Goleuo’r Ffordd – Pennod Nesaf Neuadd Weston Dafydd Newton-Evans, 19 Rhagfyr 2025 Mae newid yn dod i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Efallai eich bod wedi gweld newidiadau bach o gwmpas yr amgueddfa yn barod. Ond mae Neuadd Weston, calon modern yr amgueddfa, ar fin cael ei drawsnewid i fod yn ganolbwynt i weledigaeth newydd yr amgueddfa fydd yn adrodd stori Cymru a’i pherthynas gyda’r môr. Mae treftadaeth morwrol Cymru llawer mwy na rhaffau, angorau a modeli o longau. Felly, mae ein gweledigaeth am Neuadd Weston llawer mwy deinamig – gofod fydd yn ysbrydoli, yn annisgwyl ac yn sbardino trafodaethau. Lle bydd storiau pobol, masnach, ymfudo, dyfeisio, celfyddid a noddfa yn cwrdd ger y dŵr.Fflam NewyddUn o’r gwrthrychau cyntaf fydd yn dal eich llygaid wrth gamu mewn i’r amgueddfa fydd optig goleudy yn dyddio nol I ganol y 19fed ganrif.Mae’r cawr o wydr wedi bod yn gorffwys mewn storfa am ddegawdau, ei prismau yn fud ac yn llonydd. Ond, bydd y fflam yn gael ei danio eto, gan ddod a’r gwrthrych yn fyw a’i drawsnewid i fod yn symbol o obaith. Bob dydd, bydd ymwelwyr yn gallu gwylio’r mecanwaith cywrain yn cael ei droelli – defod fydd yn pweru’r optig i droi a disgleirio. Nid yn unig y neuadd fydd yn cael ei oleuo gan y goleudy, ond mi fydd hefyd yn goleuo gydag ystyr. Bydd yr optig yn cynrychioli bywydau a dreuliwyd ar y môr a’r diogelwch roedd goleudai Cymru yn ei roi. Yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mi fydd hefyd yn sefyll fel symbol o noddfa, gan adlewyrchu statws yr amgueddfa fel Amgueddfa Noddfa, a’n ymrwymiad i fod yn ofod croesawgar i bawb. O’r man yma, bydd ymwelwyr yn cael eu gwahodd i deithio ymhellach, i galon stori morwrol Cymru, a’r bobl gafodd eu siapio gan lanw a thrai’r moroedd.Siwrne ar hyd y Traciau Wrth symud ymhellach i mewn i Neuadd Weston, daw rhywbeth annisgwyl i’r golwg: cerbyd Rhymni Rail wedi’i hadfer – yr unig enghraifft sydd wedi goroesi o dros 300 o gerbydau o’r fath a fu’n eiddo i’r cwmni rheilffordd Cymreig hwn. Bydd yn sefyll unwaith eto ar y traciau gwreiddiol sy’n torri drwy lawr yr amgueddfa hyd heddiw.I ddod â hanes ein cartref hanesyddol yn fyw, bydd y fan yn helpu i ddehongli’r fasnach a fu’n digwydd yn y warws ac yn rhoi cyd-destun i’r colonâd a’r traciau rheilffordd sydd wedi’u hymgorffori yn y llawr.Pan fydd yn cymryd ei lle yn Neuadd Weston, bydd yn ein hatgoffa nad yw cysylltiad Cymru â’r môr yn dechrau ar y lan, ond gyda’r diwydiant a’r dyfeisgarwch a fu’n rhan annatod o’n tirwedd a’n cymunedau o’r gogledd i’r de.Celf ar y GorwelO’r hen i’r newydd, bydd ein comisiwn celf cyffrous yn codi uwch ein pennau cyn bo hir, i’w ddatgelu yn gynnar yng ngwanwyn 2026. Yn hongian o do Neuadd Weston, bydd y darn gweledol gan Jacqui Symons yn archwilio cysylltiad Cymru â’r môr drwy grefft, creadigrwydd ac emosiwn. Bydd yn herio ymwelwyr i edrych ar ddyfroedd cyfarwydd drwy olau newydd.Jacqui Symons oedd yr artist llwyddiannus o dros 300 o gynigion llawn ysbrydoliaeth a chreadigrwydd – ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld y weledigaeth yn trawsnewid o bapur i realiti.Llunio’r Stori Gyda’n GilyddMae trawsnewid Neuadd Weston yn nodi dechrau taith newydd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Felly, ymunwch â ni ar y fordaith – gwyliwch y cerbyd yn cymryd ei lle, teimlwch y tonnau creadigol yn codi, a darganfyddwch straeon y môr a’r bobl a gafodd eu siapio gan ei lanw a’i thrai.
Hwylio i Bennod Newydd: Ail-ddychmygu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Nicole Deufel, 25 Medi 2025 Yn gynharach eleni, cymerais y llyw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac wrth i ni gyrraedd yr Hydref mae eisoes yn teimlo fel pe baem yn dal y gwynt yn ein hwyliau. O’r diwrnod cyntaf, cefais fy ysbrydoli gan angerdd ac arbenigedd ein tîm, sy’n caru straeon rhyfeddol ein casgliadau. Mae eu mewnwelediadau, ynghyd â’r croeso cynnes a gefais gan Abertawe ei hun, wedi fy argyhoeddi o un peth: bod gan yr amgueddfa yma y potensial i fod yn gyrchfan sy’n synnu, yn swyno ac yn cysylltu pobl mewn ffyrdd newydd. Angori Ein StoriUn o’r heriau cyntaf yr ydym yn eu hwynebu yw sut rydym yn adrodd ein stori. Mae ymwelwyr yn aml yn cyrraedd heb wybod ble dylai eu taith ddechrau. Gyda thair mynedfa wahanol a llwybrau troellog, mae’n hawdd colli’ch ffordd. Ychwanegwch at hynny’r disgwyliad (ar sail ein henw a’n lleoliad) fod yr amgueddfa’n ymwneud â’r môr a straeon morwrol Cymru, ac mae’n hawdd gweld pam y gall rhai ymwelwyr adael yn ddryslyd. Mae ymwelwyr hefyd yn aml yn chwilfrydig ynghylch stori ein warws haneysddol. Beth oedd ei bwrpas? Pam fod y warws yma? Am gyfnod rhy hir, nid ydym wedi adrodd stori’r adeilad rhyfeddol yma i’n hymwelwyr. Mae’r warws yn sefyll yn ei leoliad gwreiddiol, lle bu unwaith yn edrych allan dros ddoc prysur yn llawn llongau, gweithwyr, a rhythm diwydiant. Yma, bu’r warws yn rhan o’r cyfnewid mawr rhwng diwydiannau trwm Cymru a gweddill y byd ar draws y môr.Dyna’r stori a’n hysbyrdolodd i droi ein golygon tua’r môr, i adael i’r môr arwain sut rydym yn adrodd straeon: y môr yw gwir galon ein gweledigaeth. Y môr yw’r edefyn sy’n cysylltu popeth – diwydiant, celf, archeoleg, a bywydau cymunedau ledled Cymru. O allforio glo a chopr, i deithiau teuluoedd a groesodd y cefnforoedd, mae stori Cymru’n stori a luniwyd gan y môr. A pha le gwell i adrodd y stori yma na’n warws haneysddol? Adeiladwyd yn 1900 wrth ymyl Doc y De – bellach yn gartref i Farina Abertawe – ac mae’r adeilad ei hun yn dal i sibrwd ei orffennol diwydiannol. Mae traciau rheilffordd yn rhedeg ar hyd y llawr, ac mae swyddfa’r Harbour Trust a’r Tŷ Pwmp yn dal i sefyll gerllaw. Dyma hanes y gellir ei weld, ei gyffwrdd a’i deimlo o’ch cwmpas. Agor y Drysau i’r MôrRydym eisoes wedi dechrau ar newidiadau bach ond pwerus. Mae ffenestri caeedig y warws bellach ar agor unwaith eto, gan adael golau i mewn a chysylltu’r gofod gyda’r Marina y tu allan. Mae’r weithred syml yma wedi trawsnewid yr awyrgylch, ac mae’n teimlo fel bod yr adeilad yn anadlu unwaith eto. Rydym hefyd wedi tynnu strwythurau arddangos swmpus oedd yn rhwystro’r olygfa, gan wneud yr amgylchedd haneysddol yn rhan o brofiad yr ymwelydd unwaith eto. Mae’r Neuadd Weston, sy’n cysylltu’r Oriel Newydd â’r Warws hefyd wedi gweld rhai newidiadau. Rydym wedi cael gwared ar yr annibendod ac wrthi yn datblygu’r gofod i fod yn ardal croesawgar ac ysbrydoledig. Yma, bydd ymwelwyr yn dod ar draws canolbwyntiau trawiadol – gwrthrychau bydd yn eich stopio gan roi’r foment “WOW” i chi!Dychmygwch hyn: yr optic goleudy South Bishop o 1842, wedi’i adfer i’w gyflwr gweithio, ei ben uchaf yn disgleirio bob dydd pan gaiff ei droi â llaw. Neu gerbyd rheilffordd hanesyddol wedi’i osod ar y traciau gwreiddiol, gan wneud gorffennol diwydiannol y warws yn weladwy ar unwaith. Nid arddangosfeydd yn unig mohonynt, ond pileri ein hunaniaeth gan gychwyn sgyrsiau am ddiogelwch ar y môr, Abertawe fel Dinas Noddfa, a chysylltiadau dwfn rhwng Cymru a gweddill y byd. Golygfa Gyda’ch CoffiMae’n debyg hefyd y bydd ein caffi’n symud. Rydym yn archwilio’r posibilrwydd o’i leoli i fyny’r grisiau er mwyn manteisio ar ein balconi sy’n edrych allan dros y Marina. Dychmygwch yfed eich coffi gyda golygfa banoramig o’r glannau. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i drawsnewid Mynedfa’r Marina yn fynedfa ddiddorol i groesawu’r nifer cynyddol o bobl sy’n pasio heibio. Gorwelion Newydd ar gyfer ArddangosfeyddHyd yma, cynhaliwyd arddangosfeydd dros dro yn Neuadd Weston, gofod na chafodd ei gynllunio ar gyfer cynnal arddangosfeydd. Canlyniad hyn oedd cyfaddawdau a chyfyngiadau ar yr hyn y gallem ei ddangos. Mae hyn ar fin newid!Rydym yn disgwyl creu orielau pwrpasol ar y mesanîn yn yr Oriel Newydd. Bydd y gofod hyblyg yma yn caniatau i ni gynnal arddangosfeydd uchelgeisiol o safon uchel a fydd yn synnu ac yn ysbrydoli, gan roi mwy o resymau i ymwelwyr ddychwelyd dro ar ôl tro. Edrych YmlaenMae’r daith o’n blaen yn un gyffrous i ni fel amgueddfa ac i Abertawe. Ein cynllun yw ail-ddatblygu’r Oriel Newydd a’r Warws yn unol â safonau arddangos modern, gan osod cymunedau ac ysbrydoliaeth i bawb yn greiddiol i’n gwaith. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn llunio’r manylion, yn gweithio gyda chymunedau ac ymwelwyr, ac yn mapio sut i adrodd stori Cymru trwy lens y môr.Hyd nes hynny, disgwyliwch newidiadau bach ond pwerus – eiliadau annisgwyl, cyfarfyddiadau llawen, a safbwyntiau newydd sy’n amlyug sut mae’r môr wedi siapio bywyd ledled Cymru. Amgueddfa Fyw i BawbRwy’n hynod ddiolchgar i’r tîm yma, y mae eu syniadau a’u brwdfrydedd yn ein llywio ymlaen. Gyda phobl Abertawe a’n hymwelwyr, rydym yn gwneud Y Glannau yn lle i’w archwilio, ei fwynhau, a’i ddathlu – amgueddfa fyw, llawn profiadau llawen a rhyngweithiol i bawb. Felly dewch ar y daith gyda ni. Mae’r llawn’n troi, ac mae pennod newydd yn hanes Amgueddfa Genedlaethol y Glannau newydd ddechrau.