Tafodieithoedd y Gymraeg 29 Mawrth 2011 Treforys / Morriston I lawer o bobl, gan gynnwys brodorion Cwm Tawe eu hunain, un o nodweddion hynotaf tafodiaith y cwm yw Calediad, sef, e.e., ddweud catw ac eclws yn hytrach na cadw ac eglws. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, ar gyrion tiriogaeth Calediad y mae'r cwm: mae'n nodwedd ar yr holl ardal i'r dwyrain iddo. Fel y tystia'r nodweddion canlynol, yr hyn sydd yn hynodi'r dafodiaith hon yw mai dolen gyswllt, drawsnewidiol, ydyw rhwng 'iaith Shir Gâr' a'r 'Wenhwyseg'. Transcript Odd rai'n myn' i ifed ar y slei, of cwrs, on' och chi ddim fod i fyn' i dafarne i ganu. Ŷch chi'n 'bod yr Annibenwyr, p'un e chi 'di gwbod o'r blân, fe dorrodd yr Annibenwyr Cwm Rondda mâs o'r llifer emyne. /Do fe?/ Shwrne dethôn nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yntafarne, dorrws yr Annibenwyr... dyw e'm yn llifer emyne ni nawrl Tôn y botel na Cwm Rondda. Ŷn ni'n canu C'wm Rondda acha... ma man 'yn nawr, mae man 'yn 'da fi nawr. Dere 'ma gw' boi bach. Edrychwch chi trw'r llyfyr emyne 'na. Sdim Cwm Rondda 'na /Cwm Rondda 'na/. Na Tôn y botel. Ôn nw'n strict â'r pethe 'ma slawer dydd, ôn nw? O, y ni odd y gwitha wi'n credu. Annibenwyr. Ôn i'n meddwl taw'r Methodistied odd... Methodists, ôn nw'n câl y bai 'efyd. Shwrne dethon nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yn y tafarne... Blaen-wern, odd dim lot o Blaen-wern 'ma, chwel' 'chos on nw'n can... Ethon i ganu e i tafarne, chwel'. Odd, os och chi'n ifed, 'na'ch Waterloo chi. /Ife?/ 'Na'ch diwedd chi. O ie. O, och chi ddim fod i ganu... Wel ŷn ni'n canu Cwm Rondda, ma gire Cwm Rondda gyda ni yn y manna, ond dim a'r tôn... O Duw annwl! On nw... Shwrne odd e'n myn' yn gân tafarne /ie/, ddim ishe 'wnna. On nw... Odd rai'n myn' i ifed, though, yn'd odd e? Wel, ôon nw'n ifed, ond ôn nw ddim yn openly chimod. On nw'n gwpod bo' nw'n ifed. Wel, alle gwŷr y meline byth wedi gwitho yn y meline oni bai bo' nw... i gadw i... Wel, ôn nw... meddylwch chi bo' chi'n wsu, bod cryse'n do' mâs fel 'san nw'n dod o'r dŵr. Wel och chi'n colli nerth ofnadw o'ch corff, w. Wel, mae'n marvellous bo' nw wedi byw! /'Ti, 'ti./ Duw! So ôn nw'n ifed i neud lan y dŵr? Wel ôn. Ôn nw yn. A dodi halen 'nôl yn y corff, ys wedôn nw, chwel. Wel odd e yn ffaith 'efyd. Odd jest neb odd yn gwitho'n y meline yn deetotallers. /Na./ Braidd. Nagw, nagw dirwest eriôd wedi bod yn werth yn Dreforys. Bach iawn o Band of Hopes sy 'di bod 'ma eriôd. Dim on' y plant odd yn y Band of 'Ope. Shwrne ôn nw'n dod digon 'en i ifed, ôn nw'n ifed. 'Na beth odd amcan y Band of 'Opes, 'te, odd dirwest, ife? le. Teetotallers, Band of 'Ope. O Duw annwl. On' bach iawn o rina odd i gâl. Ôn nw'n ifed i... Wel, a ôn nw mâs nos Satwn, ôn nw? Cwrdda, cwrdda yn y tafan /ie/. Wel odd ddim pictures i gâl amser 'ny. A'r unig man odd 'da nw i gwrdda odd y tafan. Wel, och chi'n myn' i dafan, och chi'n ifedl Odd y merched yn myn' i dai tafarne? Na, na byth. Odd ddim merch câl myn' i dafan. Beth... ôn nw'n 'ala 'i mâs, ôn nw? Dele 'i ddim miwn. Cele 'i ddim myn' miwn. A odd snug— gwelsoch chi'r snug eriôd? Ma ryw gof 'da fi amdanyn nw! Wel, 'na fe, dim on' i'r snug ôn nw'n cal mynd. Ife? /Ie./ Beth odd yn ots? Beth odd... Och chi ddim fod i gymisgu. Dinon a menŵod mewn tafan. Catw'r menŵod fel'a, cadw'r dinon a... 'Cer di o fanna.' Pwy fenŵod odd yn myn' i dai tafarne 'te? Y rough lot Ife? Pwy ôn nw weti 'ny, 'te? O Duw, Duw! O' son amdanoch chi. Câl menyw'n myn' i dafan, och chi'n gomon ofnadw. W, dim o'ch ishe chi! Out! Odd ddim capel i chi, och chi out. On' 'na beth od, ma dyn... ôn nw'n gweud bod dyn yn ifed, odd menyw yn llemitan. 'Na'r gair. 'Oti JohnJones...?' 'O, mae e'n ifed, oti. A ma'i wraig e'n llymitan 'efyd.' Wel, 'na'r hall mark wedi 'ny. Os odd 'i'n llymitan, walle dele 'i ddim... dele 'i ddim... odd 'i ddim câl dod. Os odd 'i'n dod i'r tafan, dim on' i'r snug odd'i'n câl dod.Jyst tu fiwn y drws. Rŵm bach, ŷch chi'm 'bod, a mâs. Odd 'i ddim câl myn' miwn i'r bar a cymisgu â dinon. O Duw, Duw! Out! Odd rai menywod yn ifed yn tŷ? Wel, dim trw wpod i ni. Na, on nw'n myn' i... On' och chi ddim cymisgu â rina, chwel'. Ôn ni'n 'bod dim amdenyn nw! Duw! Bydde Mam 'di'n lladd ni 'tân ni'n myn' i dŷ menyw odd yn ifed! 'O d... paid di â neud 'na 'to, cofia! Paid di â myn' 'da'r fenyw 'na, ma 'onna'n ifed, cofia!' O, odd 'i'n dread. Dread thing. Llymitan odd fenyw, ifed odd y dyn. 'Na od, ife! Rhosllannerchrugog Er bod llawer o nodweddion Cymraeg Rhosllannerchrugog yn cysylltu'r dafodiaith â'r Gogledd-ddwyrain a'r Canolbarth, y mae i iaith y 'pentref mwyaf yng Nghymru' ei hunaniaeth ei hun. Transcript Och chi'n cal mynd un waith y fiwyddyn efo'r capel i'r Rhyl, a'dd o'n treat mawr. /Ie./ Trên yn mynd o'r Rhos, y capelydd yn... yn uno amser honno, yntê. O! Wel odd o'n werth weil, y trip capel yndoedd? Mynd i'r Rhyl. A dene'r unig drip och chi yn gal. Llond y trên wedyn? O, oedd. Trên yn llawn. Oedd. On ni'n meddwl bo' ni'n cadw... a 'chefn, ichi feddwl, odd station Rhos yndoedd yn packed yn gweled plant yr Ysgol Sul yrŵan yn mynd i'r Rhyl. Ag odd 'i'n ... odd y station ... odd y platform yn packed y noswith 'nw, pawb yn weifio ni'n dôl. Fath â dasen ni 'di bod i ffwr' yn Llunden. 'Lla i ddim credu'r peth heddiw, cofiwch. Na alla. Na. Beth oddech chi'n neud yn Rhyl wedyn? O, bwced a rhaw yntê. O, 'chi'm pres i wario! Nag odd. Syth i ffwr' at y swnd, yntê. O' 'ne'm pres ichi wario. Nag oedd. Chi'n lwcus amser honno dasech chi'n cal dwy geniog ne dair. Diar annwl! Ma pethe 'di newid. Wedi newid yn hollol. Beth am y Pasg wedyn 'de? O, odd Pasg yn adeg arbennig iawn. O' 'ne gyfarfod yn capel Mynydd Seion, a'r Annibynwyr eto yntê. A dwi'n meddwl bo' ... bron bob capel yn uno yn y gwasaneth yn Mynydd Seion. Odd nene ar nos Wener. Ar nos lau. O' 'ne ddau pregethwr yn Mynydd Seion 'rhyd y blynyddodd i gyd. A trw'r dydd, dy' Gwener y Croglith o' 'ne wasaneth bore, pnawn a hwyr. A'r capel yn orlawn! Yn orlawn! Ag odd rhaid inni fynd, o' rhaid ni fynd. Odd o'n beth ... Wel, odd nene i'r enwade i gyd, chi'n gweld, hwn yn Mynydd Seion. Capel yr Annibynwyr yntê. Ag ... ym ... odd pobol yn cwrdd 'i gilydd chwaneg amser honno, dwi'n meddwl trw bod nw'n mynd i'r ... i'r capel a Band of Hope ag ... On nw'n ddallt bobol yn sâl. Dach chi'n gweld, Oddyn nw ... man nw'n câl chwaneg o help hiddiw, ond câl chwaneg o gymwynas a cyfeillgarwch yr amser sy 'di mynd. Pawb yn cofio am rŵun odd yn sâl, yntê. Dene 'di gwahanieth. Beth nethoch chi — beth odd ych oed chi'n gadel yr ysgol 'te? Pedwar ar ddeg oed. A beth nethoch chi wedyn, 'te? O, mynd i le och chi'n deud amser honno. I weini man nw'n deud heddiw, 'nte. O ie. O ie, mynd yn forwyn. I ble wedyn? Mynd yn forwyn i tŷ Dr. Dafis. Hen Dr. Dafis y Rhos. A cal deg sŵllt yr wsnos. Codi chwech o gloch yn y bore, a rhy flin i mynd i'ch gwely deg o gloch yn y nos. A tân amser honno'n cal 'i gynnu yn y consulting room, surgery, dispensary, morning room a room y morynion. Pump a chwe tân isho cal 'u cynnu bob dydd. Ag aech chi'n barod i ddropio yn y nos cyn ichi fynd i'ch gwely, am ddeg sŵllt yr wsnos ... A'dd Mam mor dlawd ... on i'n mynd getre efo'r papur chweugen on nw'n ddeud amser honno am ddeg sŵllt yntê, ag on i'n câl sŵllt yn dôl. A fydde Mam wastad yn deu' 'tha i, 'Cofia bod ti ishe rwbeth yn yr Ysgol Sul.' Allan o'r sŵllt 'na on i'n gâl. Ond diolch bod ni 'di gwbad be' 'di nene. Den ni 'di gweled ... ma 'ne fwy o werth yn y bywyd sy 'di mynd na be' sy 'ne ar ôl gynna i heddiw, yntê. Glowyr odd pobol y Rhos amser honno. A'dd 'i'n gymdeithas glos pan odd y glowyr, chi'n gweld. 'Chos dwi'n cofio Parch. Idryd Jones, odd y fo'n byw ar Allt y Gwter. Ag odd coliars yn mynd at 'u gwaith, cerdded amser honno. Ag odd o'n deud bod o'n cal 'i ddeffro 'mpas hann' 'di pump yn bore, coliars yn chwislo ac yn canu emyne wrth fynd at 'u gwaith, i lawr y pŵll, cofiwch chi. 'A dene,' medde fo fel ene, ''aru... odd nene i mi,' medde fo fel ene, 'fel Hallelujah Chorus,' medde fo. 'On i'n methu credu bod coliars yn callu chwislo a canu mynd at 'u gwaith,' medde fo, 'hann' 'di pump yn y bore.' le. Beth am wraig y colier wedyn? Odd digon o waith ... odd hi'n codi'n fore. O oedd! Hithe'n codi'n fore, torri bwyd mewn tun yntê. A wedyn pan fyse colier mynd getre yn y pnawn, bath ar yr ylwyd. On nw'n gorod molchi flân y tân, yndoedd? O' gynnyn nw'm byd arall i folchi. Blaenpennal, Ceredigion O wrando ar y darn hwn, mae'n annhebyg y byddai neb yn cynnig mai o'r Gogledd y deuai Mrs Evans. Eto i gyd, mae nifer o nodweddion yn ei hiaith sydd nid yn unig yn ei chlymu â chyrion y De-orllewin ond hefyd yn awgrymu cysylltiad â'r Gogledd. Transcript Ond dyna pinacl y flwyddyn odd y... Y cneifo. On ni'n edrych mlân ato fe. Och chi? Odd y gwaith ddim yn ych poeni chi? O nag odd, odd e ddim yn poeni o gwbwl. Nag odd. On ni'n hapus yndo fe. Bydden nw yn glanhau'r tŷ yn arbennig cyn yr adeg hyn nawr? O bydden! O, sgwrio! Wel, wel! A'r nosweth, nos Sul cyn cneifo on ni ddim yn mynd i'r gwely. On ni'n... y... yn... y... golchi'r llorie a neud y byrdde'n barod i'r bugeilied fyn' allan, chi 'bod. Neud te a cig a phethe felny iddyn nw. On nw'n byta fe biti dau o'r gloch y bore, cyn eusen nw allan. Pan on nw'n myn' i gasglu'r defed? Casglu'r defed, ie. le, ie. Nuson nw erioed gasglu'r defed ar nos Sul. Naddo. Mynd ar ôl hanner nos? Ar ôl hanner nos. Dou, dri ar gloch wedwch chi. Fel bydde'r wawr yn dechre torri pan fydden nw ar y top. Ie. Wel nawr, ŷn ni'n son am y bwyd, faint o fara fyddech chi'n neud och chi'n gweud? Och chi'n dechre ar ddy' Llun... Oen. Wel odd y ffwrn yn cymryd...ŵ... dorthe mowron, deg torth fawr, fel... on ni'n neud e mewn tyns mawron chi 'bod. Deg. A deg bob dyrnod nawr? le. Bob dwrnod. Neud 'run faint bob dwrnod. Och chi'n crasu wedyn dy' Llun, dy'... Dy' Mawrth, dy' Mercher, a bennu dydd Iau. Ie. A pa fara och chi'n neud wedyn? Dim on' bara gwyn. Ie, ie. A beth am y gacen? Pryd och chi'n dychre neud honno? On ni'n neud honno fel ar ddy' Mercher cyn y dy' Llun wsnoth cyn y cneifo. Fel bod 'i'n cal cadw... le, cadw a bod 'i'n... wedi seto. le. Odd hon yn gacen arbennig. O, oedd 'i'n gacen neis. Cacen îst. Beth och chi'n rhoi yndi nawr 'te? Wel, lard a fat... digon o fat cig moch amser 'ny. Cyrens, resins, siltanas, wie... Odd 'na ryw bwyse... Och chi'n roi ryw... y... chi'm 'bod? Nag odd. Plain fflŵr. Fflŵr plaen, ie. Faint o bob peth och chi'n roi? Odd 'da chi ryw...? On ni'n rhoid fel... wel, wedwch chi sawl pownd o fflŵr nawr? O, allwn i'm... alla i'm a gweud nawr. Ond on ni'n rhoid fel... 'con ni'n rhoid... ym... Odd 'i ryw bump cacen fawr, tynen fawr. 'Co ni'n rhoi hwech tyne... ym... o, 'roswch chi gal gwel'. Wel meddyliwch chi bo' rhoi hwech pownd o fflŵr. On ni'n rhoi ryw bedwar i bump o... cyrens, a rhyw bedwar i pump o shwgwr. Rhyn y cyrens a'r syltanas a phethe. Ond... O! Odd 'i'n fwy na 'ynny wi'n shŵr 'efyd. A faint o wie wedyn? O! Wel, on ni'm yn edrych! Odd rhoi padelled fawr o rini wedyn. Oen. Dwsin i jyst ddwsin a 'anner. Oen. Och chi'n neud y cyfan yr un pryd wedyn? O oen! Y cwbwl 'run pryd. Oen. Ond y job odd 'i ar y gacen, pido rhoid y ffwrn ry boeth. Odd tipyn mwy o waith wrth y gacen na wrth y bara. Caernarfon Enghraifft o dafodiaith drefol arbennig yw hon. Daeth yn gyfarwydd i'r gweddill o'r wlad drwy gyfrwng adroddiadau'r Co Bach. Transcript Oddan ni'n cal hop - hop, ia. Downsho, ia, yn Feed my lambs yn Ganarfon. Ag odd hogia Bangor yn dod i lawr ar nos Ferchar ag oddan ni'n cal fight dod cyn bus deg. Ar y Maes, 'elly ia, cyn i nw fynd adra. Ond… ym… oedd 'i'n mynd o ddrwg i waeth i ddeud y gwir, 'cos odd petha… oedd plismyn a bob peth, ia, ar nos Sadwrn yn gwatshad hogia Bangor yn mynd yn ôl 'lly am bo' hogia dre yn dyrnu nw felly. Beth odd y Feed my lambs 'ma? O Feed my lambs, wel…ym…church hall 'elly ia 'te. Ym... Ia, fel church hall odd 'i drost y ffor' i Ysgol Rad 'elly, ym…'te. A wedyn oddan ni yn cal hop yna ia, fel disgo ia. Disgo 'di o 'wan, ia. 'Te. Ag oddan ni'n mynd i fanno … ym… bob nos Ferchar os dwi'n cofio'n iawn. A nos Sadwn. I ddownsho, 'elly ia. Pwy mor bell odd pobol yn dod i... Oddan nw'm yn dod yn bell ichi, 'cos oddan nw... odd gynnon nw ofn dŵad i Gynarfon i ddeud y gwir. 'Mond hogia Fangor odd yn dŵad 'lly 'cos odd 'na lot o fights a peth felly. Beth, ôs 'na enw drwg...? Nag oes, nag oes! Pobol odd yn pigo anan ni 'elly ia. Wedyn odd raid i ni gwffio 'nôl 'te. O' lot o bobol o wlad yn dod i lawr ar nos Sadwn 'elly ia. Ag ... ym... wel wth gwrs, hogia Gynarfon yn mynd ar ôl gennod wlad, oddan, felly ia. Ag ym... a nhwtha ar ôl hogia Gynarfon am bo' ni'n well na hogia ... hogia wlad i ddeud y ... O ! Well i fi bidio deud peth... ffashwn bethau! Dod yn ôl i Feed my lambs 'wan, pan 'ddan ni'n mynd i ddownsho i Feed my lambs. Ddoth ym... Richie Prichard Brothers felly ia. Prichard Brothers firm removals yn Gynarfon mawr i lawr yn Porth yr Aur, Ganarfon. Y ... a Richie yn dod — ddoth o yna i Feed my lambs i holi os o' 'na rŵun isho mynd i actio yn ffilm Inn of the Sixth Happiness felly ia. Ag, wel, odd 'i... o' 'na ddim ysgol. Adag holidays yr 'a ' odd hyn, ia. Ag... ym... oddan ni'n gorfod cyfarfod dwrnod wedyn, ym, chwech o' gloch yn bora, ar y Maes yn Ganarfon. I neidio i tu 'nôl i lorri Richie. Ag odd o'n mynd â ni i fyny i Beddgelart i actio yn y ffilm Inn of the Sixth Happiness ia. Ag ...ym... oddan ni'n câl two guineas a day. O' 'ny'n lot o bres adag hynny 'elly ia. Tua nineteen fifty seven os dwi'n cofio'n iawn ia. Ag oddan ni'n cal 'u bwyd 'efyd ia. A wedyn be' 'ddan ni'n neud, oen ni'n gorod gwisgo fyny fel Chinese felly ia, a rhedag efo gwn ar draws ochor y mynydd 'ma. Ag oddan nw'n ffilmio ni 'lly ia. Ag ym... oddan ni gyd yno. Pawb. 'Ogia Sgubor Goch i gyd a hogia mynd i Y .. YMCA yn Ganarfon 'elly ia. Yr unig gyfla gesh i odd hwnna ia, ond mi ddaru nw films erill yn dre fel... ym... The Vikings. A dwi'm cofio hwnnw, on i 'chydig bach yn fengach adag hynny, ag ... ym... o' 'na lot o hogia Ganarfon ag un yn arbennig... Wil Napoleon 'te. Oedd o yn y ffilm yma 'te, fel Viking. Ag oddan nw allan yn y Menai Straits 'elly ia, a 'ddan nw 'di neud cwch Jôs Peilot i fyny fel llong Vikings ia. Ag ... ym... o' Wil 'di bod yn gwithio am ryw wythnos yn neud y ffilm The Vikings 'ma, ag odd o'n seinio dôl wsnos wedyn. Ag... ym... o' raid nw ofyn, - Wel, 'dach chi 'di bod yn gwithio, Wil? - Do, me' fo. - Be' 'dach chi 'di bod yn neud? - Actio yn ffilm The Vikings ia. Wel dwi isho newid papur dôl i ddeud film star 'wan. Llansawel 'General Southern Welsh' oedd ymateb un person pan glywodd y darn hwn am y tro cyntaf! Mae'n siŵr y tynnem sawl nyth cacwn am ein pennau pe cytunem â dyfarniad o'r fath ond gellir cydymdeimlo â byrdwn y gosodiad: pan gofiwn am nodweddion hynod Penfro i'r gorllewin a Morgannwg i'r dwyrain y mae'r dafodiaith hon yn swnio'n fwy 'niwtral'. Transcript Wel, weda i wthoch chi, och chi yn lladd y gwair i ddechre. Os gallech chi, a bod 'i'n sych, lladd e yn y bore. A fuodd yn nhad, odd 'dag e ddim — ddim lladdwr gwair a ceffyl yn dinnu e, a'dd e'n iwsho pladur i ladd y gwair 'ma. A bydde fe'n dechre yn y bore bach, lle bod yr haul yn dod a bydde fe'n lladd 'i 'unan wrth 'ny. Ond odd e'n gweud buodd e bwti neud gormod ryw ddyrnod, chimod. Goffo' fe orwedd lawr, yndife. Odd e... odd e wedi lladd gormod heb cal dim byd i ifed, a neud e yn y bore bach lle bod... fydde'n myn' 'nôl i odro, yndife, chimod. A wedyn ar ôl lladd y gwair 'na, och chi'n wasgaru e wedyn, a picwarch och chi'n galw 'i... Bydde fe'n lladd ystod o hyd chi'n gwel'. Bydde ddim o'r gwair gyda'i gilydd a... ma ystod o hyd, a fydde raid cymysgu hwnna lan wedyn i'r haul cal gafel 'no fe, fel ma bôn y gwair yn cal 'i godi lan lle bydde fe... lipa, chwel', yndife. Reit, welar ôl bydde hwnnw wedi dod yn sych, byddech chi'n crynhoi e yn ystodion mowr wedyn, fel y ceffyl a'r cart yn dod wedyn, ne gambo, i godi fe fanna a myn' ag e i'r tŷ gwair... A felny wi'n cofio dou falle, dwy bicwarch yn codi gyda'i gilydd, a'r un odd ar... odd... druan â hwnnw, odd 'dag e waith i ddodi'r gwair yn fflat fel bod e'n dala i bido cwmpo, chwel yndife. A odd e'n waith caled... A bydde ryw... ffarm nesa atoch chi'n lladd nawr... A wedyn os bydde rywun yn gweud 'Alli di ddod fory?' 'Galla, galla. Ddŵa i a gewch chi ddod 'nôl aton ni drennydd. Fyddwn ni'n lladd drennydd.' 'Na le on ni'n myn' yn hwys mawr ffor' 'ny wedyn. Chimod, helpu'i gilydd... [Peswch] On i'n cal ym mhen-blwydd yn... y ddouddegfed o Orffennaf a'n i'n meddwl 'na neis, bydd y gwair wedi dychre erbyn 'ny a fyddwn ni'n fishi, a... A os gelen ni gâl rw de mâs ar y câ 'da Mam wedyn. Bydde 'i'n do' mâs a pasged fowr a... A wedyn... odd bara menyn a'r jam a'r gagen a'r darten a'r llestri'n cal 'u dodi ar y llawr ar y... llien bord mowr wedyn. A 'na le on ni, ar y pelinie rown' felny wedyn. A odd stên fowr o de wedyn. A'r llâth a pethe. A bydde Nhad yn gweud 'Cofia bod ti'n dod a stên nawr, a bara cyrch a dŵr i ifed.' Pan 'dden nw a syched anyn nw yn gwitho wth y gwair, bydde hwn yn bôn y... bôn y clawdd. A bydde cwpan ne rwbeth ar 'i bwys e. On nw'n myn' i gal.., a cyrch, fel blawd cyrch yn y gwilod, a dŵr. A shiglo hwnnw nawr, odd hwnna nawr yn torri syched, chwel. O, odd e'n well.., odd ambell un yn cymysgu... ym... cwrw gwaith catre chimod. A'r stori on i'n gliwed am ym mrawd nawr, y trydydd, John odd 'i enw e. On nw'n colli John o hyd ychwel. On nw ffilu diall lle odd e, chwei. 'Le ma'r crwt 'na nawr 'te wedi mynd?' Odd John wedi hifed 'sbod e'n feddw yn cornel fan 'ny. Odd e 'di bo'n hifed yn y tshwc o 'yd o 'yd a Mam yn gwed 'Wel, wyt ti ddim... Os dim byd yn y shwc 'ma!' O! Odd e ddim yn gwbod, wir! A byti saith, wyth ôd, chwel. Wedi bod manny, a on nw'n gweud y stori 'ny bod e'n itha gwir, chwel, bode 'di ifed gormod, chwel. A cwrw gwaith catre odd e, chi'n gweld. Ynys Môn Y mae'r nodweddion a gysylltir yn reddfol â iaith y Gogledd yn amlwg yn y darn hwn gan Mrs Edith May Hughes. Transcript Y ...Ol rwan 'te, at amsar te, mi fydda 'na sosbennad o stwns rwdan, ne stwns carainsh, ne stwns rhacs, fydda'r hen bobl yn galw nw. A beth odd y stwns racs 'ma on' stwns cabatshan,'lwch. Ia. A wedyn, byddan nw 'di berwi'r gabatshan a wedyn fyddan nw'm yn rhoid y dail mawr sy ar tu allan, 'mond y rhei mwya' tendar,'te. Wedyn mi fydda rhini wedi cal 'u mhalu, ag wedi berwi. Wedyn, y, fydda'r tatws 'di cal 'u roid efo nw wedyn, rhini 'di cal 'u stwnsho, 'te. Wel, wddoch chi be? Mi odd o'n dda! Mi fysach chi'n deud bod 'na damad o gabatshan wedi mynd efo bob tatan. Odd o yn neis. Wedyn mi fydda yr iau. Padall huarn fawr fydda gin Mam, ar ben y pentan,'te. A mi fydda wedi gneud yr iau yn ara' deg. Fydda gynni hi flawd wrth law bob amsar. Wedyn, – a board 'te – wedyn, pen fydda hi'n mynd i dorri'r iau, fydda blawd ar y board, a 'dda'r iau yn cal 'i roid yn fanno. A'i sglisho wedyn, a'i dipio fo'n y blawd, cyn 'i ffrio fo, 'te. Wedi ny mi fydda nionod yn cal 'u ffrio, hefo yr iau 'ma, yn ara' deg. Wedyn mi fydda 'na lond y badall, ar ôl i'r iau neud. Fydda'n codi'r iau, a wedyn mi fydda 'na lond y badell o refi da wedi neud — efo'r nionod 'ma i gyd, te. Wedyn 'dda'r iau yn cal 'i roid i fiewn yno fo. Wedyn od o'n cadw yn dendar neis, ag yn boeth. Erbyn dôn ni o'r ysgol gyda'r nos, ylwch. Ag amsar swpar, 'te, chips Nan Ŵan fydda hi. Fydda reid deud y gwir wedyn 'te, powlan, ag am y shop chips Nan Ŵan. O, odd Nan Ŵan yn gwerth... Tydwi'm yn cofio neb yn gwneud chips ond Nan Ŵan. Y hi odd y ...yr original, chadal nhwtha 'te. Ag yn un dda. Ag yn un wŷllt! Ol, am ... am chips bendigedig odd gin Nan Ŵan! A pys – pys wedi'u mhwydo, a rhini ...tân bach odanyn nw, wn i'm sut odd 'i'n medru gneud y ffashwn bentwr ag odd 'i, wir... A ...fydda rei yn lecio bara llaeth. Ond mi gymwn i dipyn o fara llaeth os gawn i shwgwr yno fo, ne fyddwn i 'mo'i lecio fo. A digon o hwnnw, 'te. A mi dduda i wtha chi beth arall... yn yr ha' pen 'ddan ni wedi bod yn chwara ag yn chwys, fydda Mam bob amsar... digon o laeth. Pot pridd ylwch. A'r llaeth yn ffresh o'r ffarm, 'te. Lle bydda Nain yn cael y menyn, 'lwch. A ma 'na'i isho sôn am fenyn arall wthach chi hefyd, oddan ni'n gâl o'r ffermydd. Menyn pot. Ond efo'r llaeth rwan 'te. Mi fydda fy mam bob amsar pen 'ddan ni bod yn chwys yn y ...chwara 'te, yn galw anan ni i'r tŷ, a fyddan ni'n câl diod o laeth. Jwg fawr ar ganol y bwrdd. Jwg enaml, 'te. A wedyn fydda 'na jwg arall yn llawn... o'r llefrith 'ddan ni... 'llaeth' 'dach chi'n ddeud am hwnnw 'fyd 'te? Ond 'llefrith' 'ddan ni. A fydda 'na... y...powlan i bob un onan ni, llaeth wedi roi yno fo a wedyn rwbath yn debig o'r llefrith 'ma. Achos fydda'r hen bobol yn deud, os yfach chi y llefrith 'i hun, ag wedi chwysu a rhedag, y bydda fo'n corddi, ag wedyn y bydda fo'n berig, efo'r stumog, 'te. Carno Tafodiaith arbennig o ddiddorol yw hon, gan ei bod yn ardal trawsnewid nifer fawr o nodweddion gogleddol a deheuol. At hynny, y mae ynddi nodweddion sydd yn hynodi'r Canolbarth yn unig. Transcript Odd Nhæd yn credu'n gry' iawn mewn crinjar. Odd 'i dæd ynte'n credu'n gry' yn crinja[r]. Crinjar yn byw yn Llangurig, dau onyn nw. Jæms Tŷ Morris, odd hwnnw'n go' lawr yn Gwmbela[n], a'r hen Ifan Griffis i fyny yn Pant y Benni. Odd Ifan Griffis a Nhæd yn ffrindie alswn i feddwl. Ag mi... dwi'n cofio fo'n deud odd y ceffyle yn trigo yn Creigfryn, pedwar o geffyle wedi trigo yn Creigfryn, rip rap ar ôl ei gilydd. A... John Tomos Creigfryn yn gyrru, gynno fo(?) ddau gymydog yr un un enw, un yn Creigfryn,llâll yn Bron 'Au[l]. John Tomos Creigfryn yn gyrru Nhæd, John Tomos Bron 'Aul, at y crinjar yma i Langurig. Ag yn ciæl rhyw, fel rhyw weddi Lladin a rhoi hi mewn potel a rhoi honno yn 'i lofft o, uwchben y lle odd o'n gysgu, a drigodd 'na'r un, 'r un ceffyl wedyn. A glŵes e'n deud stori arall, dew, mae'n anodd 'i choelio 'i, on' ma 'i, 'dwi 'im credu dde tŷ a fa gielwydd, achos odd e wedi deud hon wtha' i lawar gwaith. Oedd 'i fem wen o yn ferch Plæs Pennant Llanbryn-mair. Ag oedd Plæs Pennant, fyny yn Cwm Pennant, ar hanner ffor' o dreflan Llanbryn-mair i Staylittle. Ag oedd 'na rhyw un yn byw mewn rhyw ben tŷ yn uwch fyny o'r enw Dot, Dot y Ceulan. A mi ddoth Dot y Ceula[nj lawr i ofyn i rieni 'i fem wen o, eise 'i lawr i station Llanbryn-mair i moyn glo. — Duw, duw, dwi rhy fisi, medde fo, dwi yn y gwair, dwi ry fisi. Ffindia rywun arall i fynd. Ag mi... Reit, mewn ryw dair wythnos o 'na gaseg læs wedi trigo yn ganol y ciæu. A mi æth yr hen, yr hen foi, yr hen ŵr, Plæs Pennant (glŵes i Nhæd 'n adrodd hon lawar gwaith) i Llangurig at y crinjar. A medde'r cr... ddudodd y crinjar, æth e fiwn i tŷ a rhyw lyfre mawr a troi drosodd o pæij i pæij ag mi, mi... gofnodd o fel 'na. — Duw, fyswn i'n licio, crinjar, fyswn i'n licio, Mr Griffis (Ifan Griffis o' enw Pant y Benni), fyswn licio, Mr Griffis, tasach chi'n gallu deu' 'tha i pwy sy wedi, wedi fy witsho i. — O, alla i ddeud 'ynny wthoch chi. Ewch adre a tynnwch calon y gaseg 'ma allan a rhowch hi ar blât mawr o flaen tæn. Reit o flæin tæn. A fel fydd y galon 'ma'n cnesu yn gwres yr tæn, mi fydd y perch... yr un sy wedi neud, wedi'ch witsho chi'n dŵad yn nes at y tŷ, yn nes at y tŷ o 'yd. Ag os dach chi'n gwbod am Plæs Pennan, ma y tŷ ar draws ffor' a wedyn mei llidiart, tŷ ar draws top y ffalt, ag yn gwaelod y ffalt mei llidiart myn' allan i ffor'. A edrych allan drwy'r ffenest, diawl yn union dyma'r Dot 'ma o Ceulan lawr yn pasho llidiart. Pasho 'i wedyn, pasho 'i wedyn, a fel odd y galon yn cnesu. Ag dyma, o'r diwedd dyma 'i'n mentro drwy llidiat a hanner fyny'r ffalt. A medde yr hen ddyn, — Duw, duw, ma fo felna, tynna'r galon nôl, dwi 'im ishe gweld y cythral tu fiwn i'r drws tŷ 'ma. Pen-caer, Sir Benfro At ei gilydd, geirfa nodweddiadol ddeheuol a gawn yn y darn hwn, e.e. bant, bord, lan, a mâs. Mwy lleol yw caran 'cariad', lŵeth 'eilwaith' a teie mâs 'adeiladau'r fferm'. O ran acen, mae yn y dafodiaith nifer o nodweddion unigryw a gysylltir â'r hen Sir Benfro. Transcript Wel, chimod oen ni'n lladd i mochyn 'eddi nowr. We'r badell bres 'da ni pyrny a'r tan... cwêd, 'te. Wel wedyn fory we' dyn, we'r bwtshwr in dwâd i dorri'r mochyn finy. Och chi'n gal e'n bishys wedyn, hams a'r palfeshi a'r ochre. A wedyn we' bar mowr o halen 'da ni a och chi'n 'ffod neud yr halen in fân wedyn a we'r... och chi'n roi'r mochyn, ir ham ar ford, gwedwch. Wel och chi'n roi'r saltpetre arno ginta, a tamed o shwgwr brown amell un, a chi'n rwbio fe miwn manna 'sbod e eitha glyb. Wedyn och chi'n rwbio fe â halen wedyn, a wedyn och chi'n troi fe wedyn a roi tam bach o salypetre rownd i'r esgyrn a halen ar hwnnw. Wel wedyn och chi'n drichid arno fory lŵeth a'i au 'alltu fe, a wedd e myn' mlân am dair wthnos fel 'na. Ble och chi'n gadel nw amser och chi'n neud hyn, 'te? In twbeie moron. O beth? O bren? Ie, pren. A wedyn och chi'n... odd e'n cal 'i godi wedyn. Och chi'n golchi'r halen bant a och chi'n 'ongian e lan. Shimle fowr we' 'da ni, chwel. Chi 'di clŵed sôn am shimle fowr? /Ydw, ydw./ Wel och chi'n hongian nw lan manna wedyn, i nw gal sychu. Ie. Am faint on nw'n aros? O, wedd e'n cwmeryd sbel i sychu, chwmod, yntê fe sbwyle, 'chod, rownd i'r asgwrn. Shwt och chi'n paratoi i ladd y mochyn? Odd...? Bwtshwr in dwâd. Ie. A we'r... we'r dŵr 'da ni'n berwi erbyn dese fe. A wedyn wên nw'n dala'r mochyn, a we'r bwtshwr yn 'i waedu fe, a chwedyn ôn nw'n cario'r dŵr berw 'ma mâs a clau'r mochyn... Wedyn on nw'n hongian e lan wedyn, hongian i mochyn lan. Ie. Ar beth? Wel, we' fel haearn 'da nw, chimod, i ddala fe. Ie. A wedyn on nw'n roi fe lan wrth ryw bîm in un o'r teie mâs. Wel wedyn 'rail dwyrnod we'r dyn in dwâd i dorri e Imny fel don i'n gweu' 'thdoch chi. Och chi'n neud rhwbeth â'r pen a'r perfedd? O, oen. Wel, oen. Buon ni'n golchi'r perfe' 'efyd, ond anan ni'n neud lot a 'wnnw in yng amser i. Naddo. Wel, 'nan ni'n lico fe, chwaith. Och chi'n neud brawn ne rwbeth â'r pen? O, oen, yn gweitho'r pen a pethe, gweitho brawn, basneidi o'no. We' hwnnw'n lovely. Beth och chi'n roi yn y brawn gyda'r...? Wel, i pen a'r tafod a... we' rhei'n roi'r cluste, on' enan ni'n roi'r cluste. Enan ni am reina. A chwedyn we', chimbod, we'r esgym 'da chi wedyn, och chi'n bwrw rina miwn a'i berwi nw 'sbod y cifan in ifflon. Wel, wedyn wêch chi'n... in tshopo fe lan wedyn a roi'r... wedd e'n seto in i jeli 'ma wedyn.... A wedyn gwedwch, we' amell un in shario. We'r llefydd bach, fel, gwedwch... dim ond tŷ ni nawr. Wel we' Mam, 'rengaran, we' mochyn bach 'da ni 'efyd. Anan ni ry dlawd i gâl mochyn. Wedd 'i'n magu mochyn bach 'i 'unan. /Ie./ Wel wedyn wedd hi'n roi tamed i... i ryw gwmwdog wedyn, fel pam bisen nwy'n lladd mochyn oen ni'n gâl e nôl. 'Na fe. Pa bart o'r mochyn bysech chi'n roi felna? Iddyn nwy? /Ie./ O, tamed bach o'r stêc a falle cese 'i asgwrn cewn, a'r asenne, chimod, i ribs. O, on nw'n shario nw mâs in neis wedyn, ychwel. Wath on nw'n shŵ'r cal e nôl, ychwel. Glynogwr Enghraifft arall o'r Wenhwyseg, iaith Dwyrain Morgannwg yw tafodiaith Mrs Williams: mae'r æ fain ganddi, mae'n caledu cytseiniaid, ac mae'n swnio'r a yn sillaf olaf ddiacen geiriau. Transcript Ond y... down i ddim gallu nuthur menyn, odd yn nilo i ry dwym. Man nw nawr. Wi'n goffod, dwi'n ffaelu'n glir a myn' mlæn â'r y... /gweu/ gwau achos man nilo i mor dwym. Ond own i'n lîco nuthur ciaws yn 'y ngalon. O... Wel nawrte, ffor' och chi'n neud caws, gwedwch wrtho i nawrte. Godro'r dæ yn gynta a allws y... mynd â'r llæth i miwn i'r y... fel cecin fawr odd 'no. A gwoshban faw[r]... o, 'na beth oen ni'n 'i gialw 'i — woshban fawr o zinc 'no. /Ie./ Allws llæth i miwn 'no, a wetiny doti cwrd... cwrdab yndo fa. A wetiny oen ni'n giwro fo. Ffor' och chi'n giwro fe? Llian. Llian drosto fo. A dwy ffon. Næ, odd rwpath wedi neud gintyn nw at y pwrpos, dros y woshban a doti llian drosto. Wetiny aros. Wi ddim cofio am bw faint nor. Duws, duws, ma blynydda 'ddar 'ny. Ag, wetiny oen ni'n 'i... odd peth gintyn nw at 'i gymysgu fo. Wetiny oen ni'n... atal a sefyll. Beth, beth odd y peth 'ma at i gymysgu fe? Wel, fel mæth o lwy fawr bren. Rownd. A wetiny oen ni'n dyfiddo'r... Wi'n cofio'n Granny yn ishta lor acha ciatar a doti... ag odd hi'n gallu dyfiddo. Odd 'i'n lico nuthur 'ny. Allws y maidd i woshban arall. Ffor' odd 'i'n gneud 'ny 'te? Odd 'na dwli yn y badell 'ma? Nægodd. Gwnnu fa o... y... Beth odd ginti nor? Sgiæl wi'n cretu odd 'i'n 'i gialw 'i. Ma gin i ryw gof. Odych chi w' clŵad y gair 'na? 'Der â'r sgiæl 'na i fi,' wetsa 'i. Ag y... Dyfiddo'r... y... Y... y ciaws. Wetiny atal a sefyll, y... Cwnnu'r woshban lan dipyn bach, a [do]ti a yn rochor lle bo'r y... y sudd yn dod mæs ry rwydd. On nw'n barticular iawn. O, odd shŵr bo' ciaws gora'n y byd 'no. Odd raid bod y sudd yno, odd e? Wel, chi'n gwpod, pido wasgu fa ry gynnar. Pido roi... Odd 'ny'n bwysig? Odd. O, odd. Os gwasgech chi fe'n ry ginnar beth odd yn... Wel odd y dioni'n dod mæs og e. Ormodd og e. O, oen nw'n barticular iawn. Dyr, diar, diar! Wel nawr, bob pryd och chi'n neud y caws 'te wedyn? O, ar ôl iddo fa... 'swch nawr... sefyll am getyn, odd isha wetiny 'i frwo fa i'r cowstall. Chi'n gwel'. Wi'm c[r]etu bo' cowstall iddi giæl nor! [Chwerthin.] Fe fu un gin i, a fu... gorffod i fi frwo fa lan. Odd y clawr a chwbwl yn llawn o... chi'n gwpod, wedi darfod, wedi myn'. Ag.. .y... llian gwyn nor ar y cowstall, a wetiny brwo'r ciaws miwn iddo. A [do]ti halan fel oeddach chi'n 'i... moyn. Llanw'r cawstall. A giatal 'wnnw sefyll wetiny am... am noswith wi'n cretu. Odd ddim ryw... o... deg... deg o warthag odd 'no wi'n cretu. Ddim lle mawr chi'n gwel'. Nægodd. Ond odd a'n le cyffwrdus iawn. Dim un fuss. Dim drifo dim 'no. Nægodd. /'Na fe./ Cyffwrdus iawn. Wel nawr, bob pryd och chi'n neud caws? Bob nos, ne pob bore, ne pryd? Ne bob douddydd? 0... bob bora. /Bob bora./ Ia, llæth y nos a'r llæth y bora gyda'i gilydd. Wel odd raid 'chi dwymo llâth y nos wedyn, odd e? Odd, odd. Witha. Witha fysin ni'n nuthur 'ny a witha ciaws llefrith oen ni'n 'i alw fa. Wel nawrte, beth yw caws llefrith? Wel, all fresh milk, chi'n gwpod. Llangynwyd Er bod rhai miloedd o Gymry Cymraeg yn byw yn y De-ddwyrain heddiw, prin iawn yw'r sawl a glywodd y dafodiaith wreiddiol; prinnach fyth yw'r rhai sydd yn ei siarad. Mae iaith Richard Griffith Thomas yn amlygu nodweddion mwyaf trawiadol y Wenhwyseg: Transcript Odd yr 'en ffwrn crasu bara yn y wal yn y manna. Ma 'i... Ma 'i 'na 'eddi, dim on' bo'r y... brics a'r... y græ ts newydd 'ma wedi gaead a miwn. Wi'n cofio bod jyst y miwn yn y ffw... yr 'en ffwrn! Odw, achos wi'n cofio odd yr arch wedi... yn tu fiwn w' dychra cwmpo. A beth fynnws Næ d odd mynnyd sæ r y Llan. Odd y sæ r, odd a'n neud y... gwaith sæ r a gwaith meiswn. On' beth nath e odd nid acor, gwitho odd' 'ma, on' acor twll o'r glowty 'rochor yco miwn i'r ffwrn. A llanw'r ffwrn o liti a doti'r brics yn ôl yn y top mwn morta' sment. A gatal nw sefyll wthnos. A wetyn, Næ d a jobyn wetyn, tynnu'r Iliti mæ s, a ma'r 'en ffwrn yn sefyll byth ag wn i. Er nag os dim crasu bara w' bod yndi es pynthag, pynthag, ddeunaw mlynadd. O, fi welas yn rai ffermydd abothu 'ma... y... on nw'n cæ l tripat. Wel, pishyn... barra harn odd a, ag odd dou o nw, dou yn dod mæ s 'ma, yn 'itsho'n y bar top man 'yn, ag odd y rest myn' t'ag yn ôI, drws y tæ n. Ag oech chi'n gallu doti citl ne grochon ar ben y tæ n ar... i sefyll arno fa. Odd 'wnnw'n rwpath odd wedi dod o'r 'en amsar pan odd y tshaen. /Ife?/ Dim on' shwrna 'riôd gwelas i'r tshaen, y tshaen a'r bechyn. Yn...mwn tŷ fferm yn y Bitws. Ond y tro dwedda own i 'no, pan odd y ffermwr sy 'no 'eddi'n myn' 'no, odd a'n altro'r cyfan. Odd a'n caead yr 'en bart 'ny fynydd, ag yn neud gecin newydd i'r modern fashion. A 'na odd pwrpas arall i'r tripat wetyn odd i ddoti'r mæ n 'arn i grasu y... ffroes a pics crynon arno fa. Welsh cakes ys gwetson nw 'eddi. /Ie, ie, ie./ Wi'n... oen nw'n gwe' 'thdo i, odd Næ d a Mam yn gwed bo' nw'n colIo iwso mæ n carrag. Oen, oen. Mæ n carrag. On' 'na beth odd gen Mam yma, a'r un peth odd gen Mam-gu yn Llest Wen, mæ n 'arn odd genti. On' odd ych tad yn cofio un... un carreg? Odd, odd. Yma? Un carrag, odd. Pwy garreg byse honno? Wel, os gen i'm cof... welas i mo 'i, on' i glŵas a'n gwed am... bod, bod y mæ n carrag wedi bod yn cæ l iwso. Achos ishtag odd ar yr 'en ffwrn bara yn y manna, plæ t carrag odd i 'onno. Wel, y... gwelas i mog e, on' wi'n cofio Næ d yn mynnyd plæ t 'arn. A wi'n gofio fa achos bod a'n... yn ddueddol o gwmpo, myn' ag e a cæ l y gof i [ddo] ti dolan iddo fa, a shelff ar 'i waelod a. 'Sa'n cwnnu lan, a [do] ti fa'n erbyn y ff... gwddwg ffwrn, odd a'n sefyll 'i 'unan wetyn. Llansannan Fel y ddau gyntaf, iaith ogleddol sydd gan Sam Davies hefyd, a'r u yn amlwg yn ei lafar. Ond yn wahanol i'r ddau o Wynedd, o ardal 'swnio'r e' y daw Mr Davies: sylwer ar enwe 'enwau', echel 'echel', a bydde 'byddai'. Transcript Ew! Dwy 'di bod yn cysidro hefo... euddwn i'n cysidro hyd 'nod yn 'ngwely neithiwr am enwe sydd ar betha ar drol. A dwy 'di methu'n glir â cofio un enw, a fedra' im cofio chwaith. Gymaint o wahanol enwe sy ar ddefnyddie mewn trol geffyl 'ndê. Dach chi'n cofio rhei onyn nw? Ydw... Wel cymwch chi'r olwyn i gochwyn, yndê. /Ia, ia./ Y cylch, y camogie /ia/, y both /ia/, yr edin /ia/, a'r bocs echel /A!/ i gymyd o'r ddwy olwyn, o olwyn i olwyn /ia, ia/. Wel ma 'ne... yn y... yn y drol wedyn, ma 'ne fel 'den ni'n deud... y crab ar ben blaen, ar drows pen blaen y drol. Fydda... fydda'r ciartar yn amal iawn adeg 'onno, dudwch bod o'n mynd i rwle, 'uda' i bod o'n mynd i'r felin efo'r gaseg a'r drol. Wel y rên, ag ista ar y crab yndê. A'i ddwy droed fel hyn ar y shafft yndê. Crab byddan nw'n galw hwnnw. /0 ia ia, ia./ Wel y frân, i godi'r drol i fyny pen fydde'n cario tail. Fydde 'ne rw bishyn bach o huarn fel 'yn a tylle yno fo felne, a wedyn gaech chi godi y pin fel byddech chi'r tail yn mynd yn... i godi hwnne 'ndê. Y din bren, fel bydden n'n deud, o' reid tynnu honno yn gynta, yndodd i, ar draws tu 'nôl. Ar draws tu 'nôl? Tu 'nôl. O, ie./ O dan y shafftie o boptu o' 'ne ddau... wel, dau ychdwr yma fel 'yn, debig iawn i ddau goes brws. Dau dwm fydden ni'n alw o. Twm. O dan y shafftie. /Ie. / A wedyn, os byddech chi... dduda' i bo' chi'n... yn dadfachu ar ganol dydd efo llwyth o wair, fyddech chi'n dadfachu'r ceffyl, a gadal y drol ar y ddau dwm 'ma, a wedyn fydde honno'n cadw'r drol yn 'run ychdwr ag oedd 'i wth y ceffyl yndê. A wedyn o' 'ne rwbeth i roi ar y drol i gario cnwd — hofygafana eudden ni'n galw 'i. Pethe i estyn y...? le. Dene fo. O! 'Na beth och chi'n galw nw, ie? Dene be' chi'n galw hwnnw. A 'ma 'ne wedyn ar hyd top yr ochor y drol, ar rw shâp, fel rw dop llong, ond fedra' i... Doedd o ddim ond 'w bishyn o bren, dudwch bod i'n deud rw ddwy fodfedd a hanner. A fedra' i yn 'y myw einios â cofio be' 'di enw o. A dwy fod yn gwbod yn iawn be' 'di enw o, 'de... Oedd o ar hyd top yr ochor i gryfhau a 'dyn y pinne sgriws 'ma'n mynd wedyn i'r ochre'r drol yndê. Ond am 'u cofio'u henwe nw! A dwy'n gwbod yn iawn bod 'ne enwe arnyn nw 'ndê. ... Gêr y ceffyl wedyn, 'de. /Ie./ Bobol bach! 'Ne chi'm byd 'blaw y siwt odd gen y ceffyl isho'i roi wth y drol. Fydden ni'n 'i alw o y strodur. Ar 'i gefn o, ie? le. A wedyn, o' 'ne y din dres eudden ni'n galw 'i. Tshaen — pad yn mynd rownd y ceffyl, a dwy tshaen yn dod i'r shafftie. O' 'ne ddwy arall mynd o'r mwnci i'r drol. Fel bydden ni yn deud, pytie tsheini fydden ni'ngalw rhini adeg 'no. /O ie./ O' 'ne beliband. /O shafft i shafft, ia?/ Ia, o dan dor y ceffyl. /A ie. le, ie./ Ym... y ffrwyn. Yr enwe odd ar y ffrwyn. Yr awen... A 'dyn y bit, trw geg y ceffyl... O'n ofynnol i geffyl gwaith wastad teg, dene fo... am geffyl shoe dene fo, dôs ne'm byd, ond o' reid i geffyl llwyth gâl... y... y... clustie fel hyn i'w ffrwyn wastad teg yndê. /O ie./ On' be 'i, basa ceffyl yn gweld 'i lwyth tu 'nôl ne gweld y gwaith 'sech chi'n neud, mi alle 'i chymid 'i'n syth. Fel odd o 'di cal 'i gau nad odd o'n gweld dim byd ond o'i flaen, 'de. Fydde gêr troi yn beth gwahanol eto? O' honno yn gêr gwahanol eto. Wel y prif beth am 'onno... dyne'r... y... eudden ni'n galw honno y cefndres. A! Fel pad ar 'i... Dyne fo. Dim ond pad drost y cefn, a bacha arni, a dwy tshaen o'r mwnci hyd i'r sgildreni bach, fel bydden ni'n deud. /Be' odden nw?/ Suldremi bach. Felne bydden ni... O' 'ne dair sgilbren i droi. Un sgilbren fawr, a'i chanol 'i'n bachu wrth yr ared, a... yn bob pen i'r silbren fawr o' 'ne ddau... fel hook fel 'dan ni'n deud. Wel bachu... y ddwy sgilbren bach yn rheini i bob ceffyl. Llanymawdddwy Naws ogleddol sydd i'r rhan fwyaf o'r geiriau a ddefnyddir yn y darn hwn, e.e. ers talwm, stalwyn a 'wan 'rwan'. Mae stingodd, ar y llaw arall, yn arwydd pendant mai o'r Canolbarth y daw Mrs Ann Jones. Transcript Fydde 'na ryw rafins ofnadwy 'ddeutu'r tŷ ar nosweth cyn priodas, yn' bydde, cogie o gwmpas yn trio gneud rywbeth i stopio'r wraig ifanc fynd ffwr' i'r briodas yn y bore yndê. Oedd, o, ma'n dal o hyd — o' 'na briodas 'rochor arall 'ma 'leni, fûm i yn y briodas yn y Fairbourne Hotel ond o' 'na rafins mawr 'na trw'r nos. On nw 'di gollwn y sgratsh defed lawr i'r ffor', a'r hen gogie'n cel sbort. On i'n clŵed nw wthi, dal ati. Ond bydde es talwm 'run peth, a rhoi rw... Ie, cwinten, cadw cwinten. Dach chi'n gwbod be' 'di rhoi rw. ..O, fûm i'n dal cwinten. Blode, a 'di rhoi nw ar ryw gortyn fel 'na, a'dd un bob pen, a wedyn fydde'r briodas yn dŵad wedyn fydde'r plant, pw bynnag fydde efo'r, efo'r gwinten, fydden yn cel pres, fydde raid i'r gŵr ifanc fod genno fo bres yn 'i boced, ceinioge oedden nw'r amser 'ynny yndê, fwyaf ichi. Ond odd ceniog yn lot yr amser 'ny yndoedd 'i? Ag os gaech chi chwech, fel on i'n deu' 'thoch chi, och chi'n ciel lot, ond oeddech chi. Ond fydde cwinten bob amser amser priodas, yntê. O bydde. O fydde 'na ryw neud a saethu mawr amser priodas. Saethu ofnadwy yn bydde? O bydde, 'dde 'na saethu ofnadwy wddoch chi amser, nos... dwrnod y briodas, yntê. Amser y ferch yma'n priodi yn Llanymowddu, yn yr eglwys Llanymowddu, o' 'na saethu mawr wth giaet yr eglwys. Oedd, i fyny i'r gwynt, yndê, i'r awyr. O oedd. Ag oen nw'n rhoi rhw, on nw yn rhoi rhyw fwgwd ar y ffor', llusgo coed ne rwbeth i stopio'r 'raig a'r gŵr ifanc fynd ffwr' 'te. 'Yna fel oedd yr amser 'ynny yntê, dach chi'n dyallt. 'Yna fo, mae o rwbath yn debyg o hyd yndydi'n dal ffor' yma hefyd, ryw hogie neud drwg, yntê a... /Ma'r gwinten wedi gorffen./ Ma'r gwinten wedi gorffen es talwm. Os neb yn dal cwinten 'ŵan, 'te. O, fydden yn cadw, yn dal cwinten, o' hynny ryw draddodiad, yntê. Wel o' 'na lawer o helynt es talwm, hen bobol wedi meddwi yn y Red Lion, a phelly, ar amser y ffair, yntê. Ag oe' 'na ryw hen ddyn, ag oedd o'n dod â stalwyn i'r ffair i adfyteisho'r stalwyn, yntê. Ag o'r hen ddyn yn eger ofnadwy am gwrw. Ag oddo 'di bod yn y Red Lion, ag oedd o ar... ar gefn... yn arwen y ceff... y stalwyn oedd o, ag oe' 'na, oe' 'na stondin yn gwerthu tuns godro a potie llaeuth. A... odd o 'di meddwi cymad mi baciodd y stalwyn i ganol y llestri a'r tuns. Ag o'r hen ddynes yn gyddeiriog o'i cho'. (Dech chi'n gwbod be' 'di bod gyddeiriog o'ch co' — o'i go'?) A fynte'n chwerthin am 'i phen 'i. Dwy fel swn i'n 'i weld o heddiw. Yr hen foi 'ydi dal 'i'n ofnadwy yn y ffair, 'tê. O, o' 'na fobol, on nw'n dod yma, o dros y Bwlch o'r Bala ffor' 'na i'r ffair, ag o Lanerfyl ago bob man i'r ffair. On ma 'i 'di gorffen es talwm, wedi gorffen es ta... [Colsyn yn syrthio o'r tân.] Nae, peidiwch â poeni, pidiwch â poeni, ma'n olreit ngwaeshi. Bydden nw'n dod yma o bob man i'r ffiria. Agos doe' 'na'm llawer o'm byd arall ar fod, yn naeg oedd, ond — gwatsha fagio hwn [Mr Jones yn mynd i godi'r colsyn] — ond ffeirie, naeg oedd. 'Na fo. A ffair glangua wedyn, o' honno, o' honno'm gimin ffair cweit, nag oedd. Ond oen nw m..., on nw'm mynd â gwartheg a pethe felly liawr i gwerthu lawr i'r Dinas, ond odden nw. Ond don nw'm yn gwerthu llawer o ddefed. Porthmyn odd yn dŵad o gwmpas i brynu defed, ydach chi'n dyallt, yndê, porthmyn, brynu defed. A wedyn fydden yn mynd â helfeydd o ddefed dros y Bwlch am Gorwen, Rhuthun, ffor' 'na. Milodd, milodd, ohonyn nw'n mynd — llond y ffor', yndê, yr amser 'ny, yntê. Dyna fo. Ond ddôth y sêls a wedyn 'na orffen am y... am y porthmyn yntê, yn prynu, ie. A wedyn fydde 'na bobol yn cer... gennyn nw fobol, be' galwch chi bobol sydd yn gyrru'r... /Drofars./ ...drofars, yntê, mynd â'r defed, yntê. O bydde. Fûm i'n mynd efo nw lawer gwaith i'r ysgol, pan oedden ni'n mynd yn blant i'r ysgol, licio ce' mynd efo nw a chel ceniog am aros mewn tylle yn y stingodd — dwi 'di deu' 'thoch chi am y stingodd — am aros yn y tylle, dach chi'n gwbod. O, odden ni'n enjoio cel mynd efo nw. Ond ar ôl mynd i'r ysgol oedden ni'n cel gwers reit ddae gen yr hen schoolmaster, bo' ni'n hwyr dod i'r ysgol. — Wel ble buoch chi? — Wel fuon yn brysur iawn yn helpu'r drofars efo'r defed. A 'na fo, mi dawelodd i lawr wedyn, yntê. Ond fydden nw'n mynd â milodd dros y Bwlch, yn' bydden nw. Bryn-crug Fel yn achos Llanymawddwy, gogleddol at ei gilydd yw'r eirfa yn y darn hwn. Ond ceir ambell air deheuol hefyd. Transcript A 'dyn mynd i'r ysgol i Abergynolwyn. Cerddad, wth gwrs, bob dydd, yndê. Cerddad yn bora, cychwyn tua wyth o'r gloch i fod yna erbyn naew. Ag, oeddan ni'n myn' 'no ddae yn y gia, ond yn y gwanwyn o' 'na dipyn o stelcian o gwmpas, edrych am adar... am nythod adar bch, yndê, a bloda gwylltion ag ati. A 'dyn oddan ni'n myn' â'n bwyd efo ni a cael yn bechdan, a... a'n panad o de efo ryw hen wraig yn Abergynolwyn, Sara Huws oddan ni'n galw 'i. A wedyn cerddad adra amsar te, yndê. geuthon ni dipyn o dywydd wth gwrs, yn y gaea, yr eira ag ati. A cherddad trwy bob tywydd... A cerddad trw bob tywydd. Amball i waith oddan ni'n cael reid, a ma' 'i'n beth rhyfadd, dan ni'n cofio bob reid oddan ni'n arfar gael amsar 'ynny. A gwaetha modd yn cofio rhai odd yn pasho ni hefyd! [Chwerthin.] Ond, odd y... rhai, o' 'na'm llawar o geir, wth gwrs, ond oedd, oedd rhai yn ffeirid iawn, yn codi ni. Ac ar bob dy' Merchar oe' 'na felun yn Bryn-crug, a 'dyn oedd hen ŵr y felun yn mynd â blawd i fyny i Abyrgynolwyn i'r... iddyn nw gal pobi 'ndê. A 'dyn oddan ni cal lifft i lawr wedyn ar y gert a'r ceffyl, yndê. /Go dda!/ Odd o'n amsar diddorol iawn... Odd Mrs Davies yn dweud 'tha' i bod ych mam, ie, yn gneud ryw feddyginiaetha mawr. O, yn nhaed... ym... ia, wel odd Mam yn neu... yn gneud y ffisig 'ma iddo fo, at y cryd melyn — dach chi 'di clŵad am y cryd melyn? Yellow jaundice, yndê, yn Sisnag. Ag ym... o, oedd, oedd, oeddan ni blant yn, hwyl fawr, bobol yn dod lawr ar y bus, yndê, ag oddan ni'n arfar gweiddi ar 'y nhaed a gorod dŵad o waith y ffarm, yndê, a 'patient chi 'di dŵad, Dad...!' [Chwerthin.] Ag y... a 'dyn odd o'n arfar mesur eda, mesur dafadd, wel fues i'n dal y dafadd lawer gwaith iddo fo, i... i edrych — oedd raid 'ddo fo gel gwybod faint odd oed y person a pa bryd y ganwyd o ag ati, yndê, pa flwyddyn. Ag wedyn odd o'n... yn gweithio rwbath, a ddaru fi 'rioed ofyn 'ddo fo sut oedd o yn gneud o. Oedd o'n arfar gweithio rwbath allan a cyfri, mesur yr eda 'ma, yndê. Ag 'ydyn oedd o'n rhoud yr eda, y 'dafadd, i'r person ar ôl fesur o dair gwaith fel'na. A rhoud y dafadd... A 'dyn odd y person yn rhoud hi am 'i, am 'i goes. Ag os oedd y cryd melyn yn gwella odd' arno fo, oedd yr edafadd yn cwmpo lawr. Ag oedd o'n gweithio — sut dwi'm yn gwybod, ond dyna un o'r hen, yr hen feddyginiaetha, yndê. Ag oedd 'y mam yn arfar neud y ffisig iddo fo. Oedd o'n arfar cael, mynd i'r gwrych o'r tu allan, a torn rhyw bren, bren cryd melyn oddan ni'n arfar 'i alw fo. Ag oedd o'n tynnu'r croen i ffwr', y rhisgil, a y peth ar ôl, cyd.., o dan y rhisgil, cyd-rhwng hwnnw a'r pren. Hwnnw odd o'n neud y ffisig, ag odd o'n felyn felyn... y darn o'r pren 'ynny 'nde. Ag, rhwng... ryw betha erill o' genno fo yn yr ardd, oedd Mam yn arfar cael y llysha 'ma yndê. Pa bren odd hwnnw, dach chi'n gwbod? Y pren cryd melyn 'ma, naeg dw, sgena i'm syniad be dio, nae dw, dim ond bod o'n galw fo pren cryd melyn a dyna fo, yndê. A'r, o, y bwyd bob amser, cneifio, bwyd dae, yndê. Agor y stafell ora bob amsar, llond cegin a'r stafell ora 'ndê o ddynion. O' 'na dros ugian i gyd bob amsar. A'r dynion... oddan ni wth yn bodd, fel oddan ni'n tyfu'n ifanc, wedyn, yn cel yr hogia ifanc yn dod i gneifio, yndê.. Ag oddan nw bob amsar yn molchi tu allan, dach chi'n gwbod, mynd â dŵr mewn desgil iddyn nw allan yndê, a 'dyn, o, yr hen hogia'n llycho'r dŵr ar... penna 'i gilydd ag ati. Oe' 'na hwyl, ddigon o hwyl. Ag amsar yr injam ddyrnu wedyn, ... dod i ddyrnu'r... y... grawnwin yndê, or wth y... gwêllt. A helynt fawr cael yr injam i ddŵad achos... Gor... mynd a ceffyla a tynnu'r injam, yndê, yn enwedig amball i hen geffyl styfnig, dach chi'n gwbod, a hwnnw'n 'cau tynnu efo'r lleill, yn strancio 'wrach. O, oeddan ni ofn i'r dynion frifo'n ofnadwy amsar 'ny. Ffynnongroyw Enghraifft o iaith yr hen Sir y Fflint. Un o nodau amgen y dafodiaith yw ei goslef, un o'r nodweddion ieithyddol anhawsaf ei disgrifio ond y gellir ei chlywed yn amlwg ar y tâp. Transcript 'Na' i ddeu' 'thych chi be' on ni yr adag yna yndê, Ffynnongroyw. Wel Ffynnongroyw ydi... dach chi'n gwbod be' ma... mae'n feddwl, yntê, bo' gynnon ni ffynnon yma. A mi odd 'i'n groyw. Ag odd y ffynnon... dyma Well Lane, man nw'n galw... dach chi'n gweld? /Ydw./ Wel yn ganol y pentra, i lawr yn Well Lane 'ma, mi o 'na ffynnon. Mae 'i yna rwan, ond bo' nw 'di châ hi fyny. A dwi 'di bod yn deu'th y cownsils 'ma, ond man nw yn deud bod nw'n mynd i ail 'i hagor 'i. A ma' 'i'n ffynnon sy 'di bod yn rhedag ar hyd yr oesoedd. A dena odd yn job mwya ni odd cario dŵr. Ag on i'n cario i 'nghartre fi, yndoedd, ag on i'n cario i ddau ne dri o gartrefi erill, ag on nw'n rhoid ceniog. On i'n lwcus yn câl ceniog. Ond dwi'n cofio on i'n canu... on i'n cario glo i rw hen ddynas yn ganol y pentra 'ma, ag odd 'i yn rhoid ceniog imi. On i'n mynd i 'nôl bwceded iddi bob yn ail dwrnod. Odd un bwcied yn gneud iddi am... A dwi'n cofio un dwrnod iddi ddeu' 'tha i bod... on' chwrs, on i'n galw 'i'n anti, on' Mam.. rw dipyn o ffrynd odd 'i i Mam. Ag odd 'i'n deud bod Anti ddim gyn newid y bora Sadwn 'na. A fasa 'i'n rhoid rhwbath imi i gofio amdani. Ag 'aru rhoid celiog imi. 'Na i ddangos o ichi ar ôl inni ddarfod. Mae o yna. Ag 'aru roid — giâr odd 'i ar nyth botyn. A ma raid bod... O, ma raid bod hi'n hen. Ond dwi'n dal i fod gynni yma. Dw'm yn meddwl bod hi'n... na, ma 'i yn y cwpwr' arall. Ma 'i yn...fan yna. Odd gynnach chi gêms i chware yn blant? Yn wahanol i be' sgynnan nw heddiw? Nag oedd. Dwi'm yn meddwl. Nag oedd. Odd pethe ddim felly. Odd... a dwi'm yn meddwl bod yr... y... athrawon gyn ddim llawar o awydd hefo gêms i ni. Beth bynnag on ni'n bigo on ni'n bigo fo fyny'n hunin, yndoedd? On ni gyn tîm bach yn yr ysgol 'ma —football. On' 'na' i ddeu' 'thych chi, o' gynnan ni ar' yn yr ysgol 'ma, i lawr y ffor' bach 'ma rwan. Ag... y... o' 'na gwmpas ugian ohonan ni. Ma' 'na' i lun ohonyn nw. A deud y gwir yntê, ôs 'na 'blaw rw... dwy'n barnu, on' ôn i'n sbia arno fo 'chydig wsnosa 'nôl, ddangos o i rŵun. A dwi'n barnu a ôs 'na 'blaw rw bedwar ohonan ni'n fyw... 'Na' i ddeu' 'thach chi be' odd ar fynd pen on i'n blen..., pen on i'n hogyn. Y coits. On nw'n chware coits. A dwi'n mynd yn d'ôl 'wan i'r dyddia y streic cynta... y... glowyr 'ndê. Nineteen twenty six. A dwy'n cofio on nw'n cal... y... competitions, chimod. Oedd. Ag on nw'n chwara y coits 'ma... rhan fwya... Ma 'na dafarn yn ben y pentra 'ma rwan, y Crown, ag odd y dafarn yna gyn cae. Ag on nw'n chwara yn y cae — y Crown 'ma. Ag odd y Miners' Welfare gyn cae yn pen yma o'r pentra. Ag on nw'n chwara competitions. Dwi'm yn gwbo' be' odd y wobr yndê, dwi'm yn gwbod. Ma'n shŵr rw sŵllt ne ddau odd i'r enillwr yndê. Ond odd y gofaint, chi'n gweld, yn gneud y coits 'ma iddyn nw. Darna o huarn crwn oddan nw'n tê.
Tafodiaith Brun-Crug, Meirionnydd 29 Mawrth 2011 Nodweddion cyffredinol 1 Fel yn achos Llanymawddwy, gogleddol at ei gilydd yw’r eirfa yn y darn hwn. Ond ceir ambell air deheuol hefyd: i gogleddol yw blawd, i fyny, ffisig, a gwrych; ii deheuol yw cwmpo. 2 O ran ei hacen, fodd bynnag, cawn fod nifer o nodweddion seinegol yn iaith Bryn-crug nad ydynt yn cyd-ddigwydd ond mewn ardal gyfyngedig iawn: i’r gogledd i Aberdyfi yn unig y clywir y nodweddion canlynol gyda’i gilydd. i Ceir yr ae fain mewn geiriau fel baech, cael ‘cael’, a naew ‘naw’. Sylwer, fodd bynnag, ar y gwahaniaeth rhwng y sain hon yn iaith Mrs Evans ac eiddo Mrs Ann Jones o Lanymawddwy. ii Swnio’r a a wneir yn y sillaf olaf mewn geiriau fel cerddad ‘cerdded’, bloda ‘blodau’, a panad ‘cwpanaid’. iii Y mae’r ardal hon ar gyrion tiriogaeth yr u ogleddol ac mae’r sain yn brin iawn: i a geir yn ei lle fel rheol, e.e. dydd, edrych, a gaea. Ar y llaw arall, ceir u ganddi weithiau lle na ddisgwylid ei chael, e.e. melun ‘melin’. Y Recordiad Enghraifft o dafodiaith de Meirionnydd. Ganed Mrs Enid o Fryn-crug ym 1922. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. A ’dyn mynd i’r ysgol i Abergynolwyn. Cerddad, wth gwrs, bob dydd, yndê. Cerddad yn bora, cychwyn tua wyth o’r gloch i fod yna erbyn naew. Ag, oeddan ni’n myn’ ’no ddae yn y gia, ond yn y gwanwyn o’ ’na dipyn o stelcian o gwmpas, edrych am adar... am nythod adar bch, yndê, a bloda gwylltion ag ati. A ’dyn oddan ni’n myn’ â’n bwyd efo ni a cael yn bechdan, a... a’n panad o de efo ryw hen wraig yn Abergynolwyn, Sara Huws oddan ni’n galw ’i. A wedyn cerddad adra amsar te, yndê. geuthon ni dipyn o dywydd wth gwrs, yn y gaea, yr eira ag ati. A cherddad trwy bob tywydd... A cerddad trw bob tywydd. Amball i waith oddan ni’n cael reid, a ma’ ’i’n beth rhyfadd, dan ni’n cofio bob reid oddan ni’n arfar gael amsar ’ynny. A gwaetha modd yn cofio rhai odd yn pasho ni hefyd! [Chwerthin.] Ond, odd y... rhai, o’ ’na’m llawar o geir, wth gwrs, ond oedd, oedd rhai yn ffeirid iawn, yn codi ni. Ac ar bob dy’ Merchar oe’ ’na felun yn Bryn-crug, a ‘dyn oedd hen ŵr y felun yn mynd â blawd i fyny i Abyrgynolwyn i’r... iddyn nw gal pobi ’ndê. A ’dyn oddan ni cal lifft i lawr wedyn ar y gert a’r ceffyl, yndê. /Go dda!/ Odd o’n amsar diddorol iawn... Odd Mrs Davies yn dweud ’tha’ i bod ych mam, ie, yn gneud ryw feddyginiaetha mawr. O, yn nhaed... ym... ia, wel odd Mam yn neu... yn gneud y ffisig ’ma iddo fo, at y cryd melyn — dach chi ’di clŵad am y cryd melyn? Yellow jaundice, yndê, yn Sisnag. Ag ym... o, oedd, oedd, oeddan ni blant yn, hwyl fawr, bobol yn dod lawr ar y bus, yndê, ag oddan ni’n arfar gweiddi ar ’y nhaed a gorod dŵad o waith y ffarm, yndê, a ‘patient chi ’di dŵad, Dad...!’ [Chwerthin.] Ag y... a ’dyn odd o’n arfar mesur eda, mesur dafadd, wel fues i’n dal y dafadd lawer gwaith iddo fo, i... i edrych — oedd raid ’ddo fo gel gwybod faint odd oed y person a pa bryd y ganwyd o ag ati, yndê, pa flwyddyn. Ag wedyn odd o’n... yn gweithio rwbath, a ddaru fi ’rioed ofyn ’ddo fo sut oedd o yn gneud o. Oedd o’n arfar gweithio rwbath allan a cyfri, mesur yr eda ’ma, yndê. Ag ’ydyn oedd o’n rhoud yr eda, y ’dafadd, i’r person ar ôl fesur o dair gwaith fel’na. A rhoud y dafadd... A ’dyn odd y person yn rhoud hi am ’i, am ’i goes. Ag os oedd y cryd melyn yn gwella odd’ arno fo, oedd yr edafadd yn cwmpo lawr. Ag oedd o’n gweithio — sut dwi’m yn gwybod, ond dyna un o’r hen, yr hen feddyginiaetha, yndê. Ag oedd ’y mam yn arfar neud y ffisig iddo fo. Oedd o’n arfar cael, mynd i’r gwrych o’r tu allan, a torn rhyw bren, bren cryd melyn oddan ni’n arfar ’i alw fo. Ag oedd o’n tynnu’r croen i ffwr’, y rhisgil, a y peth ar ôl, cyd.., o dan y rhisgil, cyd-rhwng hwnnw a’r pren. Hwnnw odd o’n neud y ffisig, ag odd o’n felyn felyn... y darn o’r pren ’ynny ’nde. Ag, rhwng... ryw betha erill o’ genno fo yn yr ardd, oedd Mam yn arfar cael y llysha ’ma yndê. Pa bren odd hwnnw, dach chi’n gwbod? Y pren cryd melyn ’ma, naeg dw, sgena i’m syniad be dio, nae dw, dim ond bod o’n galw fo pren cryd melyn a dyna fo, yndê. A’r, o, y bwyd bob amser, cneifio, bwyd dae, yndê. Agor y stafell ora bob amsar, llond cegin a’r stafell ora ’ndê o ddynion. O’ ’na dros ugian i gyd bob amsar. A’r dynion... oddan ni wth yn bodd, fel oddan ni’n tyfu’n ifanc, wedyn, yn cel yr hogia ifanc yn dod i gneifio, yndê.. Ag oddan nw bob amsar yn molchi tu allan, dach chi’n gwbod, mynd â dŵr mewn desgil iddyn nw allan yndê, a ’dyn, o, yr hen hogia’n llycho’r dŵr ar... penna ’i gilydd ag ati. Oe’ ’na hwyl, ddigon o hwyl. Ag amsar yr injam ddyrnu wedyn, ... dod i ddyrnu’r... y... grawnwin yndê, or wth y... gwêllt. A helynt fawr cael yr injam i ddŵad achos... Gor... mynd a ceffyla a tynnu’r injam, yndê, yn enwedig amball i hen geffyl styfnig, dach chi’n gwbod, a hwnnw’n ’cau tynnu efo’r lleill, yn strancio ’wrach. O, oeddan ni ofn i’r dynion frifo’n ofnadwy amsar ’ny. Nodiadau adar baech a cloda gwylltion bloda gwylltion Sylwer ar ffurf luosog yr ansoddair. bechdan ‘brechdan’ Un o’r geiriau prin a fenthyciwyd o’r Wyddeleg yw hwn; ymestyn ei diriogaeth o’r Gogledd hyd at Geredigion. Er mai ‘tafell o fara ymenyn’ oedd ystyr yr enw hwn yn wreiddiol, mae’r ystyr wedi ymledu ac erbyn hyn fe’i defnyddir hefyd am sandwich trwy Gymru gan siaradwyr iau a chan bobl ‘y pethe’ yn lle’r gair Saesneg sydd yn digwydd yn naturiol ar lafar. Ystyr drosiadol yn y Gogledd yw ‘dyn di-asgwrn-cefn’, e.e. hen frechdan (o ddyn). panad ‘cwpanaid’ ffeind ‘caredig’ O’r Saesneg fine y cafwyd yr ansoddair hwn; benthyciwyd y gair yn y De hefyd ond fel rheol fe’i clywir heb y -d ordyfol. Ystyron eraill i’r gair yw ‘hyfryd, braf, blasus’; sonnir, er enghraifft, am tywydd ffein, bwyd ffein. y gert Ceir yr eitem hon yng ngorllewin y Canolbarth ac yn y De (yn y ffurf cart); gair cyffredin y Gogledd yw trol, trwmbel sydd yn nodweddu dwyrain y Canolbarth. Benywaidd yw cert y Gogledd, eithr tuedda cart y De i fod yn wrywaidd. ffisig ‘moddion’ Dengys y LGW fod ardal Tywyn ar gyrion tiriogaeth y gair nodweddiadol ogleddol hwn. Ym Morgannwg, fel yn y gweddill o’r De, moddion yw’r gair arferol, ond defnyddir ffisig hefyd yn y rhan ddwyreiniol i gyfeirio at foddion i weithio’r coff. cryd melyn Term a gyfyngir yn ddaearyddol i’r Gogledd-ddwyrain a rhannau o’r Canolbarth. Y clwy melyn a geir yn y Gogledd-orllewin a’r clefyd melyn yw’r enw drwy’r De a’r rhan fwyaf o’r Canolbarth. Y clefyd melyn yw’r ateb a gofnodwyd yn LGW ar gyfer Aberdyfi, sef y pwynt agosafyn yr atlas at Fryn-crug. Pe gwneid astudiaeth fanylach o’r ardal mae’n dra hebyg y ceid bod cryn amrywio geirfaol ynddi. Diddorol sylwi, hefyd, fod y term clwy ede wlân wedi ei gofnodi ar gyfer yr afiechyd hwn yng Ngharno (pwynt 77 yn LGW). Am fanylion pellach, gweler T. Gwynn Jones: Welsh Folklore and Folk Custom (London, 193O), tt.13O-3, ac Evan Isaac: Coelion Cymru (Aberystwyth, 1938), tt.162-7. eda, dafadd Enghraifft ardderchog o ddybled eirfaol yn digwydd bron yn yr un gwynt! Yn ôl LGW, t.333, ceir ffurfiau ar edafedd yn y Gogledd, y Canolbarth a’r De-orllewin, tra bo eda wlân yn digwydd yn achlysurol yn y Canolbarth. Gwlân a ddywedir yn y De-ddwyrain. gweithio ‘gwneud’ Sonnir yn aml yn nhafodieithoedd y De-orllewin am ‘weithio’ bwydydd (ce. teisen, bara), dillad (e.e. hetiau, matiau, hosanau), a chelfi, ac yn y blaen. rhoud ‘rhoi’ cwmpo lawr ‘syrthio’ Gair y mae ei ddosbarthiad yn ymestyn o’r De i’r Canolbarth yw cwympo. Dylanwad y Saesneg fall down sydd yn cyfrif am ychwanegu lawr yn y cyd-destun hwn: nis ceir fel rheol yn y Gymraeg gan fod cwympo neu syrthio yn ddigonol ar eu pen eu hunain. gwrych ‘perth’ Gair nodweddiadol o’r Gogledd y mae ei diriogaeth yn cynnwys rhannau o’r Canolbarth. Yn y recordiad o Lanymawddwy, ceir enghraifft o stingodd, ffurf luosog shetin, gair yr ardal honno. pren cryd melyn ‘Berberis vulgaris’; barberry neu berberry i’r Sais. cyd-rhwng ‘rhwng’ Soniodd Mr Trefor Owen, cyn-Guradur Sain Ffagan, wrthym iddo dderbyn Ilythyr un tro oddi wrth rywun o’r ardal hon. Ar ben y ddalen ysgrifennwyd ‘Cydrhyngom’, h.y. ‘Cyfrinachol’. Ar wahân i’r ffaith bod yma ddefnydd idiomatig diddorol, dyma enghraifft odidog o’r modd y gall tafodiaith gyfoethogi’r iaith safonol. sgena i ‘nid oes gennyf’ desgil ‘powlen’ Am y gwahaniaeth rhwng desgil y Gogledd a dyshgil y De, gweler llycho ‘Iluchio, taflu’ injam < S.engine Er bod y ffurf hon yn ddieithr i glustiau’r rhan fwyaf ohonom, nodwedd ddigon cyffredin yw cyfnewid -n ac -m mewn geiriau benthyg; enghreifftiau eraill yw: button > botwm cotton > cotwm plain > plaem plane > plâm reason > rheswm saffron > saffrwm ’cau ‘gwrthod’ Talfyriad cyffredin drwy’r Gogledd o ‘nacáu’.
Tafodiaith Blaenpennal, Ceredigion 29 Mawrth 2011 Nodweddion cyffredinol O wrando ar y darn hwn, mae’n annhebyg y byddai neb yn cynnig mai o’r Gogledd y deuai Mrs Evans. Eto i gyd, mae nifer o nodweddion yn ei hiaith sydd nid yn unig yn ei chlymu â chyrion y De-orllewin ond hefyd yn awgrymu cysylltiad â’r Gogledd. I O ran yr eirfa: i Â’r De yn gyffredinol y cysylltir biti ‘tua’, ffwrn, pownd ‘pwys’, ac — yn wahanol i Mr Thomas o Garno — fe yw’r unig ffurf ar ‘ef’. ii Ar y llaw arall, gogleddol yw allan a byrdde. 2 Ymddengys fod nifer o nodweddion yr acen yn sefydlog, e.e. i hw, yn hytrach na chw, a geir yn hwech ‘chwech’. ii e a geir mewn geiriau fel bydden ‘byddem’, nosweth ‘noswaith’, a llorie ‘lloriau’ 3 Mwy cyfnewidiol yw eraill o nodweddion yr acen: mae’r rhain i bob diben yn ddeheuol ond dangosant hefyd fod y dafodiaith ar gyrion eithaf y Gogledd: i mae’r dafodiaith i bob diben yn ddi-u, ond fe glywir u mewn rhai geiriau prin; enghraifft yn y darn hwn yw neud. ii ansawdd yr l: clir ydyw fel rheol, ond ceir l dywyll y Gogledd hefyd yn achlysurol e.e. fel. iii i o flaen terfyniadau: mae cneifo a padelled ‘padellaid’ yn ddeheuol, ond gogleddol yw meddyliwch. iv h: fe’i ceir yn hapus, hanner, a honno, ond nid yn ’anner. 4 Nodwedd a gysylltir yn benodol â’r De-orllewin yw’r y dywyll mewn geiriau unsill: yr unig enghraifft yn y darn hwn yw tyns ‘tuniau’. Ar gyrion yr ardal sydd yn defnyddio y dywyll mewn geiriau fel mynd, byth, a pymp ‘pump’ y mae Blaenpennal, ac felly nid annisgwyl clywed i yn mynd a pump. 5 Sylwer yn arbennig ar y seiniau sydd yn cyfateb i ‘ae’ ac ‘oe’ yr iaith ysgrifenedig: i llafariad seml, â, sydd yn mlân ‘ymlaen’, ond ii deusain, oi, sydd yn erioed a poeth. Y Recordiad Enghraifft o dafodiaith Ceredigion. Ganed Mrs Elizabeth Evans o Flaenpennal ym 1900. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Ond dyna pinacl y flwyddyn odd y... Y cneifo. On ni’n edrych mlân ato fe. Och chi? Odd y gwaith ddim yn ych poeni chi? O nag odd, odd e ddim yn poeni o gwbwl. Nag odd. On ni’n hapus yndo fe. Bydden nw yn glanhau’r tŷ yn arbennig cyn yr adeg hyn nawr? O bydden! O, sgwrio! Wel, wel! A’r nosweth, nos Sul cyn cneifo on ni ddim yn mynd i’r gwely. On ni’n... y... yn... y... golchi’r llorie a neud y byrdde’n barod i’r bugeilied fyn’ allan, chi ’bod. Neud te a cig a phethe felny iddyn nw. On nw’n byta fe biti dau o’r gloch y bore, cyn eusen nw allan. Pan on nw’n myn’ i gasglu’r defed? Casglu’r defed, ie. le, ie. Nuson nw erioed gasglu’r defed ar nos Sul. Naddo. Mynd ar ôl hanner nos? Ar ôl hanner nos. Dou, dri ar gloch wedwch chi. Fel bydde’r wawr yn dechre torri pan fydden nw ar y top. Ie. Wel nawr, ŷn ni’n son am y bwyd, faint o fara fyddech chi’n neud och chi’n gweud? Och chi’n dechre ar ddy’ Llun... Oen. Wel odd y ffwrn yn cymryd...ŵ... dorthe mowron, deg torth fawr, fel... on ni’n neud e mewn tyns mawron chi ’bod. Deg. A deg bob dyrnod nawr? le. Bob dwrnod. Neud ’run faint bob dwrnod. Och chi’n crasu wedyn dy’ Llun, dy’... Dy’ Mawrth, dy’ Mercher, a bennu dydd Iau. Ie. A pa fara och chi’n neud wedyn? Dim on’ bara gwyn. Ie, ie. A beth am y gacen? Pryd och chi’n dychre neud honno? On ni’n neud honno fel ar ddy’ Mercher cyn y dy’ Llun wsnoth cyn y cneifo. Fel bod ’i’n cal cadw... le, cadw a bod ’i’n... wedi seto. le. Odd hon yn gacen arbennig. O, oedd ’i’n gacen neis. Cacen îst. Beth och chi’n rhoi yndi nawr ’te? Wel, lard a fat... digon o fat cig moch amser ’ny. Cyrens, resins, siltanas, wie... Odd ’na ryw bwyse... Och chi’n roi ryw... y... chi’m ’bod? Nag odd. Plain fflŵr. Fflŵr plaen, ie. Faint o bob peth och chi’n roi? Odd ’da chi ryw...? On ni’n rhoid fel... wel, wedwch chi sawl pownd o fflŵr nawr? O, allwn i’m... alla i’m a gweud nawr. Ond on ni’n rhoid fel... ’con ni’n rhoid... ym... Odd ’i ryw bump cacen fawr, tynen fawr. ’Co ni’n rhoi hwech tyne... ym... o, ’roswch chi gal gwel’. Wel meddyliwch chi bo’ rhoi hwech pownd o fflŵr. On ni’n rhoi ryw bedwar i bump o... cyrens, a rhyw bedwar i pump o shwgwr. Rhyn y cyrens a’r syltanas a phethe. Ond... O! Odd ’i’n fwy na ’ynny wi’n shŵr ’efyd. A faint o wie wedyn? O! Wel, on ni’m yn edrych! Odd rhoi padelled fawr o rini wedyn. Oen. Dwsin i jyst ddwsin a ’anner. Oen. Och chi’n neud y cyfan yr un pryd wedyn? O oen! Y cwbwl ’run pryd. Oen. Ond y job odd ’i ar y gacen, pido rhoid y ffwrn ry boeth. Odd tipyn mwy o waith wrth y gacen na wrth y bara. Nodiadau hwech pownd o fflŵr tyns mawron Ceir enghraifft arall o ffurf luosog i’r ansoddair mawr yn y recordiad o Ben-caer. bennu ‘gorffen’ Ffurf ar dibennu yw hon, wrth gwrs, gair sydd yn nodweddiadol o’r De-orllewin. Gorffen a geir drwy’r Gogledd ond ceir hefyd diwedd (heb yr -u arferol) yn nwyrain y Canolbarth a phen uchaf Ceredigion. Cwpla a geir yn y De-ddwyrain, a’r amrywiad cwplo yn nwyrain Morgannwg. wsnoth ‘wythnos’ Sylwer ar y trawsosod yn y gair hwn, sydd yn nodweddiadol o rannau o’r De-orllewin. Wsnos yw ffurf arferol y Gogledd; tuedd y De-ddwyrain a rhannau helaeth o’r De-orllewin yw dweud wthnos. îst Gair benthyg amlwg yw hwn o’r Saesneg ond wrth ei dderbyn i’r Gymraeg addaswyd ei ddechreuad i gydymffurfio â phatrwm y Gymraeg. Yn y Saesneg ceir ‘i gytsain’ ddechreuol (fel yn y geiriau Cymraeg iâ a iawn) a’i dilyn gan ‘î lafarog’ (fel yn hir a gwin y Gymraeg). Nid oes yr un gair brodorol Cymraeg yn dechrau â’r olyniad i gytsain + î lafarog; felly addaswyd y patrwm i gydweddu â phosibiliadau’r Gymraeg drwy golli’r i gytsain. Enghraifft debyg yw’r berfenw ildio, sydd yn cynnwys y Saesneg yield. Olyniad arall a geir yn y Saesneg ond sydd yn estron i’r Gymraeg yw w gytsain + ŵ lafarog; fe’i haddaswyd yntau mewn modd tebyg wrth fenthyg geiriau: drwy golli’r elfen gytseiniol ddechreuol. Fe’n hatgoffir yn rheolaidd o’r broses hon gan gyfeillion inni o’r Gogledd sydd yn byw mewn lle yng Nghaerdydd a alwant yn Cwinswd, sef — yn swyddogol — Queenswood, ac yn mynychu tafarn yr Wdfil (Woodville). cig moch Ceir y term hwn drwy’r wlad ond yn y Gogledd mae’r gair Saesneg bacwn neu becn yn cystadlu ag ef. Er na chynhwyswyd y geiriau hyn yn LGW, fe geir map yn dangos dosbarthiad y termau cig eidion a bîff. Yr hyn a welwn yn yr achos hwn yw hod y term Cymraeg i’w gael bron yn gyson drwy’r De tra bo atebwyr y Gogledd bron i gyd wedi cynnig y gair Saesneg. fflŵr ‘blawd’ Gair y De-orllewin yw hwn, wedi ei fenthyca o’r Saesneg. Yn y De-ddwyrain y gair arferol yw can ac yn y Gogledd dywedir blawd. Ansoddair oedd can yn wreiddiol, yn golygu ‘gwyn’: fe’i ceir yn y berfenwau cannu ‘gwynnu’, a caneitio neu cneitio, a ddefnyddir mewn rhannau o’r Gogledd wrth gyfeirio at dywynnu’r sêr a’r lleuad mewn ymadroddion fel Mae’r sêr yn cneitio’n arw heno. Yn yr ymadroddion blawd can ‘blawd gwyn’, a gofnodwyd yn nwyrain Morgannwg, a fflŵr can, a geir ym Mhenfro (gweler S Minwel Tibbott, Geirfa’r Gegin), mae can yn dal i fod yn ansoddair. Mae’n ddigon tebyg mai ffurfiau fel y rhain a geid yn gyffredinol drwy’r De-ddwyrain ar un adeg. Ond yn y De-ddwyrain aeth can i olygu’r blawd ei hun ac erbyn hyn nis defnyddir fel ansoddair yn y tafodieithoedd. pownd ‘pwys’ ’con ni ‘ac oeddem ni’
Tafodiaith Ffynnongroyw, Dwyrain Clwyd 29 Mawrth 2011 Nodweddion cyffredinol Enghraifft o iaith yr hen Sir y Fflint. Un o nodau amgen y dafodiaith yw ei goslef, un o’r nodweddion ieithyddol anhawsaf ei disgrifio ond y gellir ei chlywed yn amlwg ar y tâp. Nodweddion diddorol eraill yw: I Dull y dafodiaith o ddefnyddio gan i ddynodi meddiant, ac y ceir sawl enghraifft ohono yn y darn: odd ’i’n deud bod Anti ddim gyn newid dwi’m yn meddwl bod yr... athrawon gyn ddim llawar o awydd odd y dafarn yna gyn cae dwi’n dal i fod gynni. 2 Er bod Ffynnongroyw ymhellach i’r dwyrain na Llansannan, tafodiaith-a sydd gan Onesimus Davies ac nid tafodiaith-e fel Sam Davies; cf. adag ‘adeg’, dynas ‘dynes’, pentra ‘pentref’, a rhedag ‘rhedeg’. Am fod y pentref yn y llain denau o diriogaeth a sydd yn ymestyn ar hyd arfordir y Gogledd-ddwyrain y mae hyn. Tystia bwceded ‘bwcedaid’ a pethe ‘pethau’, fodd bynnag, nad yw’r dafodiaith yn gwbl ddi-e. Dengys yr enghreifftiau hyn un o dueddiadau’r dafodiaith, sef cadw e yn y sillaf olaf pan fo e arall yn y goben. Y Recordiad Enghraifft o dafodiaith gogledd-ddwyrain Cymru. Ganed Ness Davies o Ffynnongroyw ym 1917. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan:Amgueddfa Werin Cymru. ‘Na’ i ddeu’ ‘thych chi be’ on ni yr adag yna yndê, Ffynnongroyw. Wel Ffynnongroyw ydi... dach chi’n gwbod be’ ma... mae’n feddwl, yntê, bo’ gynnon ni ffynnon yma. A mi odd ‘i’n groyw. Ag odd y ffynnon... dyma Well Lane, man nw’n galw... dach chi’n gweld? /Ydw./ Wel yn ganol y pentra, i lawr yn Well Lane ‘ma, mi o ‘na ffynnon. Mae ‘i yna rwan, ond bo’ nw ‘di châ hi fyny. A dwi ‘di bod yn deu’th y cownsils ‘ma, ond man nw yn deud bod nw’n mynd i ail ‘i hagor ‘i. A ma’ ‘i’n ffynnon sy ‘di bod yn rhedag ar hyd yr oesoedd. A dena odd yn job mwya ni odd cario dŵr. Ag on i’n cario i ‘nghartre fi, yndoedd, ag on i’n cario i ddau ne dri o gartrefi erill, ag on nw’n rhoid ceniog. On i’n lwcus yn câl ceniog. Ond dwi’n cofio on i’n canu... on i’n cario glo i rw hen ddynas yn ganol y pentra ‘ma, ag odd ‘i yn rhoid ceniog imi. On i’n mynd i ‘nôl bwceded iddi bob yn ail dwrnod. Odd un bwcied yn gneud iddi am... A dwi’n cofio un dwrnod iddi ddeu’ ‘tha i bod... on’ chwrs, on i’n galw ‘i’n anti, on’ Mam.. rw dipyn o ffrynd odd ‘i i Mam. Ag odd ‘i’n deud bod Anti ddim gyn newid y bora Sadwn ‘na. A fasa ‘i’n rhoid rhwbath imi i gofio amdani. Ag ‘aru rhoid celiog imi. ‘Na i ddangos o ichi ar ôl inni ddarfod. Mae o yna. Ag ‘aru roid — giâr odd ‘i ar nyth botyn. A ma raid bod... O, ma raid bod hi’n hen. Ond dwi’n dal i fod gynni yma. Dw’m yn meddwl bod hi’n... na, ma ‘i yn y cwpwr’ arall. Ma ‘i yn...fan yna. Odd gynnach chi gêms i chware yn blant? Yn wahanol i be’ sgynnan nw heddiw? Nag oedd. Dwi’m yn meddwl. Nag oedd. Odd pethe ddim felly. Odd... a dwi’m yn meddwl bod yr... y... athrawon gyn ddim llawar o awydd hefo gêms i ni. Beth bynnag on ni’n bigo on ni’n bigo fo fyny’n hunin, yndoedd? On ni gyn tîm bach yn yr ysgol ‘ma —football. On’ ‘na’ i ddeu’ ‘thych chi, o’ gynnan ni ar’ yn yr ysgol ‘ma, i lawr y ffor’ bach ‘ma rwan. Ag... y... o’ ‘na gwmpas ugian ohonan ni. Ma’ ‘na’ i lun ohonyn nw. A deud y gwir yntê, ôs ‘na ‘blaw rw... dwy’n barnu, on’ ôn i’n sbia arno fo ‘chydig wsnosa ‘nôl, ddangos o i rŵun. A dwi’n barnu a ôs ‘na ‘blaw rw bedwar ohonan ni’n fyw... ‘Na’ i ddeu’ ‘thach chi be’ odd ar fynd pen on i’n blen..., pen on i’n hogyn. Y coits. On nw’n chware coits. A dwi’n mynd yn d’ôl ‘wan i’r dyddia y streic cynta... y... glowyr ‘ndê. Nineteen twenty six. A dwy’n cofio on nw’n cal... y... competitions, chimod. Oedd. Ag on nw’n chwara y coits ‘ma... rhan fwya... Ma ‘na dafarn yn ben y pentra ‘ma rwan, y Crown, ag odd y dafarn yna gyn cae. Ag on nw’n chwara yn y cae — y Crown ‘ma. Ag odd y Miners’ Welfare gyn cae yn pen yma o’r pentra. Ag on nw’n chwara competitions. Dwi’m yn gwbo’ be’ odd y wobr yndê, dwi’m yn gwbod. Ma’n shŵr rw sŵllt ne ddau odd i’r enillwr yndê. Ond odd y gofaint, chi’n gweld, yn gneud y coits ‘ma iddyn nw. Darna o huarn crwn oddan nw’n tê. Nodiadau dwi ddim gyn newid ail ’i hagor ’i Er bod cystrawennau fel hanner ’i lladd (h)i a newydd ’i hagor (h)i ar arfer drwy’r wlad, dieithr i glust y deheuwr yw ail ’i hagor (h)i. Yn y De, cyfansoddeiriau yw cyfuniadau fel ail agor ac ail godi ac felly daw rhagenwau fel ei o flaen y ffurf gyfan, e.e. ’i hail agor hi. Yn y Gogledd, ar y llaw arall, ni cheir perthynas mor glos rhwng ail a berfenwau ac felly — fel y dengys yr enghraifft hon, ac yn debyg i’r hyn a geir pan fo elfennau eraill fel newydd yn rhagflaenu berfenw — o flaen y berfenw y daw unrhyw ragenw blaen. dena ‘dyna’ / Ffurf ardal-a ar dene, sef y ffurf gyfatebol mewn ardal-e. yndoedd ‘onid oedd’ Un o brif swyddogaethau atodeiriau fel hwn yw sicrhau bod y gwrandawr yn dilyn rhediad sgwrs drwy ofyn iddo gytuno â’r siaradwr. Atodeiriau di-ferf (fel felly ac yntê) sydd yn y darnau o Gaernarfon a Llansannan, ond pan fo’r atodair yn cynnwys berf disgwylir iddi gytuno â pherson a rhif yr hyn y cyfeiria ato. Disgwylid yma, felly, ffurf lafar ar ‘onid oeddwn’. Yn iaith yr ardal hon, fodd bynnag, ymddengys fod yndoedd wedi ymgaregeiddio yn ffurf gyffredinol. Ceir enghraifft arall isod: on ni’n bigo fo fyny’n ’unin yndoedd, ac un hefyd yn y darn o’r Rhos. rhoid ‘rhoi’ Ffurf lafar gyffredin; ceir enghreifftiau hefyd yn y darnau o Lannerch-y-medd, Bryn-crug, a Blaenpennal. ceniog ‘ceiniog’ Ffurf gyffredin yn y Gogledd-ddwyrain a’r Canolbarth: Gair arall y ceir e ynddo yn y goben yn hytrach na’r ei ddisgwyliedig yw celiog ‘ceiliog’. dynas ‘dynes’ ‘A N. Walian vulgarism which has found its way into recent literature’ oedd dyfarniad SyrJohn Morris Jones am y ffurf hon yn ei Welsh Grammar. O ganol yr l6g y daw’r enghraifft gyntaf o’r gair a ddyfynnir yn GPC ac awgrym pellach mai ffurfiad cymharol ddiweddar ydyw yw’r ffaith nad oes eto ffurf luosog iddo. At ei gilydd, yn lleol y defnyddir dynes ac anaml y clywir y gair na’i weld mewn cyd-destunau ffurfiol. Y mae statws cymharol dynes y Gogledd, felly, yn debyg i eiddo menyw y De. Er gwaethaf y condemnio a’r diffyg lluosog a statws, ysbrydolwyd rhyw Arfonwysyn i lunio’r enw persain dynas benfelan ar yr aderyn y gelwir y benfelen, llinos benfelen, drinws felen neu melyn yr eithin arno mewn ardaloedd eraill. anti Fel yr esbonia Mr Davies, nid at berthynas o waed y mae’n cyfeirio ond at gymdoges a oedd yn gyfeilles agos i’r teulu. Mewn nifer o ardaloedd eraill ceir ffurfiau anwes ar modryb yn enwau ar wraig o’r fath: dodo a bodo yn y Canolbarth a’r Gogledd-ddwyrain, a’r ail ffurf yng Ngheredigion hefyd, bopa ym Morgannwg, a boba gynt yng Ngwynedd. Prin erbyn hyn yw’r defnydd o modryb a’r ffurfiau anwes yn y tafodieithoedd: yr enw Saesneg sydd yn gyffredin ym mhob ardal. Fe glywir bopa o hyd mewn ambell fan yn y De-ddwyrain, fodd bynnag, yn enw gan blant ifainc ar gyfeilles neu gymdoges hŷn. Anaml y clywir ewyrth (a phrinnach fyth yw’r ffurf anwes ewa): disodlwyd yr enw hwn gan yncl yn y Gogledd ac wncwl yn y De. bod hi Sylwer mai’r hyn sydd ar y tâp yw boti. Dyma ffurf nodweddiadol ogleddol: yr hyn a glywn yn y t yw canlyniad ymdoddi’r d a’r h yn llwyr. Ceir enghraifft arall isod, ll.19, a hefyd un yn y darn o Fryn-crug, lle y ceir rhouti ‘rhoi(d) hi’. Digwydd y cyfnewid yn gyffredin pan fo d ddiweddol yn rhagflaenu h — cf. ’i thati ‘ei thad hi’, ’i gwelti ‘ei gweld hi’ — a cheir datblygiad tebyg pan ddaw b ac g ar ddiwedd geiriau ac h yn eu dilyn, e.e. ’i mapi ‘ei mab hi’, ’i checi ‘ei cheg hi’. Am mai apelio at y glust y mae barddoniaeth y ceir enghreifftiau o’r cyfnewid mewn cynghanedd, e.e. ‘Gair teg a wna gariad hir’. potyn ‘tsieni, tsieina’ Sonnir hefyd yn yr ardal am ŵy potyn (ŵy addod mewn rhannau o’r Gogledd, wi addo mewn rhannau o’r De, wi promish neu nythwi ym Morgannwg), sef ŵy tsieina a roddir yn y nyth i ddenu’r iâr i ddodwy. Nodweddiadol o Saesneg Gogledd Lloegr yw defnyddio pot i olygu llestr pridd; dyma, felly, enghraifft benodol o ddylanwad y math hwnnw o Saesneg ar Gymraeg y cylch hwn. ar’ ‘gardd’ Ys nodwyd eisoes, Pennod 3, t.46, cyffredin yw colli’r dd ddiweddol o glwm rdd. Sylwer sut y mae’r llafariad wedi hwyhau. ma ’na’ i lun ‘mae gennyf lun’ Os ’na ’blaw rw bedwar ‘Nid oes ond rhyw bedwar’ Enghraifft yw hon o’r defnydd hynod o heblaw yn y Gogledd-ddwyrain lle y tuedda ardaloedd eraill i ddewis ond. Ceir enghraiftt arall yn y dam o Lansannan; Glywis i ddim am hwnnw blaw ar y dydd cynta o Ebrill Odd o ’blaw sbort, wyddoch chi Dwi’m yn cofio gweld neb o Helygain ’te; oddan nw ’blaw jest ciwad o’r Mynydd y Fflint ’ma dwi’n mynd yn dôl Ceir tystiolaeth fod defnyddio mynd yn dôl mewn cyd-destunau fel hyn nad ydynt yn cyfeirio at ail berson yn bosibl mewn sawl ardal yn y Gogledd, ond ymddengys fod y gystrawen yn arbennig o gyffredin yn y Gogledd-ddwyrain; Dewis ardaloedd eraill a’r iaith safonol fyddai mynd yn ôl. Y mae’n debyg mai ffrwyth camrannu yw yn dôl. Er mwyn olrhain datblygiad y ffurf rhaid cyfeirio yn gyntaf at un o’r gwahaniaethau rhwng cystrawen yr arddodiad cyfansawdd yn ôl yn y De a’r Gogledd. Yn y De, trafodir yn ôl fel uned nad oes angen ychwanegu rhagenw ati; yn y Gogledd, y duedd yw ychwanegu rhagenw. Cymharer y brawddegau canlynol: Rwy’n mynd yn ôl Rwy’n mynd yn f’ôl Fyddwch chi’n dod yn ôl? Fyddwch chi’n dod yn eich ôl? Aeth yn ôl Aeth yn ei ôl Rhaid iti fynd yn ôl Rhaid iti fynd yn d’ôl O addasu ffurf ambell air byddai’r frawddeg gyntaf ym mhob un o’r parau uchod yn dderbyniol rnewn unrhyw dafodiaith (gan gynnwys yr iaith safonol). Mewn tafodieithoedd gogleddol yn unig y byddai’r ail frawddeg ym mhob pâr yn ddilys. Yn yr enghraifft olaf defnyddir y rhagenw dy yn yn d’ôl am mai at ti y cyfeirir. O fynych ddefnyddio yn d’ôl mewn cyd-destunau o’r fath, fodd bynnag, dechreuwyd ystyried mai’r elfennau oedd yn + dôl. Gellid, felly, ddefnyddio dôl fel yn yr enghraifft yn y darn hwn heb ymwybyddiaeth mai at ti y cyfeiriai. Ffurf debyg yw Dewyrth, y gellid ei defnyddio gynt yn y Gogledd yn enw ar ewythr heb gyfeirio yn benodol at ti, e.e. Dewyrth i ydi o ‘Fy ewythr i ydyw’. (Gweler ymhellach y dyfyniad o waith William Phillips ar ddechrau’r darn nesaf.) Ceir enghreifftiau o bob rhan o’r wlad o gamrannu yng nghyd-destun y fannod, yr, ac enwau. Enghreifftiau yw: yr hiniog > y rhiniog Yr Achub > Rachub (lle yn ymyl Bangor) y rholbren > yr holbren (Y Gogledd; Y Rhos) yr ig > (y) rig (Y De) yr heol > y rhewl (‘buarth’ yn y Gogledd, ‘ffordd’ yn y De
Tafodiaith Treforys, Gorllewin Morgannwg 29 Mawrth 2011 Nodweddion cyffredinol I lawer o bobl, gan gynnwys brodorion Cwm Tawe eu hunain, un o nodweddion hynotaf tafodiaith y cwm yw Calediad, sef, e.e., ddweud catw ac eclws yn hytrach na cadw ac eglws. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, ar gyrion tiriogaeth Calediad y mae’r cwm: mae’n nodwedd ar yr holl ardal i’r dwyrain iddo. Fel y tystia’r nodweddion canlynol, yr hyn sydd yn hynodi’r dafodiaith hon yw mai dolen gyswllt, drawsnewidiol, ydyw rhwng ‘iaith Shir Gâr’ a’r ‘Wenhwyseg’. I Cysylltir yr acen â’r gorllewin gan: i e sydd yn sillaf olaf geiriau fel tafarne, ac emyne; ii a, nid , ae glywir mewn geiriau fel blân ‘blaen’, cal ‘cael’, can, a mâs ‘maes’. 2 Nodweddion sydd yn clymu’r iaith â’r dwyrain yw: i Calediad, sydd yn gyffredin, e.e. catw, Satwn, gwpod, ond heb fod yn gyson: dodi, gwbod, gyda; ii absenoldeb h a chw, e.e. efyd, onna, wsu ‘chwysu’. 3 Arbennig i orllewin Morgannwg a dwyrain Dyfed yw’r ffurf negyddol a geir yn Nagw dirwest eriôd wedi bod... Y Recordiad Enghraifft o dafodiaith Cwm Tawe yng Ngorllewin Morgannwg. Ganed Cecil Lewis yn Nhreforys ym 1913. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Odd rai’n myn’ i ifed ar y slei, of cwrs, on’ och chi ddim fod i fyn’ i dafarne i ganu. Ŷch chi’n ‘bod yr Annibenwyr, p’un e chi ‘di gwbod o’r blân, fe dorrodd yr Annibenwyr Cwm Rondda mâs o’r llifer emyne. /Do fe?/ Shwrne dethôn nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yntafarne, dorrws yr Annibenwyr... dyw e’m yn llifer emyne ni nawrl Tôn y botel na Cwm Rondda. Ŷn ni’n canu C’wm Rondda acha... ma man ‘yn nawr, mae man ‘yn ‘da fi nawr. Dere ‘ma gw’ boi bach. Edrychwch chi trw’r llyfyr emyne ‘na. Sdim Cwm Rondda ‘na /Cwm Rondda ‘na/. Na Tôn y botel. Ôn nw’n strict â’r pethe ‘ma slawer dydd, ôn nw? O, y ni odd y gwitha wi’n credu. Annibenwyr. Ôn i’n meddwl taw’r Methodistied odd... Methodists, ôn nw’n câl y bai ‘efyd. Shwrne dethon nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yn y tafarne... Blaen-wern, odd dim lot o Blaen-wern ‘ma, chwel’ ‘chos on nw’n can... Ethon i ganu e i tafarne, chwel’. Odd, os och chi’n ifed, ‘na’ch Waterloo chi. /Ife?/ ‘Na’ch diwedd chi. O ie. O, och chi ddim fod i ganu... Wel ŷn ni’n canu Cwm Rondda, ma gire Cwm Rondda gyda ni yn y manna, ond dim a’r tôn... O Duw annwl! On nw... Shwrne odd e’n myn’ yn gân tafarne /ie/, ddim ishe ‘wnna. On nw... Odd rai’n myn’ i ifed, though, yn’d odd e? Wel, ôon nw’n ifed, ond ôn nw ddim yn openly chimod. On nw’n gwpod bo’ nw’n ifed. Wel, alle gwŷr y meline byth wedi gwitho yn y meline oni bai bo’ nw... i gadw i... Wel, ôn nw... meddylwch chi bo’ chi’n wsu, bod cryse’n do’ mâs fel ‘san nw’n dod o’r dŵr. Wel och chi’n colli nerth ofnadw o’ch corff, w. Wel, mae’n marvellous bo’ nw wedi byw! /‘Ti, ‘ti./ Duw! So ôn nw’n ifed i neud lan y dŵr? Wel ôn. Ôn nw yn. A dodi halen ‘nôl yn y corff, ys wedôn nw, chwel. Wel odd e yn ffaith ‘efyd. Odd jest neb odd yn gwitho’n y meline yn deetotallers. /Na./ Braidd. Nagw, nagw dirwest eriôd wedi bod yn werth yn Dreforys. Bach iawn o Band of Hopes sy ‘di bod ‘ma eriôd. Dim on’ y plant odd yn y 30 Band of ‘Ope. Shwrne ôn nw’n dod digon ‘en i ifed, ôn nw’n ifed. ‘Na beth odd amcan y Band of ‘Opes, ‘te, odd dirwest, ife? le. Teetotallers, Band of ‘Ope. O Duw annwl. On’ bach iawn o rina odd i gâl. Ôn nw’n ifed i... Wel, a ôn nw mâs nos Satwn, ôn nw? Cwrdda, cwrdda yn y tafan /ie/. Wel odd ddim pictures i gâl amser ‘ny. A’r unig man odd ‘da nw i gwrdda odd y tafan. Wel, och chi’n myn’ i dafan, och chi’n ifedl Odd y merched yn myn’ i dai tafarne? Na, na byth. Odd ddim merch câl myn’ i dafan. Beth... ôn nw’n ‘ala ‘i mâs, ôn nw? Dele ‘i ddim miwn. Cele ‘i ddim myn’ miwn. A odd snug— gwelsoch chi’r snug eriôd? Ma ryw gof ‘da fi amdanyn nw! Wel, ‘na fe, dim on’ i’r snug ôn nw’n cal mynd. Ife? /Ie./ Beth odd yn ots? Beth odd... Och chi ddim fod i gymisgu. Dinon a menŵod mewn tafan. Catw’r menŵod fel’a, cadw’r dinon a... ‘Cer di o fanna.’ Pwy fenŵod odd yn myn’ i dai tafarne ‘te? Y rough lot. Ife? Pwy ôn nw weti ‘ny, ‘te? O Duw, Duw! O’ son amdanoch chi. Câl menyw’n myn’ i dafan, och chi’n gomon ofnadw. W, dim o’ch ishe chi! Out! Odd ddim capel i chi, och chi out. On’ ‘na beth od, ma dyn... ôn nw’n gweud bod dyn yn ifed, odd menyw yn llemitan. ‘Na’r gair. ‘Oti JohnJones...?’ ‘O, mae e’n ifed, oti. A ma’i wraig e’n llymitan ‘efyd.’ Wel, ‘na’r hall mark wedi ‘ny. Os odd ‘i’n llymitan, walle dele ‘i ddim... dele ‘i ddim... odd ‘i ddim câl dod. Os odd ‘i’n dod i’r tafan, dim on’ i’r snug odd‘i’n câl dod.Jyst tu fiwn y drws. Rŵm bach, ŷch chi’m ‘bod, a mâs. Odd ‘i ddim câl myn’ miwn i’r bar a cymisgu â dinon. O Duw, Duw! Out! Odd rai menywod yn ifed yn tŷ? Wel, dim trw wpod i ni. Na, on nw’n myn’ i... On’ och chi ddim cymisgu â rina, chwel’. Ôn ni’n ‘bod dim amdenyn nw! Duw! Bydde Mam ‘di’n lladd ni ‘tân ni’n myn’ i dŷ menyw odd yn ifed! ‘O d... paid di â neud ‘na ‘to, cofia! Paid di â myn’ ‘da’r fenyw ‘na, ma ‘onna’n ifed, cofia!’ O, odd ‘i’n dread. Dread thing. Llymitan odd fenyw, ifed odd y dyn. ‘Na od, ife! Nodiadau mâs nos Satwn Annibenwyr ‘Annibynwyr’ Ffurf annisgwyl braidd, ac adlais efallai o’r rhigwm am yr enwadau. Ceir sawl fersiwn ac amrywiad ar y geiriau, ond un o’r rhai mwyaf poblogaidd yw: Annibynwyr, annibendod, Mynd i’r capel heb ddim adnod; Methodistiaid creulon cas, Mynd i’r capel heb ddim gras; Hen eglwyswyr eitha soft, Codi capel heb un loft; A’r Sosiniaid, o mor drist, Yn gwadu Duwdod lesu Grist. A rhag i’r Bedyddwyr gael cam, dyma bedair llinell o fawl a ddyfynnir gan W H Roberts yn ei gyfrol Aroglau Gwair Batis y dŵr Sy’n meddwl yn siŵr Na chân nhw ddim mynd i’r nefoedd Heb fynd trwy’r dŵr Cwm Rondda Tôn John Hughes y cenir geiriau Ann Griffiths, ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ arni yn aml. shwrne ‘unwaith, cyn gynted’ Shwrne dethôn nw i ganu Cwm Rondda... Shwrne ôn nw’n dod digon ‘en i ifed... Tôn y botel Tôn a gyfansoddwyd gan T.G. Williams (enw arall arni yw Ebenezer), ac y cenir emyn Dafydd William, ‘Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau’ ami. acha ‘ar’ Ffurf gyffredin yn y De-ddwyrain, ac sydd yn tarddu o ar uchaf. Ystyr amhendant sydd i acha a’r un berthynas sydd rhyngddo ac ar ag a geir rhwng mewn ac yn. Cf. Mae e acha bord ‘Y mae ar fwrdd’, ond Mae e ar y ford ‘Y mae ar y bwrdd’. Blaen-wern Tôn W.P. Rowiands, a gysylltir a nifer o emynau fel ‘Tyred, lesu, i’r anialwch’ ac ‘Atat, Arglwydd, trof fy wyneb’ (Pantycelyn). ‘Na’ch Waterloo chi Dywediad sydd yn cyfeirio at drechu terfynol Napoleon gan Wellington a Blücher yn 1815. Och chi’n colhi nerth ofnadw o’ch corff, w Ffurf ar ŵr ‘gŵr’ yw’r ŵ ar ddiwedd y frawddeg hon; ond — fel y prawf y darn hwn (lie y mae Mr Lewis yn siarad â merch) — nid ar gyfer cyfarch dynion yn unig y’i defnyddir. Mewn rhannau o’r De-orllewin clywir y ffurf lawn, ŵr; tebyg yw’r modd yr arferir man yn Saesneg brodorol De-ddwyrain Cymru. yn Dreforus ‘yn Nhreforus’ Cyffredin yn y tafodieithoedd yw treiglo enwau lleoedd yn feddal yn hytrach nag yn drwynol ar ôl yr arddodiad yn; cf. yn Gonwy, yn Gardydd. Band of Hope Cymdeithasau dirwest i blant a sefydlwyd yn wreiddiol tua 1847. cwrdda ‘cyfarfod’ Y ffurf wreiddiol ar y berfenw hwn yw cwrdd, a ddilynir yn aml gan yrarddodiad â. Yn sgil mynych gysyiitu’r berfenw a’r arddodiad ymdoddodd y ddau air yn un, hynny yw, troes cwrdd â yn cwrdda. yr unig man Nid yw tafodieithoedd y De-ddwyrain yn treiglo enw yn dilyn unig. miwn Ffurf gyffredin y De ar ‘mewn’. Yn y Gogledd ceir mewn, miewn, a miawn. walle ‘efallai’ fenyw ‘menyw’