Hafan y Blog

Dyma Morgie!

Caroline Buttler, 26 Ionawr 2018

Dangosodd ddarganfyddiad y deinosor Cymreig, Dracoraptor, bod deinosoriaid yn byw yn ne Cymru 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Petaech chi'n teithio 'nôl i'r cyfnod hwnnw, fe fyddech chi hefyd wedi gweld ambell i famal bychan, tebyg i lygoden goch, yn cuddio yn y tyfiant. Rhain yw rhai o'r mamaliaid cynharaf yn y byd.

 

Gellir darganfod esgyrn a dannedd y creaduriaid bach blewog yma mewn ogofau a mewn craciau mewn cerrig - efallai am fod rhain yn cynnig lloches, neu le i aeafgysgu. Darganfyddwyd y ffosilau cyntaf ohonynt mewn chwarel yn ne Cymru rhyw saith deg mlynedd yn ôl. Mae Palaeontologwyr wedi bod yn dadansoddi'r ffosilau, er mwyn creu darlun fwy cyflawn o sut greaduriaid oedden nhw. Enw un o'r mamaliaid cynnar yma yw 'Morganucodon', sy'n golygu 'Dant Morgannwg'.

 

Mewn prosiect ymchwil newydd wedi'i gefnogi gan Y Cyngor Ymchwil Amgylcheddol, defnyddiodd wyddonwyr o Brifysgol Bryste belydr-X pwerus i sganio'r esgyrn bychain, i greu darlun digidol o'r creaduriaid. Cymharwyd y darluniau digidol yma gyda mamaliaid modern, er mwyn ail-greu strwythr cyhyrau'r anifail. Ychwanegwyd rheiny i'r darlun digidol. Wedi hynny, defnyddiwyd rhaglen arbennig i asesu sut y byddai'r esgyrn a'r cyhyrau'n symud. Astudiwyd dannedd y creaduriaid mewn manylder - roedd rhai mamamliaid cynnar yn meddu ar ddannedd ddigon cryf i grensio pryfaid gyda casys adennydd, ac eraill ond yn medru bwyta pryfaid meddal.

 

Mae model hyfryd o Morganucodon, wedi'i greu can Bob Nicholls, y palaeoartist, i'w ganfod yn ein orielau hanes natur yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'n edrych fel creadur bywiog iawn a'i enw yw Morgie!

Dr Caroline Buttler

Pennaeth Palaeontoleg
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.