Digwyddiad:Te Prynhawn Gwen John

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Gwnewch y mwyaf o'ch ymweliad ag Amgueddfa Cymru dros y Gwanwyn drwy fwynhau Te Prynhawn wedi'i ysbrydoli gan Gwen John. Byddwn ni'n cyfuno cynhwysion Cymraeg a Ffrengig – croissants gyda chaws a ham Cymreig, tarte tatin a quiche – i fynd gyda the Cymreig a choffi wedi'i rostio'n lleol. ⁠

Ydych chi'n dathlu? Ychwanegwch wydraid o Prosecco am £6 y pen.

Gwybodaeth bwysig:

  • Mae opsiynau fegan, llysieuol a di-glwten ar gael – nodwch unrhyw anghenion deietegol wrth archebu. ⁠ - Anfonwch e-bost at carlos.pinks@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod unrhyw anghenion dietegol. Byddwn ni wedyn yn cadarnhau os allwn ni wneud addasiadau i chi.
  • Os oes pobl wedi archebu ar wahân ac am eistedd gyda'i gilydd, anfonwch e-bost at carlos.pinks@amgueddfacymru.ac.uk yn nodi enw'r bobl sydd wedi archebu.
  • Mae'r pris yn £23 y pen. Cofiwch archebu lle ar gyfer y nifer cywir o westeion.

Gwybodaeth

1 Mawrth–28 Mehefin 2026
Pris £23
Addasrwydd Pawb
Te Prynhawn
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
22 Mawrth 2026 Sold Out 
29 Mawrth 2026 Sold Out 
5 Ebrill 2026 13:00 Gweld Tocynnau
12 Ebrill 2026 13:00 Gweld Tocynnau
19 Ebrill 2026 13:00 Gweld Tocynnau
26 Ebrill 2026 13:00 Gweld Tocynnau
3 Mai 2026 13:00 Gweld Tocynnau
10 Mai 2026 13:00 Gweld Tocynnau
17 Mai 2026 13:00 Gweld Tocynnau
24 Mai 2026 13:00 Gweld Tocynnau

Ymweld

 Mynediad

Am Ddim

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad. 

Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm
orielau yn cau am 4.45pm.

 Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

  Ystafell aml-ffydd

Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.

Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.

Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.

 Lleoliad

 Map safle

Map Safle

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau