryn bach mwy o ymdrech ar gyfer y gystadleuaeth - rydym yn beicio cylch gydol y flwyddyn. Yn ddiweddar, mae buddsoddiad mewn llochesi feiciau a hyfforddi staff wedi helpu i gael mwy o bobl yn cymryd rhan.

Hwyl a sbri hanner tymor yn y Ty Gwyrdd!

Hywel Couch, 25 Hydref 2012

Wythnos nesaf yw hanner tymor, felly mi fydd llawer yn mynd ymlaen yn y T? Gwyrdd gan gynnwys gweithgareddau celf a chyfle i flasu bwyd tymhorol! 

Ar ddydd Mawrth a Mercher wythnos nesa, Hydref 30ain a 31ain, mi fyddwn yn dathlu Calan Gaeaf trwy dreulio 2 diwrnod llawn gweithgareddau yn dathlu rhai o’n hoff drigolion. Mae gennym nifer o ystlumod gwahanol yn byw yn Amgueddfa Sain Ffagan ac mi fydd cyfle i chi ddysgu mwy amdan y creaduriaid rhyfeddol yma! Pa ffeithiau ystlum ydych chi’n gwybod eisoes? Faint o’r rhain sy’n wir a faint ohonynt sy’n ffuglen?? 

Gyda help ein tim o wirfoddolwyr, yn enwedig Anne-mie sy'n artist, rydym hefyd yn gobeithio creu gosodiad celf fawr yn y T? Gwyrdd. Rydym yn bwriadu creu ystlum fawr helyg i’w hongian o’r nenfwd wedi ei amgylchynu a nifer fawr o ystlumod bach. Dyma ble da ni angen eich help chi i greu cymaint o ystlumod bach a phosib! Fel gallwch weld o’r llun, bydd yr ystlumod bach wedi ei wneud allan o bapur newydd, bandiau elastig a glanhawyr pibell! 

Mae’r Amgueddfa hefyd yn cynnal digwyddiad mawr Nosweithiau Calan Gaeaf wythnos nesaf! Mi fydd yr amgueddfa ar agor gyda’r nos gyda nifer o weithgareddau yn cymryd lle. Eto, mi fyddwn yn hyrwyddo ystlumod gyda gweithgareddau celf bob nos. Mae’r Nosweithiau Calan Gaeaf yn cymryd lle rhwng nos Fawrth y 30ain o Hydref a nos Iau’r 1af o Dachwedd. Mae RHAID prynu tocynnau blaen llaw. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma  

Tua diwedd yr wythnos byddwn yn symud o Galan Gaeaf i edrych ar rhai o’r bwydydd gwych sydd ar gael adeg hyn o’r flwyddyn! Dewch i’m gweld ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn (2ail a 3ydd o Dachwedd) yn coginio yng nghegin y T? Gwyrdd yn defnyddio ryseitiau traddodiadol ac ambell i gynhwysyn o ardd y T?, Dewch i flasu siytni, cawl ac efallai hyd yn oed ambell i gacen! Gallwch gymryd ryseitiau adre er mhoen ei choginio adref hefyd! 

Ar y cyfan, mi fydd wythnos nesa yn un prysur dros ben, ond llawer o hwyl gyda digonedd yn mynd ymlaen, felly pam na ddewch chi draw i’n gweld!