: Oriel 1

Memorable gigs continued...

Sian Lile-Pastore, 28 Gorffennaf 2009

I've been collecting some more favourite gigs - Abby loved Sam Phillips at Joe's Pub Theater in New York City because of the intimate venue and awesome musicians, the mysteriously named 'M' enjoyed (what 'M' can remember of it anyway) The Undertones way back in 1979 in Aberystwyth...Iwan couldn't choose between Gorky's in Resolven and the last gig from Ffa Coffi Pawb in Llanelwedd in 1993.

Owain's best gig was Datblygu and Albert Hoffman also in Aberystwyth in 1993 or maybe 1994... Carla loved Take That recently in Cardiff and Ellie danced on the stage with Chuck Berry in Liverpool in 2004!

As mentioned in a previous post, my favourite gig was seeing Thurston Moore (of Sonic Youth) in Amoeba Records in San Francisco. It was a promo show for his solo album 'Trees Outide the Academy' which had just been released and I went on my own on a sunny Sunday afternoon. Thurston and his band came on late, with the set list written on a paper plate... it was amazing...

Pop Peth

Sian Lile-Pastore, 27 Gorffennaf 2009

Bydd arddangosfa Pop Peth/ Music & Me yn agor ddydd Sadwrn nesaf (gyda'r agoriad swyddogol ym mis Medi).

Dyma luniau o staff yr amgueddfa yn paratoi'r arddangosfa.

 

 

 

P'un yw eich gig fwya' cofiadwy?

Sian Lile-Pastore, 27 Gorffennaf 2009

Gadewch i ni wybod beth yw eich hoff gig erioed! Pan fydd yr arddangosfa Pop Peth yn agor allech chi lenwi tocyn bach ciwt fydd yn cael ei osod ar y wal yn yr oriel a falle ar y we hefyd!

Os nad ydych yn gallu aros tan wythnos nesa, postiwch eich hoff gig isod neu halwch ebost atai.

Rwyf wedi bod yn gofyn i staff yr amgueddfa am eu gigs gorau, a hyd yn hyn, ni wedi cael Kylie, Prince, Gil Scott-Heron & Amnesia Express a Thurston Moore (ffefryn fi!)

Sylwadau o'r arddangsofa Urdd.org

Sian Lile-Pastore, 13 Gorffennaf 2009

Mae'r arddangsofa Urdd.org wedi gorffen nawr, dyma ychydig o sylwadau ac atgofion ymwelwyr:

‘Mae Llangrannog yn hwyl....wedi bod na 8 gwaith mewn 1 blwyddyn’

‘Dwi’n caru yr urdd.’

‘Dwi’n cofio mynd i Langrannog yn 1953 – cysgu dan ganfas a cheisio cropian i fynny’r allt i gabanau’r merched yn y nos ac Ifan Isaac yn fy nal.’ (hwyel gwynfryn)

‘Cofion fantastic o Llangrannog a Glan- Llyn. Cusan gyntaf , smwchio i ‘ysbryd y nos’ a ‘oh capten’!! A’r twmpath, hwre!! Hwyl a sbri joio mas draw! Gobeithio caiff fy mhlant y cyfle nawr!’

‘Rwy’n cofio aros mewn caban – a’r glaw yn dod i fewn drwy’r tô!! Dyddie da!’

‘Wedi aros yng ngwersyll Llangrannog tua tair gwaith – y tro cyntaf mewn pabell! Chwythodd y pabell i ffwrdd ar y trydydd nosweth a rhaid i mi a’m ffrindiau cysgu i mewn gyda’r swyddogion! Diolch swogs!’

‘Rwy’n cofio llawer o weithgareddau’r Urdd – canu, actio, ‘sub’s bench’ yn y dawnsio disgo... Ryw’n cofio ennill y goron, a chael mynd i dderbyn fy ngwobr yn stiwdio ‘Heno’ yn lle’r pafiliwn, oherwydd epiemic Clwy’r Traed a’r Genau ar y pryd. Fy atgof cryfaf yw o gael stwr gan Steff yn Llangrannog am sleifio i mewn i’r neuadd sglefrolio yn y nos, i wrando ar gerddoriaeth saesneg, a sglefrolio i Pearl Jam a Nirvana!’

‘Dwi’n rhy fach i fynd i glanllyn.’

Y curaduron yn brysur yn paratoi'r arddangosfa nesaf yn Oriel 1 sydd yn agor ar 1 Awst.