Y Casgliadau Ffotograffig
Mae dros 206,000 o ddelweddau yn y casgliad, o bob maes o weithgarwch diwydiannol, morwol a thrafnidiaeth Cymru. Nid yw'r ffotograffau ar gael i bori drwyddynt, a bydd angen i chi drefnu apwyntiad gyda churadur a fydd yn paratoi unrhyw ddelweddau sy'n berthnasol i'ch maes ar eich cyfer. Mae mynegai ar gael hefyd. Gellir archebu copïau o ddelweddau at ddefnydd preifat, i'w defnyddio mewn projectau academaidd ac i'w cyhoeddi. Gallwn ddarparu manylion costau a ffioedd atgynhyrchu ar gais.
Casgliadau Ffotograffig
Ymhlith rhai o'r casgliadau unigol mwyaf ceir:
Casgliad TEMPEST
Wedi'i sefydlu yng Nghaerdydd ar ôl yr Ail Ryfel Byd fel arbenigwyr mewn tynnu awyrluniau, tynnodd H. Tempest a'i Gwmni tua 25,000 o awyrluniau dros y DU gyfan (gan ganolbwyntio, yn naturiol, ar Gymru) rhwng 1950 a 1970. Mae'r rhain yn cynnwys lluniau o waith adeiladu cynnar traffordd yr M4, datblygiad stadau diwydiannol wedi'r rhyfel, a delweddau diwydiannau a oedd wedi hen ymsefydlu ond sydd bellach wedi diflannu.
Casgliad HANSEN
Mae hwn yn cynnwys 4,560 o ddelweddau ffrâm lawn o longau yn Nociau Caerdydd a'r cyffiniau a dynnwyd rhwng 1920 a 1975 gan y cwmni ffotograffig lleol, Lars Peter Hansen a'i fab Leslie.
Casgliad ffotograffau ddiwydiannol Hansen Lawrlwytho'r catalog i'r Casgliad HansenCasgliad J.E. MARTIN
Yn y casgliad hwn ceir 637 negydd o ffotograffau a 222 sleid o ansawdd da o wahanol agweddau ar drafnidiaeth dros dir a môr ac yn yr awyr (yng Nghymru a Lloegr) yn dyddio o'r cyfnod wedi'r rhyfel hyd tua 1970.
The John Dillwyn Llewelyn Collection
Ganwyd John Dillwyn Llewelyn yn Abertawe ym 1810 ac roedd yn briod ag Emma Thomasina Talbot, cyfnither gyntaf i’r ffotograffydd arloesol Henry Fox Talbot. Roedd John yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Ffotograffig Llundain (sef y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn ddiweddarach), ac roedd ganddo ddawn hynod i ddal golygfeydd byrhoedlog fel tonnau, taith cymylau a stêm. Dyfarnwyd medal arian iddo yn arddangosfa Paris ym 1855 am ei gyfres Motion oedd yn cynnwys ffotograff o donnau’n torri ym Mae Caswell, Penrhyn Gŵyr a’r stemar JUNO yn Aberdaugleddau. Bu farw ym 1882.
Tynnwyd nifer o’r ffotograffau yn y casgliad hwn ar ystâd y teulu ym Mhenllergare, ac yn eu plith mae ffotograffau o’r teulu a golygfeydd o’r tŷ, yr ystafell wydr, y gerddi, y llynnoedd a’r dyffrynnoedd coediog. Tynnwyd ffotograffau hefyd ger eu bwthyn ym Mae Caswell ac ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
Mae tua 1466 o eitemau yn y casgliad pwysig hwn gan gynnwys rhai o’r delweddau cynharaf i gael eu tynnu yng Nghymru. Yn ogystal â 759 print ffotograffig, 309 negatif Caloteip a 395 negatif gwydr mae’r casgliad hefyd yn cynnwys rhai dogfennau ac offer ffotograffig.
Ffotograffau pyllau glo John Cornwell
Ffotograffydd ar ei liwt ei hun oedd John Cornwell. Yn y saithdegau a'r wythdegau cynnar, tynnodd nifer o ffotograffau o byllau glo, yn Ne Cymru a Chanolbarth Lloegr yn bennaf, a hynny ar yr wyneb a danddaear.
Perffeithiodd dechneg o dynnu ffotograffau danddaear oedd yn defnyddio goleuadau cyffredin pwll glo, gan alluogi iddo dynnu lluniau hynod eglur o dalcenni glo, twnneli, siafftiau ac offer. Yn ogystal â thynnu ffotograffau mewn pyllau gweithredol, byddai hefyd yn cofnodi gweithfeydd segur, ar yr wyneb a danddaear.
Prynwyd yn 2005 gan y ffotograffydd Mr John Cornwell, mae'r casgliad hwn yn cynnwys 6,104 o sleidiau, negatifau ffilm a phrintiau yn ymwneud yn bennaf â maes glo De Cymru.
Casgliad A.C. MITCHELL
Casgliad o 258 negydd yn portreadu, yn bennaf, drefi a ffyrdd gwledig de Cymru. Wedi'i eni yn Chatham, ymgartrefodd Mr Mitchell yng Nghymru yn ystod y 1950au gan dynnu lluniau pethau a fyddai, yn ei dyb ef, yn diflannu ymhen amser.
Casgliad A.B.P
Mae'r casgliad hwn o oddeutu 2,000 negydd, a roddwyd yn 1996 gan swyddfa Caerdydd Associated British Ports, yn darparu darlun nid yn unig o sut y gweithiai dociau de Cymru, ond hefyd bortread o ddigwyddiadau cymdeithasol megis ymweliadau pobl bwysig a chyflwyniadau i aelodau o'r staff. Mae'r Amgueddfa yn cynnig gwasanaeth ffotograffig sy'n golygu y gallwn dynnu lluniau newydd o wrthrychau yng nghasgliad yr Amgueddfa a darparu copïau ohonynt. Gellir cael rhestr o gostau'r gwasanaeth hwn, a'r ffïoedd atgynhyrchu ychwanegol, os ydynt yn berthnasol, o'r Adran.
Oriau agor ac amodau defnyddio
Mae'r casgliad ffotograffig cyfeiriol ar agor i'r cyhoedd o ddydd Llun hyd ddydd Gwener rhwng 9.30am a 4.00pm. Mae ar gau bob penwythnos a gwyliau cyhoeddus.
Os hoffech chi ymweld â'r casgliad ffotograffig cyfeiriol gallwch wneud hynny drwy drefniant ymlaen llaw.
Am fwy o wybodaeth cysylltu:
Mae'r Amgueddfa yn cynnig gwasanaeth ffotograffig sy'n golygu y gallwn dynnu lluniau newydd o wrthrychau yng nghasgliad yr Amgueddfa a darparu copïau ohonynt. Gellir cael rhestr o gostau'r gwasanaeth hwn, a'r ffïoedd atgynhyrchu ychwanegol, os ydynt yn berthnasol, o'r Adran.
Swyddog Trwyddedu Delweddau
Mentrau Amgueddfa Cymru
Cyfyngedig
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NP
Ffôn: 029 2057 3280