Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae cyfleusterau ac arbenigedd Amgueddfa Cymru yn darparu ystod o gefnogaeth ddadansoddol a thechnegol i'r adran Gwyddorau Naturiol er mwyn hwyluso ymchwil o safon rhyngwladol, a gwaith casgliadau ac allestyn. Cefnogir gwaith yr adrannau Archaeoleg, Celf a Chadwraeth hefyd gan ein cyfleusterau.
Drwy ddefnyddio offer lapio a llathru optegol mae'r Labordai Paratoi Daeareg yn cynhyrchu ystod o ddeunydd o safon uchel i gefnogi casgliadau a phrojectau ymchwil Adran y Gwyddorau Naturiol.
Mae ein mesurydd diffreithiant pelydr X PANalytical X’Pert PRO (XRD) yn declyn hyblyg all ddadansoddi nodweddion deunyddiau heb eu dinistrio at ddibenion projectau casgliadau, ymchwil ac ymgynghori.
Yn Labordy Delweddu Gwyddorau Naturiol mae amrywiaeth o gyfleusterau microsgopeg, ffotograffeg a sganio 3D sy'n cefnogi amryw brojectau ymchwil, curadu ac ymgynghori'r adran.
Gall y Labordy Geneteg ddefnyddio techneg Adwaith Cadwynol Polymerase (PCR) i drin a lluosogi deunydd genetig. (Sylwer: nid oes cyfleusterau dilyniannu Amgueddfa Cymru).
Cyfleusterau sy'n cefnogi ein gwaith ymchwil.
Mae yn Amgueddfa Cymru hefyd y cyfleusterau canlynol at ddibenion ymchwil: