Fertebratau

Anifeiliaid ag asgwrn cefn yw fertebratau megis pysgod, amffibiaid, ymlusgiaid, adar a mamaliaid. Mae nifer o'r anifeiliaid yma i'w gweld yn orielau Amgueddfa Cymru gan gynnwys y

Môr-grwban Lledraidd mwyaf a welwyd erioed

, a sgerbwd Morfil Cefngrwm.

Casgliadau

  • Mae'r casgliad o fertebratau yn gymharol fychan ac yn cynnwys anifeiliaid wedi mowntio, sgerbydau, crwyn, wyau adar yn ogystal â physgod mewn gwirod.
  • Mae gan yr Amgueddfa 1,800 sbesimen tacsidermi wedi mowntio (adar a mamaliaid yn bennaf), rhai castiau plastr o bysgod ac ymlusgiaid, ac ystod o ddarnau o anifeiliaid gan gynnwys baleen, cyrn a phig llifbysgodyn.
  • Mae'r casgliadau sgerbydau yn amrywiol gydag esiamplau o ystod o grwpiau anifeiliaid o bedwar ban byd.
  • Mae'r casgliad o grwyn i'w hastudio yn cynnwys 75% o deuluoedd adar y byd, a 1,100 o grwyn mamaliaid Prydeinig, o Gymru yn bennaf.

Uchafbwyntiau

  • Mae gennym 10 sbesimen cyflawn o anifeiliaid darfodedig gan gynnwys Carfil Mawr, Colomen Grwydr, Dodo, Huia, Thulacine, ŵy Aderyn Eliffant wedi hanner ffosileiddio ac asgwrn coes Moa anhysbys.
  • Mae gennym 90 sbesimen wedi'u darlunio neu eu dyfynnu, cofnodion o adar a physgod prin yn y DU yn bennaf.
  • Yn ogystal, mae yma amrywiaeth o adar mewn casys a gasglwyd yn niwedd y 19eg ganrif, gan gynnwys rhywogaethau sydd ddim yn paru yng Nghymru mwyach neu'n ymwelwyr anaml.
  • Casgliad o esgyrn a phenglogau anifeiliaid domestig yw Casgliad Noddle, gan gynnwys nifer o fridiau defaid a gwartheg prin. Defnyddir y casgliad yn aml ar gyfer cymariaethau swoarchaeolegol ac wrth astudio anifeiliaid domestig.

Vertebrates

Jennifer Gallichan

Curadur Bioamrywiaeth Anifeiliaid Di-asgwrn Cefn
Gweld Proffil