Archifau a Llyfrgell

Croeso i Lyfrgell Amgueddfa Cymru.

Mae Llyfrgell Amgueddfa Cymru ar gau dros dro. Yn ystod y cyfnod hwn, ni all aelodau o'r cyhoedd ddod mewn i ddefnyddio adnoddau'r Llyfrgell. Fodd bynnag, rydyn ni'n croesawu ymholiadau dros y ffôn neu e-bost. Diolch am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym yn cefnogi anghenion ymchwil ac addysg staff ac ymwelwyr yr Amgueddfa a’r gymuned ehangach. Mae ein staff a’r adnoddau yn cyfrannu at gyfoethogi ac ehangu gwybodaeth, yng Nghymru a thu hwnt.

Mae ein casgliadau yn adlewyrchu amrywiaeth gwaith Amgueddfa Cymru gyda chynrychiolaeth dda ym meysydd archaeoleg, gwyddorau natur, celf a hanes diwylliannol Cymru. Gellir pori casgliadau’r Llyfrgell drwy apwyntiad yn

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays – archaeoleg, celf, hanes, astudiaethau amgueddfaol, gwyddorau natur, niwmismateg

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – llên gwerin, bywyd cefn gwlad ac amaeth, hanes diwylliannol a chymdeithasol Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe – hanes diwydiannol a morwrol, hanes trafnidiaeth

I wneud apwyntiad i ymweld â’n llyfrgelloedd, neu am gyngor ar bwnc ymchwil, cysylltwch â ni.

E-bost: llyfrgell@amgueddfacymru.ac.uk

Y Llyfrgell
Amgueddfa Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP
Cymru
Y DU

Ffôn: +44 (0)300 1112333