Defnyddio'r Llyfrgell

Dilynwch y canllawiau isod i wneud y gorau o’ch ymweliad.

Rhaid i ymwelwyr drefnu apwyntiad a gwneud cais am ddeunydd ymlaen llaw. Nid ar y safle mae mwyafrif y casgliad wedi’i storio, a byddai’n amhosib sicrhau mynediad ar y diwrnod. Nid yw’r casgliad ar gael ar-lein ar hyn o bryd. Cysylltwch â staff y Llyfrgell yn uniongyrchol am gyngor ar ddeunydd yn ein casgliadau sy’n berthnasol i’ch ymchwil.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae’r Llyfrgell ar agor i ymwelwyr rhwng 10am - 12.30pm, a 2pm - 4.30pm o dydd Mawrth a Dydd Iau yn unig.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae’r Llyfrgell ar agor i ymwelwyr rhwng 10am – 4.30pm ar ddydd Llun a dydd Mawrth.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Mae’r llyfrgell ar agor i ymwelwyr rhwng 10.30am - 1pm, a 2pm - 4.30pm o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.

Llyfrgell gyfeirio yw Llyfrgell Amgueddfa Cymru. Gellir copïo tudalenau am dâl, neu gyda dyfais bersonol heb ddefnyddio fflach a chan gadw at y rheoliadau hawlfraint perthnasol. Gofynnwch i’r llyfrgellwyr os ydych chi’n ansicr.

Rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfeirio o bell. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol i drafod eich ymholiad.