Tafodiaith Llanymawddwy, Maldwyn 29 Mawrth 2011 Nodweddion cyffredinol Naws ogleddol sydd i’r rhan fwyaf o’r geiriau a ddefnyddir yn y darn hwn, e.e. ers talwm, stalwyn a ’wan ‘rwan’. Mae stingodd, ar y llaw arall, yn arwydd pendant mai o’r Canolbarth y daw Mrs Ann Jones (gweler y nodyn isod). Os nad yw’r eirfa yn y darn yn cynnig nifer fawr o ganllawiau ar gyfer lleoli’r dafodiaith, mae’r seiniau yn ein galluogi i fwrw amcan gweddol bendant ynglŷn ag ardal magu Mrs Jones: 1 Mae Llanymawddwy yn nhiriogaeth yr ae fain; clywir y sain mewn nifer o eiriau, er enghraifft: giaet ‘gât’ a llaeuth ‘llaeth’. Fel y gwelir oddi wrth Fap 12, mae llain eang ar draws y Canolbarth lle y ceir ae. Fodd bynnag: 2 Rhennir tiriogaeth yr ae yn ogledd a de yn ôl y defnydd a wneir o’r u ogleddol (Map 11), a’i rhannu drachefn o’r gorllewin i’r dwyrain yn ôl y defnydd o a yn y sillaf olaf (Map 13). Yng ngogledd tiriogaeth yr ae y mae Llanymawddwy, ac felly y mae Mrs Jones yn defnyddio u yn y cyd-destunau gogleddol arferol, fel yn tŷ. Nodwedd arall sydd yn ei chlymu â’r Gogledd yw’r ch yn chwech. Ar y llaw arall, mae’r e mewn geiriau fel nosweth ‘noswaith’, rhywbeth, a cogie ‘cogiau’ yn nodwedd ar Ddyffryn Dyfi ac ochr ddwyreiniol ardal ae. Y Recordiad Enghraifft o dafodiaith ardal Llanymawddwy yng Nghanolbarth Cymru. Ganed Mrs Ann Jones, y siaradwraig, ym 1914. Fe'i recordiwyd gan yr Uned Ymchwil Ieithyddol Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Fydde ’na ryw rafins ofnadwy ’ddeutu’r tŷ ar nosweth cyn priodas, yn’ bydde, cogie o gwmpas yn trio gneud rywbeth i stopio’r wraig ifanc fynd ffwr’ i’r briodas yn y bore yndê. Oedd, o, ma’n dal o hyd — o’ ’na briodas ’rochor arall ’ma ’leni, fûm i yn y briodas yn y Fairbourne Hotel ond o’ ’na rafins mawr ’na trw’r nos. On nw ’di gollwn y sgratsh defed lawr i’r ffor’, a’r hen gogie’n cel sbort. On i’n clŵed nw wthi, dal ati. Ond bydde es talwm ’run peth, a rhoi rw... /Cwinten./ Ie, cwinten, cadw cwinten. Dach chi’n gwbod be’ ’di rhoi rw. ..O, fûm i’n dal cwinten. Blode, a ’di rhoi nw ar ryw gortyn fel ’na, a’dd un bob pen, a wedyn fydde’r briodas yn dŵad wedyn fydde’r plant, pw bynnag fydde efo’r, efo’r gwinten, fydden yn cel pres, fydde raid i’r gŵr ifanc fod genno fo bres yn ’i boced, ceinioge oedden nw’r amser ‘ynny yndê, fwyaf ichi. Ond odd ceniog yn lot yr amser ’ny yndoedd ’i? Ag os gaech chi chwech, fel on i’n deu’ ’thoch chi, och chi’n ciel lot, ond oeddech chi. Ond fydde cwinten bob amser amser priodas, yntê. O bydde. O fydde ’na ryw neud a saethu mawr amser priodas. Saethu ofnadwy yn bydde? O bydde, ’dde ’na saethu ofnadwy wddoch chi amser, nos... dwrnod y briodas, yntê. Amser y ferch yma’n priodi yn Llanymowddu, yn yr eglwys Llanymowddu, o’ ’na saethu mawr wth giaet yr eglwys. Oedd, i fyny i’r gwynt, yndê, i’r awyr. O oedd. Ag oen nw’n rhoi rhw, on nw yn rhoi rhyw fwgwd ar y ffor’, llusgo coed ne rwbeth i stopio’r ’raig a’r gŵr ifanc fynd ffwr’ ’te. ’Yna fel oedd yr amser ’ynny yntê, dach chi’n dyallt. ’Yna fo, mae o rwbath yn debyg o hyd yndydi’n dal ffor’ yma hefyd, ryw hogie neud drwg, yntê a... /Ma’r gwinten wedi gorffen./ Ma’r gwinten wedi gorffen es talwm. Os neb yn dal cwinten ’ŵan, ‘te. O, fydden yn cadw, yn dal cwinten, o’ hynny ryw draddodiad, yntê. Wel o’ ’na lawer o helynt es talwm, hen bobol wedi meddwi yn y Red Lion, a phelly, ar amser y ffair, yntê. Ag oe’ ’na ryw hen ddyn, ag oedd o’n dod â stalwyn i’r ffair i adfyteisho’r stalwyn, yntê. Ag o’r hen ddyn yn eger ofnadwy am gwrw. Ag oddo ’di bod yn y Red Lion, ag oedd o ar... ar gefn... yn arwen y ceff... y stalwyn oedd o, ag oe’ ’na, oe’ ’na stondin yn gwerthu tuns godro a potie llaeuth. A... odd o ’di meddwi cymad mi baciodd y stalwyn i ganol y llestri a’r tuns. Ag o’r hen ddynes yn gyddeiriog o’i cho’. (Dech chi’n gwbod be’ ’di bod gyddeiriog o’ch co’ — o’i go’?) A fynte’n chwerthin am ’i phen ’i. Dwy fel swn i’n ’i weld o heddiw. Yr hen foi ’ydi dal ’i’n ofnadwy yn y ffair, ’tê. O, o’ ’na fobol, on nw’n dod yma, o dros y Bwlch o’r Bala ffor’ ’na i’r ffair, ag o Lanerfyl ago bob man i’r ffair. On ma ’i ’di gorffen es talwm, wedi gorffen es ta... [Colsyn yn syrthio o’r tân.] Nae, peidiwch â poeni, pidiwch â poeni, ma’n olreit ngwaeshi. Bydden nw’n dod yma o bob man i’r ffiria. Agos doe’ ’na’m llawer o’m byd arall ar fod, yn naeg oedd, ond — gwatsha fagio hwn [Mr Jones yn mynd i godi’r colsyn] — ond ffeirie, naeg oedd. ’Na fo. A ffair glangua wedyn, o’ honno, o’ honno’m gimin ffair cweit, nag oedd. Ond oen nw m..., on nw’m mynd â gwartheg a pethe felly liawr i gwerthu lawr i’r Dinas, ond odden nw. Ond don nw’m yn gwerthu llawer o ddefed. Porthmyn odd yn dŵad o gwmpas i brynu defed, ydach chi’n dyallt, yndê, porthmyn, brynu defed. A wedyn fydden yn mynd â helfeydd o ddefed dros y Bwlch am Gorwen, Rhuthun, ffor’ ’na. Milodd, milodd, ohonyn nw’n mynd — llond y ffor’, yndê, yr amser ’ny, yntê. Dyna fo. Ond ddôth y sêls a wedyn ’na orffen am y... am y porthmyn yntê, yn prynu, ie. A wedyn fydde ’na bobol yn cer... gennyn nw fobol, be’ galwch chi bobol sydd yn gyrru’r... /Drofars./ ...drofars, yntê, mynd â’r defed, yntê. O bydde. Fûm i’n mynd efo nw lawer gwaith i’r ysgol, pan oedden ni’n mynd yn blant i’r ysgol, licio ce’ mynd efo nw a chel ceniog am aros mewn tylle yn y stingodd — dwi ’di deu’ ’thoch chi am y stingodd — am aros yn y tylle, dach chi’n gwbod. O, odden ni’n enjoio cel mynd efo nw. Ond ar ôl mynd i’r ysgol oedden ni’n cel gwers reit ddae gen yr hen schoolmaster, bo’ ni’n hwyr dod i’r ysgol. — Wel ble buoch chi? — Wel fuon yn brysur iawn yn helpu’r drofars efo’r defed. A ’na fo, mi dawelodd i lawr wedyn, yntê. Ond fydden nw’n mynd â milodd dros y Bwlch, yn’ bydden nw. Nodweddion cyffredinol cogie'n cel gwers reit ddoe rafins ‘sŵn, stŵr’ Gair benthyg o’r Saesneg ravings. Sylwer sut y mae ng y Saesneg yn cael ei chynrychioli gan n yn y Gymraeg. Mae’n bosibl mai n a glywodd y Cymry a fenthyciodd y gair hwn gyntaf, er mai ng a ddywedai’r Saeson. Posibilrwydd arall, a mwy tebygol, yw mai o dafodiaith Saesneg lle y ceir -in yn hytrach nag -ing y benthyciwyd y gair hwn. Ceir nifer o eiriau tebyg wedi eu benthyg o’r Saesneg, e.e. Saesneg Cymraeg fairing fferin, ffeirin lining leinin pudding pwdin fûm i Sylwer ar ffurf y ferf! Dyma’r ffurf ‘safonol’, wrth gwrs, yn digwydd yn gwbl naturiol ar lafar. hen gogie ‘bechgyn, llafniau ifainc’ Defnyddir yr ymadrodd old cock ynddigon cyffredin mewn rhai mathau o Saesneg, fel rheol gan ddyn yn cyfarch dyn arall; o’r cock hwn y benthyciwyd còg. es talwm ‘ers llawer dydd’ Yn y Gogledd yn unig y ceir talwm, ffurf ar talm ‘ysbaid o amser, cyfnod’. Sylwer mai w, yn hytrach na’r a ddisgwyliedig, yw’r llafariad rhwng elfennau’r clwm lm. cwinten Ceid y gwinten yn Nyfed hefyd, eithr nid â blodau y gorchuddid y rhaff yno ond a drain. Am fanylion pellach ynglŷn â’r arfer, gweler Trefor M Owen (1959): Welsh Folk Customs a Rhiannon Ifans (1983): Sêrs a Rybana. O’r Ffrangeg — drwy’r Saesneg — y daeth y gair i’r Gymraeg. pres dyallt ‘deall’ Hen ffurf yw dyall, a gofnodwyd gyntaf yn 1346; yn wir, hon yw’r ffurf gynharaf sydd gennym ar y berfenw. Nodwedd led gyffredin yw i t dyfu ar lafar ar ôl rhai seiniau, yn arbennig ar ôl ll ac s; enghreifftiau eraill yw: bwyall bwyallt ffals ffalst tunnell tunnellt a phelly Cywasgiad o a pheth felly. Mewn ardaloedd gogleddol eraill clywir y ffurf debyg a ballu. stalwyn Benthycair o’r Saesneg stallion a geir yn y Gogledd; march yw gair y De. eger ‘digywilydd’ O ffurf gynnar ar y Saesneg eager ycafwyd y gair hwn y mae ei ystyr yn amrywio o fan i fan. Rhai o’r ystyron mwyaf cyffredin yw: ‘poenus’, e.e. dyrnod egar (Y Gogledd-orllewin); ‘oer, gerwin’, e.e. diwrnod egar (Y Gogledd-orllewin); ‘awyddus’, e.e. mân nw’n edrych ymlaen yn eger at ych gweld chi (Y Gogledd-ddwyrain); a ‘digywilydd, haerllug’, e.e. sharad yn eger (Cyffredinol yn y De). Deheuwr, mae’n siŵr, a fathodd y term roc ecer, i gyfateb i punk rock y Sais. fobol Yn yr ardal hon, fel mewn Ilawer man arall, mae bobol yn cystadlu â pobol yn ffurf gysefin, ddidreiglad; trwy dreiglo bobol y cafwyd fobol. Ceir rhai ffurfiau treigledig eraill fel bont, fegin, fenyw, ferch, ford a gegin yn ymsefydlu’n ffurfiau cysefin yn y tafodieithoedd. ngwaeshi ‘fy ngwas i’ Ffurfiau eraill yn y Gogledd yw was, wasi, washi. agos ‘achos’ Ffurf gyffredin yn y tafodieithoedd. gwatsha ‘gwylia’ bagio ‘sathru ar, sefyll ar’ clangua ‘calangaeaf’ stingodd ‘gwrychoedd, perthi’ Ffurf luosog shetin, gair nodweddiadol o’r Canolbarth a gogledd Ceredigion. Ffurf luosog arall yn yr ardal yw stingie; yng ngogledd Ceredigion y ffurf luosog yw shetynne.
Tafodiaith Llansannan, Gorllewin Clwyd 29 Mawrth 2011 Nodweddion cyffredinol Fel y ddau gyntaf, iaith ogleddol sydd gan Sam Davies hefyd, a’r u yn amlwg yn ei lafar. Ond yn wahanol i’r ddau o Wynedd, o ardal ‘swnio’r e’ y daw Mr Davies: sylwer ar enwe ‘enwau’, echel ‘echel’, a bydde ‘byddai’. Er mai tafodiaith-e sydd gan drigolion Llansannan i bob diben, ceir yno ambell enghraifft o a hefyd. Yn y darn hwn, e.e., cawn bydda ‘byddai’ ac ista ‘eistedd’. Gan mai cymharol fyr yw’r enghraifft, nid hawdd bob amser yw gwybod a oes perthynas rhwng cael a yn y sillaf olaf ac unrhyw nodweddion eraill. Gellir, fodd bynnag, gyfeirio at un patrwm arwyddocaol, sef mai yng nghyd-destun a arall y ceir a’r sillaf olaf yn arni. Mewn tair enghraifft, o flaen a arall y cawn a yn y sillaf olaf: petha ar drol, ista ar y crab, a bacha arni; mewn dwy arall ceir bod a yn rhagflaenu’r sillaf olaf: gadal ‘gadael’, a hofygafana ‘ofergarfanau’. Yr hyn a welwn, felly, yw tuedd i e yn y sillaf olaf gymathu at a sydd yn ei dilyn neu yn ei rhagflaenu. Un o’r rhesymau dros ddewis y darn hwn yw’r cyfoeth termau technegol sydd ynddo ar gyfer rhannau’r drol a gêr y ceffyl, e.e. camogie, both, edin, bocs echel, crab, brân, hofygafana, strodur, cefndres, a sgilbren. Y recordiad Enghraifft o dafodiaith Llansannan, Sir Ddinbych. Ganed Samuel Davies ym 1911. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Ew! Dwy ‘di bod yn cysidro hefo... euddwn i’n cysidro hyd ‘nod yn ‘ngwely neithiwr am enwe sydd ar betha ar drol. A dwy ‘di methu’n glir â cofio un enw, a fedra’ im cofio chwaith. Gymaint o wahanol enwe sy ar ddefnyddie mewn trol geffyl ‘ndê. Dach chi’n cofio rhei onyn nw? Ydw... Wel cymwch chi’r olwyn i gochwyn, yndê. /Ia, ia./ Y cylch, y camogie /ia/, y both /ia/, yr edin /ia/, a’r bocs echel /A!/ i gymyd o’r ddwy olwyn, o olwyn i olwyn /ia, ia/. Wel ma ‘ne... yn y... yn y drol wedyn, ma ‘ne fel ‘den ni’n deud... y crab ar ben blaen, ar drows pen blaen y drol. Fydda... fydda’r ciartar yn amal iawn adeg ‘onno, dudwch bod o’n mynd i rwle, ‘uda’ i bod o’n mynd i’r felin efo’r gaseg a’r drol. Wel y rên, ag ista ar y crab yndê. A’i ddwy droed fel hyn ar y shafft yndê. Crab byddan nw’n galw hwnnw. /0 ia ia, ia./ Wel y frân, i godi’r drol i fyny pen fydde’n cario tail. Fydde ‘ne rw bishyn bach o huarn fel ‘yn a tylle yno fo felne, a wedyn gaech chi godi y pin fel byddech chi’r tail yn mynd yn... i godi hwnne ‘ndê. Y din bren, fel bydden n’n deud, o’ reid tynnu honno yn gynta, yndodd i, ar draws tu ‘nôl. Ar draws tu ’nôl? Tu ‘nôl. O, ie./ O dan y shafftie o boptu o‘ ‘ne ddau... wel, dau ychdwr yma fel ‘yn, debig iawn i ddau goes brws. Dau dwm fydden ni’n alw o. Twm. O dan y shafftie. /Ie. / A wedyn, os byddech chi... dduda’ i bo’ chi’n... yn dadfachu ar ganol dydd efo llwyth o wair, fyddech chi’n dadfachu’r ceffyl, a gadal y drol ar y ddau dwm ‘ma, a wedyn fydde honno’n cadw’r drol yn ‘run ychdwr ag oedd ‘i wth y ceffyl yndê. A wedyn 25 o’ ‘ne rwbeth i roi ar y drol i gario cnwd — hofygafana eudden ni’n galw ‘i. Pethe i estyn y...? le. Dene fo. O! ’Na beth och chi’n galw nw, ie? Dene be’ chi’n galw hwnnw. A ‘ma ‘ne wedyn ar hyd top yr ochor y drol, ar rw shâp, fel rw dop llong, ond fedra’ i... Doedd o ddim ond ‘w bishyn o bren, dudwch bod i’n deud rw ddwy fodfedd a hanner. A fedra’ i yn ‘y myw einios â cofio be’ ‘di enw o. A dwy fod yn gwbod yn iawn be’ ‘di enw o, ‘de... Oedd o ar hyd top yr ochor i gryfhau a ‘dyn y pinne sgriws ‘ma’n mynd wedyn i’r ochre’r drol yndê. Ond am ‘u cofio’u henwe nw! A dwy’n gwbod yn iawn bod ‘ne enwe arnyn nw ‘ndê. ... Gêr y ceffyl wedyn, ‘de. /Ie./ Bobol bach! ‘Ne chi’m byd ‘blaw y siwt odd gen y ceffyl isho’i roi wth y drol. Fydden ni’n ‘i alw o y strodur. Ar ’i gefn o, ie? le. A wedyn, o’ ‘ne y din dres eudden ni’n galw ‘i. Tshaen — pad yn mynd rownd y ceffyl, a dwy tshaen yn dod i’r shafftie. O’ ‘ne ddwy arall mynd o’r mwnci i’r drol. Fel bydden ni yn deud, pytie tsheini fydden ni’ngalw rhini adeg ‘no. /O ie./ O’ ‘ne beliband. /O shafft i shafft, ia?/ Ia, o dan dor y ceffyl. /A ie. le, ie./ Ym... y ffrwyn. Yr enwe odd ar y ffrwyn. Yr awen... A ‘dyn y bit, trw geg y ceffyl... O’n ofynnol i geffyl gwaith wastad teg, dene fo... am geffyl shoe dene fo, dôs ne’m byd, ond o’ reid i geffyl llwyth gâl... y... y... clustie fel hyn i’w ffrwyn wastad teg yndê. /O ie./ On’ be ‘i, basa ceffyl yn gweld ‘i lwyth tu ‘nôl ne gweld y gwaith ‘sech chi’n neud, mi alle ‘i chymid ‘i’n syth. Fel odd o ‘di cal ‘i gau nad odd o’n gweld dim byd ond o’i flaen, ‘de. Fydde gêr troi yn beth gwahanol eto? O’ honno yn gêr gwahanol eto. Wel y prif beth am ‘onno... dyne’r... y... eudden ni’n galw honno y cefndres. A! Fel pad ar ’i... Dyne fo. Dim ond pad drost y cefn, a bacha arni, a dwy tshaen o’r mwnci hyd i’r sgildreni bach, fel bydden ni’n deud. /Be’ odden nw?/ Suldremi bach. Felne bydden ni... O’ ‘ne dair sgilbren i droi. Un sgilbren fawr, a’i chanol ‘i’n bachu wrth yr ared, a... yn bob pen i’r silbren fawr o’ ‘ne ddau... fel hook fel ‘dan ni’n deud. Wel bachu... y ddwy sgilbren bach yn rheini i bob ceffyl. Nodiadau ewne ar betha ar drol trol Gair y Gogledd yw hwn yn cyfateb i cart y De, sef cerbyd dwy olwyn i gludo llwythi trymion fel tail. Term dwyrain y Canolbarth am gerbyd o’r fath yw trwmbel, gair a geir yng Nghlwyd hefyd — yn y ffurf twmbrel — ond ei fod yn cyfeirio yno at gorff y drol yn hytrach nag at y cerbyd cyfan. cochwyn ‘cychwyn’ Dylanwad yr ch sydd yn bennaf cyfrifol am droi’r y yn o yn y gair hwn; gair arall sydd yn adlewyrchu’r un broses yw Llanrhochwyn, ffurf lafar ar Llanrhychwyn yng Ngwynedd. camogie Gweler LGW (tt.376-7) am ddosbarthiad daearyddol y term hwn a’i gyfystyron; termau technegol eraill y cyfeirir atynt yn y darn ac y ceir gwybodaeth amdanynt yn LGW yw both (tt.382-3), echel (tt.378-9), a tinbren (tt.12O-1). dwy droed Gair y mae ei genedl yn amrywio o’r De i’r Gogledd. Yn ôl y patrwm cyffredinol, yr hyn a ddisgwylid gan siaradwr o’r Gogledd fyddai dau droed; mae’r enghraifft hon, fodd bynnag, yn awgrymu bod y sefyllfa yn gymhlethach nag a dybir. Y DROL byrdde tinbren/tincar twmbrel crab brân shafft cylch haearn both aden camog y frân Ni all y rhan fwyaf ohonom alw brân ar ddim ond aderyn, eithr fel y tystia’r enghraifft hon, yr oedd i’r gair ddefnydd helaethach lawer mewn dyddiau a fu. Yn y cyd-destun hwn cyfeirir at yr hyn y byddid yn debyg o alw ratchet arno heddiw; bu hefyd yn derm am ran o aradr ac am grib neu fwrdd bysedd crwth. dau goes brws Yn y De bydd coes yn fenywaidd yn ddiwahân; yn y Gogledd gall y genedl amrywio yn ôl yr ystyr. Benywaidd yw coes gogleddwr hefyd ond wrth gyfeirio at wrthrychau fel coes bwrdd a coes brws, mae tuedd i’r enw fod yn wrywaidd. Dylid nodi, fodd bynnag, nad oes llwyr gysondeb ynglŷn â hyn. GÊR TROL carrai ên corn mwnci carwden strodur tindres cengel beliband pwt tshaen/ tynaid mwnci colar awen/ rêns ffrwyn/ masg hofygafana Gair ‘dwyieithog’ yw hwn yn cynnwys y Saesneg over a’r Gymraeg carfanau. Bu over yn elfen ddigon cynhyrchiol yn y Gogledd ar un cyfnod: geiriau eraill a gofnodwyd yn ardal Bangor yn ei chynnwys yw ofardyfu ‘gordyfu’, ofargodi ‘gorgodi (am fara)’, ac ofarweithio ‘gorweithio’. tor ‘y man y tu ôl i goesau blaen anifail’ Y mae Mr Davies newydd sôn am y rhan o’r harnais sydd yn mynd o dan y dor, sef y beliband, gair benthyg amlwg, a ddisodlodd tordres. Dyma’r elfen a geir mewn cyfansoddeiriau fel torsythu a torheulo (neu, fel y dywed y deheuwr, bolaheulo). Ar wahân i’r enghreifftiau uchod, a all fod braidd yn ffurfiol i’r deheuwr, mae’n debyg mai am yr ymadrodd tor y (l)law ‘cledr y llaw’ y byddai’r rhan fwyaf o ddeheuwyr yn meddwl pe soniai rhywun wrthynt am tor. Mewn cyd-destun arall, cawn fod tor i’w gael yn helaeth drwy’r wlad: rhai o’r geiriau mwyaf cyffredin am gasgliad o foch bach yw torllwyth (yn y Gogledd), torred (yn y De-orllewin) a tor (yn y De-ddwyrain). rheid ‘rhaid’ Sylwer sut y ceir ei yn y gair hwn yn cyfateb i’r ai safonol. Enghraifft debyg, sydd yn gyffredin yn y Gogledd a rhannau o’r De-orllewin yw rhei ‘rhai’. Yn y ffurf iair ‘ieir’ yn nwyrain Morgannwg ceir y gwrthwyneb: ai ar lafar yn cyfateb i ei safonol. cefndres Y gair Saesneg trace yw’r ail elfen yn y term hwn: fe’i ceir mewn sawl gair sydd yn cyfeirio at rannau o’r harnais sydd yn cysylltu’r ceffyl â’r hyn y mae’n ei dynnu: cefndres, tindres, a tordres. sgildreni Bechid ceffylau gwedd wrth ddau bren traws neu sgilbrenni bach. Cydiai’r rhain yn y sgilbren fawr, a chysylltai honno â’r aradr. Wrth geisio cofio’r ffurf luosog, mae Mr Davies wedi cymysgu rhywfaint rhwng sgilbren a suldrem ‘swp o ŷd heb ei rwymo’. Yr enw ar y rhan hon o’r gêr aredig mewn rhannau eraill o’r wlad yw tinbren, gair sydd yn cyfeirio at ran o’r drol yn yr ardal hon. sgilbren bach Y mae sgilbren yn enw benywaidd yn yr ardal hon – cf. sgilbren fawr (ll.56) – ond nid gwall ar ran Sam Davies yw peidio â threiglo bach. Yn hytrach, un o’r hynodion ieithyddol anodd eu hesbonio hynny a welwn yma: anaml iawn y treiglir bach o gwbl yn y Gogledd pan fo’n goleddfu enw benywaidd. Cwbl naturiol i Ogleddwr, felly, yw dweud dynas bach, hogan bach, shop bach, ac yn y blaen. Ceir enw lle sydd yn pwysleisio’r gwahaniaeth yn hyn o beth: Eglwys-fach sydd yng Ngheredigion ond Eglwys-bach yng Nghlwyd.
Tafodiaith Llansawel, Dyfed 29 Mawrth 2011 Nodweddion cyffredinol 'General Southern Welsh' oedd ymateb un person pan glywodd y darn hwn am y tro cyntaf! Mae'n siŵr y tynnem sawl nyth cacwn am ein pennau pe cytunem â dyfarniad o'r fath ond gellir cydymdeimlo â byrdwn y gosodiad: pan gofiwn am nodweddion hynod Penfro i'r gorllewin a Morgannwg i'r dwyrain y mae'r dafodiaith hon yn swnio'n fwy 'niwtral'. Enghreifftiau o'r eirfa nodweddiadol ddeheuol yw bord, cwmpo, dala, dodi, ffilu, a mâs. Atodeiriau cyffredin yn y cylch yw chwel, chim(b)od, ac yndife. Clymir acen y darn hwn â'r De-orllewin gan: Yr e yn y sillaf olaf, e.e. bore, dechre 'dechrau', a bydde 'byddai'. Yr ow sydd yn mowr 'mawr', er bod aw yn yr un gair yn. Colli h yn achlysurol yn unig, e.e. yd 'hyd', ond hyd, haul a helpu. hw yn hwys 'chwys'. ô yn ôd 'oed' (wêd a geid gan Miss John o Ben-caer, ac oid gan Mrs Evans o Flaenpennal). â yn mâs 'maes', câ 'cae': (æ fain geid yn y De-ddwyrain). Y recordiad Enghraifft o dafodiaith Sir Gaerfyrddin. Ganed Mrs Martha Williams o Lansawel ym 1907. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Wel, weda i wthoch chi, och chi yn lladd y gwair i ddechre. Os gallech chi, a bod 'i'n sych, lladd e yn y bore. A fuodd yn nhad, odd 'dag e ddim — ddim lladdwr gwair a ceffyl yn dinnu e, a'dd e'n iwsho pladur i ladd y gwair 'ma. A bydde fe'n dechre yn y bore bach, lle bod yr haul yn dod a bydde fe'n lladd 'i 'unan wrth 'ny. Ond odd e'n gweud buodd e bwti neud gormod ryw ddyrnod, chimod. Goffo' fe orwedd lawr, yndife. Odd e... odd e wedi lladd gormod heb cal dim byd i ifed, a neud e yn y bore bach lle bod... fydde'n myn' 'nôl i odro, yndife, chimod. A wedyn ar ôl lladd y gwair 'na, och chi'n wasgaru e wedyn, a picwarch och chi'n galw 'i... Bydde fe'n lladd ystod o hyd chi'n gwel'. Bydde ddim o'r gwair gyda'i gilydd a... ma ystod o hyd, a fydde raid cymysgu hwnna lan wedyn i'r haul cal gafel 'no fe, fel ma bôn y gwair yn cal 'i godi lan lle bydde fe... lipa, chwel', yndife. Reit, welar ôl bydde hwnnw wedi dod yn sych, byddech chi'n crynhoi e yn ystodion mowr wedyn, fel y ceffyl a'r cart yn dod wedyn, ne gambo, i godi fe fanna a myn' ag e i'r tŷ gwair... A felny wi'n cofio dou falle, dwy bicwarch yn codi gyda'i gilydd, a'r un odd ar... odd... druan â hwnnw, odd 'dag e waith i ddodi'r gwair yn fflat fel bod e'n dala i bido cwmpo, chwel yndife. A odd e'n waith caled... A bydde ryw... ffarm nesa atoch chi'n lladd nawr... A wedyn os bydde rywun yn gweud 'Alli di ddod fory?' 'Galla, galla. Ddŵa i a gewch chi ddod 'nôl aton ni drennydd. Fyddwn ni'n lladd drennydd.' 'Na le on ni'n myn' yn hwys mawr ffor' 'ny wedyn. Chimod, helpu'i gilydd... [Peswch] On i'n cal ym mhen-blwydd yn... y ddouddegfed o Orffennaf a'n i'n meddwl 'na neis, bydd y gwair wedi dychre erbyn 'ny a fyddwn ni'n fishi, a... A os gelen ni gâl rw de mâs ar y câ 'da Mam wedyn. Bydde 'i'n do' mâs a pasged fowr a... A wedyn... odd bara menyn a'r jam a'r gagen a'r darten a'r llestri'n cal 'u dodi ar y llawr ar y... llien bord mowr wedyn. A 'na le on ni, ar y pelinie rown' felny wedyn. A odd stên fowr o de wedyn. A'r llâth a pethe. A bydde Nhad yn gweud 'Cofia bod ti'n dod a stên nawr, a bara cyrch a dŵr i ifed.' Pan 'dden nw a syched anyn nw yn gwitho wth y gwair, bydde hwn yn bôn y... bôn y clawdd. A bydde cwpan ne rwbeth ar 'i bwys e. On nw'n myn' i gal.., a cyrch, fel blawd cyrch yn y gwilod, a dŵr. A shiglo hwnnw nawr, odd hwnna nawr yn torri syched, chwel. O, odd e'n well.., odd ambell un yn cymysgu... ym... cwrw gwaith catre chimod. A'r stori on i'n gliwed am ym mrawd nawr, y trydydd, John odd 'i enw e. On nw'n colli John o hyd ychwel. On nw ffilu diall lle odd e, chwei. 'Le ma'r crwt 'na nawr 'te wedi mynd?' Odd John wedi hifed 'sbod e'n feddw yn cornel fan 'ny. Odd e 'di bo'n hifed yn y tshwc o 'yd o 'yd a Mam yn gwed 'Wel, wyt ti ddim... Os dim byd yn y shwc 'ma!' O! Odd e ddim yn gwbod, wir! A byti saith, wyth ôd, chwel. Wedi bod manny, a on nw'n gweud y stori 'ny bod e'n itha gwir, chwel, bode 'di ifed gormod, chwel. A cwrw gwaith catre odd e, chi'n gweld. Nodiadau bara cyrch a dŵr i yfed y bore bach 'ar doriad y wawr' bwti 'bron' Ffurf nodweddiadol ddeheuol yw hon; amrywiadau Ilafar cyffredin eraill yw (o)beiti, (o)boiti, (o)byti ac (o)biti. Hynafol yw'r ffurf safonol gyfatebol, o beutu, sydd yn cynnwys yr un ellen peu ag a welir yn y beunydd 'bob dydd' a'r beunos bob nos' mwy cyfarwydd. 'Ar bob tu' neu 'ar bob ochr' oedd ystyr wreiddiol o beutu. goffod 'gorfod' picwarch 'fforch ac iddi goes hir a dwy ewin ar gyfer trafod gwair' O'r elfennau ig (o'r Saesneg pike) a fforch (benthyciad cynnar iawn o'r Lladin) y cyfansoddwyd y gair hwn. ystod 'rhes o wair wedi ei dorri' Y ffurf luosog yn yr ardal hon yw stodion; amrywiad amlach ei ddigwyddiad yw stode (neu stoda). bydde ddim o'r gwair gyda'i gilydd Berf orffennol arferiadol negyddol sydd yma. Y ffurf bresennol gyfatebol (a mwy cyfarwydd) fyddai simo'r gwair gyda'i gilydd. Heb wybodaeth am hanes yr iaith a ffurfiau tafodieithol eraill, anodd fyddai dirnad o ble y tarddodd simo (a'r llu amrywiadau eraill). Yn bydde ddim o... y mae'r elfennau'n amlwg ac mae'r ffurf, felly, yn ateg ddefnyddiol i gadarnhau'r tarddiad. cymysgu lan yn lipa Nodwedd dafodieithol yw treiglo'r ll yn y cyd-destun hwn: yn llipa a ddisgwylid mewn arddull fwy ffurfiol. Gan fod pob cytsain dreigladwy ac eithrio ll a rh yn treiglo ar ôl yn (e.e. yn fach, yn gyflym, ond yn llawn, yn rhydd) datblygiad naturiol oedd estyn y treiglad i gynnwys ll a rh (mewn ardaloedd-rh). Ceir datblygiad tebyg yn achos y fannod, y (+ enwau benywaidd unigol) a mor (+ ansoddeiriau) nad ydynt hwythau yn sbarduno treiglad ll a rhyn yr iaith safonol: cwbl naturiol yn y tafodieithoedd yw ffurfiau fel y lygoden 'y Ilygoden', y linell 'y ilinell', y raw 'y rhaw', mor lwyddiannus 'mor llwyddiannus', a mor rydd 'mor rhydd'. gambo 'cerbyd ar gyfer cludo gwair' Y mae'r gair yn gyffredin drwy'r De; o blith termau'r Gogledd a'r Canolbarth y mwyaf cyffredin yw trol yn y Gogledd (sydd hefyd yn cyfeirio at gerbyd ac ochrau iddo i gario llwythi trymion) a cert yn y Canolbarth. Digwydd cart yn gyffredinol yn y De yn enw ar y cerbyd i gario llwythi trwm. Fel y geiriau eraill, benthyciad yw gambo o'r Saesneg. dŵa 'deuaf' drennydd 'trennydd; y diwrnod ar ôl yfory' Ffurf a glywir yn ddigon aml ar lafar; clywsom dradwy 'tradwy, y diwmod ar ôl trennydd' hefyd gan nifer o siaradwyr. y ddouddegfed 'y deuddegfed' Cyffredin yn y tafodieithoedd yw treiglo trefnolion wrth gyfeirio at ddyddiadau (cf. y ddegfed o Awst, y drydydd ar ddeg o'r mis). Y mae'n ddealledig mai at ddyddiau penodol y cyfeirir a chan mai gwrywaidd yw dydd anodd cynnig esboniad am y treiglad meddal (ond gweler trafodaeth yr Athro T. J. Morgan yn Y Treigladau a'u Cystrawen, tt.140-2, am ymgais i olrhain y datblygiad). Y deuddegfed, y degfed, y trydydd ar ddeg, ac yn y blaen, sydd yn gywir yn yr iaith safonol. pasged Wrth fenthyg basket i'r Gymraeg addaswyd ei gytseiniaid dechreuol a diweddol. Gan mai prin iawn yw t ddiweddol yn y Gymraeg (mae'r arddodiad at yn eithriad nodedig), tueddir i droi t ddiweddol yn d wrth fenthyg geiriau i'r iaith; enghreifftiau tebyg yw fioled 'violet', paced 'packet', a roced 'rocket'. Ceir tuedd, hefyd, i droi b y Saesneg yn p yn y Gymraeg ar ddechrau geiriau e.e. planced 'blanket', plocyn 'block', a potel 'bottle', ond ceir mwy o amrywio o ardal i ardal yn y cyd-destun hwn. cagen 'teisen' O'r Saesneg, wrth gwrs, y daeth cagen - a'r ffurfiau mwy cyfarwydd cacen, cacan - i'r Gymraeg. Er mai 'teisen' yw ystyr arferol cacen, rhwng afonydd Efyrnwy a Hafren fe'i defnyddir am 'felysion'. Os ymglywodd Cymry rhai ardaloedd â'r angen am fenthyg gair i gymryd lle teisen, diddorol nodi bod yn well gan ryw garfan o Saeson y gair Ffrangeg gâteau na'u cake brodorol! O ran ffurf y gair, cawn yn cagen enghraifft brin o droi c y Saesneg yn g yng nghanol gair. pelinie 'penliniau' stên 'jwg enamel fawr' crwt 'bachgen ifanc' Diddorol nodi bod Geiriadur Prifysgol Cymru yn cynnwys 'bachgen tua seithmlwydd neu wythmlwydd oed' yn ei ddiffiniad o crwt; dyna'n union dystiolaeth Mrs Williams. hifed 'yfed' Ffurf gyffredin yn Nyfed. Ffurfiau eraill a all gynnwys h ddechreuol neu beidio ar lafar yw enw a henw, ac efo a hefo. shwc Yn yr ardal hon gwahaniaethir rhwng shwc (llestr mawr tun i gario dir o'r pistyll i'r tŷ) a jwg (llestr o grochenwaith neu wydr at ddal llaeth ar y bwrdd). Amrywiad llai cyffredin ar shwc yw tshwc uchod. Nid oes angen edrych ymhell cyn canfod nad oes rhithyn o wir yn yr honiad 'nad oes j yn yr iaith Gymraeg': y mae'r tafodieithoedd yn llawn enghreifftiau! Y Saesneg — a roes inni eiriau fel jam, jeli a jôc — yw'r ffynhonnell gyntaf a mwyaf toreithiog i j ond mae ffurfiau fel jengyd 'dihengyd, dianc',joddef 'dioddef', jogi 'diogi', cyjo 'cydio' a sgije 'esgidiau' sydd ar lafar mewn sawl man yn y De yn tystio i ddatblygiad y sain yn y Gymraeg ei hun (o'r cyfuniad di + llafariad). Llai cyffredin yw ffurfiau o'r fath yn y Gogledd, ond gellir nodi bod jawl 'diawl' ar lafar yn ardal y Rhos! Er gwaethaf bodolaeth y ffurfiau a nodwyd, sain gymharol ddiweddar yw j yn y Gymraeg ac mewn benthyciadau cynnar tueddwyd i ddefnyddio sh neu tsh yn ei lle; enghraifft o gyfnewid j y Saesneg am tsh yn Gymraeg a welwn yn tshwg y siaradwraig hon. Ffurfiau tebyg yw tshacad 'siaced' a tshôc 'jôc', a gofnodwyd ddechrau'r ganrif ym Mangor, ac mae'r amrywiadau tshar, jar 'jar' a gofnodwyd yno yn tystio i'r modd y graddol dderbyniwyd j i'r Gymraeg.
Tafodiaith Llangynwyd, Canol Morgannwg 29 Mawrth 2011 Nodweddion cyffredinol cofio iwso maen carrag Er bod rhai miloedd o Gymry Cymraeg yn byw yn y De-ddwyrain heddiw, prin iawn yw'r sawl a glywodd y dafodiaith wreiddiol; prinnach fyth yw'r rhai sydd yn ei siarad. Mae iaith Richard Griffith Thomas yn amlygu nodweddion mwyaf trawiadol y Wenhwyseg: æ sydd mewn geiriau fel græ t 'grât', Næ d 'nhad', sæ r. a a geir yn y sillaf olaf yn, e.e. pynthag 'pymtheg', dychra 'dechrau', gatal 'gadael'. Mae Calediad yn gyson, e.e. acor 'agor', doti 'dodi', lliti 'lludw', wetyn 'wedyn'. Nodwedd ar dafodiaith yr ardal hon yw na cheir Calediad yn odw 'ydwyf'. Collir h yn eddi 'heddiw' ond fe'i ceir yn barra harn 'barrau haeam' am fod pwyslais ar harn. Terfyniad trydydd person unigol gorffennol y ferf yw ws, e.e. mynnws 'mynnodd'. Er bod yr acen mor hynod, nodweddiadol ddeheuol yw'r rhan fwyaf o'r geiriau yn y darn hwn, e.e. ffwrn, cwmpo 'cwympo', a mam-gu. Gair sydd yn hynodi'r De-ddwyrain yw glowty. Y recordiad Enghraifft o dafodiaith de-ddwyrain Cymru - y Wenhwyseg. Ganed Richard Griffith Thomas o Langynwyd ym 1894. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Odd yr 'en ffwrn crasu bara yn y wal yn y manna. Ma 'i... Ma 'i 'na 'eddi, dim on' bo'r y... brics a'r... y græ ts newydd 'ma wedi gaead a miwn. Wi'n cofio bod jyst y miwn yn y ffw... yr 'en ffwrn! Odw, achos wi'n cofio odd yr arch wedi... yn tu fiwn w' dychra cwmpo. A beth fynnws Næ d odd mynnyd sæ r y Llan. Odd y sæ r, odd a'n neud y... gwaith sæ r a gwaith meiswn. On' beth nath e odd nid acor, gwitho odd' 'ma, on' acor twll o'r glowty 'rochor yco miwn i'r ffwrn. A llanw'r ffwrn o liti a doti'r brics yn ôl yn y top mwn morta' sment. A gatal nw sefyll wthnos. A wetyn, Næ d a jobyn wetyn, tynnu'r Iliti mæ s, a ma'r 'en ffwrn yn sefyll byth ag wn i. Er nag os dim crasu bara w' bod yndi es pynthag, pynthag, ddeunaw mlynadd. O, fi welas yn rai ffermydd abothu 'ma... y... on nw'n cæ l tripat. Wel, pishyn... barra harn odd a, ag odd dou o nw, dou yn dod mæ s 'ma, yn 'itsho'n y bar top man 'yn, ag odd y rest myn' t'ag yn ôI, drws y tæ n. Ag oech chi'n gallu doti citl ne grochon ar ben y tæ n ar... i sefyll arno fa. Odd 'wnnw'n rwpath odd wedi dod o'r 'en amsar pan odd y tshaen. /Ife?/ Dim on' shwrna 'riôd gwelas i'r tshaen, y tshaen a'r bechyn. Yn...mwn tŷ fferm yn y Bitws. Ond y tro dwedda own i 'no, pan odd y ffermwr sy 'no 'eddi'n myn' 'no, odd a'n altro'r cyfan. Odd a'n caead yr 'en bart 'ny fynydd, ag yn neud gecin newydd i'r modern fashion. A 'na odd pwrpas arall i'r tripat wetyn odd i ddoti'r mæ n 'arn i grasu y... ffroes a pics crynon arno fa. Welsh cakes ys gwetson nw 'eddi. /Ie, ie, ie./ Wi'n... oen nw'n gwe' 'thdo i, odd Næ d a Mam yn gwed bo' nw'n colIo iwso mæ n carrag. Oen, oen. Mæ n carrag. On' 'na beth odd gen Mam yma, a'r un peth odd gen Mam-gu yn Llest Wen, mæ n 'arn odd genti. On' odd ych tad yn cofio un... un carreg? Odd, odd. Yma? Un carrag, odd. Pwy garreg byse honno? Wel, os gen i'm cof... welas i mo 'i, on' i glŵas a'n gwed am... bod, bod y mæ n carrag wedi bod yn cæ l iwso. Achos ishtag odd ar yr 'en ffwrn bara yn y manna, plæ t carrag odd i 'onno. Wel, y... gwelas i mog e, on' wi'n cofio Næ d yn mynnyd plæ t 'arn. A wi'n gofio fa achos bod a'n... yn ddueddol o gwmpo, myn' ag e a cæ l y gof i [ddo] ti dolan iddo fa, a shelff ar 'i waelod a. 'Sa'n cwnnu lan, a [do] ti fa'n erbyn y ff... gwddwg ffwrn, odd a'n sefyll 'i 'unan wetyn. Nodiadau cofio iwso maen carrag ffwrn Gair deheuol y mae ei diriogaeth yn cynnwys de'r Canolbarth; popty yw'r term gogleddol. Cofnodwyd ffwrn yn ardal Bangor yn golygu 'ffwrnes' ac mae'n ddigon posibl, felly, fod cylchrediad ehangach i'r gair ar un adeg gyda'r ystyr honno ond iddo gael ei ddisodli yn y Gogledd gan ffwrnes. crasu Gair y mae ei ystyr yn gorymylu ar eiddo pobi ac y bydd yr union beth y cyfeiria ato yn amrywio o fan i fan. Yn Llangynwyd byddir yn crasu tishan a bara ond yn popi cig (yn y ffwrn) a chaws (o flaen y tân). Ymhellach i'r gorllewin, nid crasu bara y byddir, ond ei bobi. Mewn rhannau o Feirionnydd, at yr holl broses o wneud y bara y mae pobi yn cyfeirio, ond yn y Gogledd-orllewin a'r De-orllewin (a rhannau o Feirion hefyd), dylino'r toes yn unig a olygir. (Am fanylion Ilawnach, gweler S Minwel Tibbott, Geirfa'r Gegin.) w dychra 'wedi dechrau' Y ffurf 'wan' arferol drwy Gymru ar wedi yw 'di, e.e. Wi 'di gofyn. Yn ne-ddwyrain Morgannwg, fel y tystia'r enghraifft hon, gall w hefyd fod yn ffurf wan. cwmpo 'syrthio' Gair y mae ei ddosbarthiad daearyddol yn debyg i eiddo 'ffwrn'. mynnyd 'mynnu' Ceir '-yd' yn derfyniad berfenwol yn yr iaith safonol mewn geiriau fel 'cymryd' a 'dywedyd' ond cymharol brin ydyw yn y ffurf honno ar yr iaith. Ar lafar y mae -yd yn fwy cyffredin a gall ddigwydd - yn arbennig mewn tafodieithoedd deheuol - yn lle'r terfyniad safonol neu pan fydd y ffurf safonol yn ddiderfyniad. Fe'i ceir hefyd mewn ffurfiau benthyg. Enghreifftiau yw: Deheuol: cwrddyd 'cyfarfod' (e) drychyd 'edrych' gafaelyd 'gafael' gofnyd 'gofyn' mwfyd 'move' stopyd 'stop' Gogleddol: dengyd 'dihengyd, dianc' denyd 'denu' glowty 'beudy' lliti 'lludw' Ffurf gyffredin drwy'r De yw llidi; y mae ffurf yr ardal hon yn cynnwys Calediad. fi welas Enghraifft o'r rhagenw yn dod o flaen y ferf, patrwm a gysylltir â'r De-ddwyrain er nad yw mor gyffredin ag y tybir gan rai. Fel y tystia Richard Griffith Thomas, nid dyma'r unig batrwm sydd yn bosibl yn y rhan hon o'r wlad. abothu 'o gwmpas' tripat 'trybedd' citl Er mai o'r Saesneg kettle y benthyciwyd y gair hwn nid tegell ond sosban fawr ar gyfer berwi d.'r ydyw. Math arbennig o kettle oedd y tea-kettle, a'r gair hwn a roes inni ein tegell. crochon 'crochan' Ceir y ffurf hon yn lled gyffredin. Cedwir y llafariad wreiddiol yn y ffurf luosog, crochana. shwrna 'unwaith' Y Bitws 'Y Betws' Nodwedd ar iaith yr ardal yw tuedd i droi e yn i yn y goben pan geir i neu w yn y sillaf olaf; enghreifftiau eraill yw dirw 'derw', ciffyl 'ceffyl'. fynydd 'i fyny' Wrth lunio berfau yn unig y ceir (i) fynydd yn y De, mewn ymadroddion fel rhoi fynydd 'rhoi'r gorau'. Ar gyfer cyfleu'r cyfeiriad (sef y gwrthwyneb i i lawr), (i) lan a ddywedir. mæ n 'maen (ar gyfer crasu bwyd ar y tân)' Gair nodweddiadol o'r De-ddwyrain. Yr enwau cyffredin eraill yw gradall neu gradell yn y Gogledd hyd at afon Aeron, planc yn y De-orllewin, a llechwan yng ngogledd-ddwyrain Morgannwg a rhannau o Frycheiniog. ffroes 'crempog' Enwau eraill am y bwyd hwn a gofnodir gan S Minwel Tibbott yn Geirfa 'r Gegin yw cramoth (de sir Gaerfyrddin a rhannau o Forgannwg), pancos (siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi), pancocs (Penfro), poncage (Ceredigion), poncacs (Brycheiniog a gogledd Ceredigion), ponca (Maldwyn), a crempog (Gwynedd). pics crynon Mae'r teisennau bach hyn yn nodweddiadol Gymreig a cheir llu o enwau arnynt. Y rhai amlaf eu digwydd yw pics yn y gorllewin a tishan grwn yn y dwyrain. Y mae pics crynon yn cynnwys enw'r gorllewin ac ansoddair y dwyrain. Enwau eraill yw pice bach (siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a Gorllewin Morgannwg), a pice ar y maen (de sir Gaerfyrddin a Gorllewin Morgannwg). Cyffelyb yw ansawdd cacen gri y Gogledd (gweler S Minwel Tibbott, Geirfa'r Gegin). genti 'ganddi' i glwas 'clywais'. ishta 'fel' Ffurf ar yr un sut â . Fe'i clywir mewn ymadroddion fel (neu ishta!) odd a'n tampo ishta cilog 'eb ddim pen, ma fe ishta llyngyren o dene. yn ddueddol 'yn dueddol' Dueddol yn hytrach na tueddol yw ffurf gysefin yr ansoddair hwn yn llafar Richard Griffith Thomas. cwnnu 'codi'
Tafodiaith Glynogwr, Canol Morgannwg 29 Mawrth 2011 Nodweddion cyffredinol Enghraifft arall o'r Wenhwyseg, iaith Dwyrain Morgannwg yw tafodiaith Mrs Williams: fel Richard Griffith Thomas yn Llangynwyd, mae'r æ fain ganddi, mae'n caledu cytseiniaid, ac mae'n swnio'r a yn sillaf olaf ddiacen geiriau. Fodd bynnag, yr hyn sydd yn hynod am iaith Mrs Williams yw bod yr u 'ogleddol' yn rhan amlwg o'i hacen. Ceir y sain mewn nifer fawr o eiriau, e.e. ry dwym, cymysgu, dwy, llwy, twym. Mae u i'w chlywed mewn ardal yn y De sydd yn cynnwys pentrefi Glynogwr, Y Coety, Pen-coed, a Llanharan yng nghyffiniau Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanol Morgannwg. Er bod nifer fawr o siaradwyr yr iaith yn yr ardal hon heddiw, mewnddyfodiaid neu (gyn-)ddisgyblion ysgolion Cymraeg yw'r rhan fwyaf ohonynt; prin iawn yw siaradwyr y dafodiaith wreiddiol. Pan oedd yr iaith yn ei bri yn y cy!ch un o'r nodweddion amlwg arni a'i gwnâi yn wahanol iawn i eiddo'r gweddill o'r De oedd bod llawer o bobl yn defnyddio u debyg iawn i sain y Gogledd. Yr oedd yr ardal hon, felly, yn greirfan seinegol. Y recordiad Enghraifft o dafodiaith wreiddiol ardal Glynogwr yn ne-ddwyrain Cymru. Ganed Mrs Margaret Williams ym 1873. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Ond y... down i ddim gallu nuthur menyn, odd yn nilo i ry dwym. Man nw nawr. Wi'n goffod, dwi'n ffaelu'n glir a myn' mlæn â'r y... /gweu/ gwau achos man nilo i mor dwym. Ond own i'n lîco nuthur ciaws yn 'y ngalon. O... Wel nawrte, ffor' och chi'n neud caws, gwedwch wrtho i nawrte. Godro'r dæ yn gynta a allws y... mynd â'r llæth i miwn i'r y... fel cecin fawr odd 'no. A gwoshban faw[r]... o, 'na beth oen ni'n 'i gialw 'i — woshban fawr o zinc 'no. /Ie./ Allws llæth i miwn 'no, a wetiny doti cwrd... cwrdab yndo fa. A wetiny oen ni'n giwro fo. Ffor' och chi'n giwro fe? Llian. Llian drosto fo. A dwy ffon. Næ, odd rwpath wedi neud gintyn nw at y pwrpos, dros y woshban a doti llian drosto. Wetiny aros. Wi ddim cofio am bw faint nor. Duws, duws, ma blynydda 'ddar 'ny. Ag, wetiny oen ni'n 'i... odd peth gintyn nw at 'i gymysgu fo. Wetiny oen ni'n... atal a sefyll. Beth, beth odd y peth 'ma at i gymysgu fe? Wel, fel mæth o lwy fawr bren. Rownd. A wetiny oen ni'n dyfiddo'r... Wi'n cofio'n Granny yn ishta lor acha ciatar a doti... ag odd hi'n gallu dyfiddo. Odd 'i'n lico nuthur 'ny. Allws y maidd i woshban arall. Ffor' odd 'i'n gneud 'ny 'te? Odd 'na dwli yn y badell 'ma? Nægodd. Gwnnu fa o... y... Beth odd ginti nor? Sgiæl wi'n cretu odd 'i'n 'i gialw 'i. Ma gin i ryw gof. Odych chi w' clŵad y gair 'na? 'Der â'r sgiæl 'na i fi,' wetsa 'i. Ag y... Dyfiddo'r... y... Y... y ciaws. Wetiny atal a sefyll, y... Cwnnu'r woshban lan dipyn bach, a [do]ti a yn rochor lle bo'r y... y sudd yn dod mæs ry rwydd. On nw'n barticular iawn. O, odd shŵr bo' ciaws gora'n y byd 'no. Odd raid bod y sudd yno, odd e? Wel, chi'n gwpod, pido wasgu fa ry gynnar. Pido roi... Odd 'ny'n bwysig? Odd. O, odd. Os gwasgech chi fe'n ry ginnar beth odd yn... Wel odd y dioni'n dod mæs og e. Ormodd og e. O, oen nw'n barticular iawn. Dyr, diar, diar! Wel nawr, bob pryd och chi'n neud y caws 'te wedyn? O, ar ôl iddo fa... 'swch nawr... sefyll am getyn, odd isha wetiny 'i frwo fa i'r cowstall. Chi'n gwel'. Wi'm c[r]etu bo' cowstall iddi giæl nor! [Chwerthin.] Fe fu un gin i, a fu... gorffod i fi frwo fa lan. Odd y clawr a chwbwl yn llawn o... chi'n gwpod, wedi darfod, wedi myn'. Ag.. .y... llian gwyn nor ar y cowstall, a wetiny brwo'r ciaws miwn iddo. A [do]ti halan fel oeddach chi'n 'i... moyn. Llanw'r cawstall. A giatal 'wnnw sefyll wetiny am... am noswith wi'n cretu. Odd ddim ryw... o... deg... deg o warthag odd 'no wi'n cretu. Ddim lle mawr chi'n gwel'. Nægodd. Ond odd a'n le cyffwrdus iawn. Dim un fuss. Dim drifo dim 'no. Nægodd. /'Na fe./ Cyffwrdus iawn. Wel nawr, bob pryd och chi'n neud caws? Bob nos, ne pob bore, ne pryd? Ne bob douddydd? 0... bob bora. /Bob bora./ Ia, llæth y nos a'r llæth y bora gyda'i gilydd. Wel odd raid 'chi dwymo llâth y nos wedyn, odd e? Odd, odd. Witha. Witha fysin ni'n nuthur 'ny a witha ciaws llefrith oen ni'n 'i alw fa. Wel nawrte, beth yw caws llefrith? Wel, all fresh milk, chi'n gwpod. Nodiadau nuthur ciaws llefrith lîco Sylwer ar yr î yn y ffurf hon; amrywiadau eraill yw lico (gydag i fer), lwco, lyco, a leicio. Anaml y clywir hoffi yn y tafodieithoedd. nuthur Ymddengys fod y ffurf wedi ei chadw mewn pocedi bychain yn y De gan rai siaradwyr yn unig. (g) woshban 'padell fawr' Y ffurf luosog yw woshbenni. cwrdab 'cyweirdeb' Rhan o stumog y llo a gedwid ar gyfer troi llefrith yn gaws. Pan ddechreuwyd marchnata cyweirdeb mewn ffurf hwylusach disodlwyd y gair Cymraeg gan y Saesneg rennet. ciwro 'to cover' Y mae ffurf y gair yn awgrymu nad benthyciad diweddar mohono. Geiriau mewn ardaloedd eraill sydd yn arddangos y cyfnewid f/w yw cawod a cafod, tywod a tyfod, a falle a walle 'efallai'. Gweler hefyd brwo. fo 'ef' Ffurf arferol dwyrain Morgannwg ar y rhagenw hwn yw (f)a, ffurf ddiacen ar (f)e, y ffurf acennog. Cymharer y parau canlynol: 'i daro fa 'ei daro' ond 'i daro fe 'ei daro ef. 'i ben a 'ei ben' 'i ben e 'ei ben ef Er bod fo yn iaith Mrs Williams yn swnio'n debyg i fo y Gogledd, nid yr un yw eu tarddiad. O efô y cafwyd fo y Gogledd; o efe y daeth fe y De. Amrywiad ar y ffurf olaf sydd gennym yng Nglynogwr. Troes (f)e yn (f)a yn nwyrain Morgannwg o dan yr un amodau yn union ag yr aeth e yn a yn y sillaf olaf. lle 'lIe' ond unlla 'unlle' tre 'tref' ond cartra 'cartref' Fel y gwelir, mewn sillafau diacen y ceir a yn hytrach nag e yn yr enghreifftiau hyn, a ffurf ddiacen yw (f)a hithau. O dan ddylanwad yr f y datblygodd fo yng Nglynogwr yn yr un modd ag yr aeth afal yn afol mewn rhannau o'r Gogledd a Dyfed. dyfiddo 'difeiddio' Term technegol wrth wneud caws, yn cyfeirio at wasgu'r maidd o'r colfran. Yr elfennau yw'r di- negyddol (a welir mewn geiriau fel di-fai, di-flas, a disynnwyr) + maidd + terfyniad berfenwol. Granny Sylwer ar y gair benthyg yma. Erbyn heddiw clywir gu a gua (ffurfiau anwes ar 'mam-gu') yn gyffredin yn y de-ddwyrain gan y di-Gymraeg! sgiæl Math o soser denau, o bren masarn, a thyllau yn y gwaelod ar gyfer codi'r hufen oddi ar wyneb y Ilefrith. Byddid yn arllwys y llefrith i bedyll a'i adael am o Ieiaf ddeuddeng awr i hufennu. Termau eraill am yr un gwrthrych yw hiddyl (Morgannwg), llior (Brycheiniog), sleten (y De-orllewin), a sgimar (y Gogledd). rhwydd 'cyflym' am getyn 'am ychydig' Yr un gair yw hwn â'r un a ddefnyddir am bib ysmygu. Sylwer ar ddatblygiad yr ystyr: 'darn, rhan' 'darn o amser, rhywbeth byr' (sef yr ystyr yma) 'pib glai a chanddi goes fer' (a geir yng nghanol Morgannwg) 'pib' (yn gyffredinol) (yn y Gogledd) Yr oedd mynd mæs am getyn yn ddywediad ffodus o amwys i wŷr Llangynwyd nad oedd eu gwragedd yn cymeradwyo ysmygu! brwo 'Torri'n fân' yw ystyr y berfenw hwn; 'clwyfo' yw ystyr ffurf gyfatebol y Gogledd, sef brifo. Diau mai yn sgîl y torri croen sydd yn aml yn rhan o glwyfo y datblygodd brifo ei ystyr bresennol. Am y cyfnewid w/f gweler ciwro uchod. cawstall 'cawsellt, cawslestr' Llestr crwn o bren masarn, rhwng chwech a deunaw modfedd ar draws; yr oedd tyllau yn y gwaelod a chlawr pren arno. Fe'i llenwid â chaws mân a'i roi o dan bwysau; byddai'r maidd yn cael ei wasgu o'r caws a'r cosyn yn caledu. iddi 'i'w' Sain a dyfodd er mwyn cadw'r ddwy i ar wahân yw'r dd 'lusg' yn y ffurf hon; mae defnyddio dd yn y modd hwn yn debyg iawn, felly, i ddull rhai mathau o Saesneg o roi r rhwng Ilafariaid mewn ITurfiau fel law-r-and order. Ceir yr dd lusg mewn rhannau helaeth o'r De, nid yn unig yn y cyfumad hwn, ond hefyd rhwng llafariad neu ddeusain ac i 'hi', e.e Gwedwch wthtiddi 'Dywedwch wrthi hi' Le maeddi? 'Ymhle mae hi?' Fwrestiddi? 'A fwriaist ti hi?' darfod 'gorffen' 'Dod i derfyn ei oes' yw'r ystyr sydd i darfod yma; cwplo a ddefnyddir am orffen gweithred. noswith 'noswaith' Erill 'eraill' a hunin hunain yw'r unig eiriau sydd yn cynnwys i yn y sillaf olaf drwy'r rhan fwyaf o'r wlad yn hytrach na'r ai saionol. Yn nwyrain Morgannwg gall i yn y sillaf olaf gyfateb hefyd i e yr iaith safonol mewn nifer fawr o eiriau, e.e. darllin 'darllen' dishglid 'dysglaid' merchid 'merched' dwywith 'dwywaith' ychin 'ychen' unwith 'unwaith' Ceir enghraifft o noswith hefyd yn y darn o'r Rhos. gwarthag 'da godro' Mae da yn yr ardal hon yn cyfeirio at yr anifeiliaid hyn yn ogystal ag at y rhai na ellir eu godro fel y lloi, a'r creaduriaid sydd heb ddechrau magu. drifo 'rhuthro' Y duedd i blant heddiw yw cysylltu gyrru â cheir, ond ystyr gyffredin i gyrru yn y De yw 'rhuthro'; ceir yr un ystyron i'r Saesneg drive. llefrith 'yr hylif yn gyfan, heb ei drin'