Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae'n bleser gan Amgueddfa Cymru groesawu Babis Bach Babies yn ôl ar gyfer cyfres arbennig iawn o sesiynau adrodd straeon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Y Falwen Hy a'r Morfil Cry gan Julia Donaldson fydd y gyntaf o’r sesiynau hyn. Dyma stori annwyl sy'n odli am falwen fach sydd â dyhead mawr i weld y byd ac sy’n cael lifft ar gynffon morfil cefngrwm.
Mae Babis Bach Babies yn cyfuno cerddoriaeth fyw gan gerddorion clasurol ag adrodd straeon rhyngweithiol. Nod eu sesiynau yw cefnogi addysg y blynyddoedd cynnar drwy annog dysgu iaith yn y Gymraeg a'r Saesneg, cyflwyno themâu amserol drwy gân a symudiad a datblygu hyder drwy gymryd rhan.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Babis Bach Babies | Cerddoriaeth fyw i fabanod a phlant
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd