Bywyd ffosil - ar raddfa wahanol 8 Mawrth 2011 Y pysgodyn ffosil Pholidophorus; mae'r cylch yn dangos yr ardal dywyll lle mae'r bacteria ffosil wedi'u cadw Golwg drwy ficrosgop ar y gytref o facteria ffosiledig, wedi'i chwyddo x20,000 Ffosilau yw gweddillion bywyd hynafol. Mae'r rhan fwyaf o ffosilau anifeiliaid wedi'u gwneud o rannau caled y corff fel esgyrn, dannedd a chregyn. Mewn rhai achosion prin, gall meinwe meddal neu facteria hyd yn oed gael eu ffosileiddio. Pysgodyn ffosil o Wald yr Haf sydd wedi'i gadw'n dda Darganfuwyd y pysgodyn ffosil a welir yma ar draeth Kilve yng ngogledd Gwlad yr Haf, ac er ei fod wedi colli'i ben, mae'r gweddill wedi cadw'n dda. Mae'r ffosil tua 11cm o hyd ac mae ei gen yn amlinellu siâp ei gorff. Gellir gweld olion yr esgyll blaen hefyd. Pholidophorus yw enw'r pysgodyn; mae'n anifail sydd wedi marw allan oedd yn edrych yn debyg i'r pennog modern. Bu farw'r pysgodyn hwn bron i 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl tra'n nofio yn y môr Jwrasig oedd yn gorchuddio Gwlad yr Haf. Cafodd y corff lonydd gan sborionwyr wedi iddo farw ac felly cafodd ei gladdu mewn gwaddod mân. Caledodd y gwaddod yma yn y pen draw i ffurfio carreg a cafodd y pysgodyn ei ffosileiddio y tu mewn iddi. Manylion microsgopig yn datgelu mwy o weddillion ffosiledig Er ei fod yn esiampl dda, mae'r pysgodyn ffosil hwn wedi cadw rhywbeth mwy hynod fyth hyd yn oed. Tynnodd gwyddonwyr Amgueddfa Cymru ddarnau bychan o ganol y ffosil i'w hastudio o dan ficrosgop electron. Wedi chwyddo'r ddelwedd 20,000 o weithiau, daeth rhai manylion bychan i'r golwg — haen o strwythurau pitw hirgrwn. Dyma weddillion ffosiledig bacteria. Mae bacteria wedi ffosileiddio wedi eu canfod mewn sawl lle yn y byd, ac mae'r mwyaf amlwg mewn ffosilau yn Ne America a'r Almaen. Mae'r bacteria wedi'u cadw mewn calsiwm ffosffad yn aml iawn, am fod calsiwm yn elfen gyffredin mewn gwaddod, a ffosfforws yn cael ei greu wrth i feinwe anifeiliaid bydru. Sut ydyn ni'n gwybod taw bacteria ffosil yw'r rhain? Yn gyntaf, maen nhw wedi clystyru at eu gilydd mewn cytrefi ac o faint a siâp tebyg i facteria modern. Yn ail, mae meinweoedd cellol bregus eraill, fel celloedd embryo a ganfuwyd yng nghreigiau Cambriaidd Tsieina, wedi cael eu cofnodi. Gall meinwe cyhyr wedi ffosileiddio hyd yn oed gadw manylion mewnol celloedd, er enghraifft yng nghreigiau Jwrasig Brasil a chreigiau Mïosenaidd Sbaen. Mae gwyddonwyr yn gweld achosion o ffosileiddio celloedd yn amlach, yn cynnwys bacteria, wrth iddyn nhw edrych yn fanylach ar y ffosilau yn eu casgliadau. I gloi, mewn achosion prin gall haen denau dywyll o facteria ffosil amlinellu ffosil, gan ddatgelu siâp meinweoedd cnawdol o amgylch y sgerbwd, fel yng nghreigiau Ëosen yr Almaen. Mae hyn yn dweud wrthon ni bod y bacteria wedi ffosileiddio'n gyflym wedi iddyn nhw farw. Mae'n dod yn gynyddol amlwg bod bacteria yn chwarae rôl bwysig wrth ffosileiddio, gyda'r bacteria eu hunain weithiau yn cael eu cadw. Wrth edrych ar ffosil, mae'n naturiol meddwl pa fath o anifail neu blanhigyn yw e, ond gellir gwneud rhai darganfyddiadau diddorol drwy ofyn o beth mae'r ffosil wedi ei wneud?. Mae'r ateb wrth edrych yn agosach yn peri syndod yn aml a gall fod yn allweddol i ddysgu sut y cafodd yr organeb ei ffosileiddio yn y lle cyntaf.
Clwb Cwiltio Sian Lile-Pastore, 7 Mawrth 2011 Dyma luniau o'r clwb cwiltio ddydd sadwrn diwethaf. Rydyn wedi cwrdd tair gwaith nawr ac mae hi'n sesiwn hyfryd a chyfeillgar.Mae e'n neis i gwrdd â gwahanol bobl, a mae yna gymysgedd da o bobl sydd newydd ddechrau cwiltio a rhai sydd efo ychydig fwy o brofiad. Ar hyn o bryd mae yna le i fwy o bobl i ymuno, felly anfonwch ebost neu ffoniwch i fwcio, mae'r sesiwn nesa ar 7 Mai. Tan hynny, mae'r lluniau hyn o'r sesiwn ddiwethaf yn dangos y gwaith hyd yma, os ydych wedi bod yn dod i'r clwb, plis ebsotiwch luniau ata i!
Revealing historic sketches online Graham Davies, 7 Mawrth 2011 Revealing the historic sketches of Francis Place for the very first time…After Museum conservators in the Art department had completed their conservation work on the Francis Place sketchbooks – containing some of the earliest on-the-spot- sketches of Wales in the Museums collections – I was given the task of figuring out the best way in which to present these sketches online.Secret sketches hidden for 200 yearsPlaces' sketchbooks had been taken apart 200 years ago and their pages stuck on a woven paper backing. Recent conservation work has since revealed further sketches on the reverse – sketches that have been hidden for over 200 years.What's more, these hidden sketches were a continuation of the panoramic view from the previous page – so by digitally stitching two double page panoramas together, new complete views could been created that would never have been possible to see before – even by the artist himself!Now, how could we display these new super long panoramas online whilst still allowing the detail to be seen?The default width for our webpages is set at just under 1000 pixels across, this was just not enough to be able to show off these panoramas in any detail, so I decided that the easiest solution was to add scroll bars direct to the image, allowing them to be displayed across the page whilst at the same time allowing the complete panoramas to be studied in detail.Cardiff 1678:One of these newly generated images is of a panoramic view of Cardiff, containing an unique view of the medieval town as it was back in 1678.To show this detailed sketch off in the best possible way, I decided to repurpose our interactive image navigator tool, which allows the user to pan around a high resolution image viewing details close up.By using texts from a previously published article on medieval Cardiff, I was also able to pinpoint and highlight certain aspects of the panorama that were noteworthy – be it places that have remained unchanged since medieval times, or places that have long since vanished.Francis Place goes globalTo promote this work, the marketing team at the Museum distributed several Tweets and Facebook mentions. As well as being picked up by the BBC Wales news website and local media, we also published images onto the photo sharing website Flickr and added the extra information as notes embedded within the image. To make it a bit more user focused, I posted a comment asking users to guess where the artist was postitioned as he sketched… The foreground area of the sketch has altered so dramatically since 1678, it's not as easy as it seems….
Love spoons art cart Sian Lile-Pastore, 7 Mawrth 2011 These images are from half term. We had a bit of a love theme and were looking at lovespoons, pockets and stay busks. We looked at all the kinds of patterns you find on lovespoons, from the usual hearts and commas, to horses and forks!Lots of people took their work home, but quite a few added decorations to our large lovespoons that are pictured here. I have to admit that Tracey Williams did a lot of work on the spoons and made them much more beautiful than when they started out. The next art activity i'm involved in will be part of the launch of our new Explore Nature project in Oriel 1
Mae'r crocysau wedi cyrraedd! Danielle Cowell, 3 Mawrth 2011 Bron fel hud a lledrith mae crocysau wedi blodeuo hyd a lled Cymru!Agorodd llawer ohonyn nhw yn ystod gwyliau’r hanner tymor, felly fe ddylen ni dderbyn llawer mwy o gofnodion gan ysgolion gan fod y disgyblion yn ôl yn yr ysgol nawr.Yn anarferol eleni, rydyn ni wedi derbyn cofnodion o grocws yn agor yn y canolbarth cyn cofnodion o’r gorllewin. Dyma newyddion da i Ysgol Glantwymyn sydd fel arfer yn gorfod aros hiraf am eu blodau.Darllenwch fy llythyr i weld sut i ennill trip ac i ennill eich tystysgrifau gwyddonwyr gwych.Does dim cofnodion o gennin Pedr wedi fy nghyrraedd i eto, ond dwi’n si?r y clywn ni am adroddiadau cyn hir.Mae fy nghennin Pedr i wedi dechrau troi eu pennau sy’n arwydd eu bod yn paratoi i flodeuo. Mae’r coed yn fy ngardd wedi dechrau blodeuo ac mae’r dail yn dechrau tyfu – cyn bo hir bydd fy ngardd i’n llawn lliw. Dwi methu aros! Mae llawer o arwyddion bod y gwanwyn wedi cyrraedd Sain Ffagan hefyd.Cofiwch ddweud wrtha i sut mae’ch blodau chi?Athro’r Ardd