: Lleisiau’r Amgueddfa

Lleisiau’r Amgueddfa: Siân Iles – Uwch Guradur Datblygu Casgliadau Canoloesol

24 Gorffennaf 2025

Mae person mewn du yn sefyll mewn storfa, yn dal drôr ar agor sy’n cynnwys darnau teils.

Siân Iles y tu ôl i'r llenni yn ein storfa casgliadau canoloesol

Helo Siân, dywed ychydig am dy hun a dy rôl gydag Amgueddfa Cymru.

Cefais fy magu yng Nghaerdydd, ac mae gen i atgofion melys o fynd i’r Amgueddfa ym Mharc Cathays i weld yr arddangosfeydd archaeoleg. Roeddwn i’n gyffrous iawn o gael ymuno â’r Amgueddfa yn 2008, fel cynorthwyydd curadurol ar gyfer y casgliadau archaeoleg ganoloesol. Erbyn hyn fi yw Uwch Guradur y casgliad hwn, yn gyfrifol am y cyfnod 500–1500 OC. Cyn hyn bues yn gweithio mewn amgueddfa archaeoleg yn Southampton, oedd yn brofiad gwych o weithio gyda deunyddiau o wahanol gyfnodau. Mae’n bleser cael bod yn rhan o dîm gwybodus ac angerddol sy’n gweithio’n galed i ofalu am holl gasgliadau archaeoleg Amgueddfa Cymru.

Sut beth yw gofalu am ein casgliadau archaeoleg o ddydd i ddydd?

Mae’n swydd amrywiol iawn, a dyna sy’n wych amdani. Ymysg fy nyletswyddau mae derbynodi deunyddiau archaeolegol, ysgrifennu adroddiadau Trysor ac adroddiadau arbenigol eraill, ateb ymholiadau gan y cyhoedd a hwyluso projectau gwirfoddoli yn canolbwyntio ar ein casgliadau archaeoleg ganoloesol. Dwi hefyd yn mwynhau gweithio ar brojectau mawr, fel arddangosfeydd.

Sonia ychydig am yr eitemau a’r straeon wyt ti’n dod ar eu traws. Oes yna stori benodol wedi aros yn y cof?

Mau darnau teils sydd wedi'u rhoi yn ôl at ei gilydd yn ffurfio sgwâr, yn dangos marchog canoloesol ar geffyl yn carlamu, yn erbyn cefndir tywyll.

Y teilsen unedig o Abaty Nedd, wedi'i gwneud o dri darn wedi'u torri i ffurfio un dyluniad.

Des ar draws rhywbeth rhyfedd yn ddiweddar wrth weithio ar broject gwirfoddoli i ail-becynnu a gwirio dogfennaeth ein teils llawr canoloesol. Ymysg grŵp o deils o Abaty Castell-nedd roedd tair teilsen wahanol o’r un dyluniad oedd wedi’u torri a’u gludo at ei gilydd yn fwriadol. Fydden ni ddim yn dychmygu gwneud hyn heddiw, ond mae’n rhoi darlun diddorol i ni o arferion curadurol y gorffennol!

Fe soniaist dy fod yn treulio tipyn o amser yn gweithio ar Drysorau. Alli di sôn am dy waith ar Drysor yng Nghymru, ac unrhyw ddarganfyddiadau cyffrous yn ddiweddar?

Modrwy fetel fach gydag ysgythriad o goron uwchben draig v dwy goes, wedi’i harddangos ar gefndir du gyda graddfa 10 mm.

Modrwy heboca o'r 17eg ganrif a gafwyd gennym trwy'r broses Drysor.

Dwi’n rhan o dîm yn yr Amgueddfa sy’n helpu i weinyddu proses Drysorau Cymru. Rydyn ni’n cynnig cyngor i bobl sy’n darganfod Trysor, crwneriaid, amgueddfeydd lleol ac eraill ar ddarganfyddiadau yng Nghymru a allai fod yn Drysor. Rhan fawr o fy rôl yw ymchwilio ac ysgrifennu adroddiadau arbenigol ar achosion o Drysor canoloesol ac ôl-ganoloesol, gan wneud argymhellion i grwneriaid sy’n penderfynu os yw rhywbeth yn cael ei ddynodi’n Drysor.

Beth yw’r un peth fyddet ti’n hoffi i ymwelwyr wybod am y gwaith sy’n digwydd tu ôl i’r llenni?

Mae gofalu am y casgliadau yn rhywbeth sy’n digwydd trwy’r amser. Un o brif gyfrifoldebau curadur yw dod o hyd i gydbwysedd rhwng darparu mynediad at gasgliadau, a gofalu am y casgliadau hynny i’w gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ac yn olaf, beth yw dy hoff ddarn yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, a pham?

Dwi’n cael trafferth mawr dewis un gwrthrych! Dwi wir yn mwynhau gweithio gyda phob math o eitemau, ond dwi’n arbennig o hoff o weithio gyda cherameg ganoloesol – darnau o grochenwaith a theils wedi torri! Mae cymaint y gallwn ei ddysgu o astudio’r darnau hyn, am y bobl a’u gwnaeth a’r bobl oedd yn eu defnyddio. Gallwn weld penderfyniadau a dewisiadau creadigol (ac weithiau ôl bys!) wedi’i gofnodi yn y clai. Un weithred gan un person, yn cynrychioli un foment mewn amser.

Dau bentwr o grochenwaith wedi torri ar arwyneb gwyn. Mae’r chwith yn dywyllach; mae’r dde’n cynnwys darnau ysgafnach.

Darnau o jygiau o'r 14eg ganrif a ddarganfuwyd ym Mharc Drybridge, Trefynwy

Lleisiau’r Amgueddfa: Siôn Davies-Rollinson – Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli

Siôn Davies-Rollinson, 18 Mehefin 2025

Mae person yn sefyll wrth adeilad â ffrâm bren a tho serth; mae cadeiriau a byrddau melyn wedi’u trefnu ar y patio y tu allan.

Siôn Davies-Rollinson, Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli

Helo Siôn, dywed ychydig am dy hun a dy rôl gydag Amgueddfa Cymru.

Siôn ydw i; fe ymunais ag Amgueddfa Cymru yn 2012 fel rhan o’r tîm Blaen Tŷ yn Sain Ffagan. Ers tair blynedd, dwi wedi bod yn Gydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu yn Sain Ffagan. Yn y swydd yma dwi’n cefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i weithio gyda’r Amgueddfa ar draws ystod eang o rolau. Un o’r pethau gorau am fy swydd yw dod i nabod ein gwirfoddolwyr amrywiol, a dod i ddeall pam eu bod wedi dewis gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru.

Yn ddiweddar dwi hefyd wedi dod yn Gydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu yn Big Pit, er mwyn helpu i ddatblygu rhaglen wirfoddoli yno, sy’n gyffrous iawn!

Faint o wirfoddolwyr sydd yna ar draws y safleoedd, a beth maen nhw’n ei wneud?

Gwirfoddolwyr mewn siacedi coch gyda 'Gwirfoddoli Volunteering' yn cerdded tuag at adeilad 'Gweithdy' ymhlith gwyrddni.

Mae dros 850 o wirfoddolwyr ar draws Amgueddfa Cymru. Mae 8 o wahanol swyddi gwirfoddoli ar gael yn Sain Ffagan yn unig! Er enghraifft, mae gwirfoddolwyr yr ardd yn helpu i gynnal gerddi hanesyddol y Castell, a gwirfoddolwyr y project llyfrau yn casglu ac yn gwerthu llyfrau ail law i godi arian i’r Amgueddfa. Mae gwirfoddolwyr archwilio yn gofalu am y trolis yn yr orielau, gan roi cyfle i ymwelwyr drin a thrafod rhai o’r casgliadau. Efallai eich bod wedi gweld grwpiau mawr o wirfoddolwyr o’r gymuned yn helpu i baentio ffensys, torri gwrychoedd a gwyngalchu tai. Mae myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi bod yn ein helpu ers tair blynedd bellach.⁠ ⁠Mae’n wych gweld hyder y myfyrwyr yn datblygu trwy wirfoddoli, a rhoi cynnig ar bethau newydd.

Dau wirfoddolwr mewn siacedi coch gyda 'Gwirfoddoli Volunteering' yn trefnu llyfrau ar silffoedd gwyn.

Prosiect Llyfrau dan arweiniad gwirfoddolwyr yn Sain Ffagan

Rydyn ni wedi gweld hen hetiau glowyr o Big Pit yn cael eu defnyddio fel basgedi crog yn Sain Ffagan – roedden nhw’n wych. Oes projectau tebyg ar y gweill?

Roedd hetiau’r glowyr yn broject difyr, a’r gwirfoddolwyr wedi mwynhau cymryd rhan. Rhoddodd y blodau dipyn o liw i’n Hwb Gwirfoddoli. Rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd newydd i hybu cynaliadwyedd, ac ailgylchu deunyddiau.

Yn ddiweddar bu gwirfoddolwyr yn plannu dros 2,000 o fylbiau eirlysiau a chlychau’r gog yn Sain Ffagan. Pan ddaw’r gwanwyn bydd yna lwybr o flodau hyfryd yn ymestyn o Lys Llywelyn i Fryn Eryr. Bydd hyn yn cefnogi gwenyn a pheillwyr eraill, sy’n dibynnu ar flodau cynnar i gael paill a neithdar ar adeg o’r flwyddyn pan fydd blodau’n brin. Cam bach, ond un pwysig iawn i fioamrywiaeth yr ardal.

Beth yw eich hoff broject hyd yn hyn?

Mae pedwar person yn gweithio mewn parcdir gyda ffensys pren wedi'u gwehyddu ger cytiau â thoiau gwellt, wedi’u hamgylchynu gan wyrddni.

Gardd wedi'i hysbrydoli gan y Celtiaid y tu allan i Fryn Eryr, Sain Ffagan

⁠Fy hoff broject i hyd yma yw gardd y gwirfoddolwyr yn Bryn Eryr, Sain Ffagan. Daethom â grŵp o wirfoddolwyr at ei gilydd i greu a chynnal gardd Geltaidd fel rhan o dai crwn Bryn Eryr. Mae pedwar gwely i’r ardd, yn tyfu cymysgedd o bys, ffa a phannas, gwahanol berlysiau, ac un gwely ar gyfer planhigion sy’n rhoi lliw. Rydyn ni wedi plannu hadau llin yn ddiweddar, ac yn edrych ymlaen at weld beth ddaw ohonyn nhw.

Dwi’n hoffi bod y project yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr ar y cyfan, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw wneud penderfyniadau ar sut i ddatblygu’r ardd. Rydyn ni’n gobeithio clirio ardal fach yn yr ardd i blannu coed afalau surion y flwyddyn nesaf.

Dau berson yn gweithio mewn gardd laswelltog gyda cytiau toi gwellt ac arch bren, wedi’u hamgylchynu gan goed ac awyr llachar.

Gardd Bryn Eryr, Sain Ffagan

Sut all pobl wirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru?

Mae llawer o ffyrdd i wirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru. Y ffordd hawsaf i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yw ar ein gwefan. Rydyn ni’n hysbysebu ein holl rolau gwirfoddoli ar-lein; gweler fan hyn.

Gall pobl hefyd gofrestru ar ein rhestr e-bost i glywed am gyfleoedd newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â’r tîm gwirfoddoli ar: gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk.

A’r un cwestiwn ydyn ni’n ofyn i bawb – beth yw eich hoff ddarn yn y casgliadau?

Llwybr cul gyda phalmant yn rhedeg heibio rhes o dai i’r dde, gyda gerddi’r tai ar ochr chwith y llwybr a choed i’w gweld yn y pellter.

Rhyd y Car, Sain Ffagan

Cwestiwn anodd! ⁠Dwi wedi treulio llawer o amser yn gweithio yn adeiladau hanesyddol Sain Ffagan, ac mae gan bob un ei stori a’i awyrgylch unigryw. Os oes rhaid dewis un – tai teras Rhyd-y-car. Dwi’n hoff iawn o’r ffaith fod y tai yn llinell amser sy’n dangos newidiadau’r blynyddoedd yn yr ystafelloedd a’r gerddi. Ac mae ymwelwyr wrth eu bodd yn teithio trwy amser wrth ymweld â’r tai. Mae teimlad y tai a’r gerddi yn newid gyda’r tymhorau hefyd, felly mae wastad rhywbeth newydd i sylwi arno.

Lleisiau’r Amgueddfa: Victoria Hillman

Victoria Hillman, Arweinydd Prosiect: Datblygu Cynaliadwy a Datgarboneiddio, 29 Mai 2025

Mae person yn sefyll yn y bwlch rhwng dau air arwydd sy'n sillafu '[SA]IN FFA[GAN]', gyda choed ac adeilad swyddfa y tu ôl iddi.

Victoria Hillman, Arweinydd Prosiect: Datblygu Cynaliadwy a Datgarboneiddio

Helo Victoria, allet ti gyflwyno dy hun a dweud ychydig wrthon ni am dy rôl yma yn Amgueddfa Cymru?

Siŵr iawn! Fe ges i ’ngeni a’m magu yng Nghaerdydd, felly, fel llawer o bobl, fy atgofion cynharaf o Amgueddfa Cymru yw tripiau ysgol i Sain Ffagan a Big Pit! Roedd y profiadau trochi a gawson ni mor fyw ac yn ysbrydoliaeth – yn enwedig i blentyn pan mae’ch meddwl chi’n agored i bob posibilrwydd. “Ychydig” o flynyddoedd ar ôl y profiadau ffurfiannol hyn, roeddwn i’n ddigon ffodus i ymuno ag Amgueddfa Cymru ym mis Ebrill 2024 fel Arweinydd Prosiect Datblygu Cynaliadwy a Datgarboneiddio. Mae fy ngwaith yn cwmpasu’r sefydliad i gyd, felly rwy’n rhyngweithio gyda phob safle amgueddfa a gyda phob tîm. Mae’n fraint cael gweithio gyda chymaint o wahanol bobl. Mae pob safle’n unigryw ac mae ’na gydweithwyr hynod o wybodus ar draws y sefydliad sy’n anhygoel o angerddol dros eu swyddi.

Fi sy’n gyfrifol am sicrhau bod Amgueddfa Cymru’n cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol ac am ysgogi gwelliannau mewn agweddau eraill perthnasol i gynaliadwyedd amgylcheddol ar draws y sefydliad. Mae hyn yn amrywio o edrych ar arferion caffael, i’r ffordd mae arddangosfeydd yn cael eu cynllunio; o optimeiddio amodau amgylcheddol mewn orielau i hyrwyddo teithio llesol gyda staff a gwirfoddolwyr; o wella bioamrywiaeth i ddatgarboneiddio’r stad.

Yn ystod y 10 mis diwethaf, rydw i wedi gweithio’n rhan-amser hefyd ar agweddau cynaliadwyedd y Prosiect Ailddatblygu yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol. Mae’r gwaith dylunio wedi’i gwblhau erbyn hyn, a mis Mai yw’r mis pan fydd y safle’n cael ei drosglwyddo i gontractwyr er mwyn i’r gwaith adeiladu ddechrau – mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r prosiect!

Fel dinasyddion y byd, rydyn ni’n gwybod pa mor hollbwysig yw cynaliadwyedd, yn ymarferol. Beth alli di ei ddweud wrthon ni am y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn Amgueddfa Cymru i gyrraedd y targedau sydd wedi’u gosod ledled Cymru?

Mae craen yn gostwng pwmp gwres i'r ddaear ger ffermdy â tho gwellt, wedi'i amgylchynu gan goed noeth a gwrychoedd.

Pwmp gwres yn cael ei osod yn Sain Ffagan

Ie wir. Fe wnaeth Amgueddfa Cymru gyhoeddi argyfwng hinsawdd ac argyfwng byd natur yn 2019. Rydyn ni wedi bod o ddifri yn ein hymrwymiad i ddiogelu’r amgylchedd ers blynyddoedd, ond ers y garreg filltir bwysig honno, rydyn ni wedi cynyddu’n hymdrechion ac wedi ysbrydoli eraill i ddilyn. Mae chwe ymrwymiad yn ein Strategaeth 2030, gan gynnwys “rhoi’r blaned yn gyntaf”. Yr ymrwymiad hwn yw sail ein dymuniad i gyfrannu at gyflawni sero net carbon gan sector cyhoeddus Cymru erbyn 2030. Ar draws y stad, rydyn ni wedi bod yn gweithio i leihau’r defnydd o danwydd ffosil trwy uwchraddio offer i fersiynau mwy effeithlon a disodli systemau gwresogi gyda dewisiadau trydan amgen (e.e. pympiau sy’n codi gwres o’r aer). Dros 5 mlynedd (2019/20 i 2023/24), mae’r defnydd o nwy naturiol wedi gostwng 36%.

Yn ogystal â datgarboneiddio’r stad, mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu mewn ffordd sy’n cyd-fynd yn llawn â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’n rhaid i bob proses ac adroddiad mewnol ystyried y pum ffordd o weithio (Cydweithio, Integreiddio, Cynnwys, Atal a Hirdymor).

Rwyt ti’n sôn am ‘roi’r blaned yn gyntaf’; pa brosiectau sy’n digwydd ar draws ein hamgueddfeydd heddiw, sy’n ein helpu ni i greu Cymru gynaliadwy?

Dw i eisoes wedi sôn am y cynnydd mawr o ran datgarboneiddio’r stad ac mae’r gwaith hwnnw’n mynd yn ei flaen diolch i gyllid Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus. Rhwng Ionawr a Mawrth 2025, gosodwyd pympiau codi gwres o’r aer mewn wyth adeilad ar bedwar safle i ddisodli systemau gwresogi tanwydd ffosil (nwy naturiol, LPG ac olew). Mae ’na gynlluniau i wneud gwaith tebyg yn 2025/26, os caiff ceisiadau am gyllid eu cymeradwyo.

Llwybr graean drwy ardd, wedi’i ffinio gan lwyni taclus, yn arwain at adeilad gyda cholofnau a tho teils.

Ein Gardd Rufeinig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ar raddfa fwy, a mwy hirdymor, mae dau brosiect yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd a fydd yn sefydlu cynaliadwyedd yn y sector diwylliant dros y 5–10 mlynedd nesaf. Ailddatblygu Caerllion Rufeinig yw’r cyntaf, sy’n ymdrech ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw a Chyngor Dinas Casnewydd. Nod y prosiect yw gwneud y mwyaf o botensial treftadaeth Rufeinig Caerllion tra’n gwella profiad ymwelwyr a denu mwy o bobl. Un allwedd i lwyddiant y prosiect fydd sicrhau bod digon o waith yn cael ei wneud er mwyn addasu’r safleoedd i’r effeithiau a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Ac yn yr un modd, yr ail brosiect lle bydd hi’n allweddol canolbwyntio ar addasu safle i’r newid hinsawdd yw ailddatblygiad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyw hi ddim yn gyfrinach bod yr adeilad 100 mlwydd oed wedi profi heriau yn ddiweddar a does dim ateb syml. Mae tîm amlddisgyblaethol wedi’i sefydlu i gynllunio’r ffordd orau ymlaen er mwyn gwarchod a moderneiddio’r adeilad hardd ac eiconig hwn.

O safbwynt pobl, y prosiect mewnol gwirioneddol bwerus yw cyflwyno hyfforddiant Llythrennedd Carbon. Dechreuodd hyn yn ôl yn 2018 gyda chriw bach o unigolion ymroddgar, ac erbyn hyn mae cannoedd o aelodau staff yn cael eu hyfforddi ac yn ennill tystysgrif llythrennedd carbon. Un o brif fanteision yr hyfforddiant Llythrennedd Carbon yw ei fod yn annog newid ymddygiad gartref yn ogystal ag yn y gweithle – mae aelodau staff sydd wedi dilyn y cwrs yn gweld hyn fel pwynt gwerthu cryf.

Yn fwy cyffredinol, mae gwaith dyddiol ar draws yr amgueddfa’n cyfrannu at Gymru fwy cynaliadwy. Mae Curaduron y Gwyddorau Naturiol yn gwneud gwaith ymchwil arloesol, yn disgrifio rhywogaethau ac yn monitro rhywogaethau goresgynnol; mae Curaduron a Chadwraethwyr yn cadw ac yn dehongli eitemau fel y gallan nhw gael eu deall gan ymwelwyr heddiw a’u mwynhau gan ymwelwyr y dyfodol; mae’r Tîm Dysgu’n darparu adnoddau i ysbrydoli ac ysgogi meddyliau holgar; mae’r Tîm Ymgysylltu’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chyfleon hygyrch a chynhwysol i bobl o bob cwr o Gymru; mae’r tîm Profiad Ymwelwyr yn defnyddio’u gwybodaeth helaeth i ateb cwestiynau a thanio dychymyg ymwelwyr... Mae’n rhestr hirfaith.

Mae ganddon ni Ddiwrnod Bioamrywiaeth y Senedd, Diwrnod Rhywogaethau mewn Perygl, Diwrnod Rhyngwladol Bioamrywiaeth a Diwrnod Gwenyn y Byd, i enwi dim ond ychydig, wedi’u hamlygu yn ein dyddiaduron y mis yma! Beth allwn ni ei wneud, fel casgliad o saith amgueddfa genedlaethol ac un ganolfan gasgliadau, ar y dyddiadau allweddol hyn?

Theatr ddarlithio lawn gyda seddau crwm, llwyfan â phedair cadair a sgrin yn dangos ‘Croeso’ a ‘Cynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r Dyfodol’.

Cynnal Cynhadledd Gweithredu 2025 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae mis Mai yn sicr yn fis prysur o ran dathlu byd natur! Mae dyddiau o’r fath yn rhoi cyfle i ganolbwyntio ar ymgyrchoedd penodol ac, yn bwysicach, i gydweithio gyda gweithwyr mewn sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector. Yn reit aml, amcanion tebyg sydd gan unigolion, ond heb ddylanwad neu gyfeiriad ar eu pen eu hunain. Drwy uno (ac mae ’na lawer o sefydliadau gwych ledled Cymru), rydyn ni’n gryfach ac yn gallu canolbwyntio ar dargedau. Fu hyn erioed yn fwy amlwg nag yn yr Uwchgynhadledd Gweithredu a gynhaliwyd ar 29 Ebrill yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i nodi rhyddhau Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025. Diwrnod i’n hysbrydoli oedd hwn, yn cadarnhau’r ffaith bod natur, diwylliant ac economi llesiant yn hanfodol i greu’r Gymru yr hoffem ni i gyd ei gweld.

Mae pobl yn ein hadnabod am ein hamgueddfeydd dan do ac awyr agored, ond efallai nad ydyn nhw’n gwybod am ein gerddi a’n dolydd gwyllt! Dwed rywbeth wrthon ni am y rhain.

Mae person mewn siaced felen a du a chap pêl fas llwyd yn gofalu am blanhigion ar ddiwrnod heulog.

Gwirfoddolwr yn garddio yng ngardd GRAFT, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Oes – mae ganddon ni erddi, dolydd, coedlannau a chynefinoedd tir gwyllt hyfryd hardd ar draws stad yr amgueddfa. Amgueddfa Werin Sain Ffagan yw’r safle gyda’r mwyaf o le agored – a dyma ganolfan ein Tîm Garddio. Mae’r Tîm Garddio’n creu ac yn gofalu am erddi ffurfiol yn y tir o amgylch Castell Sain Ffagan ac yn y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi cyflwyno dulliau amgylcheddol gyfeillgar fel plannu planhigion lluosflwydd yn hytrach nag unflwydd, casglu dŵr glaw at ddibenion dyfrhau, defnyddio compost di-fawn a newid o offer sy’n rhedeg ar danwydd ffosil i ddewisiadau amgen trydan. Yn Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig, mae’r Tîm Dysgu wedi ail-ddychmygu gardd Rufeinig, tra’n sicrhau bod digon o rywogaethau’n bresennol i ddenu peillwyr.

Cae gwyrdd gyda glaswellt tal a blodau gwyllt, adeilad gwledig wedi'i guddio'n rhannol gan goed, ac awyr las gyda chymylau gwasgaredig.

#NoMowMay yn Amgueddfa Wlân Cymru

A sôn am beillwyr, mae pob un o safleoedd yr amgueddfa’n gefnogwyr brwd i ymgyrch Mai Di-Dor ac fe blannwyd blodau gwyllt yn y ddôl drefol ger Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac mewn tri lle yn Sain Ffagan yn gynharach eleni. Mae’r ardd ‘Graft’ yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n falch o gyfuno cynhyrchu bwyd gyda thyfu rhywogaethau cyfeillgar i beillwyr. Mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi’i lleoli wrth Nant Bargod ac mae’r ddôl orlif yn y fan honno’n llawn bywyd – planhigion ac anifeiliaid. Mae llwybr addas i deuluoedd wedi’i greu er mwyn annog pobl i archwilio mwy!

Ac i gloi, rydyn ni wedi cadw’r gorau tan y diwedd. Pa un ydi dy hoff ddarn yn ein casgliad?

Dyna gwestiwn anodd, ac mae’n amhosibl ei ateb wrth gwrs! Rwy wrth fy modd gyda hen beiriannau diwydiannol – yn enwedig pan maen nhw’n dal i weithio. Mae enghreifftiau gwych o hyn i’w gweld ar draws y sefydliad – yn Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Lofaol Big Pit ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae’r eitemau diwydiannol yn y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn wych hefyd ac yn gymysgedd eclectig go iawn – fel y byddech chi’n ei ddisgwyl gan storfeydd amgueddfa genedlaethol!

Trilobit ffosiledig mewn carreg dywyll, gyda segmentau ac antenâu clir. Mae’r ffosil wedi’i gadw’n dda gyda rhychau.

Trilobit o’n casgliad

Ond os oes raid dewis un eitem, mae oriel Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn agos at fy nghalon. Geowyddoniaeth Amgylcheddol oedd pwnc fy ngradd ac rwy’n dwlu ar brosesau naturiol – tectoneg platiau, ceryntau’r cefnforoedd, ffurfiant creigiau, amrywiaeth bywyd ar y Ddaear a’i allu i ymgyfaddasu... Fy hoff gasgliad felly, o raid, fyddai’r ffosiliau trilobit, a’r hoff eitem unigol fyddai ôl gên Megalosawrws, a gafodd ei ddarganfod ger Pen-y-bont ar Ogwr ym 1898. Mae’n hynod o gyffrous dysgu bod cigysyddion enfawr yn arfer crwydro’r tir sydd bellach yn gartref i ni!

Asgwrn gên ffosiledig gyda sawl dant, gan gynnwys un mawr, ar gefndir du gyda graddfa yn y gornel dde isaf.

Argraffiad o ên Megalosaurus

Lleisiau'r Amgueddfa - Dr Nicole Deufel, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dr Nicole Deufel, 14 Ebrill 2025

Helo, Nicole, dwed ychydig wrthon ni amdanat ti dy hun a dy rôl yn Amgueddfa Cymru.

Dr Nicole Deufel ydw i, a fi yw Pennaeth yr Amgueddfa yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Fy rôl i yw arwain y tîm, ac ar hyn o bryd rydyn ni’n edrych ar ailddatblygu’r amgueddfa dros y blynyddoedd nesaf.

Yr hyn sy’n arbennig iawn am yr amgueddfa hon, Amgueddfa’r Glannau o fewn Amgueddfa Cymru, yw ein bod ni mewn partneriaeth gyda Chyngor Abertawe. Rhan fawr o fy rôl i ar hyn o bryd yw canolbwyntio ar y bartneriaeth honno, ei siapio, ei chryfhau a’i sicrhau ar gyfer y dyfodol.

Rydyn ni’n llawn cyffro o glywed am y cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer Amgueddfa’r Glannau, beth alli di ei rannu gyda ni?

Maen nhw’n gynlluniau mawr ac yn dod fesul cam, ond rydyn ni’n awyddus iawn i ddechrau arni eleni. A dweud y gwir, rydyn ni wedi dechrau’n barod!

Un o’r pethau allweddol i ni yw ailsefydlu’r cysylltiad rhwng ein warws hanesyddol a’r ardal hanesyddol o’i amgylch. Rydyn ni’n defnyddio hynny fel man cychwyn i ddehongli hanes diwydiant, datblygu ac arloesi yng Nghymru, a’r cysylltiadau byd-eang drwy’r môr. Mae’n stori hynod o gyffrous.

Yn bersonol, rydw i mor falch bod y warws gyda ni fel ased hanesyddol i helpu adrodd y stori.

Mae hunaniaeth yn ffocws mawr arall ar hyn o bryd. Pan gerddwch chi i mewn i’r amgueddfa, dwi ddim yn meddwl ei bod hi’n amlwg ar unwaith pwy ydyn ni, yn enwedig o gymharu ag amgueddfeydd eraill Amgueddfa Cymru. Yn Big Pit, er enghraifft, mae ei hunaniaeth yn glir yr eiliad y cyrhaeddwch chi. Mae’r un peth yn wir am yr Amgueddfa Wlân; mi es i yno’n ddiweddar, ac mae ei holl bwrpas yn eich taro chi’n syth.

Dydi Amgueddfa’r Glannau ddim yno eto, felly mae hynny’n rhywbeth rydyn ni am fynd i’r afael ag e. Rydyn ni eisiau i ymwelwyr ddod i mewn, yn enwedig trwy’r fynedfa o ochr y ddinas, a gweld gwrthrychau ‘waw’, sydd nid yn unig yn creu argraff ond hefyd yn dal hanfod y straeon rydyn ni’n eu hadrodd. Rydyn ni eisiau i’n hunaniaeth ddisgleirio yr un mor llachar ag y mae yn ein hamgueddfeydd eraill. Fel bod pobl yn cerdded i mewn ac yn gwybod ar unwaith – rydw i yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau!

Fe soniaist ti am ddarnau ‘waw’. Pa rôl mae’r casgliad yn ei chwarae yn y weledigaeth newydd yma, a pha mor bwysig yw cadwraeth a gwarchod y casgliad?

Os edrychwn ni ar Neuadd Weston, mae’r casgliad yn help gwirioneddol i ni ddatblygu a darlunio’r straeon, sef straeon pobl. Nid dim ond grŵp o wrthrychau yw’r casgliad. Mae’n cynrychioli stori Cymru a phobl Cymru.

Dyna sut rydyn ni eisiau defnyddio’r casgliad. Nid dim ond dangos y gwrthrychau ond cloddio’n ddyfnach i’r straeon y tu ôl iddyn nhw a’u helpu nhw i ddisgleirio.

Fel rhan o’r broses ailddatblygu yma, byddwn ni hefyd yn cadw ac yn ailddehongli rhai o’r gwrthrychau trwy ddod ag eitemau allan sydd heb gael eu harddangos ers tro byd a’u defnyddio nhw i adrodd y stori yma.

Dyna beth sy’n fy nghyffroi i am y casgliad. Roeddwn i yn y storfa’n ddiweddar, a dangosodd y curadur y fan bocs i mi. Dyna un o’r gwrthrychau rydyn ni am ei adfer a’i ddefnyddio mewn gofod arddangos trochol. Wrth ei osod yn y gofod yma, mae’n helpu i esbonio’r golofnfa, y warws, a’r cysylltiadau trwy’r rheilffyrdd i weddill Cymru, a sut roedd nwyddau’n teithio allan i’r byd ac yn ôl eto. Mae’r casgliad yn ein galluogi ni i rannu hynny i gyd. Dyna pam ei fod mor bwysig.

Beth sy’n dy ysbrydoli di fwyaf wrth iti gamu i mewn i Amgueddfa’r Glannau, fel y mae heddiw?

Mae mor gyffrous inni i gyd fod yma. Rwy’n teimlo mor ffodus o ddod i weithio bob dydd gyda thîm proffesiynol, creadigol, anhygoel.

Gyda’n gilydd rydyn ni’n edrych ar beth sy’n gweithio yn yr amgueddfa, beth allwn ni ei wella, a sut y gallwn ni osod pobl, eu straeon a’u profiadau wrth galon popeth wnawn ni. Rydyn ni eisiau cysylltu pobl trwy eu hymweliad yma a dyna sy’n fy nghyffroi i.

Rwy’n cael gwneud hyn gyda thîm anhygoel, mewn lleoliad hyfryd. Dwi wir wrth fy modd â’r warws, a chymaint o’r gwrthrychau yn ein casgliad. Mae’r cyfan mor gyffrous. Bob dydd, rydyn ni’n gwirioneddol fwynhau’r hyn rydyn ni’n ei wneud.

Mae’ch gardd GRAFT yn dathlu ei seithfed penblwydd eleni, ac mae’n ffynnu, mewn dinas brysur. Sut allwn ni fel Amgueddfa Cymru, neu fel ymwelwyr, wneud ein rhan yn yr ardd?

Mae croeso i bawb ymweld â’r ardd a gweithio ynddi.

Ar hyn o bryd, os mai ymwelydd cyffredinol ydych chi, efallai nad yw’n glir sut mae’r ardd yn cysylltu â gwaith yr amgueddfa. Ond mae cymaint o syniadau a themâu arloesol yn cael eu harchwilio yn yr ardd, a phobl o bob cefndir yn cyfrannu eu profiadau.

Rydyn ni’n edrych nawr ar sut y gallwn ni wneud hynny’n fwy gweladwy. Rydyn ni eisiau helpu pobl i weld y cysylltiad hwnnw, fel bod yr ardd yn dod yn rhywbeth maen nhw’n ymgysylltu’n weithredol â hi ac nid dim ond rhywbeth maen nhw’n pasio heibio iddi.

Mae’n cysylltu mor dda â’r themâu rydyn ni’n eu harchwilio yn ein gofodau arddangos mwy traddodiadol, ac roedd sefydlu’r ardd yn syniad mor wych. Mae’n fan lle gall pawb brofi rhywbeth ystyrlon, boed nhw’n gwirfoddoli neu ddim ond yn picio allan i gael golwg.

Mae’n gyferbyniad hyfryd, y peiriannau diwydiannol trwm hyn ochr yn ochr â gardd fioamrywiol, gynaliadwy. Mae’n dangos o ble mae Cymru wedi dod a ble mae’n mynd. Mae cynaliadwyedd yn amlwg yn ganolog i hynny.

Yn hollol. Os ydyn ni’n sôn am ddad-ddiwydiannu, sef un o’r themâu allweddol rydyn ni am eu harchwilio yma, mae’r ardd yn enghraifft wych.

Roedd llygredd yn y tir, felly fe ddefnyddion ni welyau uchel. Mae popeth wedi tyfu o’r fan yna. Dyna beth sydd mor gyffrous amdano fe.

Rydyn ni’n clywed dy fod ti wedi bod yn treulio amser yn crwydro dy gartref newydd, Cymru. Wyt ti wedi cael cyfle i ymweld â phob un o’n hamgueddfeydd eto?

Ddim cweit. Dw i ddim wedi cyrraedd Llanberis eto, mae hynny ar frig fy rhestr. Rwy’n mynd i Gaerllion yr wythnos nesaf, a Big Pit ddydd Gwener. Dw i wedi bod i Big Pit o’r blaen, ond y tro yma rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd y tu ôl i’r llenni.

Dw i wrth fy modd. Ac o safbwynt ein gwaith datblygu ni’n hunain yma, mae mor bwysig i ni ddeall ein lle yn y stori ehangach. Mae hynny’n golygu dod i adnabod y safleoedd eraill go iawn, y tu hwnt i brofiad ymwelydd.

Mae straeon mor gyfoethog, adnabyddus gan ein Hamgueddfa Lechi Genedlaethol, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Amgueddfa’r Lleng Rufeinig a’r Big Pit. Sut mae rhoi’r enwogrwydd byd-eang yna i’n diwydiant a’n trafnidiaeth? Mae’n rhan mor bwysig o stori Cymru, ond heb gael ei gysylltu â’r genedl yn yr un modd â glo neu lechi.

Yn union. Cymru oedd y wlad ddiwydiannol gyntaf, ac mae daearyddiaeth yn chwarae rhan fawr yn hynny. Mae hynny’n rhywbeth y mae gyda ni ddiddordeb mawr ynddo.

Mae’r warws yn adlewyrchu’r cyfan, mae gennych chi’r rheilffyrdd yn dod drwodd o’r meysydd glo, y mwynau, y dociau, y bobl fu’n gweithio yma, a’r cysylltiadau â’r môr.

Ond nid dim ond stori am ddiwydiant trwm yw hyn. Mae’n stori am ddaearyddiaeth, symud, arloesi. Un o fy hoff ddarnau yw’r Robin Goch. Mae’n wrthrych mor greadigol, y math yna o ysbryd dyfeisgar a wnaeth ddatblygiad diwydiannol yn bosibl, ac mae hefyd yn ganolog i stori dad-ddiwydiannu a chynaliadwyedd heddiw.

Roedden ni’n siarad yn ddiweddar am gynlluniau ynni cymunedol sy’n digwydd nawr yng Nghymru. Mae’r rhain yn straeon y mae angen i ni eu hadrodd yn gryfach, a’u rhannu gyda’r byd.

Fe soniaist ti am y Robin Goch. Oes gen ti hoff wrthrych o gasgliad Amgueddfa Cymru?

Does gen i ddim un yn arbennig, ond rwy’n dwlu ar y Robin Goch. Mae mor ddyfeisgar, defnyddio deunyddiau bob dydd i wneud peiriant sy’n hedfan. Mae’n ffantastig.

Rwy’n dwlu ar locomotif Penydarren hefyd. Mae’n debyg ei fod yn annwyl i mi am fy mod i wedi gweithio yng Nghymru o’r blaen, a stori Trevithick oedd un o’r cyntaf i mi ddod ar eu traws.

Mae’n grêt dod yma a gweld y replica. Dyw e ddim yma ar hyn o bryd, mae e yn Darlington, ond pan welais i e’n cael ei symud a’r holl rannau’n dod yn fyw, roedd yn emosiynol iawn. Felly ie, mae’n debyg mai’r ddau yna yw fy ffefrynnau.

Lleisiau’r Amgueddfa: Helen Goddard - Cyfarwyddwr Project Amgueddfa Lechi Cymru

Helen Goddard, 28 Mawrth 2025

Helo Helen, dwed ychydig wrthon ni amdanat ti a dy rôl yn Amgueddfa Cymru.

Dw i efo Amgueddfa Cymru ers 12 mis ac mae wedi bod yn wych. Dw i ar secondiad o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lle dw i fel arfer yn gofalu am wasanaethau’r amgueddfa, y llyfrgell, y celfyddydau a’r archifau. Cyn symud i ogledd Cymru 14 blynedd yn ôl, ro’n i’n gweithio ar draws ynysoedd yr Alban fel archaeolegydd a gweithiwr datblygu cymunedol.

Un o ogledd Cymru ydi fy mam, ac roeddwn i wastad eisiau dysgu Cymraeg. Mae wedi cymryd 14 blynedd i mi lwyddo, ond mi faswn i’n dweud bod blwyddyn yn Llanberis yn sicr wedi bod yn hwb enfawr i ’mhrofiad dysgu!

Yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Project dw i’n gyfrifol am reoli a chyflawni project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Dw i’n arwain nifer o dimau project ehangach ac yn adrodd ar eu gwaith i Fwrdd y Project. Fi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y project yn cadw i’w amserlen ac o fewn y gyllideb a’n bod ni’n bodloni disgwyliadau ein cyllidwyr a’n rhanddeiliaid. Fy ngwaith i hefyd ydi gwneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn rhannu ac yn gwthio’r un weledigaeth i gyflawni’r project ar y cyd â’n cymunedau mewn ffordd sy’n ateb eu hanghenion a’u dyheadau nhw.

Mae project Llanberis yn wirioneddol gyffrous. Beth alli di ei rannu amdano, wrth iddo fynd yn ei flaen?

Rydan ni’n sôn amdano fel cyfle unwaith-mewn-oes ac mae hynny’n wir go iawn. Ers i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru gael ei dynodi’n Safle Treftadaeth Byd yn ôl yn 2021, mae cyfleon ariannu strategol wedi’n galluogi ni i ddatblygu cynllun gwirioneddol uchelgeisiol. Byddwn ni’n gallu creu siop, caffi a gofod dysgu newydd sbon i weddnewid profiad yr ymwelwyr. Ac rydan ni am osod lifft i’r llofft patrwm ar y llawr cyntaf am y tro cyntaf, yn ogystal â gwneud pob man yn fwy hygyrch a chael toiledau gwell (yn cynnwys toiled Newid Lle).

Rydan ni’n ceisio creu cydbwysedd ystyriol rhwng parchu sensitifrwydd Gilfach Ddu a darparu profiad cyfoes. Mae ymwelwyr, pobl leol a staff fel ei gilydd yn dweud wrthon ni eu bod nhw wrth eu bodd efo’r safle yn union fel y mae – fel petai’r gweithwyr newydd adael eu hoffer a mynd adref am y dydd. Dyna ysbryd y gweithdai hanesyddol rydan ni’n ceisio’i barchu, tra’n gwneud gwelliannau mwy sylweddol ar yr un pryd i fannau sydd yn hanesyddol wedi gweld llawer o newid yn barod. Er enghraifft, yn ein horielau newydd, byddwn ni’n gallu arddangos mwy o’n casgliad cenedlaethol, ond hefyd datblygu ein rôl fel porth i Safle Treftadaeth Byd y dirwedd lechi ehangach.

Rydan ni newydd gwblhau cam RIBA4, sef y cam dylunio technegol lle cytunir yn fanwl ar bob manyleb a’r deunyddiau i gyd. Rydan ni wedi tendro ar gyfer y prif waith a’r gobaith ydi dechrau ar y safle ym mis Ebrill.

Beth sydd wedi digwydd i’r casgliad tra bod y gwaith adnewyddu’n digwydd, ac allwn ni ymweld o hyd?

Mae’r casgliad cyfan, bron – tua 10,000 o wrthrychau – wedi cael ei symud o’r safle i ganolfan gasgliadau hygyrch newydd yn Llandygái ger Bangor. Mae unrhyw beth sy’n gallu symud, wedi symud! Hynny er mwyn diogelu’r casgliad, ond hefyd i sicrhau ei fod yn dal ar gael tra bod yr amgueddfa ar gau dros dro. Bydd ein rhaglen weithgareddau eleni’n cynnig digonedd o gyfleon i bobl weld, profi a gweithio gyda’r casgliadau yn eu lleoliad dros dro a helpu i ddewis gwrthrychau i’w harddangos a phenderfynu sut y caiff eu straeon eu hadrodd.

Fydd safle Llanberis ar agor tra bod y gwaith wrthi? Byddai’n cŵl cael taith o amgylch yr amgueddfa wag!

Mae’r amgueddfa wedi cau dros dro, yn rhannol er mwyn cadw staff ac ymwelwyr yn ddiogel oherwydd maint y gwaith, ond hefyd am ein bod ni’n gweithio i amserlen dynn iawn! Rydan ni’n cynnig teithiau ‘Gofodau Distaw’ ar hyn o bryd i’r gymuned leol wrth i ni baratoi i drosglwyddo i’r contractwr, a’r gobaith ydi y byddwn ni’n gallu cynnig mwy o deithiau am gipolwg y tu ôl i’r llenni dros y misoedd nesaf.

Mae Tîm Datblygu Llanberis wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau cyllid, sy’n gyfraniad arbennig o werthfawr at y project ac yn haeddu pob clod!

Argol fawr, mae ’na gymaint o bobl yn gwneud gwaith anhygoel. Yn sicr yn y chwe mis diwethaf rydw i wedi cael fy llorio gan Cadi, ein curadur, a staff y safle ehangach am y gwaith maen nhw wedi’i wneud i baratoi’r amgueddfa ar gyfer cau. Mae Kerry Vicker yn arwr imi. Hi wnaeth fy arwain i drwy ein cais ni am Gam 2 Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sef ychydig dan £10m.

Pa gamau cynaliadwyedd sy’n cael eu hystyried, i ddiogelu dyfodol yr amgueddfa a’r casgliad?

Mae gennon ni Victoria Hillman yn gweithio ar dîm y project fel rhan o’r ailddatblygu er mwyn gallu cadw llygad manwl ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd. Mae cymaint o elfennau i hyn, yn gyfuniad o fesurau ataliol a mentrau newydd.

O ran y casgliad, rydan ni’n bod yn bragmatig ac yn ymatebol i’r mathau o gasgliadau diwydiannol sydd gennon ni. Rydan ni’n cadw rhai elfennau – fel Una yr injan – fydd yn cael ei rhoi ar waith eto fel rhan o’r project. Bydd yr amgylcheddau rydyn ni am eu creu ar gyfer y prif orielau yn sicrhau lefel newydd o aerdymheru, a fydd yn ein helpu i arddangos gwrthrychau mwy sensitif am y tro cyntaf.

Rydan ni wedi bod yn gweithio hefyd gyda phrifysgol Met Caerdydd ar gamau ymaddasu i’r hinsawdd ac wedi cynnwys hyn yn y fanyleb ar gyfer pethau fel deunyddiau tirlunio, rheoli dŵr ffo, gallu adeiladau i anadlu, a dyluniad cafnau dŵr glaw ac ati. Dyma amcanion eraill sydd gennym:

  • Marc BREEAM ardderchog i’r adeiladau newydd
  • Blychau newydd i ystlumod a gwenoliaid duon
  • Trawsleoli cennau a mwsoglau
  • Plannu rhywogaethau brodorol a phrin
  • Cynaeafu dŵr glaw
  • Cynllun goleuo sensitif iawn
  • Sefydlu addysg am gynaliadwyedd a’r amgylchedd ym mhob deunydd dehongli

Mae’r rhestr yn mynd ymlaen!

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf am yr ailddatblygu?

Fedra i ddim aros i weld fy nau blentyn ifanc yn chwarae yn y mannau rydan ni’n eu creu. Dw i’n gobeithio gweld dim byd ond cyffro a rhyfeddod ar eu hwynebau wrth iddyn nhw grwydro’r lle.

Yn olaf, mae hwn yn hoff gwestiwn ganddon ni – beth ydi dy hoff ddarn yng nghasgliad Amgueddfa Cymru?

Wel, dw i heb fod yma’n hir iawn, ond mi faswn i’n dweud mai fy hoff wrthrych hyd yma ydi Cadair Eisteddfod Caban Mills yng nghasgliad yr Amgueddfa Lechi. Am fynegiant syml, hardd o fywyd yng nghymunedau’r chwareli a phrofiad byw y rhai fu’n cydeistedd yn y Caban!