Dysglau yn y Gors: Datgelu Trysor Langstone

23 Mawrth 2010

Y celc o ddwy ddysgl a hidlydd gwin

Y celc o ddwy ddysgl a hidlydd gwin

Y ddolen addurnedig (arfbais) ar y ddysgl fawr

Y ddolen addurnedig (arfbais) ar y ddysgl fawr

Archwilio'r man dyfrlawn lle canfuwyd y dysglau a'r hidlydd gwin.

Archwilio'r man dyfrlawn lle canfuwyd y dysglau a'r hidlydd gwin. Cyflawnwyd fel rhan o achos o drysor gan staff Cynllun Henebion Cludadwy Cymru ac Amgueddfa Cymru

Ym mis Rhagfyr 2007, daeth Craig Mills o hyd i ddwy ddysgl efydd a hidlydd efydd o ddiwedd yr Oes Haearn, wedi'u haddurno mewn arddull Celfyddyd Geltaidd. Gwnaed y darganfyddiadau wrth chwilio am fetel mewn cae isel ger Langstone, Casnewydd. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno'r canfyddiadau prin ac yn dangos sut mae gwaith maes ac ymchwil yr amgueddfa yn cynorthwyo i adrodd eu stori.....

Y llestri efydd

Roedd y celc hwn o ddysglau a 'hidlydd gwin' ar un adeg yn set yfed, ar gyfer ardywallt a hidlo hylifau. Efallai iddynt gael eu defnyddio ar gyfer paratoi ac yfed y gwin Canoldirol ffasiynol newydd. Neu efallai bod iddynt ddefnydd meddygol neu grefyddol.

Mae gan y dysglau waelod crwn, ac ymylon wedi'u ffurfio'n ofalus. Er bod un ychydig yn fwy na'r llall, mae'r hidlydd yn eistedd yn gysurus yn y ddau. Mae gan y dysglau ddarnau addurnedig o dan yr ymyl, lle'r oedd modrwyau yn cael eu gosod ar gyfer eu hongian a'u storio. Mae gan yr hidlydd ymyl llydan a chorff crwn, gyda modrwy i'w hongian. Addurnwyd y gwaelod â phatrwm hidlo wedi'i gynllunio'n ofalus, wedi'i gyflawni drwy dorri tyllau bychain crwn yn ofalus. Mae'r patrwm tyllau yn ffurfio tri siâp trymped, o amgylch patrwm trisgell tair coes. Gwelir y cynllun trisgell yn aml mewn Celfyddyd Geltaidd ar waith metel Oes Haearn yng Nghymru.

Arwyddocâd y darganfyddiad

Gwnaed y ddwy ddysgl efydd o Langstone yn ystod diwedd yr Oes Haearn (50 CC-60 OC). Daethpwyd o hyd i enghreifftiau blaenorol ledled de orllewin a de ddwyrain Lloegr, weithiau mewn mannau dyfrol ac weithiau mewn beddau. Mae'r rhain, ac adroddiadau am ddarn o ddysgl debyg yn ddiweddar o Llandeilo Gresynni (Sir Fynwy), yn dangos eu bod yn cael eu defnyddio ledled de Cymru. Mae darganfyddiadau Langstone yn darparu cyfle prin i astudio darganfyddiad diweddar gan ddefnyddio technegau archeolegol modern.

Yn y gorffennol, ystyriwyd hidlwyr gwin o'r math hwn fel rhai o'r cyfnod Rhufeinig cynnar (75-150 OC), gydag enghreifftiau hysbys o Maenorbŷr (Sir Benfro) a Coygan (Sir Gaerfyrddin). Fodd bynnag, mae'r enghraifft hon, a ganfuwyd gyda set o ddysglau o ddiwedd yr Oes Haearn, yn awgrymu eu bod wedi cychwyn cael eu gwneud a'u defnyddio ychydig yn gynharach, rhwng 40-70 OC yn ôl pob tebyg.

Pam fod llestri gwerthfawr a chyflawn yn cael eu claddu mewn cors?

Rhai metrau i ffwrdd o'r fan lle canfuwyd y celc, daethpwyd o hyd i

dancard pren cyflawn o oedran tebyg ar yr un pryd. Awgryma hyn fod arwyddocâd arbennig i'r lle, yn gysylltiedig gydag yfed a chladdu llestri yfed.

Cloddiwyd dau bwll prawf bychan, a datgelwyd union leoliad y canfyddiadau hyn, o fewn yr un haenen fawnog. Roedd y llestri wedi cael eu gosod yn ofalus ar ymyl y gors isel neu lyn bas. Gerllaw, yng nghanol y gors, ar ynys fechan o raean, mae safle fila Rufeinig hysbys. Fodd bynnag, mae'r ynys anghysbell hon yn safle anarferol ar gyfer aneddiad. Efallai iddo gael ei ddewis yn y lle cyntaf fel man o bwysigrwydd crefyddol, cyn dod yn drigfan o bwysigrwydd yn y cyfnod Rhufeinig.

Rhoddion i'r duwiau

Roedd claddu gwrthrychau gwerthfawr mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd yn arfer cyffredin ledled gogledd orllewin Ewrop yn ystod yr Oes Haearn. Dewiswyd y mannau hyn ar gyfer seremonïau i roi eitemau gwerthfawr i'r duwiau a oedd yn trigo yno. Efallai mai'r rhesymeg dros y weithred hon oedd y straen a brofwyd gan y gymuned Oes Haearn lleol. Yn ystod canol y ganrif gyntaf OC, roedd llwyth Silures de Cymru ynghanol gwrthdaro chwerw a pharhaus gyda byddin Rufeinig. Efallai bod rhoddion o'r fath yn arwydd o fesur brys, galwad ar rym y duwiau Celtaidd i gynorthwyo yn erbyn y llu ymosodol.

Ysgrifennwyd gan Adam Gwilt, gyda chyfraniadau gan Evan Chapman, Mary Davis, Mark Lewis, Mark Lodwick, Craig Mills a Nigel Nayling

Mae'n bodoli, medden nhw...

Sara Huws, 16 Mawrth 2010

Ro'n i'n ymweld â'r llyfrgell yma yn Sain Ffagan, i fachu cwpwl o lyfrau er mwyn paratoi ar gyfer teithiau'r Pasg o amgylch Eglwys Teilo Sant. Taro mewn i 'nghyd-weithiwr wnes i, pan ddigwyddodd rhywbeth wnaeth i'm meddwl grwydro tan i fi gyrraedd y blog 'ma.

Mi ddoth ata i yn dal mewn cyfeirlyfr hen a swmpus, a dweud rhywbeth rhyfedd: "Mae'n real! A ma' fe 'ma!". Wrth roi'r llyfr i lawr, mae'n gadael i'r tudalennau syrthio ar agor. A dyna wnaethon nhw, ac agor ar yr union dudalen 'roedd eisiau ei dangos i mi.

O'r profiad dwi wedi ei gael gyda geiriaduron a hen lawysgrifau, mae tudalennau sy'n syrthio ar agor fel hyn yn bownd o gynnwys rhywbeth diddorol neu anweddus. Mae dod o hyd i dudalen yn y modd hwn yn gwneud i mi feddwl am yr holl bobl sydd wedi bod yn darllen yr union dudalen o fy mlaen. Dwi'n teimlo fel fy mod yn ymuno â chlwb cudd, lle mae cenedlaethau o ddarllenwyr wedi chwilota am yr un peth, a'i ddarllen yn ofalus. Roedd gan fy hen athro hanes celf stori am lawysgrifau Beiblaidd o'r canol oesoedd, oedd wedi'u copïo a'u defnyddio gan fynachod. Bron yn ddi-ffael, mae'r llawysgrifau hyn yn agor ar un dudalen arbennig: ble bydd Bathsheba yn cael ei disgrifio yn mynd i'r bath. Yn lwcus, doedd dim byd mor fasweddus i'w ganfod y tro hwn - ond sioc gefais i yr un fath:

 

Mae bron yn apocryffa: cofnod yr Enyclopaedia Britannica am Gymru: 'Wales, See England'. Roedd e'n bodoli! Roeddwn i wedi hen arfer defnyddio'r frawddeg fel idiom, i'w rwgnach o dan fy ngwynt pan fydd Jeremy Clarkson yn defnyddio 'us'; pan fydd map corfforaethol yn hepgor Ynys Môn, ac yn fwyaf diweddar, pan ddefnyddiodd Google lun un o gestyll y Brenin Edward i dathlu dydd Gwyl Dewi. Mae'n dipyn sylweddol o hanes i'w wasgu i mewn i gyn lleied o eiriau.

Fy ymateb i yw hynny, wrth gwrs. Bydd trafodaethau am Gymreictod, Prydeindod ac amryw o '-tods' eraill yn parhau tra bo pobl ar yr ynys yma, a rhai o gorneli llai goleuedig y rhyngrwyd yn ogystal. Beth bynnag yw'ch barn chi, swyddogaeth amgueddfa yw gwneud cofnod ohono, o dro i dro, i gadw llygad ar beth sy'n ein gwneud ni yn 'ni'.

Mi alwais heibio'r fersiwn ddiwygiedig o Encyclopaedia Britannica, gan obeithio dod â'r blog hwn i ben gyda dyfyniad bach diddorol. Ro'n i wedi gobeithio gallu crybwyll hyder a phroffil y wlad yn fyd-eang, a gorffen ar rhyw nodyn positif. Yn anffodus, yn ôl britannica.com (fel y gelwir y gyfrol nawr), 'constituent unit' yw Cymru heddiw. Rhaid cyfaddau i mi gael fy siomi. Mae'n rhyfedd gweld, 150 mlynedd ar ôl i'r frawddeg "Wales: see England" gael ei chyhoeddi, ac ar drothwy trosglwyddo pŵerau newydd i Lywodraeth y Cynulliad, nad yw 'Gwlad' yn llawn ddisgrifio'r hyn a wêl rhai, pan fyddan nhw'n edrych ar Gymru.

Lleisiau o'r Oesoedd Canol (OC 1070au–1500au)

16 Mawrth 2010

Rhagarweiniad

Darn o Lyfr Gwyn Rhydderch, canol y 14eg ganrif

Darn o Lyfr Gwyn Rhydderch, canol y 14eg ganrif

Clywyd nifer o leisiau gwahanol yng Nghymru yn ystod y canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Fe ymosododd pobl o wledydd eraill, daeth rhai yma i weithio a chafwyd cysylltiadau estynedig ag eraill drwy fasnach.

Recordiwyd y clipiau sain hyn yn 2007 ar gyfer oriel archeoleg newydd yn Amgueddfa Cymru Caerdydd. Mae'r atgynhyrchiadau hyn o leisiau coll yr oesoedd canol yn dangos faint o ryngweithio ieithyddol oedd yng Nghymru yn y cyfnodau cynnar hyn, ac hefyd yn rhoi cipolwg inni ar feddyliau a gweithredoedd y bobl oedd yn byw yma.

Eingl-Normaneg

Câi Eingl-Normaneg ei ysgrifennu a'i siarad gan elît bychan yn dilyn y gwladychiad Normanaidd. Wedi i Edward I orchfygu Cymru, cyflwynwyd Eingl-Normaneg fel iaith y dosbarth rheoli a ddaeth i Gymru. Mae'n goroesi mewn nifer fach o destunau llenyddol ac mewn dogfennau gweinyddol a chyfreithiol. Cafodd Eingl-Normaneg beth dylanwad ar yr iaith Gymraeg hefyd.

Daw'r enghraifft hon o lythyr John Peckham, Archesgob Caergaint (tua 1230-92) at y Brenin Edward I, yn disgrifio marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282.

Troswyd y darn i'r Saesneg gan Charles Trice Martin; mae'r darlleniad Eingl-Normaneg gan David Trotter

Trawsysgrif o'r clip sain

Sire, sachez ke cues [ceus?] ke furent a la mort Lewelin truverent au plus privé lu de sun cors menue choses ke nus avoms veues; entre les autres choses il i out une lettre deguisé par faus nuns de traysun. E pur co ke vus seyez garni, nus enveyum le transcript de la lettre a le eveske de Ba, e la lettre meymes tient Eadmund de Mortemer, e le privé seel Lewelin, e ces choses vus purrez aver a vostre pleysir, e ço vus maundum pur vus garner, e nun pas pur ce ke nul en seyt grevé, e vus priums ke nul ne sente mort ne mahayn pur nostre maundement, e ke (s) ce ke nus vus maundums seyt secré.

Cyfieithad i'r Gymraeg

Arglwydd, bydded i chi wybod bod y rhai a fu'n bresennol pan fu farw Llywelyn wedi canfod ynghudd ar ei gorff rhai pethau bychain. Ymysg pethau eraill roedd llythyr bradwrus wedi'i gelu â ffugenwau. Er mwyn eich rhybuddio, anfonwyd gopi o'r llythyr at esgob Caerfaddon. Mae'r gwreiddiol, ag arno selnod cyfrin Llywelyn, ym meddiant Edmund Mortimer, ac fe gewch chi'r pethau hyn os dymunwch. Anfonwn hwn i'ch rhybuddio, ac nid i achosi trafferth i neb. Gobeithiwn na fydd neb yn dioddef marwolaeth neu anaf o ganlyniad i'n gwybodaeth, ac y caiff yr hyn a anfonwn atoch ei gadw'n gyfrinachol.

Cymraeg Canol

Datblygodd Hen Gymraeg yn Gymraeg Canol tua 1100. Roedd Cymraeg llafar yn cynnwys amrywiaeth o dafodieithoedd, megis Gwyndodeg (tafodiaith Gwynedd) a Gwenhwyseg (tafodiaith Gwent). Defnyddiwyd yr iaith ysgrifennedig ar gyfer llenyddiaeth grefyddol, testunau cyfreithiol, gweithiau meddygol, herodraeth a ffermio yn ogystal â chwedlau rhyddiaith a rhamantau. Parhaodd Cymraeg i fod yn brif iaith Cymru'r Canoloesoedd.

Daw'r enghraifft hon o Gymraeg Canol o un o dri chywydd gan y bardd proffesiynol Iolo Goch (tua 1320-98) sy'n canmol Owain Glyn Dŵr. Mae'r un yma'n canmol ei lys yn Sycharth.

Mae noddwyr Iolo'n cynnwys gwŷr eglwysig uchel-radd yn ogystal â theuluoedd bonheddig Eingl-Gymreig a Chymreig.

Mae'r darlleniad Cymraeg Canol gan Peter Wynn Thomas

Trawsgysgrif o'r clip sain

Llys Owain Glyn Dŵr

Naw neuadd gyfladd gyflun,
A naw gwardrob ar bob un,
Siopau glân glwys cynnwys cain,
Siop lawndeg fal Siêp Lundain;
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau â gwydrau gwiw;
Popty llawn poptu i'r llys,
Perllan, gwinllan ger gwenllys;
Melin deg ar ddifreg ddŵr,
A'i glomendy gloyw maendwr,
Pysgodlyn, cudduglyn cau,
A fo rhaid i fwrw rhwydau;
Amlaf lle, nid er ymliw,
Penhwyaid a gwyniaid gwiw,
A'i dir bwrdd a'i adar byw,
Peunod, crehyrod hoywryw;
Dolydd glân gwyran a gwair,
Ydau mewn caeau cywair,
Parc cwning ein pôr cenedl,
Erydr a meirch hydr, mawr chwedl;
Gerllaw'r llys, gorlliwio'r llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall;

Saesneg Canol

Dinistriodd y Goncwest Normanaidd ddiwylliant uchel llenyddol y Loegr Eingl-Sacsonaidd. Roedd y Saesneg Canol a ddefnyddiwyd yn gynyddol eang unwaith eto ar ôl tua 1200 yn wahanol iawn o ran gramadeg i Hen Saesneg, ac roedd wedi benthyg nifer o eiriau Norsaidd ac Eingl-Normanaidd. Saesneg oedd iaith arferol y mwyafrif o drefi a sefydlwyd gan reolwyr Normanaidd a Seisnig yng Nghymru. Treiddiodd nifer fawr o eiriau Saesneg Canol i'r Gymraeg.

Daw'r enghraifft hon o Saesneg Canol o'r rhamant ganoloesol Sir Cleges,, hanes marchog gwastrafflyd sy'n cael ei yrru i dlodi cyn dod yn llewyrchus unwaith eto, â dathliadau'r Nadolig yn gefndir i'r stori.

Fe'i cyfansoddwyd yn y 1300au/1400au cynnar, yn ôl pob tebyg yng ngogledd-orllewin canolbarth Lloegr.

Mae'r darlleniad Saesneg Canol gan yr Athro John Hines.

Trawsgrifiad o'r clip sain

Sir Cleges and his son gent
The right waye to Cardiffe went
Uppon Cristemas Daye.
To the castell he cam full right
As they were to mete dy?t,
At noun, the soth to saye.
In Sir Cleges thow?t to goo,
But in pore clothyng was he tho
And in sympull araye.
The portere seyd full hastyly:
"Thou chorle, withdrawe þe smertly,
I rede the, without delaye —

'Ellys, be God and Seint Mari,
I schall breke thyne hede on hig?t!
Go stond in beggeres row?t.
Yf þou com more inward,
It schall þe rewe afterward,
So I schall þe clow?t.'
'Good sir,' seyd Sir Cleges tho,
'I pray you lat me in goo
Nowe, without dow?t.
The kynge I have a present brow?tt
From hym þat made all thynge of now?t;
Behold all abow?t!'

Cyfieithad i'r Gymraeg

Cymerodd Syr Cleges a'i fab y ffordd yn syth i Gaerdydd ar ddydd Nadolig. Aeth ar ei union i'r castell, wrth iddynt eistedd i fwyta, am ganol dydd i ddweud y gwir. Bwriadai Syr Cleges fynd i mewn, ond roedd golwg dlawd ar ei ddillad syml. Dywedodd y porthor yn gyflym iawn 'Ewch o'r lle yma ar unwaith, heb oedi, neu yn enw Duw a'r Forwyn Fair mi dorraf eich corun. Ewch i sefyll ynghanol y dorf o gardotwyr. Os dewch gam ymhellach, byddwch yn dyfaru. Fe'ch trawaf chi mor galed'. 'Gyfaill', meddai Syr Cleges, 'Rwy'n erfyn arnoch i'm gadael i mewn yr eiliad hon, heb amau. Rwyf wedi dod ag anrheg i'r brenin oddi wrtho ef a wnaeth bopeth o ddim. Edrychwch o'ch cwmpas.'

Ffynhonnell: D. Speed (gol) 1987, '4. Sir Cleges', Medieval English Romances Part One (Department of English, University of Sydney), 169-92.

Fflemineg (Iseldireg Canol)

Daeth Ffleminiaid i Loegr gyda byddin Gwilym Goncwerwr, ac yn ystod y 1100au fel masnachwyr a threfedigion yn y trefi newydd. Y grŵp enwocaf o drefedigion yw'r Ffleminiaid o dde-orllewin Cymru (Sir Benfro a Cheredigion). Llwyddodd y Ffleminiaid i gadw'u hunaniaeth fel grŵp a'u hiaith am nifer o genedlaethau tan y 1200au cynnar. Erbyn hynny roeddynt wedi gweddnewid cymeriad rhai ardaloedd o Ddyfed.

Daw'r darn hon o'r 'Roman van Walewein', stori Arthuraidd a dyfais Ffleminaidd mae'n debyg, â Gwalchmai (Gawain) fel prif gymeriad. Thema ganolog y stori yw'r cwest am fwrdd gwyddbwyll hedegog a ymddangosodd yn llys Arthur (gan ddiflannu drachefn).

Trawsysgrif o'r clip sain

Die koninck Arthur zat t'enen male
Te Carlioen in zine zale
Ende hild hof na konink zede
Alzo hi menigwerven dede
Met een deel zire man
Die ik niet wel genomen kan:
Ywein ende Percevaal,
Lanceloot ende Duvengaal
Entie hoofse Walewein;
Zijn gezelle was daar negein.
Ook was daar Keye, die drussate.
Daar die heren aldus zaten
Na den etene ende hadden gedwegen
Alzo hoge liede plegen,
Hebben zi wonder groot vernomen;
Een schaak ten veinstren inkomen
Ende breedde hem neder uptie aarde.
(...)

Cyfieithad i'r Gymraeg

Eisteddai'r Brenin Arthur un tro
Yn ei neuadd yng Nghaerllion
A chynhaliodd lys, fel y gwna brenhinoedd
Ac fel y gwnai yntau'n aml
Gyda nifer o'i ddynion
Na fedraf eu henwi i gyd.
Owain a Perceval,
Lawnslot a Duvengal
A'r bonheddig Gwalchmai;
A oedd heb ei debyg yno.
Roedd Kay, y stiward, yno hefyd.
Pan eisteddodd yr arglwyddi hyn yno
Ar ôl pryd o fwyd, ac wedi iddynt olchi (eu dwylo)
Fel y gwna gwŷr bonheddig,
Gwelsant ryfeddod mawr:
Daeth bwrdd gwyddbwyll i mewn drwy'r ffenest
a glaniodd ar y llawr.
(...)

Cyfieithiad Saesneg gwreiddiol gan D. F. Johnson a G. H. M. Claassens; darlleniad Fflemineg gan Lauran Toorians

Cyfrannwyd y stori gan Mark Redknap ar y cyd â Peter Wynn Thomas, Diarmait Mac Giolla Chríost, John Hines, David Trotter, Lauran Toorians.

Lleisiau o'r Oesoedd Canol Cynnar (OC 400au - 1070au)

15 Mawrth 2010

Rhagarweiniad

Arysgrif ar gofeb o'r 9fed ganrif o Forgannwg

Arysgrif Ladin ar gofeb o'r 9fed ganrif o Eglwys Sant Illtud, Morgannwg. Codwyd y groes gan Houelt (Hywel) ar gyfer ei dad Res (Rhys).

Clywyd nifer o

leisiau gwahanol yng Nghymru yn ystod y canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Fe ymosododd pobl o wledydd eraill, daeth rhai yma i weithio a chafwyd cysylltiadau estynedig ag eraill drwy fasnach.

Recordiwyd y clipiau sain hyn yn 2007. Mae'r atgynhyrchiadau hyn o leisiau coll yr oesoedd canol yn dangos faint o ryngweithio ieithyddol oedd yng Nghymru yn y cyfnodau cynnar hyn, ac hefyd yn rhoi cipolwg inni ar feddyliau a gweithredoedd y bobl oedd yn byw yma.

Hen Gymraeg:

Cymru yw'r unig ran o Ynysoedd Prydain lle mae fersiwn o iaith Frythonaidd wedi cael ei siarad yn ddi-dor hyd heddiw. Y Frythoneg oedd mamiaith y Gymraeg, y Gernyweg a'r Llydaweg, Fe ddatblygodd i fod yn Hen Gymraeg yn ystod y 500au a'r 600au.

Daw'r enghraifft o Hen Gymraeg a glywir yma o gyfres o englynion tair llinell a gofnodwyd yn ysgrifenedig yn yr 800au. Fe'u hadnabyddir fel cerddi'r Juvencus. Galarnad milwr unig a geir yn y darn yma. Unig gwmni'r milwr yw hurfilwr o Ewrop. Er eu bod wedi ymladd ochr yn ochr, mae'r cyfathrebu rhyngddynt yn gyfyngedig.

Credai'r Athro Ifor Williams fod y gair franc yn golygu 'milwr estron cyflogedig', gan ei gymharu â'r Wyddeleg francamais oedd yn dwyn yr un ystyr. Os oedd y gair yn cyfeirio at rywun oedd yn wreiddiol o ymerodraeth Siarlymaen, buasai'n siarad rhyw fath o iaith Gaelo-Romawns (neu os oedd yn hanu o ardaloedd dwyreiniol, iaith Ellmynig).

Trawsgrifiad o'r clip sain:

Niguorcosam nemheuaur    henoid
Mitelu nit gurmaur
Mi am [franc] dam ancalaur.

Nicanãniguardam nicusam    henoid
Cet iben med nouel
Mi amfranc dam anpatel.

Namercit mi nep    henoid
Is discirr micoueidid
Dou nam riceus unguetid.

Cyfieithiad i Gymraeg Fodern

1. Ni siaradaf hyd yn oed am awr heno,
Nid yw fy ngosgordd yn fawr,
Myfi a fy Ffranc, o amgylch ein crochan.

2. Ni fyddaf yn canu, chwerthin, na mwynhau heno
Er i ni yfed medd clir,
Myfi a fy Ffranc, o amgylch ein bowlen.

3. Na foed i neb ofyn imi am ddifyrrwch heno,
Cwmni crintachlyd wyf fi,
Gall dau arglwydd ymgomio: ond un sy'n siarad.

Mae'r darlleniad o Hen Gymraeg gan Peter Wynn Thomas

Lladin

Roedd y rhan fwyaf o bobl Brythonig-Rufeinig addysgedig yn ddwyieithog. Lladin oedd iaith y gyfraith, y llywodraeth, busnes a llenyddiaeth yn y Gymru Rufeinig. Cadwodd Lladin ei lle fel yr iaith ryngwladol o'r statws uchaf drwy'r canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Lladin oedd iaith testunau, litwrgi ac addysg Gristnogol.

Yn y clip sain clywir darlleniad o fersiwn y Fwlgat o Weddi'r Arglwydd gan Beatrice Fannon.

Trawsgrifiad o'r clip sain

PATER noster, qui es in caelis,
Sanctificetur nomen tuum.
Adveniat regnum tuum. Fiat voluntas tua, sicut in caelo et in terra.
Panem nostrum quotidianum da nobis hodie,
Et dimitte nobis debita nostra sicut et nos dimittimus debitoribus nostris.
Et ne nos inducas in tentationem, sed libera nos a malo.
Amen.

Cyfieithad i'r Gymraeg

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
Sancteiddier dy enw,
Deled dy deyrnas,
Gwneler dy ewyllys,
Megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd;
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol,
A maddau i ni ein dyledion,
Fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr;
Ac nac arwain ni i brofedigaeth,
Eithr gwared ni rhag drwg.
Amen.

Hen Wyddeleg

Mae'n debyg mai ymfudwyr o'r Iwerddon ddaeth â'r Wyddeleg i Gymru tra bod Prydain yn dal i fod yn dalaith Rufeinig. Roedd y Gwyddelod yn arbennig o niferus trwy orllewin Cymru.

Diflannodd Gwyddeleg llafar o Gymru yn ystod y 600au mae'n debyg, ond mae'r iaith wedi gadael ei hôl ar nifer o enwau lleoedd Cymru ac ar yr iaith Gymraeg.

Daw'r enghraifft hon o Hen Wyddeleg o'r gerdd Yr Ysgolhaig a'i Gath, a ysgrifennwyd ar lawysgrif yn Awstria yn yr 800au cynnar. Mae'r ysgolhaig yn myfyrio am ei fywyd; Pangur yw enw ei gath.

Troswyd y gerdd i'r Saesneg gan D. Greene ac F. O'Connor. Mae'r darlleniad o'r Hen Wyddeleg gan Diarmait Mac Giolla Chriost.

Trawsysgrif o'r clip sain:

Meisse ocus Pangur Bán,
Cechtar nathar fria shaindán;
Bíth a menma-sam fri seilgg
Mo menma céin im shaincheird.
Caraim-se foss, ferr cach cló,
Oc mo lebrán léir ingnu;
Ní foirmtech frimm Pangur Bán,
Caraid cesin a maccdán.

Ó ro biam, scél cen scís,
I n-ar tegdais ar n-oendís,
Táithiunn díchríchide clius
Ní fris tarddam ar n-áithius.

Cyfieithad i'r Gymraeg:

Rwyf innau a Pangur Gwyn wrth ein gwaith; ef a'i feddwl ar hela, fy meddwl innau ar fy nhasg.

Gwell nag unrhyw glod i mi yw ennyd dawel gyda'm llyfr, ar drywydd gwybodaeth; nid yw Pangur Gwyn yn eiddigeddus ohonof – mae'n caru ei grefft blentynnaidd ei hun.

Nid oes diflastod pan fyddwn adref ar ein pennau'n hunain – cawn firi di-ben draw – a chyfle i ni'n dau ymarfer ein medrau.

Hen Norseg

Norseg oedd iaith Scandinafaidd y Llychlynwyr. Roedd yn dra thebyg i Saesneg y cyfnod, ac fe gymhathodd y ddwy iaith yn ardaloedd Llychlynnaidd gogledd a dwyrain Lloegr. Ceir nifer o enwau lleoedd o darddiad Llychlynnaidd o amgylch arfordiroedd Cymru.

Ym 1081 trechwyd y Normaniaid gan fyddin gyfunol Gymreig a Norwyaidd ym mrwydr afon Menai. Yn y gerdd hon, mae'r bardd llys Llychlynnaidd Þorkell hamarskáld yn dathlu'r fuddugoliaeth, yn enwedig cyfraniad y brenin Norwyaidd Magnós berfœttr (Magnus Goesnoeth). Cyfansoddwyd y gerdd i'w datgan ar lafar tua OC 1100.

Darllenir y gerdd gan yr Athro John Hines, Prifysgol Caerdydd.

Trawsysgrif o'r clip sain

Dunði broddr á brynju.
Bragningr skaut af magni.
Sveigði allvaldr Egða
Alm. Stọkk blód á hjalma.
Strengs fló hagl í hringa,
Hné ferð, en lét verða
Họrða gramr í harðri
Hjarlsókn banat jarli.

Cyfieithad i'r Gymraeg

Saeth yn taro cot-mael. A'r pennaeth yn saethu'n galed. Plygodd arweinydd grymus Agder ei fwa. Taenwyd gwaed dros yr helmedau. Hyrddiodd saethau'r bwâu i mewn i'r mael, syrthiodd y fintai, a lladdwyd yr iarll gan dywysog Hordaland mewn brwydr ffyrnig dros dir.

Hen Saesneg

Roedd yr Eingl-Sacsoniaid a ymgartrefodd yn Lloegr ar ôl diwedd rheolaeth y Rhufeiniaid yn siarad yr iaith Germanaidd, a wahanodd yn raddol oddi wrth ei berthnasau Ewropeaidd. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd gwelwyd cyrchoedd milwrol cyson o Loegr i Gymru ac i'r gwrthwyneb. Ond ffurfiwyd perthnasau mwy adeiladol, a rhannwyd diddordebau cyffredin ar hyd ffin hir Clawdd Offa.

Daw'r enghraifft hon o Hen Saesneg o Groniclau'r Eingl-Sacsoniaid (Llawysgrif Caerwrangon. Llyfrgell Brydeinig MS Cotton Tiberius Biv, ff. 3-86). Cofnod clerigwr ydyw o effaith cyrch Llychlynnaidd ar Gymru yn 915.

Mae'r darlleniad o'r Hen Saesneg gan yr Athro John Hines

Trawsysgrif o'r clip sain

Her on þissum geare wæs Wæringwic getimbrod; ond com mycel sciphere hider ofer suðan of Lioðwicum; ond twegen eorlas mid, Ohtor ond Hroald; ond foron þa west abuton þæt hi gedydon innan Sæfan muðan; ond hergodon on Norð Wealas aeghwær be þam staðum þær hi þonne onhagode; ond gefengon Cameleac bisceop on Iercingafelda; ond læddon hine mid him to scipe; ond þa alysde Eadweard cyning hine eft mid feowertigum pundum.

Cyfieithad i'r Gymraeg

Yma, yn y flwyddyn hon, adeiladwyd Warwick, a daeth byddin ysbeiliol draw ar long o'r de o Lydaw, a dau bennaeth, Ohtor a Hroald gyda nhw. Aethant o amgylch y gorllewin nes cyrraedd aber Hafren, gan ysbeilio ar hyd glannau Cymru, gan gipio Cameleac, esgob Ergyng, a mynd ag ef ar y llong gyda nhw; talodd y Brenin Edward pedwar deg punt i'w ryddhau.

Ffynhonnell: Michael Swanton 1996, The Anglo-Saxon Chronicle (London: Dent, J. M.).

Taith Gerdded Duduraidd

Sara Huws, 11 Mawrth 2010

Ar ôl ffilmio, dadlapio, ac edmygu'r thuseur y soniais amdano'n ddiweddar, mae'n amser i olygu'r fideo!

I aros pryd, dyma luniau newydd yr hoffwn i eu rhannu hefo chi.

Cangell Eglwys Teilo Sant. Llun: Wales News

Cangell Eglwys Teilo Sant, fel y mae hi heddiw.

Angylion Cerddorol yn Eglwys Teilo Sant. Llun: News Wales

Angylion yn chwarae'r Crwth a'r Delyn. Darluniwyd gan Fleur Kelly.

Pigment naturiol, Eglwys Teilo Sant. Photo: News Wales

Pigment ferdigris, a ddefnyddiwyd i greu paent gwyrdd yn Eglwys Teilo Sant

Os yw'r lluniau wedi'ch ysbrydoli, ewch draw i'r dudalen ddigwyddiadau i archebu lle ar ein taith gerdded Duduraidd. Bydd y daith ar y 20ed o Fawrth, a byddwn yn ymweld ag uchafbwyntiau Tuduraidd Sain Ffagan. Cewch gyfle i ymchwilio gwrthrychu replica, yn ogystal ag arogleuon Tuduraidd - rhai da a rhai drwg! Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar y daith, felly cofiwch archebu eich lle o flaen llaw.

Gobeithio y gwela i chi yno!