Arian
Ers amser maith mae arian i’w arddangos a’i ddefnyddio wedi chwarae rôl bwysig yng nghartrefi teuluoedd cyfoethog Cymru.
Mae gan gasgliad yr Amgueddfa sawl enghraifft wiw gan ei wneud yn un o brif gasgliadau o arian Prydain yn y byd.
Mae goreuon y casgliad yn cynnwys basn a phiser arian euraid a wnaethpwyd yn Bruges tua 1561 oedd yn eiddo’n gyntaf i William Mostyn (1518–1576), Sir y Fflint. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys y darn canol arian Prydeinig cynharaf i fwrdd, gwrthrych ysblennydd a wnaethpwyd ym 1730 gan Edward Feline i deulu Williams Bodelwyddan.
Hefyd mae arian pwysig o eiddo Syr Watkin Williams-Wynn (1749–1789), Wynnstay, Sir Ddinbych megis y pethau ymolchi arian euraid gwych a wnaethpwyd gan Thomas Heming fel rhodd i wraig gyntaf Syr Watkin ac arian a gynlluniwyd yn y dull clasurol gan y pensaer Robert Adam yn y 1770au.
Hefyd yn yr Amgueddfa mae casgliad cyfeiriol a grynhowyd gan Syr Charles Jackson (1848–1923), Mynwy, ysgolhaig arloesol arian Prydain. Cryfder y casgliad yw arian yr 16eg a’r 17eg ganrif ac mae’n cynnwys cyfres heb ei hail o lwyau cynnar.
Mae'r Amgueddfa’n casglu ac arddangos arian cyfoes gan gynnwys casgliad cynyddol ar fenthyg gan Ymddiriedolaeth P&O Makower.