Datganiadau i'r Wasg
33 erthyglau. Tudalen: 1 2 4 5 6
Amgueddfa Cymru yn caffael paentiadau pwysig o ogledd Cymru
Mae grŵp arbennig o baentiadau dyfrlliw o ogledd Cymru o’r 1770au, a helpodd i sefydlu Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr, wedi’i brynu gan Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth gan y Gronfa Gelf, Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, a rhoddwr preifat.
Beth i'w wneud gyda Picton?
Amgueddfa Cymru a’r Panel Cynghori Is-Sahara yn cydweithio i ail-adrodd hanes Thomas Picton
Dweud eich Dweud - Helpu i lywio dyfodol Amgueddfa Cymru
“Dylai pawb yng Nghymru allu defnyddio’u hamgueddfeydd cenedlaethol i ddysgu, bod yn greadigol a mwynhau. Ond rydyn ni’n gwybod bod gwaith i’w wneud i gyrraedd y nod,” meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, wrth i’r sefydliad sy’n gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ei chyfeiriad i’r dyfodol.
Ailagor amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn raddol
Mae Amgueddfa Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yn dechrau ailagor yr amgueddfeydd cenedlaethol i’r cyhoedd, gan ddechrau gyda thiroedd awyr agored Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019, o ddydd Mawrth 4 Awst.
Rhaid i bob ymwelydd archebu eu hymweliad am ddim ymlaen llaw, ar-lein. Mae hyn er mwyn rheoli niferoedd a sicrhau diogelwch ymwelwyr, staff, gwirfoddolwyr a chymunedau lleol. Rydym yn gofyn hefyd i ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb wrth ymweld er lles staff ac ymwelwyr.
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru (awyr agored yn unig) fydd y cyntaf o’n saith amgueddfa genedlaethol i ailagor ar ddydd Mawrth 4 Awst a bydd ar agor bob dydd Mawrth, Iau, Sadwrn a Sul (archebu ymlaen llaw). Bydd yr adeiladau hanesyddol a’r orielau yn aros ar gau am y tro oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
Amgueddfa Cymru yn cydweithio i helpu byrddau iechyd Cymru
Mae ymchwil helaeth yn cydnabod bod celf a chreadigrwydd o fudd i’n hiechyd a’n lles. Oherwydd ein hymrwymiad ar y cyd i helpu i gefnogi iechyd a lles pobl yng Nghymru trwy'r celfyddydau a diwylliant, mae Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio i lansio cyfres o brojectau dan y teitl Celf ar y Cyd.