Storïau Gwerin
Nôl i Hafan StoriwyrRhoi Siwgwr Mewn Te yn Sir Forgannwg, Sir Gâr a Sir Aberteifi
Cassie Davies (1898-1988)
Wel, ofnadwy! Druan o'r hen Gardi!
Ie, mae'n 'i chael hi! Ma'n nhw'n gneud rhain, fel ma'n nhw'n neud storïe am Sgotland, yn Aberdeen, heddi. Ma llu ohonyn nhw. Ac ma 'na laweroedd o rai tebyg i hynna - beutu rhoi shiwgwr yn te, a rw bethe felly.
Ie, be 'di'r stori 'na, felly?
O, be yw'r gwahaniaeth rhwng, dwedwch, Cardi a dyn o shir, wedwn ni, shir Gâr, a dyn o shir Forgannwg, dwedwch? Fyddech chi'n rhoi te, wedyn ac os nag oes digon o shiwgwr yn ych te chi: 'Helpwch ych hunan o'r basn fan 'na', medde'r dyn o shir Forgannwg. A'r dyn o shir Gaerfyrddin yn gweud:
'Wel, os nag ôs digon yn ych te chi, rhowch lwyed fach arall mewn.' A'r person o shir Aberteifi:
'Gnewch yn siwr bo chi 'di droi e'n ddigon da!'.
Recording
Mwy o wybodaeth
Tâp
Nodiadau
Teipiau
Motifs