Cwrs:Wynebu Delweddau: Gweithdy Ysgrifennu Creadigol Ffasiwn gyda Alix Beeston
Fis Tachwedd, ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol sy'n cyd-fynd â'n harddangosfa ffotograffiaeth newydd, Ffasiwn.
Pan fyddwch chi'n edrych ar berson mewn llun, ydyn nhw hefyd yn edrych yn ôl arnoch chi? O feddwl am ddod wyneb yn wyneb â'r bobl yn y lluniau ar waliau'r oriel, oes rhywbeth yn wahanol? Yn y gweithdy creadigol hwn, bydd yr awdur Alix Beeston yn eich helpu i arbrofi gyda ffyrdd dychmygus, chwareus a hunan-fyfyriol o edrych ar bortreadau pobl ifanc yn arddangosfa Ffasiwn. Wrth ddatblygu cyfres o ddarnau creadigol byr mewn gwahanol genres, fe gewch chi gyfle i ystyried pŵer y gweld yn ogystal â chael eich gweld – ym myd celf ac yn ein bywydau.
Mae croeso i bawb, does dim angen profiad o ysgrifennu i gymryd rhan. Dewch â beiro a phapur (neu ddyfais ddigidol).
Mae'r gweithdy'n addas i oedolion ac yn ffordd berffaith o fod yn greadigol fis Tachwedd, waeth faint o brofiad ysgrifennu blaenorol sydd gennych.
Amdano Alix
Mae Alix Beeston yn awdur ac academydd sy'n byw yng Nghaerdydd. Bydd ei llyfr nesaf, cyfrol feirniadol-greadigol o fenywod a merched yn hanes ffotograffiaeth, yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Penn State yn 2027.
Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein digwyddiadau yn fwy hygyrch i bawb. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion mynediad ychwanegol. Am ragor o wybodaeth am gyrraedd yr Amgueddfa, ewch i Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Amgueddfa Cymru.
Gwybodaeth Bwysig
- Gellir darparu deunyddiau ysgrifennu, er bod croeso i chi ddod â'ch rhai eich hun.
- Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer oedolion 16+ yn unig.
- Cynhelir y gweithdy yn Oriel 18, yr un lleoliad â'n harddangosfa, Ffasiwn.
- Ni ellir ad-dalu'r holl docynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwbl hapus gyda'ch dewis cyn archebu.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People’s Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 25 Tachwedd 2026 | 14:00 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Mynediad
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Oriau Agor
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadParcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Ystafell aml-ffydd
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Lleoliad
Map safle
Map SafleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd