Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Stori'r Hen Wraig Fach a'r Oen

Cassie Davies (1898-1988)

Odd ych mam yn adrodd stori 'thoch chi pan oech chi'n groten fach, och chi'n deud, ac och chi'n galw'r stori 'ma'n 'Hen Wraig Fach a'r Oen', ie?

Ie. 'Na hi. Hen wraig fach yn sgubo'r aelwyd yn lân, gafodd dair cinog i brynu oen bach:

'Da oen bach, cera di adre, ma nghefen i'n rhy wan i dy gario di.'
'Na, 'na'i ddim.'

'Da gi bach, cwrshia di'r oen adre. Ma'r oen yn pallu cered adre a nghefen i'n rhy wan i'w gario fe.'
'Na, 'na'i ddim.'

'Da bastwn bach, wada di'r ci. Ma'r ci yn pallu cwrshio'r oen, a'r oen yn pallu cered adre a nghefen i'n rhy wan i'w gario fe.'
'Na, 'na'i ddim.

'Da wyall fach, torra di'r pastwn. Ma'r pastwn yn pallu wado'r ci, ma'r ci yn pallu cwrshio'r oen, ma'r oen yn pallu cered adre a nghefen i'n rhy wan i'w gario fe.'
'Na, 'na'i ddim.'

'Da dân bach, llosga di'r wyall. Ma'r wyall yn pallu torri'r pastwn, ma'r pastwn yn pallu wado'r ci, ma'r ci yn pallu cwrshio'r oen, ma'r oen yn pallu cered adre a nghefen i'n rhy wan i'w gario fe.'
'Na, 'na'i ddim.'

'Da ddŵr bach, doffodd di'r tân. Ma'r tân yn pallu llosgi'r wyall, ma'r wyall yn pallu torri'r pastwn, ma'r pastwn yn pallu wado'r ci, a'r ci yn pallu cwrshio'r oen, a'r oen yn pallu cered adre a nghefen i'n rhy wan i'w gario fe.'
'Na, 'na'i ddim.'

'Da ych bach, yfa di'r dŵr. Ma'r dŵr yn pallu diffodd y tân, a'r tân yn pallu llosgi'r wyall, wyall yn pallu torri'r pastwn, pastwn yn pallu wado'r ci, ci yn pallu cwrshio'r oen, a'r oen yn pallu cered adre a nghefen i'n rhy wan i'w gario fe.'
'Na, 'na'i ddim.'

'Da raff fach, croga di'r ych. Ma'r ych yn pallu yfed y dŵr, y dŵr yn pallu diffodd y tân, tân yn pallu llosgi'r wyall, wyall yn pallu torri'r pastwn, pastwn yn pallu wado'r ci, ci yn pallu cwrshio'r oen, a'r oen yn pallu cered adre a nghefen i'n rhy wan i'w gario fe.'
'Na, 'na'i ddim.'

'Da lygoden fach, torra di'r rhaff. Ma'r rhaff yn pallu crogi'r ych, a'r ych yn pallu yfed y dŵr, dŵr yn pallu diffodd y tân, tân yn pallu llosgi'r wyall, wyall yn pallu torri'r pastwn, pastwn yn pallu wado'r ci, ci yn pallu cwrshio'r oen, a'r oen yn pallu cered adre a nghefen i'n rhy wan i'w gario fe.'
'Na, 'na'i ddim.'

'Da gath fach - Ie? Da gath fach, dal di'r llygoden. Ma'r llygoden yn pallu torri'r rhaff, a'r rhaff yn pallu crogi'r ych, a'r ych yn pallu yfed y dŵr, dŵr yn pallu diffodd y tân, tân yn pallu llosgi'r wyall, wyall yn pallu torri'r pastwn, pastwn yn pallu wado'r ci, ci yn pallu cwrshio'r oen, a'r oen yn pallu cered gatre a nghefen i'n rhy wan i'w gario fe.'

Bant â'r gath i ddal y llygoden, bant â'r llygoden i dorri'r rhaff, bant â'r rhaff i grogi'r ych, bant â'r ych i yfed y dŵr, bant â'r dŵr i ddiffodd y tân, bant â'r tân i losgi'r wyall, bant â'r wyall i dorri'r pastwn, bant â'r pastwn i wado'r ci, bant â'r ci i gwrshio'r oen, a bant â'r oen shag adre.

Recording

Stori'r Hen Wraig Fach a'r Oen

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 2915. Recordiwyd 9.vii.1970.

Nodiadau

Clywodd Cassie Davies 'Stori'r Hen Wraig Fach a'r Oen' gan ei mam, Mary David, a'i mam yn unig, gartref ar aelwyd Cwm Tudur: 'Ôn ni'n rai bach, bach. Dwi 'di bod yn adrodd hi wedyn i blant yn chwâr.' Adroddai hi yn gyflym iawn: 'Ôch chi'n mynd fel fflamie.' Cyfeiriai Cassie Davies at y stori fel 'stori gynyddol', neu 'stori dyfu'. I'w mam, fodd bynnag, 'stori odd hi'.

Am fersiynau eraill o'r stori gynyddol hon a recordiwyd ar dapiau AWC, gw. Gwilym Major, Llangynwyd, eitem 'Y Ddafatan Fach a'r Ddafatan Fawr Aeth i Gnoia', a Mary Thomas, Ffair-rhos, eitem 'Y Frân Fowr a'r Frân Fach yn Mynd i'r Coed i Gnoua'.

Teipiau

AT 2030 Yr hen wraig a'i mochyn.

Motifs