Archifau Gwyddorau Naturiol
Mae Adran y Gwyddorau Naturiol yn gyfrifol am nifer o archifau yn ymwneud â hanes gwyddoniaeth.
Archif G. B. Sowerby y 1af
Cedwir archif lythyrau'r naturiaethwr, y darlunydd a'r cregynegwr amlwg G. B. Sowerby y 1af (1788-1854) yn Amgueddfa Cymru. Cydweithiai Sowerby'n agos â'i deulu er mwyn cynhyrchu llyfrau hanes natur wedi'u darlunio'n gain, gan ganolbwyntio'n benodol ar ffosilau a chregyn modern. Amlygir hyn yn y llythyrau niferus yn yr archif at ei frawd James de Carle Sowerby a'i fab G. B. Sowerby yr 2il. Bu hefyd yn llythyru â nifer o enwau blaenllaw'r maes cregynneg drwy gydol ei yrfa, gan gynnwys Hugh Cuming, Thomas Lombe-Taylor a Lovell Reeve. Ceir hefyd nifer o lythyrau gan ddaearegwyr amlwg, megis Mary Anning, William Buckland a Henry de la Beche.
Mae'r archif yn cynnwys 650 a mwy o lythyrau ar 2520 tudalen wedi'u rhwymo mewn 12 cyfrol clawr caled. Ysgrifennwyd y llythyr cynharaf ym 1806 pan oedd Sowerby'n ŵr ifanc 18 mlwydd oed, ac mae'r archif yn pontio ei yrfa tan ei farw ym 1854.
Archif Tomlin
Roedd John Read le Brockton Tomlin yn un o'r cregynegwyr uchaf ei barch yn y maes. Caffaelwyd yr archif unigryw hon fel rhan o gymynrodd Melvill-Tomlin (dolen i wybodaeth y casgliad) ac mae'n cynnwys gohebiaeth Tomlin â'i gymdeithion ym mhedwar ban byd.
Amcangyfrifir ei bod yn cynnwys ymhell dros fil o ddogfennau o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Materion cyffredin casglu ac adnabod cregyn yw mwyafrif y cynnwys, ond yn ogystal â bod yn archif o hanes gwyddonol casglu'r oes a fu, mae hefyd yn archif o hanes personol a chymdeithasol. Mae'n amlygu agweddau o fywydau'r cyfranwyr, yn gofnod o alldeithiau a mordeithiau casglu, afiechyd ac adfyd, rhyfel, a gwahoddiadau gwledda a chardiau Nadolig hyd yn oed.
Dogfennu’r Gorffennol – Archif Gohebiaeth Tomlin
Archif Hyde
Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad mawr o bapurau ymchwil, llyfrau nodiadau, gohebiaeth ac ailbrintiadau o eiddo Harold Augustus Hyde, y Ceidwad Botaneg rhwng 1922-1962. Roedd Hyde yn arloeswr ym maes peilleg a cyhoeddodd dros 100 o bapurau yn y maes. Bu'n cydweithio gyda'r meddyg lleol, Dr D.A. Williams, a cyhoeddodd y ddau nifer o bapurau arloesol ar glefyd y gwair ac alergeddau eraill. Ysgrifennodd nifer o lyfrau hefyd yn disgrifio blodau Cymru. Daeth y casgliad i'r Amgueddfa ym 1977 o Ysbyty Abersili.
Archif De la Beche
Roedd Syr Henry Thomas de la Beche yn un o'r daearegwyr proffesiynol cyntaf ac yn un o sylfaenwyr Arolwg Daearegol Prydain Fawr. Mae ei archif yn Amgueddfa Cymru yn cynnwys 2000 a mwy o lythyrau, darluniau, llyfrau nodiadau a ffotograffau o ddechrau'r 19eg ganrif. Roedd daeareg ar y pryd yn wyddor ifanc, a bu'n gohebu gydag enwau adnabyddus megis Charles Darwin, William Buckland, Charles Lyell, a Roderick Murchison.
Yn y casgliad gwelir nifer o frasluniau a chartwnau De la Beche, gan gynnwys dyfrlliw gwreiddiol “Duria Antiquior” (Dorset Hynafol) a baentiwyd ym 1830 i godi arian ar gyfer teulu Mary Anning. Hwn oedd y tro cyntaf i dirlun cyflawn o'r gorffennol daearegol gael ei ail-greu.
Casgliad mapiau daeregol
Yn Amgueddfa Cymru mae'r casgliad mwyaf o fap daearegol enwog William Smith, A Delineation of the Strata of England and Wales, with part of Scotland a elwir weithiau y map a newidiodd y byd. Mae yma chwe chopi cyflawn, a thri anghyflawn a gynhyrchwyd rhwng 1815 a 1834. Hefyd yn ein meddiant mae nifer o fapiau sirol Smith a thrawstoriad daearegol o'r Wyddfa i Lundain (1815).
Casglwyd mwyafrif y mapiau daearegol yn y 1920au a'r 1930au gan y Cyn-geidwad Daeareg F. J. North. Yn eu plith mae mapiau o Gymru a Lloegr o 1573 ymlaen, Siartiau'r Morlys o ddyfroedd Prydain a nifer o fapiau daearegol diweddarach.
Hefyd yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa mae:
- Modelau o strwythurau daearegol gan Thomas Sopwith (1803-1879)
- Sleidiau llusern gwydr, gan gynnwys ffotograffau o dirluniau a daeareg Cymru a dynnwyd gan Dixon-Hewitt rhwng 1907 a 1938
- Gohebiaeth George Robert Vine (1825-1893), naturiaethwr amatur oedd yn astudio bryosoaid a phlanhigion ffas lo
- Modelau plastr yn darlunio daeareg Cymru
- Archif Douglas Bassett, Cyfarwyddwr a Cheidwad Daeareg Amgueddfa Cymru
- Papurau ymchwil a llyfrau nodiadau gan fotanegwyr blaenllaw gan gynnwys P.W. Richards, R.D. Fitzgerald a J.W. Fitzgerald, A.E. Wade, J.A. Wheldon, ac A.J.E. Smith
- Papurau archif yn ymwneud â Chymdeithas Bryolegol Prydain a chasgliad y BBSUK
- Llawysgrifau pwysig i hanes botaneg yng Nghymru gan gynnwys dyddiadur Samuel Brewer a llawysgrif Flora of Glamorgan gan Riddlesdell
- Dyddiaduron Eleanor Vachell oedd yn gasglwr pwysig ac yng ngofal y Blanhigfa yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
- Llyfrau nodiadau E.A. Jenkins, artist botaneg preswyl Amgueddfa Cymru rhwng 1927-1959
- Ffotograffau o fotanegwyr pwysig Cymru gan gynnwys Eleanor Vachell, Harold Hyde, Paul W. Richards a John Storrie.
Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â: