Jêd Tsieineaidd
Mae crefftwyr Tsieina wedi defnyddio jêd i greu gwrthrychau sanctaidd ac addurnol ers saith mil o flynyddoedd a mwy.
Roedd darnau o jêd cerfiedig yn allforion poblogaidd iawn o Tsieina i Ewrop tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.
Mae’r Tsieinïaid yn ffafrio jêd oherwydd ei liw a’i dryloywder amrywiol ers miloedd o flynyddoedd. Yn hanesyddol, roedd yn symbol o rym, ysbrydolrwydd a diweirdeb. Fel arfer, roedd gwrthrychau jêd yn cynnwys symbolau oedd â’r nod o ddod â lwc dda i’w perchennog.
Mae’r gair ‘jêd’ a’r gair cyfatebol Tsieineaidd ‘yu’ braidd yn amwys, ac yn gallu cyfeirio at amryw o gerrig caled fel neffrit a jedit yn benodol. Defnyddiwyd neffrit i greu gwrthrychau defnyddiol ac addurnol ers o leiaf 5000 CC, ac mae’r garreg hon fwyaf cyffredin yn Nhyrcestan, i’r gorllewin o Tsieina.
Mae lliw neffrit yn amrywio o wyn i wyrdd neu frown, a gellir ei lathru yn loyw a sgleiniog. Daw carreg jedit, sy’n wyrdd llachar, o Byrma, a dechreuodd crefftwyr Tsieineaidd ei defnyddio yn ystod y ddeunawfed ganrif.
Mae jêd yn gymharol galed ac yn eithriadol o wydn, ac felly mae’n cymryd cryn dipyn o amser ac ymdrech i greu gwrthrychau ohono , ac yn gofyn am dechnegau llifanu a naddu medrus iawn.
Roedd jêd yn eithriadol o boblogaidd ymysg casglwyr Ewropeaidd o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i ddechrau’r ugeinfed ganrif. Cafodd llawer o wrthrychau eu creu’n arbennig ar gyfer y farchnad dramor.