Cwrs:Tynnu Lluniau o Ddillad: Gweithdy Ffasiwn gyda Michael Alberry
Fis Awst, ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol ar gyfer y teulu cyfan wedi'u hysbrydoli gan ein harddangosfa ffotograffiaeth newydd, Ffasiwn.
Dan arweiniad yr artist a'r addysgwr Michael Alberry, mae hwn yn ddiwrnod ymarferol, chwareus a chydweithredol o greu delweddau ffasiwn, gan ddarganfod sut y gall ystum, propiau syml, ac ychydig o ddychymyg drawsnewid ffotograff. Gan weithio mewn parau teuluol neu grwpiau bach, byddwch yn cymryd eich tro o flaen ac y tu ôl i'r camera, wedi'ch tywys trwy ymarferion creadigol sy'n archwilio beth sy'n gwneud ffotograff yn ddiddorol, yn syndod, neu'n fyw. Dewch â ffôn camera, rhywbeth i'w wisgo, darn neu ddau o ffabrig hoffus, a digon o chwilfrydedd, a dysgwch rai ffyrdd newydd o fynegi eich hun trwy ffotograffiaeth ffasiwn.
Ar gyfer plant 11+ oed a'u teuluoedd – dewch i fod yn greadigol a chael eich ysbrydoli yr haf yma.
Amdano Michael
Mae Michael Alberry yn ffotograffydd, addysgwr, a chyd-sylfaenydd Besides Press. Yn enillydd gwobr 30 Under 30 Magnum Photos, mae wedi arddangos yn rhyngwladol ac wedi addysgu ffotograffiaeth yn eang — o brifysgolion i ysgolion a gweithdai annibynnol. Mae'n angerddol am ffotograffiaeth fel offeryn ar gyfer creadigrwydd, cydweithio, a hunanfynegiant.
Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein digwyddiadau yn fwy hygyrch i bawb. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion mynediad ychwanegol. Am ragor o wybodaeth am gyrraedd yr Amgueddfa, ewch i Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Amgueddfa Cymru.
Gwybodaeth Bwysig
- Bydd angen i chi dod â ffôn symudol sydd â chamera i'r digwyddiad yma. Darperir yr holl ddeunyddiau eraill. Bydd y gweithdy’n cynnwys cyfres o ymarferion byr i archwilio ffyrdd hwyliog o greu delweddau ffasiwn. Cofiwch ddod â rhai dillad, ffabrigau a/neu bropiau yr hoffech arbrofi â nhw.
- Rhaid llenwi ffurflen ganiatâd ar gyfer y digwyddiad hwn. Bydd yn cael ei e-bostio atoch cyn y digwyddiad er mwyn i chi ei lofnodi.
- Rhaid i blant dan 18 fod yng nghwmni oedolyn gyda thocyn.
- Nid yw tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys mynediad i arddangosfa Ffasiwn.
- Cynhelir y gweithdy yn ein Gofod Arddangos Dros Dro.
- Ni ellir ad-dalu'r holl docynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwbl hapus gyda'ch dewis cyn archebu.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Gwybodaeth
© Clémentine Schneidermann and Charlotte James
Digwyddiadau perthnasol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd