Pŵer y Tir: Oriel Tirluniau Cymru
Pam fod y wlad yn parhau i ysbrydoli artistiaid? Beth sydd wedi denu cynifer o artistiaid yma?
Mae’r oriel yma’n edrych ar ymatebion artistiaid i’n tirwedd, yn tynnu sylw at lefydd, themâu ac unigolion o bwys wrth ddatblygu tirlunio yng Nghymru. Mae’r arddangosfa’n cyfosod artistiaid o wahanol gyfnodau er mwyn dangos eu hysbrydoliaeth.
Mynyddoedd a llynnoedd rhyfeddol y gogledd, cestyll, arfordir, bryniau hardd a diwydiannau trwm, y de, dyfroedd ystumiol afon Gwy – mae’r cyfan wedi ysbrydoli artistiaid ers tro byd.
O’r ddeunawfed ganrif ymlaen, daeth artistiaid yn llu i archwilio’n gwlad. Mae Cymru’n dal i ddenu artistiaid heddiw i ail-ddehongli llefydd a lluniau o’r gorffennol, gan edrych ar y tir mewn ffyrdd newydd a dod â’r byd modern i’r dirwedd oesol sy’n newid yn barhaus.
Mae’r gweithiau’n cynnwys rhai mannau hardd; ond mae’r artistiaid wedi cael eu hysbrydoli hefyd gan lefydd oddi ar lwybrau twristaidd Cymru mewn tir diwydiannol a threfol. Cymry yw rhai o’r artistiaid hyn, tra bod eraill wedi dod yma fel twristiaid, wedi cael ysbrydoliaeth yma neu hyd yn oed wedi ymgartrefu yma.
Os na welwch chi’ch hoff le neu artist heddiw, cofiwch ddod nôl. Bydd y gweithiau a’r themâu’n newid yn gyson er mwyn parhau i archwilio ein tirwedd ac ymateb artistiaid iddi.