Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Dros y blynyddoedd mae Llyfrgell yr Amgueddfa wedi derbyn nifer o gyfraniadau a benthyciadau hael.
Mae rhai casgliadau yn setiau cyflawn a heb newid er pan gawsant eu cyflwyno i'r Amgueddfa. Bydd y Llyfrgell yn ychwanegu at gasgliadau eraill fel rhan o'i pholisi casglu.
Er enghraifft, mae'r Llyfrgell yn prynu llyfrau wedi'u rhwymo'n gain a rhai sydd â darluniau gan artistiaid â chysylltiad agos Gwasg Gregynog .
Cafodd y casgliad hwn o lyfrau cynnar ar fyd natur eu rhoi'n gymynrodd i'r Amgueddfa ym 1953.
Yn y casgliad hwn y mae'r unig ddau lyfr cyn 1501 yn y Llyfrgell, sef copïau o rifynnau o Natural History Pliny, nifer o weithiau gan Conrad Gesner, ac awduron eraill yr 16eg a’r 17eg ganrif.
Ystyrir yn gyffredinol mai'r casgliad gwych hwn o lyfrau a chyfnodolion ar Folysgiaid a gyhoeddwyd o ddiwedd y 17eg ganrif ymlaen, yw'r casgliad gorau o'i fath y tu allan i Lundain. Cyfrannwyd y casgliad dros nifer o flynyddoedd yn ystod y 1940au a'r 1950au gan John Read le Brockton Tomlin .
Yr oedd y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies yn noddwyr hael i'r Amgueddfa.
Gwendoline oedd y tu cefn i sefydlu Gwasg Gregynog, ac mae ei chasgliad personol o lyfrau'r Wasg, oll wedi'u rhwymo'n arbennig, ar fenthyg i'r Amgueddfa ar hyn o bryd. Cedwir y casgliad yn y Brif Lyfrgell (gweler D.A. Harrop, A History of the Gregynog Press, Private Libraries Association, 1980).
Yng nghasgliad y Faenor ceir nifer o weithiau seryddol o'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, gan gynnwys nifer o weithiau gan Galileo, yn ogystal â thraethodau diweddarach.
John Herbert James o The Cottage, y Faenor, ychydig i'r gogledd o Ferthyr Tudful a'u casglodd. Gweler W. Williams, 'The John Herbert James Bequest', National Library of Wales Journal cyf. 1 (1940), tt. 157-158.
Mae gan y Llyfrgell gasgliad da o lyfrau ar dopograffeg Cymru a gyhoeddwyd ddiwedd y 18fed ganrif a hanner cyntaf y 19eg ganrif. Ysgrifennwyd llawer o'r llyfrau gan dwristiaid cyfoethog cynnar, o Loegr yn bennaf.
Mae'r cyfrolau ynghyd â'r lluniau a geir ynddynt yn rhoi darlun gwerthfawr o'r wlad yn ystod y cyfnod dan sylw. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys rhai dyddiaduron heb eu cyhoeddi gan rai fu’n teithio drwy Gymru ac ar hyd y gororau.
Ceir gwybodaeth ynglŷn â rhai o'r casgliadau arbennig yn y cyhoeddiadau canlynol.