Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
© Clémentine Schneidermann a Charlotte James
Mae arddangosfa Ffasiwn yn seiliedig ar It’s Called Ffasiwn, project ffotograffiaeth ffasiwn gwrth elitaidd sydd â’i wreiddiau yn y gymdeithas. Cafodd ei greu trwy gydweithio hirdymor gyda phobl ifanc ar draws cymoedd de Cymru.
Dros ddeg mlynedd, mae’r project wedi cyfuno steil â ffotograffiaeth ddogfennol gan herio’r syniadau am bwy sy’n cael bod yn rhan o fyd ffasiwn a sut mae cymunedau’n cael eu portreadu. Yn hytrach na thynnu lluniau sy’n bortreadau disgrifiadol yn unig, mae’r broses o greu wedi datblygu dros gyfnod hir gyda’r bobl ifanc yn bartneriaid creadigol drwyddi draw.
Calon y project yw creu a’r grym i greu. Yn hytrach na bod yn symbol o berthyn i ddiwydiant penodol neu yn arwydd o statws, daw ffotograffiaeth, steilio a pherfformio yn offer ar gyfer arbrofi, hunan-fynegiant a hyder. Mae gwreiddiau’r lluniau yn y llefydd cyfarwydd a phrofiadau bob dydd, ac wedi’u hysbrydoli gan leisiau’r rhai sy’n cymryd rhan.
Mae’r arddangosfa’n gwrthod nostalgia ac ystrydebau ac yn creu lle i greadigrwydd, hiwmor ac uchelgais y bobl ifanc a’u cymunedau – mae’r lluniau’n ddrych o’u egni a’u dychymyg. Does dim awydd nac ymgais chwaith i weddnewid y llefydd yma chwaith, y nod yw dathlu a dangos creadigrwydd y Cymoedd.
Drwy gyfuno ffotograffiaeth steil a dogfennol, mae Ffasiwn yn cynnig ffordd gyfoes o weld Cymru trwy lygaid ei chymunedau. Mae’n gyfle i fwynhau ffotograffiaeth a ffasiwn fel ffordd o fyw a chyd-greu — lluniau wedi’u creu gan bobl go iawn yn eu milltir sgwâr a thrwy eu llygaid nhw.
Am ddim i Aelodau!
Ymunwch â ni heddiw i fwynhau cynigion a buddion arbennig, gan gynnwys mynediad am ddim a diderfyn i'n harddangosfeydd â thâl.
Mae eich ymweliad yn ein helpu i wneud mwy.
Pan fyddwch chi'n prynu'ch tocyn, gallwch ddewis ychwanegu rhodd fach, wirfoddol. Mae pob cyfraniad bach a mawr yn ein helpu i ofalu am y casgliad cenedlaethol, creu arddangosfeydd ysbrydoledig, a chefnogi'r gwaith o rannu straeon Cymru heddiw.
Bydd ychwanegu rhodd o 10% o bris y tocyn neu fwy yn golygu y gallwn hawlio Cymorth Rhodd ar bris llawn y tocyn. Rydyn ni'n elusen, ac mae eich cefnogaeth wir yn gwneud gwahaniaeth. Diolch.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Arddangosfa ffotograffiaeth newydd gan Clémentine Schneidermann a Charlotte James yn dathlu degawd o greadigrwydd yng nghymoedd de Cymru.
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd