: Iaith

Tafodiaith Carno, Maldwyn

29 Mawrth 2011

Nodweddion cyffredinol

credu'n gry mewn crinjar

credu'n gry mewn crinjar

Tafodiaith arbennig o ddiddorol yw hon, gan ei bod yn ardal trawsnewid nifer fawr o nodweddion gogleddol a deheuol. At hynny, y mae ynddi nodweddion sydd yn hynodi’r Canolbarth yn unig.

O ran geirfa, cawn mai:

  1. Gogleddol yw allan, coelio, gyrru 'anfon', llidiart, a mam wen 'llysfam'.
  2. Deheuol, ar y llaw arall, yw bisi 'prysur', moyn, trigo ‘marw’.
  3. Nodweddu’r Canolbarth yn unig y mae’r ffurf ffalt ‘buarth’.

Pan greffir ar acen Mr Thomas, ceir darlun brith iawn:

  1. Nid yw’r u ogleddol yn amlwg yn ei iaith: i ddeheuol sydd ganddo mewn geiriau fel dyn a ; deheuol, hefyd, yw’r ffurf ishe ‘eisiau’.
  2. Gogleddol yw’r duedd i golli f ar ddiwedd geiriau fel cry ‘cryf’, a go ‘gof’; nodwedd ogleddol, hefyd, yw cynnwys yr i yn nherfyniad geiriau fel ffindia, a licio.
  3. Perthyn i’r Canolbarth (a’r De-ddwyrain) y mae’r æ yn glæs, plæs, a tæd; ac yn yr un ardal y ceir ci a gi mewn geiriau fel ciæ, ciæl ‘cael’, a gielwydd (ffurf dreigledig ar ‘celwydd’).
  4. Yn nwyrain y Canolbarth (fel yn Llanymawddwy), y byddir yn swnio’r e mewn geiriau fel clŵes ‘clywais’, ffrindie, a potel.
  5. Amlygir y trawsnewid rhwng Gogledd a De nid yn unig yn y nodweddion uchod, sydd yn gymharol sefydlog yn y dafodiaith, ond hefyd mewn nodweddion sydd yn amrywiol. Enghraifft yn y darn hwn yw fo a fe: y ffurf ogleddol sydd yn dwi’n cofio fo a i lofft o, ond y ffurf ddeheuol a gawn yn glŵes e ac âth e.

    Y recordiad

    Enghraifft o dafodiaith Sir Drefaldwyn. Ganed Mr Francis Thomas, Carno ym 1912. Fe'i recordiwyd gan yr Uned Ymchwil Ieithyddol Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

    Odd Nhæd yn credu’n gry’ iawn mewn crinjar. Odd ’i dæd ynte’n credu’n gry’ yn crinja[r]. Crinjar yn byw yn Llangurig, dau onyn nw. Jæms Tŷ Morris, odd hwnnw’n go’ lawr yn Gwmbela[n], a’r hen Ifan Griffis i fyny yn Pant y Benni. Odd Ifan Griffis a Nhæd yn ffrindie alswn i feddwl. Ag mi... dwi’n cofio fo’n deud odd y ceffyle yn trigo yn Creigfryn, pedwar o geffyle wedi trigo yn Creigfryn, rip rap ar ôl ei gilydd. A... John Tomos Creigfryn yn gyrru, gynno fo(?) ddau gymydog yr un un enw, un yn Creigfryn,llâll yn Bron ’Au[l]. John Tomos Creigfryn yn gyrru Nhæd, John Tomos Bron ’Aul, at y crinjar yma i Langurig. Ag yn ciæl rhyw, fel rhyw weddi Lladin a rhoi hi mewn potel a rhoi honno yn ’i lofft o, uwchben y lle odd o’n gysgu, a drigodd ’na’r un, ’r un ceffyl wedyn.

    A glŵes e’n deud stori arall, dew, mae’n anodd ’i choelio ’i, on’ ma ’i, ’dwi ’im credu dde tŷ a fa gielwydd, achos odd e wedi deud hon wtha’ i lawar gwaith. Oedd ’i fem wen o yn ferch Plæs Pennant Llanbryn-mair. Ag oedd Plæs Pennant, fyny yn Cwm Pennant, ar hanner ffor’ o dreflan Llanbryn-mair i Staylittle. Ag oedd ’na rhyw un yn byw mewn rhyw ben tŷ yn uwch fyny o’r enw Dot, Dot y Ceulan. A mi ddoth Dot y Ceula[nj lawr i ofyn i rieni ’i fem wen o, eise ’i lawr i station Llanbryn-mair i moyn glo.

    — Duw, duw, dwi rhy fisi, medde fo, dwi yn y gwair, dwi ry fisi. Ffindia rywun arall i fynd. Ag mi... Reit, mewn ryw dair wythnos o ’na gaseg læs wedi trigo yn ganol y ciæu. A mi æth yr hen, yr hen foi, yr hen ŵr, Plæs Pennant (glŵes i Nhæd ’n adrodd hon lawar gwaith) i Llangurig at y crinjar. A medde’r cr... ddudodd y crinjar, æth e fiwn i tŷ a rhyw lyfre mawr a troi drosodd o pæij i pæij ag mi, mi... gofnodd o fel ’na.

    — Duw, fyswn i’n licio, crinjar, fyswn i’n licio, Mr Griffis (Ifan Griffis o’ enw Pant y Benni), fyswn licio, Mr Griffis, tasach chi’n gallu deu’ ’tha i pwy sy wedi, wedi fy witsho i.

    — O, alla i ddeud ’ynny wthoch chi. Ewch adre a tynnwch calon y gaseg ’ma allan a rhowch hi ar blât mawr o flaen tæn. Reit o flæin tæn. A fel fydd y galon ’ma’n cnesu yn gwres yr tæn, mi fydd y perch... yr un sy wedi neud, wedi’ch witsho chi’n dŵad yn nes at y tŷ, yn nes at y tŷ o ’yd.

    Ag os dach chi’n gwbod am Plæs Pennan, ma y tŷ ar draws ffor’ a wedyn mei llidiart, tŷ ar draws top y ffalt, ag yn gwaelod y ffalt mei llidiart myn’ allan i ffor’. A edrych allan drwy’r ffenest, diawl yn union dyma’r Dot ’ma o Ceulan lawr yn pasho llidiart. Pasho ’i wedyn, pasho ’i wedyn, a fel odd y galon yn cnesu. Ag dyma, o’r diwedd dyma ’i’n mentro drwy llidiat a hanner fyny’r ffalt. A medde yr hen ddyn,

    — Duw, duw, ma fo felna, tynna’r galon nôl, dwi ’im ishe gweld y cythral tu fiwn i’r drws tŷ ’ma.

    Nodiadau

    Geiriau tafodieithol am rwystr sy'n cau bwlch

    Map yn dangos dosbarthiad geiriau tafodieithol am rwystr sydd yn cau bwlch

    crinjar ‘dyn hysbys’ Benthyciad o’r Saesneg conjurer yw crinjar, ffurf nas nodir gan GPC. Y ffurf safonol yn Gymraeg yw consuriwr ond ceir llu o wahanol ffurfiau ar lafar, e.e. conjerwr, conjer, cwnjer, cwnsher, cynjer a cwnsherwr. Am fanylion pellach, ac am y dyn hysbys yn gyffredinol, gweler Evan Isaac: Coelion Cymru (1938); T Gwynn Jones: Welsh Folklore and Folk Customs (1930); Kate Bosse Griffiths: Byd y Dyn Hysbys (1977).

    trigo ‘marw’ Nodwedd ddeheuol (a geir i’r De i afonydd Dyfrdwy a Mawddach) yw gwahaniaethu’n eirfaol rhwng trengi dyn ac anifail: marw y bydd dyn tra bo anifail yn trigo. Mae’n debyg bod y cyferbyniad hwn i’w gael un adeg mewn ardaloedd mwy gogleddol hefyd, ond erbyn hyn anami y clywir trigo gyda’r ystyr hon yn y Gogledd. Ystyr arall i trigo, a geir mewn rhannau o’r Canolbarth, yw ‘rhynnu’, sef - ar ei waethaf - ‘rhewi i farwolaeth’. Ymddengys mai yn yr iaith ffurfiol yn unig y mae i trigo yr ystyr ‘preswylio, byw’ - sef y gwrthwyneb i’r ystyr dafodieithol!

    rip-rap ‘y naill ar ôl y llall’ Sylwer ar y berthynas rhwng aelodau’r pâr atseiniol hwn: dim ond y llafariad sy’n newid. Parau eraill sy’n dilyn yr un patrwm yw: chwit-chwat ‘anwadal’, e.e. Hen un wit-wat yw e, dim dal o gwbwl arno. drib-drab ‘bob yn damaid’, e.e. Man nw’n dod yn drib-drab, lib-lab ‘di-baid’, e.e. Sharad yn lib-lab.

    coelio ‘credu’ Gair gogleddol; amrywiadau llafar eraill yw cweilio a cwylio. Lluniwyd y berfenw o’r enw coel ‘cred’, gair a geir mewn ymadroddion fel coel gwrach [o’i heistedd] (old wives’ tale), rhoi coel ar rywbeth ‘credu’ yn ogystal ag mewn cyfansoddeiriau fel coelbren a coelcerth.

    mam wen ‘Ilysfam’ Ymadrodd gogleddol. Ceir yr ystyr hon i ‘gwyn’ gydag aelodau eraill o’r teulu hefyd: tad gwyn, mab gwyn, merch wen, ond ymddengys na cheir *brawd gwyn na*chwaer wen. Y ffurfiau deheuol yw llysfam, llystad, llysfab, a llysferch.

    eise ‘âi’

    moyn ‘ymofyn, ôl’

    Gair nodweddiadol ddeheuol a geir yn helaeth i’r de i Ddyfi ac Efyrnwy; yn y Gogledd nâl yw’r gair arferol, a cheir hwn yn ogystal â’r amrywiad ôl hefyd mewn rhannau helaeth o’r De.

    bisi ‘prysur’ Fel y nodwyd o dan y Nodweddion Cyffredinol uchod, un o eiriau’r De yw bisi neu bishi. Ond ni olyga hynny mai yn y Gogledd yn unig y ceir prysur yn y tafodieithoedd: mae’r gair yn gwbl fyw mewn rhannau helaeth o’r De hefyd, ac eithrio bod iddo ystyr wahanol. ‘Difrifol’ yw ystyr y De, ac felly pe bai deheuwr yn gofyn Odych chi’n brysur? neu’n dweud bod golwg brysur ar rywun, fe olygai rywbeth hollol wahanol i’r hyn a fyddai ym meddwl gogleddwr yn yngan yr un geiriau. Ystyr y De sydd yng ngeiriau’r gân:

      Y deryn pur a’r adain las Bydd imi’n was dibrydar; O brysur brysia at y ferch Lle rhoes i’m serch yn gynnar.

    llidiart ‘clwyd, gât’ Gair a geir drwy rhannau helaeth o’r Gogledd; gweler y map uchod.

    ffalt ‘buarth fferm’ Benthycair o’r Hen Saesneg, cynsail y ffurf Saesneg gyfredol fold, yw hwn. Mae dwy ffurf bosibl yn y Gymraeg: ffalt (sydd yn gyfyngedig i’r Canolbarth), a ffald (a geir mewn rhannau helaeth o’r De). Yn ogystal â dwy ffurf, mae i’r gair ddwy ystyr hefyd. ‘Buarth fferm’ ydyw yn y Canolbarth, gogledd Ceredigion a’r De-orllewin eithaf; yn y De-ddwyrain, fodd bynnag, ‘corlan’ a olygir.

Tafodiaith Llannerch-y-medd, Môn

29 Mawrth 2011

Nodweddion cyffredinol

Y mae'r nodweddion a gysylltir yn reddfol ? iaith y Gogledd yn amlwg yn y darn hwn gan Mrs Edith May Hughes:

  1. Defnyddia eiriau nodweddiadol ogleddol fel allan, efo, fo, iau, nain a rwan.
  2. Ceir u mewn geiriau fel poeth, pys, tu a wedyn.
  3. chw sydd yn chwara 'chwarae' a chwys;
  4. Ffurf negyddol nodweddiadol o'r Gogledd yw tydwi'm yn cofio.

Un o'r nodweddion sydd yn ein galluogi i gyfyngu ar yr ardal y gallai Mrs Hughes hanu ohoni yw'r ffaith ei bod yn siarad tafodiaith-a: a sydd ganddi yn y sillaf olaf mewn geiriau fel bydda 'byddai', padall 'padell' a tamad 'tamaid'.

Y recordiad

Enghraifft o dafodiaith sir Fôn. Ganed Mrs Edith May Hughes yn Llannerch-y-medd ym 1904. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Y ...Ol rwan 'te, at amsar te, mi fydda 'na sosbennad o stwns rwdan, ne stwns carainsh, ne stwns rhacs, fydda'r hen bobl yn galw nw. A beth odd y stwns racs 'ma on' stwns cabatshan,'lwch. Ia. A wedyn, byddan nw 'di berwi'r gabatshan a wedyn fyddan nw'm yn rhoid y dail mawr sy ar tu allan, 'mond y rhei mwya' tendar,'te. Wedyn mi fydda rhini wedi cal 'u mhalu, ag wedi berwi. Wedyn, y, fydda'r tatws 'di cal 'u roid efo nw wedyn, rhini 'di cal 'u stwnsho, 'te. Wel, wddoch chi be? Mi odd o'n dda! Mi fysach chi'n deud bod 'na damad o gabatshan wedi mynd efo bob tatan. Odd o yn neis.

Wedyn mi fydda yr iau. Padall huarn fawr fydda gin Mam, ar ben y pentan,'te. A mi fydda wedi gneud yr iau yn ara' deg. Fydda gynni hi flawd wrth law bob amsar. Wedyn, – a board 'te – wedyn, pen fydda hi'n mynd i dorri'r iau, fydda blawd ar y board, a 'dda'r iau yn cal 'i roid yn fanno. A'i sglisho wedyn, a'i dipio fo'n y blawd, cyn 'i ffrio fo, 'te. Wedi ny mi fydda nionod yn cal 'u ffrio, hefo yr iau 'ma, yn ara' deg. Wedyn mi fydda 'na lond y badall, ar ôl i'r iau neud. Fydda'n codi'r iau, a wedyn mi fydda 'na lond y badell o refi da wedi neud — efo'r nionod 'ma i gyd, te. Wedyn 'dda'r iau yn cal 'i roid i fiewn yno fo. Wedyn od o'n cadw yn dendar neis, ag yn boeth. Erbyn dôn ni o'r ysgol gyda'r nos, ylwch. Ag amsar swpar, 'te, chips Nan Ŵan fydda hi. Fydda reid deud y gwir wedyn 'te, powlan, ag am y shop chips Nan Ŵan.

O, odd Nan Ŵan yn gwerth... Tydwi'm yn cofio neb yn gwneud chips ond Nan Ŵan. Y hi odd y ...yr original, chadal nhwtha 'te. Ag yn un dda. Ag yn un wŷllt! Ol, am ... am chips bendigedig odd gin Nan Ŵan! A pys – pys wedi'u mhwydo, a rhini ...tân bach odanyn nw, wn i'm sut odd 'i'n medru gneud y ffashwn bentwr ag odd 'i, wir...

A ...fydda rei yn lecio bara llaeth. Ond mi gymwn i dipyn o fara llaeth os gawn i shwgwr yno fo, ne fyddwn i 'mo'i lecio fo. A digon o hwnnw, 'te. A mi dduda i wtha chi beth arall... yn yr ha' pen 'ddan ni wedi bod yn chwara ag yn chwys, fydda Mam bob amsar... digon o laeth. Pot pridd ylwch. A'r llaeth yn ffresh o'r ffarm, 'te. Lle bydda Nain yn cael y menyn, 'lwch. A ma 'na'i isho sôn am fenyn arall wthach chi hefyd, oddan ni'n gâl o'r ffermydd. Menyn pot. Ond efo'r llaeth rwan 'te. Mi fydda fy mam bob amsar pen 'ddan ni bod yn chwys yn y ...chwara 'te, yn galw anan ni i'r tŷ, a fyddan ni'n câl diod o laeth. Jwg fawr ar ganol y bwrdd. Jwg enaml, 'te. A wedyn fydda 'na jwg arall yn llawn... o'r llefrith 'ddan ni... 'llaeth' 'dach chi'n ddeud am hwnnw 'fyd 'te? Ond 'llefrith' 'ddan ni. A fydda 'na... y...powlan i bob un onan ni, llaeth wedi roi yno fo a wedyn rwbath yn debig o'r llefrith 'ma. Achos fydda'r hen bobol yn deud, os yfach chi y llefrith 'i hun, ag wedi chwysu a rhedag, y bydda fo'n corddi, ag wedyn y bydda fo'n berig, efo'r stumog, 'te.

Nodiadau

sosbennad o stwns rwdan

sosbennad o stwns rwdan

stwns 'tatws a llysiau eraill (maip fel rheol) wedi eu briwio gyda'i gilydd'
Gair y Gogledd-orllewin yw stwns(h), un o'r lliaws o dermau lleol am y cymysgedd hwn. Enwau ardaloedd eraill yw ponsh (y Gogledd-ddwyrain), mwtrin (Llŷn), stwmp (y Canolbarth), bwts (rhwng Aeron a Theifi), ponjin (de Morgannwg) a potsh (y De).

rwdan 'meipen'
Fel y tystia'r ffurf luosog, rwdins, mae'n fwy na thebyg mai o ffurf Saesneg fel rootings y daeth y gair hwn i Gymraeg y Gogledd yn wreiddiol. Wrth i ffurf unigol ddatblygu ar lafar mae'n rhaid bod pobl wedi ystyried mai terfyniad lluosog oedd yr -ins ar ddiwedd y gair ac felly fe'i cyfnewidiwyd am y terfyniad Cymraeg unigol, -an (fel yn creithan a merlan).

Gair arall a ddatblygodd yn yr un modd yng Ngwynedd yw cwsberins 'eirin Mair', y ceir iddo'r ffurf unigol cwsberan. Ym Maldwyn y gair am eirin Mair yw ffebrins (benthyciad o'r Saesneg feaberries); lluniwyd y ffurf unigol, ffebren drwy'r un broses, ac eithrio mai -en yw'r terfyniad am mai tafodiaith -e a siaredir yno.

Pâr brodorol sydd yn ymbatrymu'n debyg mewn rhai ardaloedd gogleddol yw tegan 'tegan' a tegins 'teganau'.

Annisgwyl, braidd, yw'r ffurfiau stwns rwdan a stwns cabatshan (stwnsh rwdis a stwnsh cabaitsh yw'r ffurfiau a gofnodir yn llyfr Fynes-Clinton The Welsh Vocabulary of the Bangor District): y ffurfiau lluosog neu gynnull a ddisgwylid yn y cyd-destun hwn, fel yn achos stwns carainsh a stwns rhacs. Mae'n wir, fodd bynnag, mai at un fresychen y cyfeirir yn y darn hwn, ac mae'n bosibl hefyd na ddefnyddid mwy nag un rwdan i wneud stwns.

Posibilrwydd arall yw mai dylanwad y Saesneg sydd yn cyfrif am yr ymadroddion hyn. Ffurfiau tebyg, a glywir – ac a welir - yn gyffredin yn iaith pobl o bob rhan o'r wlad yw teisen afal, llyfr siec a cadair olwyn yn hytrach na teisen (a)falau, llyfr sieciau a cadair olwynion (ar ddelw ymadroddion fel teisen gwsberis, llyfr cofnodion, a cadair freichiau). Ffurf arall, a glywir ar raglenni chwaraeon ar y radio a'r teledu, yw Y Cae Ras (yn Wrecsam) yn hytrach na Y Cae Rasio neu Y Cae Rasys).

lcarainsh <S carrots
Er mai gair benthyg yw carainsh, fe'i newidiwyd gryn dipyn ar lafar y Cymro. Un o'r nodweddion diddorol yn y ffurf ogleddol hon yw'r n ordyfol. Tyfodd n yn gwbl naturiol yn y Gymraeg o flaen rhai cytseiniaid, ac o flaen s, sh a j yn arbennig. Mae hon yn nodwedd hefyd ar Saesneg tafodieithol Lloegr ac felly yn achos geiriau benthyg nid hawdd bob amser yw penderfynu i ba iaith y dylid priodoli'r datblygiad. Geiriau eraill sydd yn arddangos y nodwedd yw:

clainsh 'clais'(Dyfed)
hwnda 'hwde' (Y Gogledd-orllewin)
yndw 'ydwyf' (Y Gogledd)

closhwns <S goloshes (Dyfed)
cwsberins <S gooseberries (Y Gogledd-orllewin)
sosinjyrs <S tafodieithol (Y Gogledd-orllewin a'r De-ddwyrain)

'lwch
Datlbygodd y ffurf hon drwy golli sillaf gyntaf gwelwch. Ffurf arall ar yr un gair, ac sydd yr un mor gyffredin yn y Gogledd yw 'ylwch, y ceir enghreifftiau ohoni yn y darn. Talfyrrir y ffurf unigol, gweli, yn yr un modd yn 'yli a 'li.

'u mhalu
Ar yr olwg gyntaf ymddengys fod m ddechreuol malu wedi ei threiglo yma. Ond nid treiglad cyffredin sydd gennym: ni fyddai dweud — nac ysgrifennu — eu mhalu yn dderbyniol mewn arddulliau ffurfiol. Ceir enghraifft arall o'r un treiglad tua diwedd y recordiad, lle y ceir pys wedi'u mhwydo. Dyma enghraifft o dreiglo estynedig yn y tafodieithoedd gogleddol hyn nad ydyw'n digwydd yn yr iaith safonol.

blawd
Gair y Gogledd yw hwn. Yn y De-ddwyrain y gair arferol yw can ac yn y De-orllewin ceir y gair fflŵr.

nionod
Nionyn yw'r ffurf a arferir yn y Gogledd am un o'r llysiau hyn; ffurfiau lluosog gogleddol eraill yw winwin a winwins. Yn Llanfair Caereinion arferir niontsen ar gyfer yr unigol a winiwns neu wniwns ar gyfer y lluosog. Y ffurfiau arferol yn y De yw'r winwnsyn (unigol) a winwns (lluosog). Adlewyrchu amrywiadau Saesneg y mae'r ffurfiau hyn yn y bôn am mai o wahanol ffurfiau Saesneg ar onion y tarddant i gyd.

Ceir defnydd trosiadol gogleisiol i nionyn yn y Gogledd mewn ymadrodd fel 'Cer o' 'ma'r hen nionyn', a ddefnyddir wrth siarsio rhywun yn ddireidus.

o refi
Sylwer ar y treiglad meddal yma. Tuedd rhai geiriau benthyg (a grefi yn eu plith), sydd yn dechrau gydag g- yw gwrthsefyll treiglo'n feddal mewn llawer o ardaloedd. Geiriau tebyg eraill yw gêr, golff, gêm, gapo/gepio. Bydd digrifwyr — ac athrawon ail iaith! — yn manteisio ar y gwrthsefyll yma weithiau er mwyn doniolwch e.e.'Rwy'n hoff o êm o olff'!

ldôn 'deuem'

chadal nhwtha 'ys dywedant'
Ffurf ogleddol ar 'chwedl'. Ffurfiau fel ys gwetan nw, ys gwed(s)on nw, neu fel man nw'n gweud a ddywedai'r deheuwr o dan yr un amodau; clywir hefyd mynten nw mewn rhannau o Geredigion.
Defnyddir chadal mewn rhannau o'r Gogledd hefyd i olygu 'mewn cymhariaeth â' e.e. Dach chi wedi mewndio'n arw chadal oeddech chi ddoe.

Yn y De datblygodd ffurf y gair a'i ddefnydd yn wahanol: w(h)eddel neu weddal yw'r ffurfiau arferol ac fe'u clywir amlaf yn yr ymadrodd hen weddel, sef 'hen stori, hen hanes, hen draddodiad.' Defnyddir y gair hefyd mewn ymadroddion fel

  1. Wyddwn i wheddel a na whiddil na wheddel 'cyn imi sylweddoli, yn sydyn', e.e. Wyddwn i wheddel cyn iddo 'nharo i, a
  2. na chlust na wheddel 'sylw', e.e. Neith e na chlust na wheddel ohana i 'Mae'n gwrthod gwrando ar ddim a ddywedaf '.

'Adrodd chwedl neu stori' yw ystyr ymddangosiadol y berfenw chwedleua i'r rhan fwyaf ohonom heddiw, ond dyma air arferol llenyddiaeth Cymraeg Canol am 'siarad'. Fe'i ceid, hefyd ym Meibl 1588, e.e. yn Genesis 45.15 dywedir am frodyr Joseff 'ei frodyr a chwedleuasant ag ef'. Mae'n amlwg nad oedd 'chwedleua' yn gwbl dderbyniol yn y cyd-destun hwn oherwydd newidiwyd yr adnod i 'Ei frodyr a ymddiddanasant ag ef' ar gyfer y fersiwn diwygiedig. Erbyn y cyfieithiad newydd aethai 'ymddiddan' hefyd yn annerbyniol a'r hyn a gawn yn awr yw 'cafod ei frodyr sgwrs ag ef.' Er gwaethaf y newid yn statws cymharol 'chwedleua' yn yr iaith safonol, cedwir ffurfiau arno yn fyw yn y tafodieithoedd: wilia yw ffurf Morgannwg a loia a ddywedir yng Ngheredigion.

mwydo
Mae nifer o eiriau Cymraeg lleol am 'roi rhywbeth i wlychu mewn hylif am gyfnod nes bo'r hylif wedi treiddio drwyddo': mwydo (ym Môn a'r rhan fwyaf o'r ardal i'r gogledd i afonydd Dyfrdwy a Chlwyd ac eithrio Llŷn), rhoi yn wlych (Llŷn a'r rhan fwyaf o'r De), trochi (yn achlysurol yn y De-orllewin), a stwytho (gorllewin y Canolbarth). Er gwaethaf y cyfoeth cymharol hwn, mae soc(i)an a soc(i)o hefyd yn gyffredin ar draws y wlad sy'n awgrymu fod y ffurfiau brodorol o dan fygythiad.

11.27 llaeth
Y mae cred gyffredinol mai 'gair y Gogledd' yw llefrith ac mai 'gair y De' yw llaeth. Ond, fel y tystia Mrs Hughes yn eglur ddigon, y mae'r ddau air i'w cael yn y Gogledd. Ceir y ddau hefyd mewn rhai ardaloedd deheuol, yn enwedig yn nwyrain Morgannwg . Ond er bod y ddau air gan Mrs Hughes, nid yw'n eu defnyddio yn ddiwahân oblegid y mae gwahaniaeth ystyr iddynt.

Yr hylif sydd weddill wrth wneud ymenyn yw llaeth yn yr ardal hon. Y term llawn (y gellir ei ddefnyddio drwy'r wlad) yw llaeth enwyn ond yn y Gogledd tueddir i'w dalfyrru yn llaeth; mae'r De, ar y llaw arall, yn debycach o alw enwyn arno.

Y mae i llaeth ystyron eraill sydd hwythau yn amrywio o ardal i ardal. Yn y Gogledd yr hylif ffres, cyfan, heb ei drin, yw llaeth; ar ôl ei drin mewn rhyw ffordd neu ei gilydd (fel rheol drwy dynnu'r hufen) yr enw yw llefrith. (Y gwrthwyneb a geir yn nwyrain Morgannwg!) Y mae, felly, wahaniaeth i ogleddwr rhwng yr hyn a gludir gan lori laeth (cerbyd sydd yn casglu'r hylif o'r fferm) a fan lefrith (a yrrir gan y sawl a ddaw â'r poteleidi i gartrefi unigolion).

Mewn rhai mannau yng Ngheredigion yr enw ar laeth y Gogleddwr yw llaeth llefrith neu llaeth efrith; mewn mannau eraill yn Nyfed, fodd bynnag, gall llaeth efrith gyfeirio at yr hylif ar ôl i'r hufen gael ei godi oddi arno.

ma 'na i isho
Ffurf lafar ar 'y mae arnaf eisiau', cystrawen sydd yn ildio mewn llawer man — o dan bwysau'r Saesneg, y mae'n debyg — i dwy isho . Er gwaethaf y newid yn y gystrawen hon wrth fynegi gosodiad neu wrth holi, y mae ateb i gwestiwn fel petai ryw gam ar ôl gosodiadau a chwestiynau yn y datblygiad: digon cyffredin yw clywed Oes yn ateb i gwestiwn fel Ydych chi eisiau (y peth a'r peth) . Mewn olyniadau o'r fath y mae'r atebwr yn ymateb fel pe bai'r cwestiwn yn cynnwys oes, sef y ffurf a geid yn y gystrawen wreiddiol Oes arnoch chi eisiau?

Tafodiaith Rhosllannerchrugog

29 Mawrth 2011

Nodweddion cyffredinol

Er bod llawer o nodweddion Cymraeg Rhosllannerchrugog yn cysylltu'r dafodiaith â'r Gogledd-ddwyrain a'r Canolbarth, y mae i iaith y 'pentref mwyaf yng Nghymru' ei hunaniaeth ei hun. Yn ei gyfrol o atgofion, Rhosllannerch-rugog (1955), tystia'r Parchedig William Phillips am y berthynas rhwng trigolion y Rhos a'r sawl a drigai ym mhentrefi cyfagos y Cefn-mawr a'r Coed-poeth; yr oedd i nodweddion tafodieithol ran amlwg yn niffinio'r gwahaniaethau:

Os bu ysbryd y llwyth yn teyrnasu trwy ardal o gwbI wel trwy ardal y Rhos y gwelais i ef yn teyrnasu ar ei gryfaf. Dyna'r pam yr edrychais i a'm cyfoedion, fel y gwnaethai ein teidiau o'n blaenau, yn gilwgus onid hefyd braidd yn ddirmygus ar bobl y Cefn; ac am yr un rheswm y teimlem yn gas tuag at bobl Coedpoeth. Hwntws oedd y naill; pobl 'r ochr draw oedd y Ileill. Pobl y Cefn yn methu yngan y llythyren 'h' gan gyfeirio at 'fy nad' yn Ile fy nhad; holi wedyn am waith yr 'Afod' ac nid am yr Hafod, a gofyn 'be magat ti gyn?' a ninnau'n fawr gwell am y clawdd yn gofyn 'be sgin ti?' Ar yr ochr arall inni soniai brodorion Cypoeth am ryw 'Ffewyth John' ac am 'ffet i' a gollwyd yn y gwynt, a ninnau bob amser yn sôn am 'yng ngewyth Sam' ac am 'yng nghet'.

Diffinnir y dafodiaith yn un ogleddol gan:

  • Geiriau fel rwan, allan, ac efo.
  • Yr u mewn geiriau fel capelydd, Sul, a credu. Dylid nodi, fodd bynnag, fod ansawdd y sain gryn dipyn yn wahanol i'r hyn a glywir gan Mrs Hughes o Lannerch-y-medd.
  • chw yn chwech, chweugen, a chwislo.

Yn y sillaf olaf, swnio'r e a wneir yn y Rhos ac er nad yw ansawdd y llafariad yn gwbl debyg i'r hyn a gafwyd yn Llansannan, mae'n cysylltu'r dafodiaith â'r Gogledd-ddwyrain.

Ar wahân i'r oslef, rhai o'r nodweddion sydd yn rhoi i dafodiaith ardal y Rhos ei naws arbennig yw:

  • Y ffurfiau gweled, 'chefn 'drachefn', a nene.
  • Ansawdd y llafariaid mewn geiriau fel deg, lle, chwe, Rhos, nos. O'u cymharu â'r hyn a geir yn Llannerch-y-medd neu Lansannan, mae'r llafariaid hyn yn feinach — neu (a defnyddio'r term technegol) yn fwy caeëdig — ac ar y gwrandawiad cyntaf gallant swnio'n debyg iawn i ddeuseiniaid (e.e. deig a Rhows).
  • Clywir llafariaid 'main' yn y goben hefyd mewn rhai geiriau, e.e. gwely, lle y mae'r e yn debyg i'r hyn a geir yn hen. Ond mewn geiriau eraill fel gweled, bydd yr e yn debycach i'r sain sydd yn pen.

    Nodwedd gymhleth yw hon nad hawdd ei disgrifio mewn termau annhechnegol. Mae'r llafariaid 'main', fodd bynnag, yn tueddu i ddigwydd pan fo i, u neu w yn eu dilyn yn y sillaf olaf; fe'u clywir, felly, yn arbennig, capelydd a meddwl, ond nid yn gweled, Gwener na pethe.

    Ceir patrwm tebyg yn achos o: nid yw'r llafariad mewn geiriau fel honno a hollol yn wahanol iawn i'r hyn a ddisgwylid. Mae torri, fodd bynnag, yn swnio'n debyg i 'Tori', a hynny am fod i yn y sillaf olaf yn peri i'r o 'feinhau'. Fel y prawf enghraifft yn y darn o Fryn-crug, mae'r nodwedd hon yn ymestyn drwy ran helaeth o'r Canolbarth hefyd. Am batrymu gwahanol o dan amodau tebyg, gweler yr enghraifft o Ben-caer .

Y recordiad

Enghraifft o dafodiaith arbennig Rhosllannerchrugog yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Ganed Mrs Eluned Phillips ym 1911. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Och chi'n cal mynd un waith y fiwyddyn efo'r capel i'r Rhyl, a'dd o'n treat mawr. /Ie./ Trên yn mynd o'r Rhos, y capelydd yn... yn uno amser honno, yntê. O! Wel odd o'n werth weil, y trip capel yndoedd? Mynd i'r Rhyl. A dene'r unig drip och chi yn gal.

Llond y trên wedyn?

O, oedd. Trên yn llawn. Oedd. On ni'n meddwl bo' ni'n cadw... a 'chefn, ichi feddwl, odd station Rhos yndoedd yn packed yn gweled plant yr Ysgol Sul yrŵan yn mynd i'r Rhyl. Ag odd 'i'n ... odd y station ... odd y platform yn packed y noswith 'nw, pawb yn weifio ni'n dôl. Fath â dasen ni 'di bod i ffwr' yn Llunden. 'Lla i ddim credu'r peth heddiw, cofiwch. Na alla.

Na. Beth oddech chi'n neud yn Rhyl wedyn?

O, bwced a rhaw yntê. O, 'chi'm pres i wario! Nag odd. Syth i ffwr' at y swnd, yntê. O' 'ne'm pres ichi wario. Nag oedd. Chi'n lwcus amser honno dasech chi'n cal dwy geniog ne dair. Diar annwl! Ma pethe 'di newid. Wedi newid yn hollol.

Beth am y Pasg wedyn 'de?

O, odd Pasg yn adeg arbennig iawn. O' 'ne gyfarfod yn capel Mynydd Seion, a'r Annibynwyr eto yntê. A dwi'n meddwl bo' ... bron bob capel yn uno yn y gwasaneth yn Mynydd Seion. Odd nene ar nos Wener. Ar nos lau. O' 'ne ddau pregethwr yn Mynydd Seion 'rhyd y blynyddodd i gyd.

A trw'r dydd, dy' Gwener y Croglith o' 'ne wasaneth bore, pnawn a hwyr. A'r capel yn orlawn! Yn orlawn! Ag odd rhaid inni fynd, o' rhaid ni fynd. Odd o'n beth ... Wel, odd nene i'r enwade i gyd, chi'n gweld, hwn yn Mynydd Seion. Capel yr Annibynwyr yntê. Ag ... ym ... odd pobol yn cwrdd 'i gilydd chwaneg amser honno, dwi'n meddwl trw bod nw'n mynd i'r ... i'r capel a Band of Hope ag ... On nw'n ddallt bobol yn sâl. Dach chi'n gweld, Oddyn nw ... man nw'n câl chwaneg o help hiddiw, ond câl chwaneg o gymwynas a cyfeillgarwch yr amser sy 'di mynd. Pawb yn cofio am rŵun odd yn sâl, yntê. Dene 'di gwahanieth.

Beth nethoch chi — beth odd ych oed chi'n gadel yr ysgol 'te?

Pedwar ar ddeg oed.

A beth nethoch chi wedyn, 'te?

O, mynd i le och chi'n deud amser honno. I weini man nw'n deud heddiw, 'nte. O ie. O ie, mynd yn forwyn.

I ble wedyn?

Mynd yn forwyn i tŷ Dr. Dafis. Hen Dr. Dafis y Rhos. A cal deg sŵllt yr wsnos. Codi chwech o gloch yn y bore, a rhy flin i mynd i'ch gwely deg o gloch yn y nos. A tân amser honno'n cal 'i gynnu yn y consulting room, surgery, dispensary, morning room a room y morynion. Pump a chwe tân isho cal 'u cynnu bob dydd. Ag aech chi'n barod i ddropio yn y nos cyn ichi fynd i'ch gwely, am ddeg sŵllt yr wsnos ...

A'dd Mam mor dlawd ... on i'n mynd getre efo'r papur chweugen on nw'n ddeud amser honno am ddeg sŵllt yntê, ag on i'n câl sŵllt yn dôl. A fydde Mam wastad yn deu' 'tha i, 'Cofia bod ti ishe rwbeth yn yr Ysgol Sul.' Allan o'r sŵllt 'na on i'n gâl. Ond diolch bod ni 'di gwbad be' 'di nene. Den ni 'di gweled ... ma 'ne fwy o werth yn y bywyd sy 'di mynd na be' sy 'ne ar ôl gynna i heddiw, yntê.

Glowyr odd pobol y Rhos amser honno. A'dd 'i'n gymdeithas glos pan odd y glowyr, chi'n gweld. 'Chos dwi'n cofio Parch. Idryd Jones, odd y fo'n byw ar Allt y Gwter. Ag odd coliars yn mynd at 'u gwaith, cerdded amser honno. Ag odd o'n deud bod o'n cal 'i ddeffro 'mpas hann' 'di pump yn bore, coliars yn chwislo ac yn canu emyne wrth fynd at 'u gwaith, i lawr y pŵll, cofiwch chi. 'A dene,' medde fo fel ene, ''aru... odd nene i mi,' medde fo fel ene, 'fel Hallelujah Chorus,' medde fo. 'On i'n methu credu bod coliars yn callu chwislo a canu mynd at 'u gwaith,' medde fo, 'hann' 'di pump yn y bore.' le.

Beth am wraig y colier wedyn? Odd digon o waith ... odd hi'n codi'n fore.

O oedd! Hithe'n codi'n fore, torri bwyd mewn tun yntê. A wedyn pan fyse colier mynd getre yn y pnawn, bath ar yr ylwyd. On nw'n gorod molchi flân y tân, yndoedd? O' gynnyn nw'm byd arall i folchi.

Nodiadau

odd nene fel ene

odd nene fel ene

(yr) amser honno

Fel yn y rhan fwyaf o'r wlad, gwrywaidd yw amser yn yr ardal hon fel rheol. Pan oleddfir yr enw â rhagenw dangosol, fodd bynnag, tueddir i ddewis y ffurf fenywaidd. Ymddengys fod y duedd hon yn gyffredin yn y Gogledd er bod yr amser hwnnw a yr amser hynny hefyd ar lafar yno. Yn y De-ddwyrain, yn y dywediad unwaith yn y pedwar amser 'yn dra achlysurol' yn unig y bydd yr enw yn wrywaidd; ym mhob cyd-destun arall enw benywaidd ar ei ben yw amser a sonnir am amsar dda ac amsar ddifyr.

'chefn 'drachefn, eto'
Nodwedd ar iaith yr ardal yw'r ffurf hon; cymharer y defnydd a wneir o lŵeth yn y De-orllewin.

lgweled
Fel y tystia Mrs Phillips, nid ffurf lenyddol yn unig yw gweled. Ceir enghraifft bellach yn ll.46 ond mae ganddi hefyd y ffurf fwy cyffredin, gweld.

Un enghraifft yw'r pâr gweled a gweld o ferfenwau y ceir dwy ffurf iddynt, y naill yr ystyrir fel rheol ei bod yn dra ffurfiol, a'r llall yn niwtral o ran ffurfioldeb. Enghreifftiau eraill yw dyfod a dod, a gwneuthur a gwneud. Ond, fel y dangoswyd eisoes, nid yw dŵad yn ddim ond ffurf lafar ar dyfod, a deil gwneuthur i fod ar lafar mewn rhannau o'r De. Nid yw bod gweled, dyfod, a gwneuthur ar lafar, fodd bynnag, yn newid dim ar statws y ffurfiau o ran arddull a'r hyn a gawn yw eu bod yn dderbyniol ar ddau begwn eithaf yr amrediad arddulliau. Hynny yw, y mae ffurfiau ar gweled, dyfod, a gwneuthur naill ai yn dra ffurfiol neu yn dra anffurfiol.

yn dôl 'yn ôl'

swnd 'tywod'

Hen fenthyciad yw hwn sydd yn gyffredin yn y tafodieithoedd. Amrywiadau yw sond a swnt, a'r ffurf olaf a geir yn yr enw Swnt Enlli. Defnyddid y gair yn lled helaeth gynt i gyfeirio at raean mân a gymysgid â bloneg er mwyn hogi pladuriau.

lceniog 'ceiniog'

lblin

'Blinedig' yw'r ystyr amlwg yma, ond yn y De-orllewin nis defnyddir ond wrth ymddiheuro yn yr ymadrodd mae'n flin gen i (neu mae'n flin 'da fi).

lmynd getre 'mynd adref'

Hen gŵyn gan y sawl sydd yn poeni am 'gywirdeb' iaith yw'r 'mynych ddrysu' rhwng adref a gartref. Cyn i neb ruthro i gollfarnu'r enghraifft hon, fodd bynnag, dylid nodi ei bod yn fwy na thebyg mai o tuag adref y mae'r ffurf lafar gatre yn deillio. Y mae'n bosibl mai dylanwad y ffurf cartref sydd yn cyfrif am y tr yn hytrach na dr yn getre; amrywiad llafar yw getre ar y gatre mwy cyfarwydd.

chweugen '120'

At y ceiniogau cynddegol y cyfeirir: deg swllt oedd 120 hen geiniog, hanner can ceiniog heddiw. Sonnid hefyd am ddeunaw, sef 18 ceiniog, swllt a chwe cheiniog, neu 7½ ceiniog newydd.

nene 'yr un yna'

Nodwedd uchel yn ymwybyddiaeth brodorion y Rhos eu hunain yw mynych ddefnyddio ene, dene, a nene. Er bod ene 'yna' a dene 'dyna' i'w cael yn gyffredinol yn y Gogledd-ddwyrain, ymddengys fod nene yn gyfyngedig i'r Rhos a'r cyffiniau. Enghraifft o'r modd y gellir dyrchafu elfen dafodieithol yn arwydd o hunaniaeth leol yw i bapur bro'r cylch gael ei fedyddio yn Nene.

Tafodiaith Caernarfon

29 Mawrth 2011

Nodweddion cyffredinol

Enghraifft o dafodiaith drefol arbennig yw hon. Daeth yn gyfarwydd i'r gweddill o'r wlad drwy gyfrwng adroddiadau'r Co Bach.

Er na ddigwyddant yn y darn hwn, geiriau a ddyfynnir yn aml pan grybwyllir y dafodiaith hon yw co 'dyn', niwc 'ceiniog', mag 'dimai', hog 'swllt', giaman 'cath', a strew 'aderyn y to'.

Wrth wrando ar y darn hwn gan Gareth Wyn Jones, sylwch ar:

    Yr eirfa nodweddiadol ogleddol sydd ganddo, e.e. cwffio, gennod, a hogia. Defnyddia'r u ogleddol yn gyson e.e. mynd, dyrnu a tu. Yn debyg i Mrs Hughes o Lannerch-y-medd, a sydd ganddo yn y sillaf olaf mewn geiriau fel adra 'adref', oddan 'oeddem' a petha 'pethau'. Y mynych ddefnydd o atodeiriau felly, ia a 'te .

Y recordiad

Enghraifft o dafodiaith tref Caernarfon - 'Iaith y Cofi'. Ganed Gareth Wyn Jones ym 1943 ac fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Oddan ni'n cal hop - hop, ia. Downsho, ia, yn Feed my lambs yn Ganarfon. Ag odd hogia Bangor yn dod i lawr ar nos Ferchar ag oddan ni'n cal fight dod cyn bus deg. Ar y Maes, 'elly ia, cyn i nw fynd adra. Ond… ym… oedd 'i'n mynd o ddrwg i waeth i ddeud y gwir, 'cos odd petha… oedd plismyn a bob peth, ia, ar nos Sadwrn yn gwatshad hogia Bangor yn mynd yn ôl 'lly am bo' hogia dre yn dyrnu nw felly.

Beth odd y Feed my lambs 'ma?

O Feed my lambs, wel…ym…church hall 'elly ia 'te. Ym... Ia, fel church hall odd 'i drost y ffor' i Ysgol Rad 'elly, ym…'te. A wedyn oddan ni yn cal hop yna ia, fel disgo ia. Disgo 'di o 'wan, ia. 'Te. Ag oddan ni'n mynd i fanno … ym… bob nos Ferchar os dwi'n cofio'n iawn. A nos Sadwn. I ddownsho, 'elly ia.

Pwy mor bell odd pobol yn dod i...

Oddan nw'm yn dod yn bell ichi, 'cos oddan nw... odd gynnon nw ofn dŵad i Gynarfon i ddeud y gwir. 'Mond hogia Fangor odd yn dŵad 'lly 'cos odd 'na lot o fights a peth felly.

Beth, ôs 'na enw drwg...?

Nag oes, nag oes! Pobol odd yn pigo anan ni 'elly ia. Wedyn odd raid i ni gwffio 'nôl 'te. O' lot o bobol o wlad yn dod i lawr ar nos Sadwn 'elly ia. Ag ... ym... wel wth gwrs, hogia Gynarfon yn mynd ar ôl gennod wlad, oddan, felly ia. Ag ym... a nhwtha ar ôl hogia Gynarfon am bo' ni'n well na hogia ... hogia wlad i ddeud y ... O ! Well i fi bidio deud peth... ffashwn bethau!

Dod yn ôl i Feed my lambs 'wan, pan 'ddan ni'n mynd i ddownsho i Feed my lambs. Ddoth ym... Richie Prichard Brothers felly ia. Prichard Brothers firm removals yn Gynarfon mawr i lawr yn Porth yr Aur, Ganarfon. Y ... a Richie yn dod — ddoth o yna i Feed my lambs i holi os o' 'na rŵun isho mynd i actio yn ffilm Inn of the Sixth Happiness felly ia. Ag, wel, odd 'i... o' 'na ddim ysgol. Adag holidays yr 'a ' odd hyn, ia. Ag... ym... oddan ni'n gorfod cyfarfod dwrnod wedyn, ym, chwech o' gloch yn bora, ar y Maes yn Ganarfon. I neidio i tu 'nôl i lorri Richie. Ag odd o'n mynd â ni i fyny i Beddgelart i actio yn y ffilm Inn of the Sixth Happiness ia. Ag ...ym... oddan ni'n câl two guineas a day. O' 'ny'n lot o bres adag hynny 'elly ia. Tua nineteen fifty seven os dwi'n cofio'n iawn ia. Ag oddan ni'n cal 'u bwyd 'efyd ia. A wedyn be' 'ddan ni'n neud, oen ni'n gorod gwisgo fyny fel Chinese felly ia, a rhedag efo gwn ar draws ochor y mynydd 'ma. Ag oddan nw'n ffilmio ni 'lly ia. Ag ym... oddan ni gyd yno. Pawb. 'Ogia Sgubor Goch i gyd a hogia mynd i Y .. YMCA yn Ganarfon 'elly ia.

Yr unig gyfla gesh i odd hwnna ia, ond mi ddaru nw films erill yn dre fel... ym... The Vikings. A dwi'm cofio hwnnw, on i 'chydig bach yn fengach adag hynny, ag ... ym... o' 'na lot o hogia Ganarfon ag un yn arbennig... Wil Napoleon 'te. Oedd o yn y ffilm yma 'te, fel Viking. Ag oddan nw allan yn y Menai Straits 'elly ia, a 'ddan nw 'di neud cwch Jôs Peilot i fyny fel llong Vikings ia. Ag ... ym... o' Wil 'di bod yn gwithio am ryw wythnos yn neud y ffilm The Vikings 'ma, ag odd o'n seinio dôl wsnos wedyn. Ag... ym... o' raid nw ofyn,

- Wel, 'dach chi 'di bod yn gwithio, Wil?

- Do, me' fo.

- Be' 'dach chi 'di bod yn neud?

- Actio yn ffilm The Vikings ia. Wel dwi isho newid papur dôl i ddeud film star 'wan.

Nodiadau

Cofi 'lly ia?

Cofi 'lly ia?

Feed my lambs

Hen neuadd eglwys yng Nghaernarfon a gymerodd ei henw oddi wrth yr adnod a osodwyd ar dalcen yr adeilad.

hogia Daw hog(yn) o'r Saesneg hogg 'anifail ifanc'; hogen neu hogan a ddywedir am ferch. Er ei bod yn ymddangos ar yr olwg gyntaf nad oes cysylltiad rhwng hogan a'r lluosog, gennod, pan gofiwn nad yw gennod yn ddim ond hogennod wedi colli'r sillaf gyntaf, daw'r berthynas yn glir.

nos Ferchar

Hyd at yn gymharol ddiweddar, nos Sadwrn bach oedd yr enw ar nos Fercher yng Nghaernarfon.

i nw 'iddynt'

Nid anghyffredin yw clywed i nw ar lafar yn hytrach na'r ffurf rediadol iddyn nw. Gellir priodoli i nw i rym cydweddiad: ar gyfer ffurfiau'r trydydd person yn unig y ceir ffurfiau rhediadol penodol ar gyfer yr arddodiad i (cf.i mi / fi, i ti, i ni, i chi ond iddo ef, iddi hi, ac iddyn nhw); nid annisgwyl, felly, yw cael bod i nw wedi ymuno â'r gyfres hwyaf.

Yn y De o yw'r arddodiad y tueddir i beidio â'i redeg a chlywir yno ffurfiau fel llawer o nw yn gyson; cf. dou o nw 'dau ohonynt'.

pob peth

Yn y Gogledd yn unig yr acennir yr elfennau pob peth ar wahân yn rheolaidd; popeth, popith, neu popath a geir fel arfer yn y De.

gwatshad 'gwylio'

O'r Saesneg watch (a'r terfyniad berfenwol -ad) y cafwyd y ffurf hon, wrth gwrs. Sylwer ar yr g- a dyfodd ar ddechrau'r gair, nodwedd a geir weithiau mewn geiriau sydd yn dechrau â llafariad neu ledlafariad. Geiriau eraill sydd yn dangos tuedd debyg i fagu g- yw gaddo, gallt, giâr a gwyneb.

odd gynnon nw ofn 'yr oedd arnynt ofn'

Nodwedd led gyffredin yn y Gogeldd yw defnyddio gan mewn cystrawen fel hon yn hytrach nag ar yr iaith safonol a rhai ardaloedd eraill. Yng Nghaernarfon dywedir, hefyd, ma gynno fi annwyd a ma gynno fi angan.

dŵad

Tueddir i gysylltu dŵad â'r Gogledd; y mae'r ffurf, fodd bynnag, yn gyffredin yn y De-orllewin hefyd: fe'i cofnodwyd, e.e. yn yr Hendy, y Ceinewydd, a Phenfro. Y ffurf mewn rhannau o Benfro yw dwâd. Ystyrir yn gyffredinol fod 'dyfod' yn dra ffurfiol ac mai 'dod' sydd yn briodol yn y rhan fwyaf o gyd-destunau. Y gwir, fodd bynnag, yw mai ffurfiau a ddatblygodd ar lafar o 'dyfod' yw'r holl rai a ddefnyddir gennym heddiw, gan gynnwys dod. Yn achos dŵad, y datblygiad tebygol oedd:

dyfod > dywod > dywad > dŵad

Gellir gweld yr un cyfnewidiadau mewn nifer o eiriau eraill, e.e. ceir y cam cyntaf, f > w yn taflu > tawlu; yr ail, sef wod > wad, yn cawod > cawad; a'r cam olaf, yw > ŵ yn llywath > llŵath.

Datblygiadau a ddilynodd drywydd arall a roes inni'r ffurf dod:

dyfod > dofod > dod

Camau tebyg a fu yn natblygiad cyfod > cofod > cod.

cwffio 'ymladd'

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, gan Oronwy Owen y cawn yr enghraifft ysgrifenedig gynharaf o'r ferf hon yn y Gymraeg: yn 1753 soniodd am 'feddwi, chware cardiau, a chwffio'. O'r Saesneg cuff, 'ergyd, dyrnod' (gair tebyg ei sŵn a'i sillafu ond gwahanol ei darddiad i enw'r Sais am lawes) y daeth y gair ac fe'i ceir drwy'r Gogledd.

gennod wlad

Y mae yng Nghaernarfon a'r cyffiniau ymwybyddiaeth ddofn o'r gwahaniaeth rhwng hogia dre (sef y bechgyn a fagwyd yng Nghaernarfon) a hogia wlad (y rhai o'r pentrefi oddi amgylch). O safbwynt ieithyddol, sylwer ar y modd yr hepgorir y fannod yo'r ymadroddion hyn.

ffashwn bethau 'y fath bethau'

Arwydd o ymwybyddiaeth y siaradwr ei fod yn cael ei recordio yw'r au yn hytrach na'r a ddisgwylieidig yn pethau.

holi os o' 'na rywun

Clywir ymadroddion tebyg ym mhob ardal erbyn heddiw ond dylanwad y Saesneg sydd yn cyfrif am yr os yn y cyd-destun hwn. Holi (a) oedd... a glywir amlaf gan y do hynaf, a hynny sydd yn briodol yn yr iaith safonol.

yn bora 'yn y bore'

Cyffredin trwy'r wlad yw hepgor y fannod mewn rhai ymadroddion penodol fel yn capel, yn tŷ, ac yn Gymraeg. Yr hyn a olygir, wrth gwrs, yw 'yn y capel', 'yn y tŷ', 'yn y Gymraeg': cadarnheir hynny yn achos yr enghraifft olaf (yr unig un i gynnwys enw benywaidd) gan y treiglad meddal. Ceir enghraifft arall o yn bora yn y recordiad o Fryn-crug ac enghreifftiau tebyg mewn darnau eraill, e.e. yn cornel, ar tu allan 'ar y tu allan'.

pres 'arian'

O'r Saesneg brass y benthyciwyd y gair hwn ac er ei fod ar arfer drwy'r wlad yn enw ar y metel, yn y Gogledd yn unig y'i defnyddir wrth gyfeirio at arian bath. Diddorol yw nodi sut y mae'r De a'r Gogledd wedi mabwysiadu enwau'r gwahanol fetelau 'arian' a 'pres' a ddefnyddir wrth wneud y darnau. Yng ngogledd Lloegr y defnyddir brass yn yr ystyr hon ac mae'r ffaith mai yng ngogledd Cymru y ceir y ffurf pres yn adlewyrchu dylanwad iaith y rhan honno o Loegr ar Gymraeg y Gogledd. Y gair deheuol, sef arian, yw'r un safonol; is-safonol yw brass y Saesneg a pres y Gymraeg.

gorod 'gorfod'

Ffurf gyffredin yn y Gogledd; ceir enghreifftiau eraill yn y recordiadau o'r Rhos a Bryn-crug. Ffurf arferol y De yw go(r)ffod (cf. Llansawel); clywir go(r)ffid hefyd yn y De-ddwyrain.

gwisgo fyny

Dylanwad y Saesneg sydd yn cyfrif am fyny yma; byddai gwisgo ar ei ben ei hun yn ddigonol.

mi ddaru nw films 'gwnaethant ffilmiau'

Sylwer ar y defnydd hwn o daru yn ferf sydd yn dynodi gweithred yn hytrach nag yn ferf gynorthwyol.

fengach 'iau'

Wil Napoleon

Un o gymeriadau Caernarforn; adroddir peth o'i hanes ef a'r ffilmio yn Annwyl Gyfeillion gan John Roberts Williams (1975).

cwch

Gair cyffredinol trwy'r wlad ac eithrio'r De-ddwyrain (sef, yn fras, yr ardal i'r dwyrain i afon Tywi,) lle y ceir bad.

Jôs 'Jones'

Ffurf gyffredin yn y Gogledd-orllewin. Ffurfiau llafar cyffredin eraill yn yr ardal nad oes iddynt hwythau statws swyddogol yw Ifas 'Evans', Robaitsh 'Roberts' a Wilias 'Williams'.

dwi isho

Cymharer y gystrawen wreiddiol ma 'na i isho gan Mrs Hughes o Lannerch-y-medd, sydd ddwy genhedlaeth yn hŷn na Gareth Wyn Jones.

Beth yw'r ots os yw ieithoedd yn marw?

8 Chwefror 2010

Beth yw'r ots os yw ieithoedd yn marw?

Ateb yr Athro David Crystal, awdur The Cambridge Encyclopedia of Languages:

Sut bydd ieithoedd yn marw?

Sut bydd ieithoedd yn marw?

Dim ond pan fydd y person olaf i siarad iaith yn marw mae iaith ei hun yn marw. Ond, wyddoch chi, mae rhai yn dweud ei bod hi'n marw pan fo'r person olaf ond un yn marw. Oherwydd wedyn does gyda'r person olaf neb i siarad ag e. Wel, wrth gwrs, mae ieithoedd wedi mynd a dod trwy hanes wrth i gymunedau fynd a dod. Ond mae'r hyn sy'n digwydd nawr yn gwbl eithriadol.

Sawl iaith sy'n marw?

Sawl iaith sy'n marw?

Mae yna ryw 6000 o ieithoedd yn y byd, fwy neu lai. Does neb yn gwybod yr union nifer. Ac o blith y rhain, mae pobl yn meddwl bod rhyw hanner mewn cymaint o berygl nes eu bod yn debygol o farw allan yn ystod y ganrif bresennol. Wel, can mlynedd yw hyd y ganrif bresennol, mae hanner yn golygu 3000 o ieithoedd, felly mae un iaith yn marw allan yn rhywle yn y byd bob pythefnos, ar gyfartaledd.

Pam maen nhw'n marw?

Pam mae hyn yn digwydd?

Mae ieithoedd yn marw am bob math o resymau. Un yw'r rhesymau naturiol pan fo pobl yn cael eu heffeithio gan newyn a haint a daeargrynfeydd. Mae hil-laddiad yn reswm arall, pan fo rhai gwledydd yn ceisio lladd iaith fechan yn gwbl fwriadol. Y prif reswm yw globaleiddio. Hynny yw, mae yna rai ieithoedd enfawr yn y byd, fel Saesneg a Sbaeneg, ac Arabeg a Ffrangeg, ac mae'r rhain fel rholeri stêm sy'n malu'r ieithoedd llai sydd yn eu ffordd.

Oes modd gwneud rhywbeth?

Oes modd gwneud rhywbeth?

Mae modd gwneud cryn dipyn i ddiogelu iaith sydd dan fygythiad. Y peth cyntaf yw bod angen i'r bobl eu hunain deimlo eu bod nhw am gadw'r iaith. Mae hynny'n bwysig iawn. Yr ail beth yw bod angen i'r awdurdodau deimlo eu bod nhw am gadw'r iaith. Mae'n rhaid bod ganddyn nhw barch tuag ar yr ieithoedd lleiafrifol sydd dan eu gofal. A'r trydydd peth sydd ei angen, wrth gwrs, yw arian. Mae'n costio dipyn go lew i ddiogelu iaith sydd dan fygythiad. Meddyliwch am y peth — mae angen hyfforddi'r athrawon, mae angen ysgrifennu llyfrau ar gyfer y plant, a'r math yna o beth. Dyw hi ddim yn costio llwythi o arian, ond mae hi yn costio dipyn. Felly heb arian, does gan ieithoedd sydd dan fygythiad ddim dyfodol disglair.

Pam ddylem ni boeni?

Pam ddylem ni boeni?

Fe ddylem ni boeni am yr un rheswm rydym ni'n poeni am fioamrywiaeth y Ddaear — diogelu gwahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid. Mae ieithoedd yn union debyg, ond mai y nhw yw amrywiaeth ddeallusol y Ddaear. Mae rhyw 6000 gwahanol fydolwg yn cael eu mynegi gan y 6000 o ieithoedd sy'n bodoli. Mae hanner y rheiny ar fin diflannu, Diflannu go iawn. Oherwydd dyma sy'n digwydd: pan fo iaith sydd erioed wedi cael ei rhoi ar ddu a gwyn yn marw, mae hi fel pe bai'r iaith honno erioed wedi bod.