Celf yn yr Eidal (1500–1700)
Yma mae cyfres o weithiau o gyfnod ‘Y Dadeni’.
Mae’n anodd cyfleu’n syml beth yw union ystyr ‘Y Dadeni’. Rhan hanfodol ohono yw’r modd yr oedd artistiaid ac ysgolheigion yn cyfuno traddodiadau Cristnogol â thraddodiadau hen Wlad Groeg a Rhufain.
Cododd y term ‘dadeni’ o’r weithred o ailddarganfod gwerthoedd clasurol.
Ysbrydolodd y diwylliant newydd hwn gyfnod o greadigrwydd artistig mawr. Persbectif oedd un datblygiad allweddol o ran arddull ac athroniaeth. Roedd hyn yn golygu tynnu llinellau a fyddai’n uno mewn un pwynt sefydlog, gan dwyllo’r llygad i feddwl bod dyfnder i wyneb gwastad y darlun.
Arweiniodd syniadau dyneiddiol at bwyslais ar sensitifrwydd a realiti profiadau, hyd yn oed wrth ymdrin â delweddau crefyddol.
Dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg oedd uchafbwynt y Dadeni yn yr Eidal, a bu hefyd yn gyfnod o ryfela ac o helbulon gwleidyddol. Diolch i gyfuniad o gyffro gwleidyddol a dynameg ddiwylliannol crëwyd gweithiau celf rhyfeddol
‘Yn eich t tra bendigedig, ganed y celfyddydau o’r newydd, a thrwy eich hynafiaid mae’r byd wedi adfer y gweithiau celf prydferthaf’ (Giorgio Vasari yn cyfarch Cosimo de’ Medici, 1555).