Digwyddiad:Noson gyda Bleak Fabulous

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni fis Hydref am noson arbennig gyda Bleak Fabulous, y ddeuawd greadigol tu ôl i'n harddangosfa ffotograffiaeth gyffrous newydd, Ffasiwn yw e. 

Ymunwch â'r artistiaid Clémentine Schneidermann a Charlotte James am sgwrs yn archwilio deng mlynedd o Ffasiwn yw e, prosiect ffotograffiaeth gydweithredol a gafodd ei siapio gyda phobl ifanc o Gymoedd y De.

Dros y degawd diwethaf, mae Ffasiwn yw e wedi esblygu drwy gydweithio, gan ddod â ffotograffiaeth, ffasiwn a pherfformiad ynghyd drwy greadigrwydd a gwneud ar y cyd.

Bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar ddatblygiad y prosiect, y syniadau creadigol a'r ysbrydoliaethau y tu ôl i'r gwaith, yn ogystal â'r straeon a'r themâu sydd wedi llunio'r ffotograffau sydd bellach wedi'u casglu ynghyd yn yr arddangosfa Ffasiwn.

Bleak Fabulous yw'r bartneriaeth greadigol rhwng y ffotograffydd Ffrengig Clémentine Schneidermann a'r cyfarwyddwr creadigol Charlotte James o Ferthyr Tudful.

Gwybodaeth Bwysig 

  • Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys mynediad i arddangosfa, Ffasiwn yw e. Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 8pm a 10pm i ddeiliaid tocynnau.
  •  
  • Rhaid i bob deiliad tocyn dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
  • Bydd y sgwrs yn dechrau am 7pm ac yn para tua 1 awr, gan gynnwys sesiwn holi ac ateb gan y gynulleidfa. 
  • Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 8pm a 10pm. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i ymweld â'r arddangosfa. 
  • Ni fydd ad-daliad ar gael am docynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwbl hapus gyda'ch dewis cyn archebu.

Gwybodaeth

16 Hydref 2026, 7pm (Arddangosfa ar agor rhwng 8pm - 10pm)
Pris £10.00 (Cyffredinol); £8.00 (Gostynedig); £5.00 (16-25); Am Ddim (Dan 16)
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Mae tocynnau i'r digwyddiad hwn hefyd yn cynnwys mynediad i'r arddangosfa i'r noson yn unig.
© Clémentine Schneidermann ac Charlotte James

© Clémentine Schneidermann ac Charlotte James

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau