Celf Ffrengig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Cafodd newidiadau cymdeithasol a chyffro gwleidyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg effaith aruthrol ar artistiaid Ffrainc.
Dechreuwyd cefnu ar draddodiad a herio awdurdod, gan fraenaru’r tir ar gyfer moderniaeth mewn celf. Dechreuodd arlunwyr fynegi ymwybyddiaeth gynyddol o’r byd o’u cwmpas.
Roedd ‘realyddion’ fel Jean-François Millet a Honoré Daumier yn canolbwyntio ar y werin a bywyd bob dydd. Roeddynt yn portreadu tlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol yn aml, gan sbarduno cynnwrf gwleidyddol.
Tra bod llawer wedi gwirioni ar y delweddau realistig, roedd eraill yn gweld eu themâu’n aflednais a garw.
Yn sgil hyn, bu adfywiad mewn darluniau hanesyddol. Roedd moethusrwydd rhwysgfawr y ddeunawfed ganrif yn boblogaidd iawn ac yn cynnig dihangfa i rai â chwaeth fwy traddodiadol.
Gwelwyd datblygiadau newydd ym myd celf oherwydd technoleg newydd hefyd. Diolch i diwbiau paent parod, roedd arlunwyr yn gallu gadael eu stiwdios a mynd i weithio yn yr awyr agored.
Manteisiodd peintwyr tirluniau fel Jean-Baptiste-Camille Corot ar y rheilffyrdd newydd i adael y ddinas a pheintio lluniau gwledig yn y fan a’r lle.
Yn lle creu tirluniau dychmygol, roeddent yn creu lluniau a oedd, ym marn y beirniaid, yn olygfeydd anffurfiol, di-strwythur, ac felly’n annheilwng i’w harddangos.
Cafwyd chwyldro celfyddydol yn sgil y dulliau newydd ac arloesol hyn o bortreadu bywyd bob dydd, golau ac awyrgylch a sbardunwyd cenhedlaeth newydd o arlunwyr – yr Argraffiadwyr.