Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Y Pererin gan Gwen John. Credyd llun – Canolfan Gelf Brydeinig Yale, Casgliad Paul Mellon
Roedd Gwen John yn un o artistiaid mwyaf hynod Cymru.
Roedd Gwen John yn gweld y byd yn wahanol — yn dawel, yn sylwgar, a chyda dyfnder rhyfeddol. Y gwahaniaeth hwnnw a luniodd bopeth: ei thestunau, ei dull, ei lliwiau, ei geiriau, ei gwaith.
Mae Gwen John: Hardd a Hynod yn arddangosfa unwaith mewn cenhedlaeth, sy'n casglu ynghyd weithiau sydd prin yn cael eu gweld o Amgueddfa Cymru a chasgliadau ledled y byd i ddathlu 150 mlynedd ers geni’r artist o Gymru a'r casgliad mawr cyntaf o’i gwaith mewn dros ddeugain mlynedd.
Mae'n adrodd stori Gwen fel na chafodd ei hadrodd erioed o'r blaen, gan ddatgelu ffyrdd newydd o weld ei bywyd a'i chelf, a dathlu artist oedd â gweledigaeth sy’n dal yn teimlo'n drawiadol o fodern heddiw.
Dyma wahoddiad i weld y byd trwy lygaid Gwen — i arafu, edrych yn agosach a darganfod y rhyfeddod yn ei gwaith. Cyfle rhy dda i’w golli — i newydd-ddyfodiaid ac edmygwyr ffyddlon.
Trefnwyd yr arddangosfa hon gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth ag Orielau Cenedlaethol yr Alban, National Museum of Women in the Arts, a Yale Center for British Art.
Drwy Lygaid Edgar – Taith Teuluol Arddangosfa Gwen John
Wyddoch chi bod gan Gwen John gath fenywaidd o'r enw Edgar Quinet? Wel, mae Edgar wedi mynd am dro o gwmpas yr arddangosfa! Dilynwch olion ei phawennau ar hyd y ffordd. Taith hwyliog sy'n addas ar gyfer plant 7 – 11 oed ... ac mae'n hollol rhad ac am ddim!
Lawrlwythwch eich taflen AM DDIM yma nawr!
Mwy o Wybodaeth
Ar ddydd Sul, 15 Chwefror bydd yr arddangosfa ar gau rhwng 10am a 12pm ar gyfer digwyddiad gyda churadur yr arddanogsfa: Cyflwyniad y Curadur: Gwen John
Wrth brynu tocyn gallwch chi hefyd wneud rhodd bychan dewisol. Gall rhodd bach wneud gwahaniaeth mawr, a'n helpu i ofalu am y casgliad cenedlaethol, creu arddangosfeydd sy'n ysbrydoli a pharhau i adrodd straeon pwysig. Bydd rhodd bychan o 10% o bris y tocyn yn golygu y gallwn ni hawlio Cymorth Rhodd ar bris llawn y tocyn. Fel elusen, mae eich cefnogaeth chi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Diolch.
Ymunwch heddiw a mwynhewch gynigion arbennig a buddion, gan gynnwys mynediad am ddim i'n harddangosfeydd â thâl i'w ddefnyddio pa bynnag bryd.
Prif noddwr
Cefnogir gan
Hoffem hefyd ddiolch i'r unigolion sydd wedi cefnogi’r arddangosfa hon.
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd