Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Robin y Llongwr a Gwraig Tafarn y Brown Cow

Lewis T Evans (1882-1975)

Wel, odd Robin y Llongwr, odd o 'di bod ar y môr lot, a ... lle odd ei gartre fo odd 'no dafarn o'r enw Brown Cow, ac yn fanno bydda fo'n câl madal â'i bres i gyd. Ac odd hi wedi mynd yn ddrwg iawn ar Robin nos Sadwrn, a dydd Sul 'dodd gynno fo'r un ddime goch. Ac odd o mewn rhyw room yn y Brown Cow 'ma, a mi ddôth y dafarnwraig heibio a nhwthe'n gneud cinio. A hogle'r cinio'n dwad i lle'r oedd Robin.

'Mae 'na hogle da'n dod o'r room 'ne', bedde Robin wrth y wraig.

'Oes', bedde hithe, 'ond chei di ddim ond 'i hogle fo heddiw.'

A beth bynnag a fu, mi ddôth yn ddydd Llun, beth bynnag, a mi joiniodd Robin 'i long. Mi fuo'n morio o borthladd i borthladd am tua dwy flynedd, neu chwaneg, ac yn y diwedd mi gyrhaeddodd borthladd tre'r Brown Cow 'ma, ac mi laniodd. A'r peth cynta nâth o odd mynd i'r Brown Cow. Odd o 'di cadw 'i brês i gyd, beth bynnag, bob dime, ac wedi gweithio. A deiar! Odd 'no groeso mawr iddo fo, wrth reswm. Derbyniad mawr.

A'r peth cynta nâth o odd gofyn i'r dafarnwraig gâi o fenthyg dau blât. Mi ddôth hithe â dau blât iddo fo, a mi dynnodd ynte lond 'i ddwrn o syfrod a'u rhoi nhw yn y plât, a'u hysgwyd nhw, a rhoi plât arall ar 'i wyneb o, a'i ysgwyd o wrth glust yr hen wraig.

'Mae 'ne sŵn neis arnyn nhw', bedde'r wraig.

'Oes', bedde Robin, 'ond chei di ddim ond 'u sŵn nhw', bedde fo, ac allan â fo. Ac mi ffarweliodd Robin â'r Brown Cow, a phob Brown Cow arall.

Recording

Robin y Llongwr a Gwraig Tafarn y Brown Cow

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 3193. Recordiwyd 5.vii.1971

Nodiadau

Roedd Lewis T Evans wedi clywed y stori hon gan Lewis Evans, ei ewythr dall, yn Hafod Llan Isa, Pentrellyncymer, oddeutu 1891-2. Roedd yn bosibl fod ei ewythr wedi ei chlywed gan hen ŵr o'r enw Dafydd Llwyd, Elusendai, Cerrigydrudion, a fu'n gweithio ac yn aros yn Hafod Llan Isa cyn dyddiau Lewis T Evans. Credai fod ei ewythr wedi clywed nifer o storïau gan Dafydd Llwyd: 'Gin hwnnw odd o 'di câl rhan fwya, 'dw i'n barnu.' Ni wyddai'n union faint o storïau yr oedd ei ewythr wedi eu clywed gan Dafydd Llwyd, ond cofiai sylw ei ewythr: 'pan fydde fo 'di deud ryw ambell i stori, 'ntê: "Dyne stori Dei Llwyd", bedde fe.'

Teipiau

AT 1840 B Talu gyda thincial arian.

Motifs