Digwyddiadau

Digwyddiad: Digwyddiad Arbennig i Noddwyr: Canolbwyntio ar Archaeoleg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
17 Hydref 2024, 6.30pm - 8.30pm
Pris Am ddim i Noddwyr
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle datblygu@amgueddfacymru.ac.uk

Digwyddiad y tu ol i’r llenni gydag archaeolegwyr ein hamgueddfa.

 

Mae ein Noddwyr yn mwynhau perthynas ddyfnach ag Amgueddfa Cymru tra hefyd yn cefnogi'n gwaith, gan ein helpu i ysbrydoli pawb trwy stori Cymru.

 

Mae'r manteision hefyd yn cynnwys:

- Gwahoddiad i ddangosiadau preifat o arddangosfeydd mawr.

- Cyfle i gwrdd ag arbenigwyr a staff curadurol mewn digwyddiadau i Noddwyr, a theithiau 'tu ôl i'r llenni'.

- Digwyddiad Nadoligaidd blynyddol ar gyfer Noddwyr a gwesteion, un o nosweithiau mwyaf poblogaidd Calendr Digwyddiadau’r Noddwyr

- Y newyddion diweddaraf gan Amgueddfa Cymru, gan gynnwys dau gop'r flwyddyn o gylchlythyr y noddwyr, Nawdd.

- Gostyngiad o 10% yn siopau, caffis a bwytai Amgueddfa Cymru

 

 Eisiau gwybod mwy am ddod yn Noddwr? Cysylltwch â datblygu@amgueddfacymru.ac.uk neu ewch i Ymuno â'n Cynllun Noddwyr | Amgueddfa Cymru.

Digwyddiadau