Cwrs:Gweithdy Creu Ffasiwn gyda Ffian Jones
Fis Awst, ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol ar gyfer y teulu cyfan wedi'u hysbrydoli gan ein harddangosfa ffotograffiaeth newydd, Ffasiwn.
Ymunwch â'r dylunydd ffasiwn a hwylusydd Ffian Jones i ddefnyddio'ch doniau creadigol i droi dillad cynaliadwy yn greadigaethau newydd.
Byddwch chi'n dysgu:
- Popeth dan haul am ddylunio ffasiwn ac addasu a theilwra dillad
- Dulliau mwy cynaliadwy o ailddefnyddio dillad a thecstilau
- Sut i ddatblygu eich syniadau o'r syniad cychwynnol i'r dillad gorffenedig gan gynnwys steilio ac adrodd straeon gweledol
- Ar gyfer plant 8-11 oed a'u teuluoedd – dewch i fod yn greadigol a chael eich ysbrydoli yr haf yma
10am-1pm | Sesiwn Gymraeg
2pm-5pm | Sesiwn Saesneg
Mwy am Ffian
Astudiodd Ffian Jones Ffasiwn yn y Coleg Celf Brenhinol cyn gweithio yn y diwydiant ffasiwn. Mae hi bellach yn dysgu Ffasiwn a hefyd yn gweithio ar draws ffilm a theledu fel dylunydd gwisgoedd, gan gyfrannu at ystod o brojectau creadigol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein digwyddiadau yn fwy hygyrch i bawb. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion mynediad ychwanegol. Am ragor o wybodaeth am gyrraedd yr Amgueddfa, ewch i Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Amgueddfa Cymru
Gwybodaeth Bwysig
- Darperir yr holl ddeunyddiau. Ni chaniateir eitemau trydanol personol, fel peiriannau gwnïo
- Yn addas i bobl ifanc 8 - 11 oed gyda oedolyn
- Nid yw tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys mynediad i arddangosfa Ffasiwn
- Cynhelir y gweithdy yng Ngofod Dysgu Clore. Bydd cynorthwywyr Profiad Ymwelwyr wrth law i'ch tywys o'r Brif Neuadd.
- Ni ellir ad-dalu'r holl docynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwbl hapus gyda'ch dewis cyn archebu.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery
Gwybodaeth
© Clémentine Schneidermann and Charlotte James
Digwyddiadau perthnasol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd