Argraffiadaeth ac Ôl-Argraffiadaeth Ffrengig
Roedd yr Argraffiadwyr yn gwrthryfela yn erbyn gwerthoedd hen ffasiwn y byd celf Ffrengig.
Cyn hir, dechreuodd eu testunau modern, eu dull peintio rhydd a’u lliwiau llachar ysbrydoli technegau newydd eraill.
Ym 1874, fe wnaeth criw o arlunwyr Ffrengig wneud safiad cadarn yn erbyn y Paris Salon – arddangosfa bwysig y wladwriaeth – ac yn eu plith, Pierre-Auguste Renoir, Claude Monet a Camille Pissarro.
I bwyllgor dethol llym y Salon, roedd paentiadau’r artistiaid hyn yn orliwgar ac anorffenedig. Mewn protest, penderfynodd yr artistiaid gynnal eu harddangosfa annibynnol eu hunain. Achosodd hyn gryn dipyn o stŵr a dadlau, a chawsant eu bedyddio’n ‘Argraffiadwyr’.
Roedd eu gwaith celf yn ddigyfaddawd o fodern, gan ddefnyddio testunau cyffredin o fywyd bob dydd Paris.
Byddent yn peintio yn yr awyr agored yn aml, yn defnyddio lliwiau llachar ac yn peintio’n gyflym i gyfleu’r ‘argraff’ o eiliad mewn amser. Roedd cerflunwyr hefyd yn dibynnu ar arsylwi yn hytrach na syniadau dychmygus am brydferthwch delfrydol.
Er bod yr Argraffiadwyr yn destun gwawd i ddechrau, dechreuodd artistiaid weld byd o bosibiliadau newydd.
Arbrofodd llawer gyda’u technegau a sefydlodd rhai eu mudiad arddulliadol eu hunain. Bellach, cyfeirir atynt fel yr ‘ôl-argraffiadwyr’.
Ar ôl llwyddo i oresgyn rheolau a rhagfarnau byd celf Paris, llwyddodd yr Argraffiadwyr i adael eu hôl a dylanwad parhaol yn rhyngwladol.