Casligadau'r Llyfrgell

L' histoire de la nature des oyseaux, avec leurs descriptions & naifs portraicts retirez du naturel, escrite en sept livres. Cavellat, Gulielmus 1555, © Amgueddfa Cymru
Britain [Britannia], or a chorographicall description of the most flourishing kingdomes, England, Scotland, and Ireland, and the ilands adioyning © Amgueddfa Cymru
Trwy garedigrwydd Amgueddfa Cymru. © Anhysbys. Os oes gennych unrhyw wybodaeth all ein helpu i ddod o hyd i ddeiliad yr hawlfraint, e-bostiwch trwyddedu.delweddau@amgueddfacymru.ac.uk

Dros y blynyddoedd mae Llyfrgell yr Amgueddfa wedi derbyn nifer o gyfraniadau a benthyciadau hael.

Mae rhai casgliadau yn setiau cyflawn a heb newid er pan gawsant eu cyflwyno i'r Amgueddfa. Bydd y Llyfrgell yn ychwanegu at gasgliadau eraill fel rhan o'i pholisi casglu.

Er enghraifft, mae'r Llyfrgell yn prynu llyfrau wedi'u rhwymo'n gain a rhai sydd â darluniau gan artistiaid â chysylltiad agos Gwasg Gregynog.

Llyfrgell Willoughby Gardner

Cafodd y casgliad hwn o lyfrau cynnar ar fyd natur eu rhoi'n gymynrodd i'r Amgueddfa ym 1953.

Yn y casgliad hwn y mae'r unig ddau lyfr cyn 1501 yn y Llyfrgell, sef copïau o rifynnau o Natural History Pliny, nifer o weithiau gan Conrad Gesner, ac awduron eraill yr 16eg a’r 17eg ganrif.

Llyfrgell Tomlin

Ystyrir yn gyffredinol mai'r casgliad gwych hwn o lyfrau a chyfnodolion ar Folysgiaid a gyhoeddwyd o ddiwedd y 17eg ganrif ymlaen, yw'r casgliad gorau o'i fath y tu allan i Lundain. Cyfrannwyd y casgliad dros nifer o flynyddoedd yn ystod y 1940au a'r 1950au gan John Read le Brockton Tomlin.

Casgliad Gregynog

Yr oedd y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies yn noddwyr hael i'r Amgueddfa.

Gwendoline oedd y tu cefn i sefydlu Gwasg Gregynog, ac mae ei chasgliad personol o lyfrau'r Wasg, oll wedi'u rhwymo'n arbennig, ar fenthyg i'r Amgueddfa ar hyn o bryd. Cedwir y casgliad yn y Brif Lyfrgell (gweler D.A. Harrop, A History of the Gregynog Press, Private Libraries Association, 1980).

Casgliad Y Faenor

Yng nghasgliad y Faenor ceir nifer o weithiau seryddol o'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, gan gynnwys nifer o weithiau gan Galileo, yn ogystal â thraethodau diweddarach.

John Herbert James o The Cottage, y Faenor, ychydig i'r gogledd o Ferthyr Tudful a'u casglodd. Gweler W. Williams, 'The John Herbert James Bequest', National Library of Wales Journal cyf. 1 (1940), tt. 157-158.

Llyfrau ar Dopograffeg Cymru

Mae gan y Llyfrgell gasgliad da o lyfrau ar dopograffeg Cymru a gyhoeddwyd ddiwedd y 18fed ganrif a hanner cyntaf y 19eg ganrif. Ysgrifennwyd llawer o'r llyfrau gan dwristiaid cyfoethog cynnar, o Loegr yn bennaf.

Mae'r cyfrolau ynghyd â'r lluniau a geir ynddynt yn rhoi darlun gwerthfawr o'r wlad yn ystod y cyfnod dan sylw. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys rhai dyddiaduron heb eu cyhoeddi gan rai fu’n teithio drwy Gymru ac ar hyd y gororau.

Ceir gwybodaeth ynglŷn â rhai o'r casgliadau arbennig yn y cyhoeddiadau canlynol.

  • B.C. Bloomfield (gol.), A Directory of Rare Book and Special Collections in the United Kingdom and the Republic of Ireland, ail argraffiad (Library Association Publishing, 1997), t.679.
  • G.D.R. Bridson, V.C. Phillips ac A.P. Harvey, Natural History Manuscript Resources in the British Isles (Mansell, 1980), tt. 53-56.
  • J.R. Kenyon, The Willoughby Gardner Library: a collection of early printed books on natural history (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1982).
  • J.R. Kenyon, A Catalogue of the Library of the National Museum of Wales: volume 1. Books printed before 1701 (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1992).
  • J.R. Kenyon, 'Recent additions to the special collections of the Library of the National Museum of Wales', National Library of Wales Journal 25.4 (1988), tt.470-473.