Digwyddiad:Sesiwn Baentio: Gwen John
Ymunwch â ni yn y Sesiwn Baentio nesaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!
Bydd yr artist o dde Cymru Rachel Rasmussen yn arwain y sesiwn sydd wedi'i hysbrydoli gan waith Gwen John a'n harddangosfa fawr newydd Gwen John: Hardd a Hynod.
Digwyddiad i'r Teulu: Cathod (3yp – 5yp) Dim ar ôl
Roedd Gwen yn caru cathod a byddech yn ein helpu chi i baentio cath eich hun.
Digwyddiad i Oedolion: Dinbych-y-Pysgod (7yn – 10yn) Archebwch Yma
Fel artist sydd hefyd â'i gwreiddiau yn Sir Benfro, bydd Rachel yn mynd â ni ar daith i Ddinbych-y-pysgod i ymgolli yn lliwiau ac arddull artistig wych Gwen.
Does dim ots os ydych chi'n baentiwr profiadol neu am ganfod awen greadigol newydd, mae hwn yn ddigwyddiad i bawb – does dim angen profiad i gymryd rhan.
Dewch i'r Amgueddfa i ganfod yr artist ynoch chi!
Am rhagor o wybodaeth ar Rachel Rasmussen, a'i gwaith, ymwelch a: Rachel Rasmussen Art
Gwybodaeth Bwysig:
Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu ac yn cael eu cynnwys ym mhris y tocyn.
Digwyddiad i Oedolion: Diod wrth baentio. Bydd ein bar bach ar agor i chi o’r dechrau i’r diwedd. Nid yw diodydd wedi’u cynnwys ym mhris y tocyn.
Digwyddiad i'r Teulu: Mae hwn yn ddigwyddiad i'r teulu cyfan ac yn addas i bob oed a gallu (argymhelliad oed 6+) Rhaid i bob plentyn fod yng ngofal rhiant neu warcheidwad drwy gydol y digwyddiad. Mae hwn yn ddigwyddiad i'r teulu cyfan, ac rydyn ni'n awgrymu'n gryf i'r oedolion gymryd rhan hefyd, a mwynhau gyda'ch gilydd.
Ni ellir ad-dalu tocynnau ac mae llefydd yn brin iawn. Bachwch eich tocynnau nawr!
Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno a’i arwain yn iaith gyntaf yr artist, sef Saesneg.
Nid yw tocynnau ar gyfer arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod wedi eu cynnwys, a rhaid prynu'r rhain ar wahân.
Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael. Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd