Peintio o Natur

WILLIAMS, Penry (1802–1885)
Sgwd yr Henryd, Cwm Nedd
1819
olew ar banel
rhodd gan John Herbert James, 1931
NMW A 472

Crëwyd brasluniau olew anffurfiol fel y rhain, oedd yn aml yn anorffenedig, heb unrhyw fwriad o’u harddangos.

Astudiaethau preifat yr artist oeddynt, ac ystyriwyd eu bod yn ddiwerth i bawb arall.

Daeth brasluniau olew o dirluniau yn rhan bwysig o hyfforddiant artistiaid yn y ddeunawfed ganrif. Nid oedd braslunio’n uniongyrchol o natur yn beth newydd, ond cyn hynny roedd yn well gan artistiaid ddefnyddio pensil, dyfrlliw neu inc.

Defnyddiwyd paent olew weithiau, ond roedd yn gallu bod yn annodd i’w drin ac yn anghyfleus i’w gludo y tu allan i’r stiwdio.

Yn raddol dechreuodd artistiaid sylweddoli bod paent olew yn cynnig posibiliadau newydd i gyfleu lliw, gwead a golau yn gyflym ac effeithiol.

Erbyn y 1780au roedd peintwyr tirluniau ledled Ewrop yn braslunio yn yr awyr agored gyda phaent olew, ar bapur neu baneli pren bach fel arfer. Heddiw, serch hynny, edmygir nifer o frasluniau olew am eu ffresni a’u naturioldeb – rhinweddau sy’n aml ar goll o weithiau stiwdio mwy coeth o’r cyfnod.

Cyfranodd uniongyrchedd braslunio â phaent olew yn yr awyr agored at ddatblygiad Argraffiadaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.