Cyrsiau yn Amgueddfa Cymru: Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau

Eich ymrwymiad i ni:
Pan fyddwch yn cadarnhau eich pryniad, byddwch yn derbyn fod y telerau ac amodau hyn yn ffurfio sylfaen unrhyw gontract rhyngoch chi ac Amgueddfa Cymru.

Prisiau:
Mae prisiau yn cynnwys unrhyw drethi perthnasol – caiff ffi archebu ei ychwanegu ar y pwynt talu. Unwaith y byddwch wedi talu, fyddwn ni ddim yn cynyddu pris eich tocynnau.
Gall prisiau sydd ar ein gwefan newid heb rybudd.
Newidiadau i’r wybodaeth a gyhoeddwyd am y cwrs:
Mae manylion cyrsiau yn gywir pan gaiff yr wybodaeth ei chyhoeddi, ond mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’r rhaglen. Bydd unrhyw un sydd wedi archebu lle ar gwrs sydd wedi’i effeithio yn cael eu hysbysu cyn gynted â phosibl.


Talu am gyrsiau
Rhaid talu am gwrs wrth ei archebu. Ni fydd eich lle wedi’i sicrhau nes eich bod wedi talu’n llawn amdano.
 

Ad-daliadau a Chanslo: 
Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i ganslo cwrs neu newid dyddiad(au).

  • Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr Amgueddfa yn ceisio trefnu dyddiad(au) eraill. Os na ellir cytuno ar ddyddiad arall, yna bydd yr Amgueddfa yn cynnig ad-daliad llawn.

Ni all Amgueddfa Cymru gynnig unrhyw ad-daliad os byddwch chi’n penderfynu canslo neu’n methu â mynychu cwrs yr ydych wedi archebu lle arno. 
Mewn amgylchiadau eithriadol*, pan fyddwch wedi cysylltu â’r Amgueddfa o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad eich cwrs, byddwn yn ystyried cynnig dyddiad arall neu ad-daliad llawn i chi.


Ni fyddwn yn cynnig unrhyw drefniadau eraill yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Archeb wedi’i chanslo o fewn 4 wythnos i ddyddiad y Cwrs (oni bai fod rhestr aros ar gyfer y cwrs a bod modd i ni ail-werthu eich tocyn ar fyr-rybudd)
  • Ni allwch deithio i’r cwrs oherwydd problemau trafnidiaeth, tywydd gwael neu gwmnïau trafnidiaeth yn canslo gwasanaethau.

Sylwer: ni fydd costau teithio neu lety yn cael eu digolledu os yw cwrs yn cael ei ganslo neu ei ail-drefnu ar ddyddiad gwahanol, boed hynny gan yr Amgueddfa neu gennych chi. Os ydych yn gwneud trefniadau teithio sylweddol er mwyn mynychu cwrs, dylech ystyried wneud trefniadau archebu hyblyg neu gael yswiriant teithio.