Digwyddiad:Nosweithiau Calan Gaeaf
Mae Calan Gaea'n agosáu, ac mae’n bryd dod â’ch coblynnod a’ch bwganod bach i’r Amgueddfa am noson OFNadwy o ddifyr i’r teulu cyfan! Paratowch ar gyfer digwyddiad bwgan-digedig yn y gwyll, fiw ichi ei golli!
- Crwydrwch yr Amgueddfa i ddod o hyd i’n gwesteion annaearol. Maen nhw i gyd yn gymeriadau o hanesion llên gwerin rhyfeddaf Cymru - fyddwch chi’n ddigon dewr i ddarganfod pwy sy’n cuddio ble?
- Bob nos bydd y Dyn Gwiail yn llosgi. Dathlwch wrth groesawu’r gaeaf a gwnewch ddymuniad wrth i’r gwreichion dasgu!
- Galwch heibio’n gweithdai i greu crefftau brawychus, creu swynion hud naturiol hynafol, gwneud eich dyn gwiail bach eich hun a mwy...
- Cerddwch drwy'r llwybr arswyd. Dewch i mewn os meiddiwch chi! *
- Dewch yn eich gwisgoedd mwyaf arswydus er mwyn dawnsio drwy’r nos ym Mharti’r Ysbrydion.
- Dysgwch am y Dyn Gwiail yn y Talwrn. Gwnewch ddyn gwiail bychan i’w losgi yn ystod y diweddglo.Mwynhewch wledd dychrynllyd o flasus yn yr ardal bwyd stryd ac yn siopau bwyd a diod yr Amgueddfa.Dewch ag arian parod i'w wario yn y Ffair Draddodiadol a'r Marchnad Grefftwyr.
*Noder: gall y llwybr arswyd fod yn arbennig o frawychus i rai plant gan ei fod yn cynnwys actorion dychryn a synau uchel. Bydd yr actorion yn teilwra lefel y dychryn ar gyfer pob plentyn. Dylai mynediad i’r gweithgaredd hwn fod yn benderfyniad i’r oedolyn sy’n goruchwylio. Mae'r llwybr arswyd mewn ardal ddynodedig a gellir ei hosgoi os nad ydych chi am gymryd rhan.
Hygyrchedd
- Noder y bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys defnydd o oleuadau effeithiau/strôb, effeithiau sain dwys, a pheiriannau niwl a mwg drwy gydol y digwyddiad. Cysylltwch â ni drwy ebostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu eich tocynnau am fwy o wybodaeth.
- Dim ond cŵn cymorth a ganiateir ar y safle ar gyfer y digwyddiad hwn.
- Cynhelir y digwyddiad yn yr awyr agored yn bennaf a bydd yn cynnwys llawer o gerdded. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau o amgylch yr Amgueddfa yn darmac neu goncrid llyfn. Mae rhai ardaloedd o'r ŵyl ar laswellt ac mae'r tir yn eithaf ansefydlog mewn mannau.
- Mae mynediad cadair olwyn i'r rhan fwyaf o'r safle. Fodd bynnag, oherwydd pensaernïaeth hanesyddol rhai o’r adeiladau, gall mynediad fod yn anodd.
- Gweler ein gwefan am ein holl ganllawiau mynediad: https://amgueddfa.cymru/sainffagan/ymweld/mynediad/
- Mae tocynnau Hynt ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn.
Gwybodaeth Bwysig
- Rhaid prynu pob tocyn ymlaen llaw. Mae cyfyngiad ar y niferoedd ac rydym yn disgwyl i docynnau werthu'n gyflym.
- Ni fydd modd cael ad-daliad am docyn ac ni ellir ei gyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwbl hapus â'ch dewisiadau cyn archebu.
- Mae pris eich tocyn yn cynnwys parcio am ddim ar ôl 4.30pm. Ychydig iawn o le parcio sydd yn Sain Ffagan, ystyriwch rannu ceir cymaint â phosibl.
- Mae'r digwyddiad a'i weithgareddau yn addas i blant 5 oed ac i fyny. Argymhelliad yn unig yw'r canllaw oedran hwn - mae croeso i blant iau ddod yn ôl eich disgresiwn. Croesawir babanod dan 2 oed, ond bydd angen tocyn baban di-dâl a ni fyddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
- Caniateir pramiau a chadeiriau gwthio ar y safle ond ni cheir mynd â nhw i mewn i'r adeiladau hanesyddol, rhaid eu gadael y tu allan.
- Dylid gwisgo dillad addas i'r tywydd. Bydd gofyn i chi aros y tu allan nes bod y drysau'n agor am 5.30pm ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros y tu allan i'r adeiladau i gael mynediad i weithgareddau a gweithdai.
- Cewch gadarnhad o'ch tocynnau wedi ichi archebu.
- Cewch gopi o Fap y Safle a Thaflen Cymeriadau wrth ddod i mewn i'r digwyddiad.
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 29 Hydref 2026 | 17:30 | Gweld Tocynnau |
| 30 Hydref 2026 | 17:30 | Gweld Tocynnau |
| 31 Hydref 2026 | 17:30 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Oriau Agor
Mynediad
Canllaw MynediadGwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr
Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:
- Pyllau dŵr a llynnoedd
- Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
- Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog
Parcio
Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd