Celf yn Ewrop wedi 1900

Paul Cézanne (1839–1906), Argae François Zola , olew ar gynfas, tua 1879.

NMW A 29292, Cedric Morris, Dwy Chwaer , 1935, '© Cedric Morris Estate'

Newid i oriau agor

Bydd ein horiau agor yn newid dros y gaeaf.

O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10yb-4yp.

Datblygiad celf fodern yn Ewrop yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a welir yn yr oriel hon.

Roedd Argraffiadaeth wedi colli ei naws arloesol erbyn 1900 ac yn cael ei weld bellach fel arddull diogel, academaidd. Cefnodd artistiaid ar frwswaith bras, argraffiadol a dechrau cwestiynu’r angen i gynrychioli’r byd gweledol o gwbl.

Agorwyd drysau newydd i artistiaid diolch i waith Paul Cézanne a darganfyddiad celf ‘gyntefig’, gan gynnwys cerflunwaith o Affrica a chelf gwerin Ewrop. Drwy gydnabod y gallai nodweddion ffurfiol fel siâp, llinell, gwead a lliw fod yn llawn mynegiant eu hunain y datblygodd celf haniaethol.

Yn ddiweddarach aeth grŵp o artistiaid radical ati i sianelu dychymyg yr isymwybod. Dechreuodd y mudiad Swrreal ym Mharis yn y 1920au gan ddatblygu technegau artistig newydd i gyfleu breuddwydion a’r isymwybod. Fel gyda datblygiad celf haniaethol ddegawd ynghynt, lledodd dylanwad Swrrealaeth ledled Ewrop.