Casgliadau Planhigion Isel
Mae'r casgliadau botanegol yng Nghaerdydd yn dyddio'n ôl i 1867 pan sefydlodd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, a dylanwadau ar ddatblygiad Cardiff Free Library, Museum and Schools of Science and Art. Yr eitem gyntaf o bwys botanegol a brynodd y gymdeithas oedd Casgliad Conway ym 1870.
Mae tua 337,000 o'r sbesimenau yn herbariwm Amgueddfa Cymru yn blanhigion isel, gyda thua 280,000 ohonynt yn fryoffytau (mwsogl, llysiau'r afu a chyrnddail). Fodd bynnag, mae yna hefyd sawl sbesimen o gennau (45,000), ffyngau (6,700) ac algâu (5,000).
Mae cadw'r casgliadau'n ddiogel ac mewn cyflwr da yn rhan o waith curaduron sy'n gweithio'n agos gyda'r adran gadwraeth yn yr Amgueddfa.
Ni sydd yng ngofal casgliad bryoffytau Cymdeithas Fryolegol Prydain. Mae'r casgliad pwysig hwn yn cynnwys tocynnau ar gyfer cofnodion dosraniad mwsoglau a llysiau'r afu ym Mhrydain ac Iwerddon. Gyrrwch unrhyw ymholiadau at Katherine Slade