Lansiad Prosiect Archwilio Natur yn Sain Ffagan

Hywel Couch, 23 Mawrth 2011

Ar ddydd Sadwrn, Ebrill 2, byddwn yn lansio ein project Archwilio Natur yma yn Sain Ffagan. Mi fydd y lansiad am 11am yn Oriel 1, ac yn dilyn y lansiad byddwn yn cynnal nifer o weithgareddau natur trwy’r dydd. 

Bydd cyfle i ymweld â’n cuddfan natur newydd, ble bydd aelod o staff ar gael i’ch helpu i adnabod y gwahanol adar sy’n ymweld â ni. Hefyd, bydd cyfle i ddarganfod sut i ddenu gwahanol adar i’ch gardd chi, er mwyn eu gwylio o’ch cartref. 

Mi fydd gweithgareddau hefyd yn cael eu cynnal yn ardal y Tanerdy. Mae’r Tanerdy’n gartref i amrywiaeth fawr o anifeiliaid, o’r fadfall dd?r gribog i’r ystlum pedol lleiaf prin. Dewch draw i ddarganfod mwy am y creaduriaid diddorol hyn. Byddwn hefyd yn pori’r pyllau d?r a hela bwystfilod bach, dewch i ddarganfod mwy gyda ni! 

Fel rhan o’r project Archwilio Natur rydyn ni wedi cynhyrchu dwy ffilm natur gafodd eu ffilmio yma yn yr amgueddfa. Mae’r ffilm gyntaf yn dangos yr holl amrywiaeth o fyd natur rydym yn lwcus i’w chael yma, ac mae’r ail ffilm yn canolbwyntio ar yr ystlum pedol lleiaf. Mwynhewch!

Pysgod Morol Egsotig — tystiolaeth o gynnydd yn nhymheredd y môr o amgylch Cymru?

Graham Oliver, 16 Mawrth 2011

Teircwtiad yr Iwerydd (<em>Lobotes surinamensis</em>) a ddaliwyd ger Peterstone, i'r dwyrain o Gaerdydd. Y pysgodyn gwreiddiol wedi'i gadw mewn gwirod.

Teircwtiad yr Iwerydd (Lobotes surinamensis) a ddaliwyd ger Peterstone, i'r dwyrain o Gaerdydd. Y pysgodyn gwreiddiol wedi'i gadw mewn gwirod.

Paratoi model o Deircwtiad yr Iwerydd mewn labordy yn Amgueddfa Cymru.

Paratoi model o Deircwtiad yr Iwerydd mewn labordy yn Amgueddfa Cymru.

Y model gorffenedig o Deircwtiad yr Iwerydd.

Y model gorffenedig o Deircwtiad yr Iwerydd.

Yn y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi clywed adroddiadau gan bysgotwyr ac aelodau o'r cyhoedd o bob cwr o'n glannau am ddaliadau anghyffredin a physgod morol wedi'u gadael — pysgod fyddai'n byw mewn dyfroedd tipyn cynhesach, trofannol. A yw hyn yn dystiolaeth bellach o gynnydd yn nhymheredd y môr o amgylch glannau Cymru?

Mae'r sbesimenau yma yn cael eu cludo i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael eu henwi, cyn cael eu hymgorffori i'r casgliadau cenedlaethol. Er mwyn arddangos eu lliwiau naturiol, mae castiau wedi'u peintio yn cael eu creu a'u harddangos ochr yn ochr â'r pysgod eu hunain sy'n cael eu cadw mewn hylif.

Gweld y Teircwtiad trofannol ym moroedd y DU am y tro cyntaf

Yn 2006, daliwyd Teircwtiad yr Iwerydd (Lobotes surinamensis) yn rhwyd pysgotwr ym Môr Hafren, ger Peterstone, i'r dwyrain o Gaerdydd. Gan nad oedd y pysgotwr yn adnabod y sbesimen oedd yn 60cm o hyd, daeth ag ef i'r Amgueddfa i'w enwi.

Mae Teircwtiaid i'w gweld fel arfer mewn dyfroedd trofannol ac isdrofannol, a dyma'r cofnod cyntaf ohono yn nyfroedd y DU.

Rydyn ni'n gwybod bod y pysgod yma yn hoff o aberoedd mwdlyd, sy'n esbonio i raddau pam ei fod wedi cyrraedd Môr Hafren. Mae nhw'n lled ymfudol ac i'w gweld yn aml gyda sbwriel sy'n arnofio, ac mae'n bosibl ei fod wedi teithio yma yn nyfroedd cynnes Llif y Gwlff.

Jacs, Cleddbysgod a Chrwbanod Cefn Lledr

Cafwyd daliad egsotig arall wrth geg Aberdaugleddau yn Awst 2007, pan ddaliwyd Jac ifanc. Mae'n anodd adnabod Jacs ifanc ac roedd yn rhaid tynnu delwedd pelydr X i gadarnhau taw dyma'r cofnod cyntaf o Jac Almaco yng Nghymru (Seriola rivoliana).

Mae'r rhywogaeth hon i'w gweld fel arfer yn nyfroedd cynnes y Caribî, ond rhwng Gorffennaf a Medi 2007 gwelwyd chwech ar arfordir de a gorllewin Prydain, gan ddyblu nifer y cofnodion ers y cyntaf ym 1984.

Yna yn 2008 darganfuwyd Cleddbysgodyn (Xiphias gladius) marw 2.2 metr o hyd ar draeth ger y Barri yn ne Cymru. Er nad oedd hyn yn record newydd, prin y caiff y rhywogaeth gefnforol hon ei dal yn nyfroedd Cymru.

Mae'n ymddangos bod yr adroddiadau yma am bysgod dyfroedd cynnes yn dystiolaeth bellach o gynnydd yn nhymheredd y môr. Mae'r canfyddiadau yn cyd-fynd â chynydd yn niferoedd crwbanod ym Môr Iwerddon, yn enwedig Crwbanod Cefn Lledr. Nid yw canfod y rhywogaethau morol egsotig yma'n beth newydd fodd bynnag, ac mae Llif y Gwlff wedi dod ag anifeiliaid dŵr cynhesach i'n harfordiroedd yn gyson.

Canfuwyd dwy rywogaeth o longbryfed (Bankia gouldi a Uperotus lieberkindii) mewn pren a ddaeth i'r lan ar Benrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru. Mae'r rhain yn rhywogaethau tymheredd cynnes a trofannol, a does dim cofnod ohonynt yn y DU cyn hyn.

Mae canfod rhywogaethau mor egsotig ar arfordir Prydain, neu eu canfod yn fwy cyson beth bynnag, yn adlewyrchu newid gwirioneddol yn eu hamrediad daearyddol. Mae cofnodi rhywogaethau morol yn hanfodol i'n dealltwriaeth o newidiadau o'r fath, ac mae pysgotwyr a'r cyhoedd yn chwarae rôl bwysig yn hyn — rydyn ni'n croesawu eu cymorth ac yn edrych ymlaen at y creadur rhyfedd nesaf i lanio ar ein desg ymholiadau.

Sbesimen Jac Almaco ifanc (<em>Seriola rivoliana</em>) a ddaliwyd yn Aberdaugleddau.

Sbesimen Jac Almaco ifanc (Seriola rivoliana) a ddaliwyd yn Aberdaugleddau.

Delwedd pelydr X o'r Jac Almaco ifanc a ddefnyddiwyd i'w enwi.

Delwedd pelydr X o'r Jac Almaco ifanc a ddefnyddiwyd i'w enwi.

Y Cleddbysgodyn (<em>Xiphias gladius</em>) marw a ganfuwyd ar draeth y Barri.

Y Cleddbysgodyn (Xiphias gladius) marw a ganfuwyd ar draeth y Barri. Sylwch ar y niwed i ystlys y pysgodyn, a achoswyd wedi iddo farw mwy na thebyg.

Baedd Môr (Capros aper) a ganfuwyd oddi ar arfordir Cymru.

Baedd Môr (Capros aper) a ganfuwyd oddi ar arfordir Cymru. Er nad yw'n bysgodyn prin, anaml y caiff ei weld ac mae'n byw mewn dyfroedd dyfnion gan amlaf.

Mae�r Bwdh�u cynifer a gronynnau tywod afon y Ganges: Arysgrif yn Baodingshan, Dazu, OC 1177-1249

Dafydd James, 16 Mawrth 2011

Mai 2010. Dwi’n sefyll ar bwys y pen mwyaf dwi erioed wedi’i weld. Wedi’i gerfio mewn tywodfaen a’i baentio, mae’n perthyn i Fwdha anferth sy’n lledorwedd yng nghanol teml ogof Baodingshan.  Baodingshan, ‘Copa’r Trysorau’, yw’r mwyaf syfrdanol o’r 75 safle teml wedi’u cerfio o garreg sy’n ffurfio Safle Treftadaeth y Byd Dazu yn ne-orllewin Tsieina. Mae 10,000 o ffigurau unigol i’w gweld yn y graig dywodfaen 500m, gafodd eu cerfio rhwng OC1177 a 1249.

Mae’n brofiad aruthrol. Dwi’n methu â chredu cymaint oedd yr uchelgais ar gyfer y safle Bwdhaidd; y dychymyg soffistigedig a’i cynlluniodd; a sgiliau’r artistiaid a’i cerfiodd. Rydw i yma gyda fy nghydweithiwr Steve Howe i gynllunio arddangosfa o gerfiadau Dazu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tua dechrau 2011, a dwi’n pendroni sut ydyn ni’n mynd i gyfleu hud y llefydd hyn i’n hymwelwyr ni.

Yr ymweliad yma â Dazu yw fy nhro cyntaf yn ôl yn Tsieina ers i mi dreulio cyfnod yn gweithio yma tua chanol y 1980au. Mae Tsieina wedi newid yn aruthrol wrth gwrs, ac mae cyflymdra’r newid yn dwyn anadl dyn bron cymaint â’r bwyd Sichuanaidd chwilboeth (y gorau yn Tsiena, yn fy marn i) mae ein lletywyr hael yn ein hannog i’w fwyta bob cyfle posib. Ond, er gwaetha’r newidiadau eraill, mae’r pethau pwysicaf, sef y bobl gymdeithasol, a’u balchder o’u treftadaeth ddiwylliannol ragorol, yma o hyd.

Yn ystod ein hwythnos gyda’n cydweithwyr yn Amgueddfa Cerfiadau Carreg Dazu, rydyn ni wedi datblygu cyfeillgarwch cynnes llawn ymddiried, ac rydyn ni wedi sylweddoli y bydd gennym ni gyfle i greu rhywbeth arbennig iawn yn ôl yng Nghaerdydd. Wedi’r cyfan, mae Dazu yn cynrychioli sbri mawr olaf celf mewn temlau ogof, a dyw’r trysorau o gyfnod llinach y Song (OC960-1279) ddim wedi cael eu gweld tu allan i Tsieina o’r blaen.

 

Yn ôl yng Nghymru fach, roedd y tîm arddangosfeydd yn barod am yr her, ac fe lwyddon nhw, o dan bwysau amser sylweddol, i gyfleu drama a thangnefedd ymweliad â theml ogof wedi’i cherfio mewn carreg. Mae harddwch eithriadol y cerfiadau – sy’n ysbrydol ac yn arbennig o ddynol ar yr un pryd – yn sefyll allan. O blith nifer o hoff ddarnau, byddwn yn dewis ffigur myfyriol Zhao Zhifeng, dylunydd safle Baodingshan, ac i’r gwrthwyneb yn hollol, y teulu o gymeriadau o feddrod sy’n cynnwys y tad difrifol, y fam hyfryd, a dau o blant drwg. Ond, mae’r lle blaenaf yn mynd i Fwdha Sakyamuni. Mae’r Bwdha yn ei holl ogoniant awdurdodol ac urddasol yn croesawu’r ymwelwyr i’r arddangosfa ac yn rhoi canolbwynt arbennig o ysbrydol i’r profiad.

 Roeddwn i’n arbennig o falch o weld bod y canlyniadau wedi plesio ein cydweithwyr Tsieineaidd, a hefyd o weld brwdfrydedd ymwelwyr o bob lliw a llun, boed y rheini o Gaerdydd neu Tsieina, yn arbenigwyr neu’n blant ysgol. Peidiwch â phoeni os yw’r holl ffigurau a’r syniadau Bwdhaidd, a’r syniadau Conffiwsaidd a Taoaidd sy’n plethu â nhw, yn ormod i chi. Mwynhewch y sioe, a chofiwch am arysgrif arall yn Dazu sy’n cyfleu symlrwydd Bwdhaeth: ‘o ddeall yn glir; gwelir nad oes dim i’w ddeall’.

Andrew Renton, Pennaeth Celf Gymwys, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Casgliad ffotograffau ddiwydiannol Hansen

Mark Etheridge, 15 Mawrth 2011

Un o drysorau mwyaf archif ffotograffau ddiwydiannol gyfoethog Amgueddfa Cymru yw Casgliad Hansen. Mae yn y casgliad 4,569 negatif o longau yng Nghaerdydd (gyda dwy ran o dair ohonynt yn negatifau gwydr). Fe'i tynnwyd gan aelodau o deulu Hansen rhwng 1920 a 1975 ac maent yn gofnod ffotograffig arbennig o fynd a dod llongau yn y porthladd yn ystod y cyfnod hwnnw.

<em>Bristol Queen</em>

I drigolion glannau Môr Hafren, byddai'n rhaid teithio bob haf ar un o stemars pleser 'White Funnel' P.& A. Campbell. Newydd gael ei hadeiladu oedd y Bristol Queen a welir yma yn gadael Caerdydd yn ystod haf 1947. (1179/1279)

<em>British Success</em>

Arferai Caerdydd allforio glo, olew a phetrol, ond erbyn diwedd y 1940au roeddent yn cael eu mewnforio. Adeiladwyd tancer 'BP' British Success ym 1946 ar yr afon Clud. Tynnodd Hansen ffotograff ohoni yn angori yn Noc y Rhath yng Nghaerdydd ar 2 Awst 1947. (1633/1720)

<em>City of Pretoria</em>

Roedd gweld llongau'r cwmnïau cargo Prydeinig mawr yn beth cyffredin yng Nghaerdydd yn y blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd. Adeiladwyd City of Pretoria ym Mhenbedw ym 1947 i gwmni Ellerman Bucknall Line. Dyma hi yn cyrraedd Caerdydd ym 1964, gyda phentir Penarth yn y golwg yn y pellter. (3633/180C)

<em>Peterston</em>

Wrth reswm, mae llongau cwmnïau llongau Caerdydd yn amlwg yng Nghasgliad Hansen. Adeiladwyd y llong gargo stêm Peterston yn Sunderland ym 1925 ar gyfer Evan Thomas, Radcliffe & Co., ac fe'i gwelir yma yn cyrraedd Caerdydd ym 1947. (1181/1281)

Prynwyd y casgliad ym 1979 ac ers hynny, mae print o sawl un o negatifau'r casgliad wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau gan Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Llongau'r Byd. Ym 1993 cyhoeddwyd detholiad o ffotograffau o'r casgliad ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru a Gwasg Prifysgol Cymru, gyda chefnogaeth ariannol gan y Gyfnewidfa Faltig. Bu Shipping at Cardiff: Photographs from the Hansen Collection, 1920-75 (ISBN 0-7083-1231-4) yn gyhoeddiad poblogaidd gan aildanio diddordeb yn y casgliad cyfan ac arwain at sawl ymholiad am ei gwmpas a'i gynnwys.

Morwr o Ddenmarc â diddordeb mewn ffotograffiaeth oedd Lars Peter Hansen. Ymsefydlodd yng Nghaerdydd ym 1891 gan sefydlu busnes ffotograffiaeth oedd yn canolbwyntio ar gofnodi llongau ym mwrlwm y dociau. Ym 1936, etifeddodd ei drydydd mab Leslie y busnes, a parhaodd ef i dynnu ffotograffau o longau tan ei ymddeoliad ym 1975. Yn anffodus, ymddengys nad oes unrhyw negatifau wedi goroesi o'r cyfnod cyn 1920, er bod rhai printiau o longau a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf â nod Hansen arnynt yng Nghasgliad yr Amgueddfa.

Ym 1979, penderfynodd mab Leslie Hansen, Leslie oedd ei enw yntau hefyd, werthu'r negatifau oedd yn weddill a phrynwyd y casgliad cyfan gan Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru. Swyddog Cadwraeth yr Amgueddfa ar y pryd oedd Mr Don Taylor. Aeth ati i gwblhau'r dasg anferth o ail-rifo pob negatif, eu gosod mewn bagiau negatif newydd a chasglu catalog o'r deunydd. Diolch i wybodaeth helaeth Mr Taylor o longau a'i natur drylwyr, cynhyrchwyd catalog manwl a chynhwysfawr a arweiniodd at gyhoeddi The Hansen Shipping Photographic Collection (ISBN 0-7200-0437-3) ym 1996.

Dylai darllenwyr sydd am archebu printiau o'r casgliad hwn gysylltu â:
Swyddog Trwyddedu Delweddau,
Mentrau AOCC Cyfyngedig,
Parc Cathays,
Caerdydd
CF10 3NP
Ffôn: (029) 2057 3280 neu ebostio kay.kays@amgueddfacymru.ac.uk

Nodwch enw'r llong a rhif catalog. Gellir gweld prisiau gwahanol fathau o atgynhyrchiadau ffotograffig wrth wneud cais i'r cyfeiriad uchod.

The Hansen Shipping Photographic Collection

Croeso i'r Cennin Pedr

Danielle Cowell, 14 Mawrth 2011

Hwre! Mae’r Cennin Pedr wedi cyrraedd! Adroddiadau o Ysgol Y Ffridd, Ysgol Nant Y Coed ac Ysgol Cynfran. Mae fy mylbiau i hefyd wedi agor ac maen nhw mor brydferth ag erioed.

Edrychwch ar y siartiau a’r mapiau

Dwi wedi tynnu rhai lluniau. Anfonwch eich lluniau a cofiwch gymryd rhan yn y gystadleuaeth tynnu llun blodau. Os yw hi’n heulog am hanner awr, beth am fynd i dynnu lluniau’r blodau yn yr ardd?

Darllenwch sylwadau o’r ysgolion isod.

Diolch yn fawr

Athro’r Ardd